Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a
chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i
ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o
effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd.
2. Yn croesawu'r cynigion gan Lywodraeth y DU i
gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol.
3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor
Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau
ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a
chreu swyddi hyd yma.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i
gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy:
a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn
cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu;
b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes
enghreifftiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i
Gymunedau i leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am
sefydlu eu rhai eu hunain;
c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir
gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen
bresennol;
d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo
grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu
cymunedol; ac
e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod polisïau newid yn yr
hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac ysgolion o ran cyflwyno
newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o faterion ecolegol yn ein
hysgolion.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
47 |
52 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 2, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ym mhwynt 3, dileu ‘gresynu at y’ a rhoi‘nodi’r’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig ar y rhaglen lwyddiannus
Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy fenthyciadau i gymunedau
lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni cymunedol, benthyciadau a fyddai'n
cael eu dileu petai’r prosiectau’n aflwyddiannus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'n sylweddol y
defnydd o ynni yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni
o fewn un prosiect cynhyrchu sy’n eiddo i gymunedau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cyllid cyhoeddus i Ynni
Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5530 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd microgynhyrchu a
chynhyrchu sy'n eiddo i gymunedau o ran datblygu cymysgedd ynni amrywiol i
ddarparu ar gyfer anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, a'r angen am fwy o
effeithlonrwydd ynni i leihau ein defnydd o ynni a lleihau tlodi tanwydd.
2. Yn nodi’r cynigion gan Lywodraeth y DU i
gymunedau gael y cyfle i brynu rhan yn eu cynllun trydan adnewyddadwy lleol.
3. Yn gresynu at y canfyddiadau yng Ngwerthusiad Canol Tymor
Ynni'r Fro Llywodraeth Cymru mai prin iawn fu'r cyflawniad yn erbyn y targedau
ar gyfer cynhyrchu ynni, gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a
chreu swyddi hyd yma.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i
gynorthwyo ynni cymunedol ac effeithlonrwydd ynni drwy:
a) sicrhau bod prosiectau microgynhyrchu yn
cael eu hystyried gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu;
b) rhoi fframwaith cyfreithiol a busnes enghreifftiol
ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol Ynni Adnewyddadwy sy'n Eiddo i Gymunedau i
leihau'r costau cyfreithiol a'r cymhlethdod i gymunedau sydd am sefydlu eu rhai
eu hunain;
c) sicrhau bod y cyngor a'r cymorth a gynigir
gan Swyddogion Datblygu Technegol Ynni'r Fro yn parhau ar ôl y rhaglen
bresennol;
d) creu llyfrgell o adnoddau i gynorthwyo
grwpiau cymunedol wrth wneud cais am gymorth ar gyfer prosiectau cynhyrchu
cymunedol;
e) gweithio gyda darparwyr addysg i sicrhau bod
polisïau newid yn yr hinsawdd ac addysg yn cydnabod yn llawn rôl addysg ac
ysgolion o ran cyflwyno newid ymddygiad, a sicrhau mwy o ddealltwriaeth o
faterion ecolegol yn ein hysgolion;
f) sefydlu cronfa ynni cymunedol, yn seiliedig
ar y rhaglen lwyddiannus Community Energy Scotland, i ddarparu cyllid drwy
fenthyciadau i gymunedau lleol sy’n awyddus i sefydlu prosiectau ynni
cymunedol, benthyciadau a fyddai'n cael eu dileu petai’r prosiectau’n
aflwyddiannus; ac
g) ystyried cyflwyno rhaglen ôl-ffitio ledled y
wlad i leihau'n sylweddol y defnydd o ynni yng Nghymru.
5. Yn nodi’r buddiannau economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol y gellir eu cyflawni o fewn un prosiect cynhyrchu
sy’n eiddo i gymunedau.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi
cyllid cyhoeddus i Ynni Cymunedol Cymru i hwyluso prosiectau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad