Manylion y penderfyniad

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW) ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi ei adroddiad ar benderfyniad RIFW i werthu tir ac asedau eiddo o oedd o dan berchnogaeth gyhoeddus (15 Gorffennaf 2015).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ei ymchwiliad i RIFW (PDF 734KB) yn Ionawr 2016. Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 176KB) ar 8 Mawrth 2016 a dilynwyd hynny gan drafodaeth yn y cyfarfod llawn ar 16 Mawrth 2016.

 

Argymhellodd y Pwyllor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth fod ei Bwyllgor olynol yn myfyrio ar ganfyddiadau’r ymchwiliad ac yn monitro gweithrediad yr argymhellion gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Hynt yr ymchwiliad

 

Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau a chynnwys y sesiynau tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1: Llywodraeth Cymru

12 Hydref 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2: Cyn-aelodau Bwrdd RIFW

12 Hydref 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3: Llywodraeth Cymru

13 Hydref 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4: Amber Infrastructure Ltd

13 Hydref 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5: Lambert Smith Hampton Ltd

20 Hydref 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

6: Langley Davies, South Wales Developments Ltd

1 Rhagfyr 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 6

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 6 ar Senedd TV

7: Llywodraeth Cymru

8 Rhagfyr 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 7

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 7 ar Senedd TV

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad