Manylion y penderfyniad

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhalioddd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i drafod:

  • effeithiau camddefnyddio alcohol a sylweddau ar bobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc a myfyrwyr prifysgol; pobl hŷn; pobl ddigartref; a'r bobl yn nalfa'r heddlu neu mewn carchardai;
  • effeithiolrwydd polisïau presennol Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol a sylweddau ac unrhyw gamau pellach y gallai fod eu hangen;
  • pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o effaith y niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau a chapasiti'r gwasanaethau hynny.

 

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad.

 

Gwyliwch y Cadeirydd, David Rees, yn siarad am y gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun hwn.

Cyhoeddodd y Pwyllgor arolwg dienw a holiadur ymgynghori i gasglu tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol a gan y cyhoedd. Mae crynodeb o’r ymatebion wedi cyhoeddi.

Gweithgareddau ymgysylltu

Trafodion y grŵpiau cyfeirio (PDF, 89KB) a ganhaliwyd ar 21 Ionawr, 2015

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn dilyn y sesiwn tystiolaeth lafar ar 11 Mehefin 2015, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Dirprwy Gweinidog Iechyd (PDF, 345KB) am fwy o wybodaeth. Ymatebodd y Dirprwy Gweinidog (PDF, 345KB) ar 1 Gorffennaf 2015.

Adroddiad y Pwyllgor

Darllenwch adroddiad y Pwyllgor: adroddiad ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau, Awst 2015 (PDF, 865KB).

Darllenwch crynodeb o brif ganfyddiadau’r adroddiad: crynodeb o’r adroddiad ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau.      

Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 241 KB) yn Hydref 2015.

 

Cymorth a chefnogaeth

Os yw camddefnyddio alcohol neu sylweddau wedi cael effaith arnoch chi neu ar rywun rydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno cael gwybodaeth ychwanegol neu help mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.

 

Rhadffôn: 0808 808 2234

neu anfonwch neges destun i DAN: 81066

www.dan247.org.uk

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.27

NDM5851 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Awst 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2015

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad