Manylion y penderfyniad

Co-investment in Skills Inquiry - Scoping Paper (in private)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru drafodaeth ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn Sgiliau.

 

Cylch Gorchwyl

Dechreuwyd rhoi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi ar y cyd mewn sgiliau (pdf 863KB) ar waith ddechrau mis Ebrill 2015:

  • I ba raddau y bydd y polisi buddsoddi ar y cyd yn cynorthwyo i gyflawni nod Llywodraeth Cymru o “sicrhau bod Cymru yn datblygu mantais gystadleuol o ran creu gweithlu cynhyrchiol a medrus”?
  • A fydd cyflogwyr yn arfer yr egwyddor o fuddsoddi ar y cyd? A yw’n debygol y bydd lefelau hyfforddiant yn cynyddu neu’n gostwng o ganlyniad i hyn?
  • Pa effaith (os o gwbl) y bydd rhagor o fuddsoddiad ariannol gan gyflogwyr yn ei chael ar ansawdd cyrsiau hyfforddi a pha mor berthnasol ydynt i’r farchnad lafur?

 

Fel rhan o’r Cylch Gorchwyl drafft hwn, efallai y bydd y Pwyllgor am ystyried:

  • A ddylai unrhyw hyfforddiant ychwanegol fod wedi’i eithrio o fuddsoddi ar y cyd, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd?
  • A oes dulliau eraill o rannu costau hyfforddiant, er enghraifft ardoll hyfforddi?
  • Defnyddio cyllid Ewropeaidd.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Penderfyniadau:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad.

Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2015

Dyddiad y penderfyniad: 04/02/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol:

  • Cyfyngedig