Manylion y penderfyniad
Stage 4 debate on the Local Government (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth a
gyflwynwyd gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb
a Llywodraeth Leol.
Gwybodaeth am
y Bil
Bwriadwyd i
ddarpariaethau’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) ganiatáu i waith paratoadol
penodol fynd rhagddo i roi rhaglen ar waith i uno a diwygio llywodraeth leol ac
roeddent yn cynnwys darpariaethau i ganiatáu i ddau neu ragor o Brif Awdurdodau
Lleol uno’n wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018. Mae'r Bil yn diwygio’r
ddarpariaeth ddeddfwriaethol bresennol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
(mewn perthynas â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a'r arolwg
o gynghorwyr ac o ymgeiswyr aflwyddiannus) a Deddf Llywodraeth Leol
(Democratiaeth) (Cymru) 2013 (mewn perthynas ag adolygiadau etholiadol).
Cyfnod
presennol
Daeth Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015
yn gyfraith yng Nghymru
(gwe-fannau allanol, Saesneg yn unig) ar 25 Tachwedd 2015.
Cofnod o daith
y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn
yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth
gyswllt
Clerc: Elizabeth
Wilkinson
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad
post:
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Email: Cysylltu@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio.
NDM5855 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
9 |
17 |
52 |
Derbyniwyd y Cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad