Manylion y penderfyniad

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn cynnal ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Roedd cylch gorchwyl yr adolygiad fel a ganlyn:

  • asesu effaith posibl cynigion y Comisiwn ar Gymru ac ar Barth Pysgodfeydd Cymru, ac ystyried y goblygiadau ehangach i foroedd tiriogaethol Cymru a fydd yn deillio o’r cynigion ar gyfer sector pysgodfeydd Ewrop;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y materion y dylai’r Llywodraeth eu blaenoriaethu yn ystod y trafodaethau ar y broses ddiwygio;
  • bod yn fforwm lle gall rhanddeiliaid yng Nghymru ymgysylltu â’r ddadl dros ddyfodol y polisi;
  • er mwyn dylanwadu ar y ddadl ehangach ar y PPC, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ceisio rhannu ei gasgliadau â chyrff Seneddol y DU, y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a chyrff perthnasol eraill yn Ewrop, fel Pwyllgor y Rhanbarthau.

Penderfyniadau:

2.1     Clywodd y Grŵp dystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a gytunodd i ddarparu gwybodaeth am gost y cynllun newydd ar gyfer rheoli llongau.

Dyddiad cyhoeddi: 09/11/2011

Dyddiad y penderfyniad: 03/11/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/11/2011 - Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: