Manylion y penderfyniad
The Care and Support (Eligibility) (Wales) Regulations 2015
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad uwchgadarnhaol:
Fe’i gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi
Fe’i gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi
Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2016
Dyddiad cyfarfod y Pwyllgor: 1 Mehefin 2015
Status Adrodd: Adroddiad
Rhinweddau
Craffu
gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bu’r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu ar y Rheoliadau
Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 (PDF, 102KB) sydd i’w gwneud o
dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi
ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 189KB) i’w hysbysu
am fwriad y Pwyllgor i ystyried y Rheoliadau.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn. Daeth yr ymgynghoriad i ben
ar 29 Mai 2015.
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 327 KB)
ar 7 Gorffennaf 2015. Cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF, 37 KB) i’w lythyr ym mis Gorffennaf 2015.
Dadl
yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl ar y
rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Gorffennaf. Cymeradwywyd y Rheoliadau gan
y Cynulliad.
Ym mis Hydref 2015, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (llythyr
[PDF, 80KB], atodiad
(Saesneg yn unig) [PDF, 455KB]) am y newidiadau i’r Codau Ymarfer ynghylch
Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.09
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5813
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau
Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn
drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
5 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad