Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn gresynu bod nifer y bobl ar leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy:

a) datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc;

b) sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol;

c) gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau;

d) treialu proses fel un UCAS o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac

e) creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth i symleiddio'r broses o ddarparu gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

4. Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2013

Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad