Manylion y penderfyniad
Debate on the Draft Budget 2014-15
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5356
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.12:
Yn nodi’r
Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
1.
Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl
y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft
ar gyfer 2014-15 fel ei bod:
a)
yn diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real ac yn mynd i’r
afael â’r pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng
Nghymru;
b)
yn bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er
budd economi Cymru;
c)
yn mynd i’r
afael â’r heriau cyllido sy’n wynebu colegau
Addysg Bellach, er mwyn iddynt
allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng
Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin
Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r
cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:
a)
Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r
pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal
yn nes at adref;
b)
bod y Grant Amddifadedd Disgyblion
yn cael ei
ddyblu;
c)
tri robot Da Vinci modern a fydd yn
darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;
d)
cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru
ar flaen y gad ym maes technoleg
feddygol;
e)
bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael
ei diogelu; ac
Yn nodi
ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn
ei chael ar gymunedau ledled
y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn
hynny.
Cefnogwyd gan:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:
a)
£35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid
ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;
b)
Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi
byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau
ar y system gofal mewn argyfwng;
c)
buddsoddiad ychwanegol o
£9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn
cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a
d)
Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu
i fynd i’r
afael â digartrefedd.
Cefnogwyd gan:
Elin Jones (Ceredigion)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant
3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5356
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.12:
1.
Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2014-2015 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.
2.
Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:
a)
Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r
pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal
yn nes at adref;
b)
bod y Grant Amddifadedd Disgyblion
yn cael ei
ddyblu;
c)
tri robot Da Vinci modern a fydd yn
darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;
d)
cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru
ar flaen y gad ym maes technoleg
feddygol;
e)
bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael
ei diogelu; ac
Yn nodi
ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn
ei chael ar gymunedau ledled
y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn
hynny.
Cefnogwyd gan:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
3.
Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:
a)
£35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid
ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu
i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;
b)
Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi
byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau
ar y system gofal mewn argyfwng;
c)
buddsoddiad ychwanegol o
£9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn
cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a
d)
Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu
i fynd i’r
afael â digartrefedd.
Cefnogwyd gan:
Elin Jones (Ceredigion)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
14 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad