Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.17
NDM5790 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth darlledu
neilltuol yn yr iaith Gymraeg a chyfraniad pwysig S4C o ran diogelu ein hiaith
Gymraeg a chyfoethogi diwylliant Cymru;
2. Yn gwrthwynebu unrhyw
doriadau pellach yng nghyllid S4C gan Adran Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon, a allai fygwth dyfodol y sianel hon; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU am bwysigrwydd cynnal annibyniaeth
olygyddol, reolaethol a gweithredol S4C a'r angen am sail cyllid cynaliadwy i
ddiogelu dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 24/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad