Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder:

a) bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU; a

b) bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.

2. Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:

a) bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu gwaith TGCh;

b) bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband services in Wales’, yn mynegi pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau araf band eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau lleol ar draul yr economi leol;

c) bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang; a

d) bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd gwledig.

3. Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau;

b) archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;

c) archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy fynediad gwell i wasanaethau digidol; a

d) ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 3a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

sicrhau, yn ystod y broses o gyflwyno'r rhaglen Cyflymu Cymru, y bydd BT yn sicrhau bod pobl sy’n byw mewn eiddo nad yw’n gymwys i’w gysylltu yn cael gwybod hynny mewn modd amserol;   

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5313 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi â phryder:

a) bod gan Gymru y gyfran fwyaf o eiddo mewn mannau gwan posibl, a'r argaeledd isaf o ran gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y DU; a

b) bod y gwaith diweddar i ad-drefnu a dadgomisiynu mastiau ffonau symudol wedi golygu bod llawer o gwsmeriaid yn wynebu colli eu signal symudol neu ddirywiad yn eu signal symudol, er mawr rwystredigaeth iddynt.

2. Yn credu bod gwasanaethau band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol a chynyddol ym mywydau defnyddwyr a dinasyddion Cymru a bod diffyg mynediad i seilwaith digidol yn rhwystr i ddatblygiad cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan nodi'n benodol:

a) bod adroddiad diweddar gan Estyn, ‘Effaith TGCh ar ddysgu disgyblion mewn ysgolion cynradd’, yn nodi bod tua hanner yr ysgolion a holwyd wedi dweud bod ansawdd gwael y cysylltiad rhyngrwyd yn rhwystro eu gwaith TGCh;

b) bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Broadband services in Wales’, yn mynegi pryder bod bodolaeth mannau gwan a mannau araf band eang, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi rhwystro busnesau lleol ar draul yr economi leol;

c) bod y cynnydd mewn siopa ar-lein wedi cyfrannu at yr heriau y mae'r stryd fawr yn eu hwynebu, ond ei fod yn cydnabod potensial y rhyngrwyd fel ffynhonnell i adfywio’r stryd fawr;  

d) bod adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ‘Rural Communities’, yn nodi bod cartrefi mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fanteisio ar gynlluniau a allai leihau costau tanwydd, megis tariffau rhatach neu gynlluniau effeithlonrwydd ynni, oherwydd diffyg mynediad i fand eang;

e) bod Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Gwledig wedi dweud bod gwasanaeth gwael o ran y we yn ffactor sy'n gwthio pobl ifanc allan o ardaloedd gwledig; ac

f) y cynnydd o ran digideiddio'r ochr weinyddol o ffermio ac effaith hyn ar ffermwyr mewn ardaloedd lle mae'r ddarpariaeth band eang yn wan.

3. Yn gresynu at y problemau a brofir gan Gynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod cynllun Allwedd Band Eang Cymru yn cael ei hysbysebu'n eang ac nad yw'n wynebu'r un problemau;

b) archwilio’r system gynllunio i sicrhau bod y rheolau cynllunio'n cefnogi datblygiad seilwaith digidol;

c) archwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i fusnesau i wella eu gallu i gystadlu ledled y byd drwy fynediad gwell i wasanaethau digidol; a

d) ymchwilio i broblemau diweddar gyda signalau ffonau symudol a gweithio gyda darparwyr rhwydwaith i sicrhau yr eir i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau cymaint o wasanaeth â phosibl ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2013

Dyddiad y penderfyniad: 02/10/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad