Manylion y penderfyniad
Debate: End of Life Care
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.24
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella
gwasanaeth gofal diwedd oes; a
2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd
Oes.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes
o safon uchel yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal
eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu
gofal diwedd oes.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall
taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael
gofal diwedd oes.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd
o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
5 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella
gwasanaeth gofal diwedd oes;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth
ddarparu gofal diwedd oes;
3. Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr
gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel; a
4. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd
Oes.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 23/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad