Manylion y penderfyniad

Cynnig i ddirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gall y Cynulliad benderfynu diddymu Rheoliadau a osodwyd o’i flaen sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais:

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

NDM4940

 

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

 

Yn cytuno bod Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2012, yn cael ei ddirymu.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

33

50

Gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2012

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad