Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5734
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cadw lonydd gwyrdd yn wyrdd: gweithio i annog pobl i
beidio â gyrru oddi ar y ffordd yng ngogledd Cymru
Bydd y ddadl hon yn ymdrin â'r effaith y mae'r weithgaredd
hamdden newydd a phoblogaidd o yrru ar lonydd gwyrdd yn ei chael ar gefn gwlad
gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 26/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad