Manylion y penderfyniad
Debate on the Final Budget 2014-15
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5382
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r
Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 3 Rhagfyr 2013.
Troednodyn:
Yn unol
â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28,
mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
1. y
datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
2. yr
adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3.
cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4.
cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa
yn y cynnig; a
5.
cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf
a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan
adran 125(1)(c).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
16 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad