Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig
yn ystod tymor y gwanwyn 2014.
Nod yr ymchwiliad oedd adolygu'r ddarpariaeth o
wasanaethau bariatrig – yn enwedig llawdriniaethau – yng Nghymru, a nodi
meysydd lle y gallai camau pellach fod yn effeithiol.
Cylch
gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod:
- Effeithiolrwydd gwasanaethau arbenigol, o fewn lefelau 3 a 4 o Lwybr
Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, o ran mynd i'r afael â'r nifer
cynyddol o bobl sy'n rhy drwm a gordew yng Nghymru, a sut y caiff y
gwasanaethau hyn eu mesur a'u gwerthuso, gan gynnwys sicrhau gwerth am
arian;
- Meini prawf cymhwysedd y cleifion ac argaeledd llawdriniaethau i drin
gordewdra a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru;
- Y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol ar yr argymhellion a
amlygwyd yn adroddiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar yr
Adolygiad o'r Ddarpariaeth Llawdriniaethau Bariatrig a'r Meini Prawf ar
gyfer Mynediad yng Nghyd-destun Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan;
- Lefel y buddsoddiad sydd wedi'i neilltuo eisoes i ddarparu
llawdriniaethau bariatrig yng Nghymru; ac
- Argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra a gwasanaethau rheoli
pwysau arbenigol ledled Cymru.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu
tystiolaeth am y testun yma.
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 49KB).
Gweithgareddau
ymgysylltu
Nodyn
a gofnodwyd yn y cinio i drafod gwaith gydag academyddion Prifysgol Abertawe,
13 Chwefror 2014 (PDF, 39KB)
Nodyn
o'r ymweliad â Sefydliad Llawfeddygaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru ar 13
Chwefror 2014 (PDF, 28KB)
Nodyn
o ddigwyddiad y grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2014 (PDF, 32KB)
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyflwynodd
y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 976KB) yn Mai 2014. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 54KB) yn Gorffennaf 2014.
Dadl
yn y Cyfarfod Llawn:
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu
Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar 16
Gorffennaf 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 17.06
NDM5557 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 21 Mai 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2014
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad