Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw
fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion
Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar
yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn
cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob
Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod
a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a
bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer
gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
13.31
Gofynnwyd y 6
chwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3 a 4 gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: