Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5267
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r
Parth Clustogi glo brig yn addas
at y diben?
Dadl sy'n
trafod y problemau sydd wedi codi
ers i'r parth
clustogi gael
ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw
mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch
i gymunedau sy'n byw gyda chloddio
glo brig.
Dyddiad cyhoeddi: 20/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad