Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.03
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5306
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri’r
cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau’r bwlch cyrhaeddiad
rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o gefndiroedd mwy
breintiedig.
2.
Yn nodi’r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith
y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, sydd:
a)
yn dangos bod y cyllid yn cael effaith gadarnhaol ar
lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a
phresenoldeb; a
b)
yn archwilio ffyrdd o wella’r grant yn y dyfodol.
3.
Yn nodi bod y cyllid ar gyfer y Premiwm Disgyblion yn Lloegr wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall, o £488 fesul disgybl cymwys yn
2011-12 i £1300 yn 2014-15 o’i gymharu â £450 fesul disgybl cymwys yng Nghymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant
Amddifadedd Disgyblion fesul disgybl yn y gyllideb nesaf;
b)
archwilio’r manteision o ehangu’r Grant Amddifadedd
Disgyblion i ddisgyblion o dan bump oed;
c)
sicrhau bod y canllawiau ar y grant yn glir ac yn
gryno ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton
ar gyfer Cymru;
d)
darparu sicrwydd dros ddyfodol y Grant Amddifadedd
Disgyblion a gwybodaeth amserol am ddyraniadau unigol i ysgolion;
e)
annog ysgolion i gael polisi clir ar gyfer monitro a
gwerthuso cadarn gan sicrhau nad yw’r broses yn or-fiwrocrataidd; ac
f)
sefydlu fformiwla gyllido decach sy’n sicrhau bod y
cyllid yn adlewyrchu’n gywir nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a
gaiff eu cefnogi gan gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
9 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 2 a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a
gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2013
Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad