Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5439
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o
safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan
alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a rhoi'r dechrau
gorau mewn bywyd i blant.
2. Yn croesawu'r camau gweithredu cadarnhaol sy'n cael eu
cymryd gan Lywodraeth y DU gan gynnwys buddsoddi £1 biliwn mewn gofal plant i
gynyddu addysg gynnar am ddim i bob plentyn tair a phedair oed a'i ymestyn i
blant dwy oed o deuluoedd ar incwm isel, cyflwyno gofal plant di-dreth i
deuluoedd sy'n gweithio a hawliau newydd ar rannu cyfnodau absenoldeb rhieni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu'r system o hawl gofal plant cyn-ysgol yng
ngoleuni’r ddarpariaeth well yn Lloegr;
b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a
deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y
blynyddoedd cynnar;
c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf
ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer
plant 3-4 oed;
d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws
pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y
gwyliau;
e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal
plant yng Nghymru yng ngoleuni datblygiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU;
ac
f) cyflwyno un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar-lein i helpu
rhieni newydd gyda gwybodaeth am wasanaethau gofal plant a hawliau a sut i
fanteisio arnynt.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘tlodi plant a’ a
rhoi yn ei le ‘helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch
credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn
mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen
mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn
Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
10 |
17 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gan fod
gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Ni chynigwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le ‘asesu’r system
hawl i ofal plant cyn-ysgol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Yn is-bwynt 3e), dileu popeth ar ôl ‘yng
Nghymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu is-bwynt 3f).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gan fod
gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5439
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o
safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan
alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
2. Yn nodi methiant Llywodraeth y
DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r
etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar
deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn
Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol;
b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a
deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y
blynyddoedd cynnar;
c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf
ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer
plant 3-4 oed;
d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws
pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y
gwyliau; ac
e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal
plant yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
12 |
54 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad