Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 17.01
NDM5255
Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw'r
ateb wir yn chwythu yn
y gwynt? Y cymysgedd o ynni adnewyddadwy a'r galw cynyddol am ynni dwr.
Dadl sy'n
cwestiynu a oes gan Lywodraeth
Cymru y strategaeth ynni adnewyddadwy gywir o ran rhoi gormod o bwyslais ar gynhyrchu ynni
drwy wynt ar y tir.
Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad