Manylion y penderfyniad
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gall y Cynulliad benderfynu diddymu Rheoliadau a osodwyd o’i flaen sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 17.25
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM6019 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Rheoliadau Personau Anabl
(Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron
y Cynulliad ar 30 Mawrth 2016, yn cael eu dirymu.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2016
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd