Manylion y penderfyniad

Debate: Public Service Reform

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

9

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol.

Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus.

Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

9

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 08/05/2013

Dyddiad y penderfyniad: 07/05/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad