Manylion y penderfyniad

Dadl Fer

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae dadleuon byr yn wahanol i ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn).  Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17:39.

 

NDM4993 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru

 

Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/05/2012

Dyddiad y penderfyniad: 23/05/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad