Manylion y penderfyniad

Dadl Fer

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae dadleuon byr yn wahanol i ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn).  Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.30

 

NDM5503 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Parciau Cenedlaethol Cymru: Dychwelyd i'w gwreiddiau i gynllunio ar gyfer dyfodol cryfach

 

Bydd ailystyried y cymhelliant ar gyfer dynodi tri Pharc Cenedlaethol Cymru yn ein galluogi i asesu eu perthnasedd i Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Bydd cydbwyso'r buddiant lleol a'r arwyddocâd cenedlaethol yn hanfodol i'w dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2014

Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad