Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat.

 

2. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru.

 

3. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella cysylltedd.

 

4. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:

 

a) creu banc datblygu yng Nghymru;

 

b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;

 

c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;

 

d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;

 

e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac

 

f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

47

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar ôl 'Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd':

 

'a Llinell y Gororau'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas' a rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig'.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

ymestyn y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach i roi rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai a rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,001 a £15,000.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

 

sefydlu corff newydd i weithio ochr yn ochr â UKTI i adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r gymuned ryngwladol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod sector preifat llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn nodi bod cael mynediad at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector preifat.

 

3. Yn nodi bod gwella sgiliau poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol i economi Cymru.

 

4. Yn nodi bod ein natur wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu ein heconomi a gwella cysylltedd.

 

5. Yn credu bod yna lawer o gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a chapasiti hyfforddi.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:

 

a) creu banc datblygu yng Nghymru;

 

b) datblygu rhwydweithiau o ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;

 

c) ymgorffori sgiliau ehangach megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;

 

d) datganoli mwy o bwerau dros ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;

 

e) gwella ein seilwaith trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd, datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith presennol; ac

 

f) lansio adolygiad radical a systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2015

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad