Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:25
NDM4889 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Cyfranogaeth a grymuso yn nyfodol
Gwasanaethau Gofal yng Nghymru – Mentrau
Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a thaliadau uniongyrchol.
I drafod profiadau o ran taliadau uniongyrchol yn ogystal â modelau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer gwasanaethau gofal yn dilyn adroddiad Scope “Unigoliaeth neu Gyfunoliaeth ym Maes Gofal: A all taliadau uniongyrchol helpu i greu cymunedau cryfach?”
Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 22/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad