Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:18

 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.  Gwahoddodd y Llywydd llefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.

Dyddiad cyhoeddi: 18/09/2014

Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad