Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 17:30
NDM5056 Mick
Antoniw (Pontypridd)
Yr achos dros gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn cyfrannu at dlodi yng nghefn gwlad. Dylem gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 10/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad