Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.09

NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion gofal cymhleth;

2. Yn nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016;

3. Yn nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a

4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a) cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon teulu;

b) gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol;

c) adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion;

d) gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol;

e) adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a

f) gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 17/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad