Manylion y penderfyniad

Cynnig i benodi Aelodau'r Pwyllgor Busnes

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Rhaid i’r Cynulliad gytuno ar sawl eitem bwysig o fusnes yn fuan ar ôl yr etholiad, gan gynnwys:

 

        penodi Aelodau i'r Pwyllgor Busnes;

        penodi Comisiynwyr y Cynulliad;

        argymhelliad y Prif Weinidog i'w Mawrhydi ynghylch y person sydd i'w benodi'n Gwnsler Cyffredinol;

        enwau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau; ac

        aelodau a chadeirydd pob pwyllgor.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 14.58

NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:

Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/05/2016

Dyddiad y penderfyniad: 24/05/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd