Manylion y penderfyniad
Debate: Measles and the importance of vaccination programmes
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.59
NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch;
a
2.
Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn
mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a
swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y
maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn dysgu gwersi yn sgîl yr
achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o achosion yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata
brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau
camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn
MMR cyfun.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch;
a
2.
Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a
swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y
maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.
4. Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 11/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad