Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.45

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion ysgogi cynnydd mewn safonau.

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu rhaglen monitro disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial;

b) cynyddu'n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion a sicrhau bod ysgolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i sut y mae'r cyllid hwn wedi'i wario, i annog atebolrwydd, targedu effeithiol a rhannu arfer gorau; ac

c) diwygio'r system ar gyfer bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol o ran perfformiad disgyblion unigol, gan gynnwys ailstrwythuro'r system i ddangos mor dda y mae ysgolion yn cyflawni wrth gynorthwyo disgyblion i gyrraedd eu potensial eu hunain.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘disgybl' cynnwys, ‘ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu,’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1 ychwanegu ‘a chyrff addysgol’ ar ôl ‘rhoi pwer i ysgolion'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5, 6, 7, 8, 9 a 10 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5228 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod yn rhaid i gymorth i safonau ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol ganolbwyntio ar alluogi pob disgybl ni waeth beth fo'i gefndir na'i allu, i gyrraedd ei lawn botensial a rhoi'r pwer i ysgolion a chyrff addysgol ysgogi cynnydd mewn safonau.

2. Yn nodi bod dadansoddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn pwysleisio y gellir codi safonau mewn ysgolion ar sail disgyblion unigol pan fydd ysgolion yn canolbwyntio ar drywydd eu disgyblion gymaint ag ar eu safon gyrhaeddiad absoliwt, gyda'r defnydd priodol o werthuso a monitro mewnol.

3. Yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn cyflwyno adroddiad ar ba mor effeithiol y mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion â chefndir mwy cefnog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

4

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 02/05/2013

Dyddiad y penderfyniad: 01/05/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad