Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5417 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn helpu teuluoedd gyda chostau byw.

 

2. Yn nodi mai 21% yn unig o fabanod yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o ddisgyblion oed cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim.

 

3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i bob disgybl oed babanod yn Lloegr.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i fabanod yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth, iach i hybu iechyd, addysg a lles disgyblion.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr ysgol’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’ a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd ysgol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

44

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2014

Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad