Manylion y penderfyniad
Datganiadau 90 eiliad
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Yn dilyn y cwestiynau ar ddydd Mercher, gall Aelodau
wneud datganiad personol byr. Rhaid i'r rhain fod yn fyr ac yn ffeithiol, ac
nid ydynt yn destun dadl.
Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n
destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr
i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau
arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.
Neilltuir cyfanswm o bum munud i’r eitem hon ac, fel yr
awgryma'r enw, ni chaiff yr un datganiad bara mwy na 90 eiliad. Mae hyn yn
caniatáu i dri Aelod wneud datganiadau bob wythnos, a chaiff y rhain eu dewis
ymlaen llaw gan y Llywydd.
Penderfyniadau:
Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2017
Dyddiad y penderfyniad: 01/02/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd