Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i ymchwilio i argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ynglŷn â maint y Cynulliad a sut mae Aelodau'n cael eu hethol.

I lywio ei waith ar gapasiti’r Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad trafod preifat ar 6 Ionawr 2020 gyda rhanddeiliaid sy’n gweithio'n agos gyda'r Cynulliad a'i Aelodau.

 

Dyma'r tri chwestiwn a drafodwyd gennym:

 

1.              A oes gan y Cynulliad y capasiti sydd ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?

 

2.              A fyddai pethau'n wahanol pe bai gan y Cynulliad ragor o Aelodau? Os felly, sut?

 

3.              Os yw’n parhau i fod â 60 Aelod, beth y gallai’r Cynulliad, ei bwyllgorau, ei Aelodau, ei bleidiau gwleidyddol neu eraill ei wneud yn wahanol er mwyn cynyddu’r capasiti?

 

Mae’r nodyn hwn yn crynhoi’r themâu sy'n codi o'r trafodaethau.


 

Cwestiwn 1: A oes gan y Cynulliad y capasiti sydd ei angen arno i gyflawni ei swyddogaethau cynrychioliadol, craffu a deddfwriaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?

Maint y Cynulliad

1.             Roedd consensws cyffredinol nad oes gan y Cynulliad y capasiti sydd ei angen arno, a bod hyn yn cyflwyno heriau o ran craffu ac atebolrwydd democrataidd. Nododd rhai cyfranogwyr fod y Cynulliad yn gyfrifol am lawer o'r materion sy'n effeithio fwyaf ar bobl yn eu bywydau beunyddiol, ond ar ôl cyfrif aelodau Llywodraeth Cymru a'r Llywyddion, dim ond tua 45 Aelod sydd ar gael i ymgymryd â swyddogaethau craffu’r Cynulliad. Er y cafwyd consensws bod y gwaith craffu o ansawdd da yn gyffredinol, roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo ei bod yn anochel y byddai'r Cynulliad, heb gynyddu ei gapasiti, yn colli materion o bwys a ddylai fod yn destun gwaith craffu. Cafwyd cefnogaeth cyffredinol i gynyddu maint y Cynulliad. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y dylai’r cynnydd fod tuag at ben uchaf braced arfaethedig y Panel, sef 80-90 o Aelodau, er mwyn diogelu'r sefydliad yn y dyfodol ac osgoi gorfod gwneud addasiadau pellach am gryn amser eto.

Rôl a chyfrifoldebau’r Cynulliad

2.             Mae rôl y Cynulliad wedi newid yn sylweddol ers ei sefydlu ym 1999; yn benodol, mae ganddo gyfrifoldebau deddfu a threthu bellach. Efallai y bydd angen gwneud newidiadau pellach yn sgil Brexit ac argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ynghylch yr angen ar gyfer datganoli cyfiawnder a phlismona. Nododd cyfranogwyr fod sefydlu'r Cynulliad, a’r newidiadau i'r setliad datganoli wedi hynny, wedi bod yn fater dadleuol, ond bod y gefnogaeth ar gyfer datganoli wedi cynyddu. Cafwyd consensws cyffredinol ei fod yn bwysig helpu'r cyhoedd i ddeall bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau pobl, a bod yn rhaid i Aelodau sy’n meddu ar y sgiliau, yr amser, y capasiti a’r arbenigedd i wneud hynny graffu yn briodol ac yn effeithiol ar benderfyniadau o'r fath.

3.             Roedd rhai cyfranogwyr yn pryderu’n fawr am y diffyg sylw i’r Cynulliad yn y cyfryngau. Teimlwyd bod gwaith da yn cael ei wneud heb i neb sylwi weithiau, ac y gallai Aelodau fod yn ymwybodol eu bod yn gweithio mewn amgylchedd seneddol sy'n destun llai o waith craffu na deddfwrfeydd eraill y DU. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai'r cyfryngau, yng Nghymru ac yn genedlaethol, wneud mwy i egluro gwaith y Cynulliad a pham mae angen mwy o Aelodau.

Pwyllgorau'r Cynulliad

4.             Teimlai'r cyfranogwyr fod cyfyngiadau sylweddol ar yr amser sydd ar gael i Aelodau baratoi ar gyfer busnes ffurfiol y Cynulliad, rhoi sylw i'r dystiolaeth a'r arbenigedd sydd ar gael, a myfyrio ar y materion y maent yn craffu arnynt. Awgrymodd cyfranogwyr fod pleidiau llai yn ei chael hi'n anodd penodi eu haelodau i holl bwyllgorau'r Cynulliad a bod pleidiau mwy yn ei chael hi'n anodd llenwi'r holl leoedd pwyllgor a ddyrennir iddynt. Nodwyd bod y gostyngiad diweddar ym maint pwyllgorau, i raddau, wedi lliniaru’r pwysau o ran nifer y lleoedd, ond y byddai'n anoddach bellach i'r Aelodau arbenigo mewn gwahanol agweddau ar bortffolios pwyllgorau. Teimlwyd bod hyn yn cael ei waethygu gan gylch gwaith eang y pwyllgorau. Awgrymodd y cyfranogwyr fod ehangder y cylch gwaith ei hun yn deillio i raddau o’r cyfyngiad y mae maint y Cynulliad yn ei roi ar nifer y pwyllgorau y gellir eu sefydlu.

5.             Credwyd hefyd fod ehangder y cylchoedd gwaith, ar y cyd â diffyg capasiti wedi arwain at gynnydd yn nifer yr ymchwiliadau byr yn lle darnau gwaith hwy a mwy manwl. Credwyd hefyd nad oedd llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol a sganio'r gorwel er mwyn rhagweld meysydd o ddiddordeb a meysydd o bwys. Roedd rhai cyfranogwyr yn pryderu bod y gwaith craffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth yn tueddu i fod yn ôl-weithredol, sy’n cyfyngu ar y cyfleoedd i Aelodau a phwyllgorau ddylanwadu ar bolisiau’r Llywodraeth a’u llunio. Teimlwyd bod cyfyngu ar feddwl yn strategol a chreadigol yn arwain at golli cyfleoedd i osod yr agenda a dylanwadu ar bolisi, gwariant a deddfwriaeth, gan fod yr amser sydd ei angen i baratoi ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn a’u mynychu yn golygu bod llai o amser ar gael er mwyn meddwl mewn ffordd wleidyddol a chreadigol neu ddatblygu neu drafod opsiynau eraill. Roedd peth pryder hefyd ynghylch a yw'r amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion y mae pwyllgorau yn cymryd tystiolaeth ganddynt yn ddigon eang.

6.             Sylwodd rhai cyfranogwyr fod lefelau amrywiol o arbenigedd ymhlith aelodau'r pwyllgor o ran yr agweddau mwy technegol ar graffu, ac roeddent yn pryderu bod gweithgarwch y pwyllgorau’n cael ei arwain gan sgiliau a gwybodaeth y swyddogion sy’n cefnogi. Cydnabu'r cyfranogwyr natur dechnegol a chymhleth rhai o'r materion y mae'r Aelodau'n eu hystyried, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a chynigion polisi manwl y Llywodraeth. Cyfrannodd hyn at bryderon ynghylch lefel trosiant aelodaeth pwyllgorau, ac roedd y cyfranogwyr yn teimlo y gallai hyn rwystro’r Aelodau rhag datblygu arbenigedd a allai fod yn sail i waith craffu manwl a threiddgar, yn enwedig mewn meysydd technegol fel trethiant.

7.             Nododd rhai cyfranogwyr y gallai cyfyngiadau ar yr amser neu'r capasiti sydd ar gael ar gyfer craffu gael effaith niweidiol ar allu'r Cynulliad; er enghraifft, gallai gwaith craffu annigonol ar ddeddfwriaeth arwain at ddeddfwriaeth ddiffygiol neu aneffeithiol sy'n gofyn am gael ei datrys trwy gamau deddfwriaethol neu gamau polisi pellach ac arwain at ofynion craffu ychwanegol.

Ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid

8.             Teimlai'r cyfranogwyr fod yr Aelodau yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn ymgymryd â busnes ffurfiol y Cynulliad pan fyddant ar ystâd y Cynulliad, ac nad oes llawer o gyfleoedd iddynt wneud hynny y tu hwnt i Fae Caerdydd, neu i'r Aelodau ymgysylltu'n anffurfiol neu gwrdd â rhanddeiliaid, etholwyr, defnyddwyr gwasanaethau neu eraill. Nododd rhai cyfranogwyr fod y cyfyngiadau capasiti presennol yn effeithio’n benodol ar Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau sydd bellaf o Fae Caerdydd, gan eu bod yn treulio cyfran fwy o’u hamser yn teithio.

9.             Mynegwyd pryderon y gallai mynediad at Aelodau fod yn seiliedig ar berthnasoedd personol weithiau, yn hytrach na phwysigrwydd materion penodol neu gryfder dadl. Teimlai'r cyfranogwyr pe bai’r cynnydd mewn capasiti yn lleihau'r pwysau amser yn ystod yr wythnos waith, neu'n caniatáu i Aelodau arbenigo mewn materion polisi penodol, gallai hynny wella ansawdd ac amrywiaeth y gwaith ymgysylltu. Awgrymodd y cyfranogwyr hefyd y gall cyfyngiadau ar amser Aelodau gyfyngu ar y cwmpas ar gyfer ymgysylltu â'i gilydd yn drawsbleidiol. Teimlwyd bod hyn yn annog diwylliant llwythol o fewn y sefydliad ac yn cyfyngu ar y cwmpas ar gyfer gweithio gyda phleidiau eraill i adeiladu consensws a meddwl yn greadigol am y materion sy'n wynebu Cymru.

Cymorth gan staff Comisiwn y Cynulliad

10.         Rhoddodd y cyfranogwyr sylw i rôl staff Comisiwn y Cynulliad wrth gynorthwyo â’r gwaith craffu, yn enwedig trwy bwyllgorau’r Cynulliad. Nodwyd, er bod y cymorth gan staff wedi cynyddu ac yn cyrraedd safon uchel ar y cyfan, na all gymryd lle Aelodau’n cael rhagor o amser i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r dystiolaeth a'r materion, na chymryd lle’r safbwynt gwleidyddol sydd ond yn bosibl gan Aelodau. Nododd rhai cyfranogwyr eu bod ar adegau wedi sylwi ar ddiffyg profiad neu wybodaeth dechnegol benodol yn y cyngor a roddwyd i'r Aelodau, a bod hyn wedi'i adlewyrchu yn y dull holi a ddefnyddir gan Aelodau mewn pwyllgorau.

Cymariaethau â deddfwrfeydd eraill a chraffu o fewn pleidiau

11.         Ystyriodd y cyfranogwyr faint deddfwrfeydd eraill yn y DU ac yn rhyngwladol, gan nodi bod y Cynulliad yn ymddangos yn rhy fach o'i gymharu â’r rheini. Awgrymodd rhai cyfranogwyr bod Aelodau mewn deddfwrfa lai efallai’n llai tebygol o fod yn feirniadol o’u plaid eu hunain nag Aelodau deddfwrfeydd mwy, gan ddadlau y gallai rhagor o Aelodau ganiatáu mwy o waith craffu o fewn pleidiau, yn ogystal â Llywodraeth Cymru. Hefyd, codwyd rhai pryderon y gallai elfen rhestr ranbarthol y system etholiadol bresennol atal Aelodau rhag beirniadu eu plaid eu hunain os oeddent yn teimlo eu bod wedi cael eu hethol yn enw'r blaid yn hytrach na fel unigolion.


 

Cwestiwn 2: A fyddai pethau'n wahanol pe bai gan y Cynulliad ragor o Aelodau? Os felly, sut?

Dealltwriaeth y cyhoedd o rôl y sefydliad

12.         Roedd y cyfranogwyr yn glir mai Aelodau unigol a grwpiau gwleidyddol gaiff benderfynu sut i gyflawni eu rolau a sut i flaenoriaethu eu cyfrifoldebau, er y bu peth trafodaeth ynghylch a fyddai capasiti ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â gwaith craffu neu i wneud rhagor o waith achos rhanbarthol neu etholaethol. Serch hynny, roedd consensws cyffredinol nad yw'r cyhoedd a rhanddeiliaid bob amser yn deall beth y mae Aelodau'n ei wneud, ac y gallai hyn atal y cyhoedd rhag derbyn unrhyw gynnydd ym maint y Cynulliad. Teimlwyd bod angen dangos sut y byddai ethol rhagor o Aelodau yn arwain at lywodraethu gwell yng Nghymru, er enghraifft trwy gynyddu'r gronfa dalent sydd ar gael ar gyfer swyddi gweinidogol neu drwy wella gwaith craffu. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y dylid paratoi swydd-ddisgrifiadau amlinellol ar gyfer Aelodau, ac ar gyfer cynghorwyr lleol ac Aelodau Seneddol er mwyn egluro rolau gwleidyddion etholedig ar bob lefel yng Nghymru. Teimlai cyfranogwyr eraill y byddai cynyddu nifer yr Aelodau yn arwain at gynnydd yn nealltwriaeth y cyhoedd o'r sefydliad a'i rôl gan y byddai rhagor o Aelodau ar gael i weithredu fel ‘llysgenhadon’ i'r ddeddfwrfa.

Ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid

13.         Teimlai'r cyfranogwyr y byddai Cynulliad mwy yn cynnig rhagor o gyfleoedd i sefydlu grwpiau trawsbleidiol sy'n cwmpasu holl gyfrifoldebau'r Cynulliad. Gallai presenoldeb a chyfranogiad yr Aelodau yng ngwaith y grwpiau trawsbleidiol fod yn fwy cyson ac effeithiol, gan arwain at gynnyddu effaith gwaith grwpiau o'r fath. Teimlwyd hefyd y byddai hyn yn gwella mynediad rhanddeiliaid at Aelodau, ac yn gwella mynediad yr Aelodau at arbenigedd, y syniadau polisi diweddaraf a blaenoriaethau'r sector. Byddai lleihau'r pwysau amser ar Aelodau yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt fod i ffwrdd o ystâd y Cynulliad i gwrdd ag ystod ehangach o sefydliadau. Teimlai'r cyfranogwyr y byddai clywed gan randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau mwy amrywiol yn gwella dealltwriaeth Aelodau o effaith y polisïau a'r ddeddfwriaeth y maent yn craffu arnynt, ac yn eu galluogi i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well. Fodd bynnag, nododd rhai cyfranogwyr y byddai cynyddu nifer yr Aelodau yn cyflwyno heriau i grwpiau eirioli cenedlaethol sy'n ceisio ymgysylltu â'r holl Aelodau yn barhaus.

Craffu’n well ar bwyllgorau

14.         Disgwylir y byddai cynyddu’r capasiti yn y system bwyllgorau yn arwain at fwy o gyfle i graffu a chlywed amrywiaeth ehangach o leisiau. Nododd rhai cyfranogwyr o sefydliadau cynrychioliadol eu bod yn debygol o anfon cyfranwyr profiadol os mai un cyfle yn unig sydd ganddynt i roi tystiolaeth, ond pe bai mwy o gyfleoedd ganddynt, byddent yn fwy tebygol o roi cyfleoedd i gyfranwyr llai profiadol. Byddai hyn yn cynyddu amrywiaeth y lleisiau a glywir gan bwyllgorau, yn ogystal â gwella hygyrchedd a thryloywder gwaith y Cynulliad. Roedd cyfranogwyr hefyd yn teimlo y byddai pwyllgorau yn gallu mabwysiadu dulliau mwy creadigol, gan ddod o hyd i wahanol ffyrdd o alluogi sefydliadau, deiliaid swyddi neu unigolion i gymryd rhan a allai gael eu hatal gan ffurfioldeb busnes y Cynulliad fel arall. Awgrymodd rhai y gallai fod mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng pwyllgorau, a allai leihau'r baich ar sefydliadau y gofynnir iddynt roi tystiolaeth yn rheolaidd.

Sefydlogrwydd ac arbenigedd

15.         Nododd rhai cyfranogwyr sy'n destun gwaith craffu gan bwyllgorau'r Cynulliad eu hunain y gall y newid yn Aelodau rhwng sesiynau craffu gyfyngu ar y graddau y mae camau dilynol yn cael eu cymryd ar gyfer materion neu’r graddau y gall Aelodau ddatblygu arbenigedd mewn pwnc. Teimlwyd y gallai cynyddu nifer yr Aelodau leihau’r achosion o newid yn aelodau pwyllgorau ac esgor ar fwy o sefydlogrwydd yn y system bwyllgorau. Byddai hyn yn galluogi Aelodau i ddyfnhau eu harbenigedd, ac arbenigo o fewn cylch gwaith pwyllgor penodol, gan gynyddu gallu pwyllgorau i graffu ar Lywodraeth Cymru ac eraill yn fwy effeithiol. Cafwyd consensws cyffredinol bod galluogi Aelodau i ddatblygu arbenigeddau yn ddymunol, er bod rhai cyfranogwyr wedi tynnu sylw at werth y safbwynt strategol a thrawsbynciol sydd gan Aelodau ar hyn o bryd yn sgil bod yn aelodau o sawl pwyllgor, ac roeddent yn pryderu ynghylch colli'r safbwynt hwn.

Cynrychiolaeth well

16.         Roedd rhai o'r farn y byddai Cynulliad mwy yn golygu ei fod yn gallu bod yn sefydliad gwirioneddol genedlaethol sy’n gweithredu ledled Cymru gyfan. Awgrymodd rhai y gallai hyn annog pobl i sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad yn hytrach na San Steffan. Roedd cyfranogwyr hefyd yn teimlo y byddai Cynulliad mwy yn arwain at ganlyniadau etholiadol mwy cyfrannol. Gallai hyn leihau'r straen ar bleidiau gwleidyddol llai a chynyddu amrywiaeth nodweddion gwarchodedig, barn wleidyddol, a chefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol-economaidd yr Aelodau. Awgrymwyd y byddai Cynulliad mwy amrywiol a chynrychioliadol yn dibynnu llai ar eiriolaeth dros achosion penodol gan sefydliadau lobïo â diddordeb arbennig. Teimlai cyfranogwyr eraill, fodd bynnag, na ddylid cymryd yn ganiataol y byddai cynnydd mewn capasiti yn arwain yn awtomatig at Gynulliad mwy amrywiol neu gynrychioliadol.

Pontio i Gynulliad mwy

17.         Nododd rhai cyfranogwyr fod pwysau gwaith presennol yr Aelodau yn cyfyngu ar gyfleoedd i ystyried yn llawn sut y gellir sicrhau cynnydd ym maint y Cynulliad, neu'r effaith y gallai ei chael. Awgrymwyd y byddai cynyddu'r maint yn arwain at risgiau yn ogystal â chyfleoedd. Byddai angen hyfforddiant, sesiynau cynefino a chefnogaeth cymheiriaid priodol ar garfan fawr o Aelodau cymharol ddibrofiad gan Gomisiwn y Cynulliad a phleidiau gwleidyddol, ond byddai hyn hefyd yn gyfle gwerthfawr i ailasesu gweithdrefnau, arferion a dulliau gweithio’r Cynulliad. Trafododd y cyfranogwyr newidiadau i ddiwylliant y Cynulliad a allai ddeillio o wneud y sefydliad yn fwy, ac awgrymwyd y dylid cynnal yr ethos ystyriol o deuluoedd gan ganolbwyntio mwy ar ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Sefydliad mwy creadigol

18.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai cynyddu capasiti’r Cynulliad ei helpu i ddatblygu’n ddeddfwrfa fwy gweledigaethol sydd mewn sefyllfa well i ddatblygu a dilyn llwybr Cymreig unigryw yn y DU a'r byd. Roeddent yn teimlo y byddai gan Aelodau fwy o le ac amser i feddwl yn greadigol, ac i ymgysylltu'n effeithiol ag arbenigwyr, rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd i ddod o hyd i atebion sy'n canolbwyntio ar Gymru. Gellid hwyluso hyn trwy amrywio busnes y Cynulliad yn fwy yn ystod yr wythnos waith, fel dadleuon tebyg i’r rheini yn Neuadd San Steffan mewn siambr drafod gyfochrog, a thrwy roi mwy o amser a chyfleoedd i Aelodau weithio gyda'i gilydd a datblygu eu gweledigaethau eu hunain ar gyfer Cymru.

Goblygiadau ariannol

19.         Cydnabu’r cyfranogwyr y byddai goblygiadau ariannol yn gysylltiedig â chynyddu maint y Cynulliad, ac y byddai unrhyw gostau o’r fath yn fater sydd o bwys i’r cyhoedd. Fodd bynnag, pwysleisiwyd pwysigrwydd rôl y Cynulliad, a'r gwerth a'r arbedion posibl a ddaw yn sgil cyflawni ei gyfrifoldebau yn effeithiol. Cyfeiriodd y cyfranogwyr at gost ehangach gwleidyddiaeth yng Nghymru, yn enwedig colli Aelodau Senedd Ewrop a'r gostyngiad posibl yn nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru. Teimlwyd bod cynyddu maint a chostau'r Cynulliad ar yr un pryd â lleihau cynrychiolaeth a chostau ar lefel Ewropeaidd ac ar lefel y DU yn arwain at ailddosbarthu adnoddau yn unol â datganoli ac ailddosbarthu cyfrifoldebau.

Cwestiwn 3: Os yw’n parhau i fod â 60 Aelod, beth y gallai’r Cynulliad, ei bwyllgorau, ei Aelodau, ei bleidiau gwleidyddol neu eraill ei wneud yn wahanol er mwyn cynyddu’r capasiti?

Wythnosau gwaith hwy

20.         Ystyriodd y cyfranogwyr a fyddai modd ymestyn yr wythnos waith. Mae’r opsiynau a drafodwyd yn cynnwys:

a. Normaleiddio bore Llun o fewn amserlen fusnes ffurfiol y Cynulliad, a/neu ddefnyddio prynhawn Llun i raddau mwy.

b.  Mwy o ddefnydd o brynhawn dydd Iau ar gyfer busnes ffurfiol y Cynulliad.

c.  Busnes ffurfiol y Cynulliad ar yr amserlen ar ddydd Gwener.

ch. Busnes ffurfiol y Cynulliad ar yr amserlen yn hwyrach gyda’r nos.

21.         Cymysg oedd y safbwyntiau, gyda rhai cyfranogwyr yn tynnu sylw at y gwrthdaro posibl rhwng oriau hirach ac ethos ystyriol o deuluoedd y Cynulliad, risgiau posibl i iechyd a lles Aelodau, a'r potensial ar gyfer gosod rhwystrau a allai atal rhai grwpiau neu gymunedau rhag sefyll mewn etholiad. Hefyd, nododd y cyfranogwyr y byddai ymestyn yr wythnos waith yn cael mwy o effaith ar Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd yng ngogledd Cymru. Roedd cyfranogwyr eraill yn pryderu y byddai ymestyn hyd busnes ffurfiol y Cynulliad yn golygu y byddai llai o amser ar gael i’r Aelodau ddarllen, ymchwilio, paratoi a myfyrio ar y dystiolaeth yr oeddent wedi’i chlywed.

Cynyddu nifer yr wythnosau cyfarfod

22.         Awgrymwyd y gellid cynyddu nifer yr wythnosau cyfarfod trwy gwtogi toriad yr haf. Trafododd y cyfranogwyr amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â’r trefniadau presennol, gan gynnwys:

a. Alinio’r wythnosau cyfarfod â gwyliau ysgol. Nododd y cyfranogwyr ethos ystyriol o deuluoedd y Cynulliad, ond amlygwyd bod yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio sydd â chyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill roi trefniadau addas ar waith ar gyfer eu dibynyddion yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol.

b.  Ar hyn o bryd, mae nifer wythnosau cyfarfod y Cynulliad yn debyg i ddeddfwrfeydd eraill yn y DU.

c.  Dylai Aelodau, fel pobl eraill sy'n gweithio, gael cyfleoedd addas i gymryd eu gwyliau blynyddol.

ch. Mae’r toriadau yn darparu gyfle i fynd i ddigwyddiadau cenedlaethol fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod, ymdrin â gwaith achos etholaethol a rhanbarthol, ymgysylltu â sefydliadau yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, a pharatoi ar gyfer busnes y Cynulliad sydd ar y gweill.

23.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellid cynyddu nifer yr wythnosau cyfarfod fel mesur dros dro nes y gellir cynyddu’r capasiti mewn ffyrdd eraill. Nododd eraill y byddai newid yn annhebygol o gael ei wrthdroi pan fydd wedi’i wneud, a gallai hyn arwain at oblygiadau i ethos ystyriol o deuluoedd y Cynulliad ac amrywiaeth y sefydliad.

Trefn busnes y Cynulliad

24.         Nododd rhai cyfranogwyr fod amser y Cyfarfod Llawn yn brin, a gofynnwyd a oedd lle i lyfnhau neu symleiddio’r ffordd o drefnu gweithdrefnau busnes neu weithdrefnau’r Cynulliad i ryddhau capasiti heb leihau cadernid na thrylwyredd y broses graffu. Roedd yr opsiynau a awgrymwyd yn cynnwys:

a. Adolygu’r broses ddeddfwriaethol.

b.  Addasu'r cydbwysedd rhwng amser y Llywodraeth ac amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, er enghraifft trwy leihau amlder dadleuon yr wrthblaid.

c.  Trefnu cyfarfodydd llawn a chyfarfodydd pwyllgorau ar yr un pryd, er y dangoswyd rhywfaint o bryder y byddai bodloni'r gofynion cystadleuol hyn yn ymestyn capasiti’r Aelodau ymhellach.

Maint pwyllgorau

25.         Nododd y cyfranogwyr fod aelodaeth pwyllgorau wedi cael ei chwtogi yn 2016 ac eto yn 2019. Roeddent yn teimlo nad oedd llawer o le i gwtogi ymhellach gan fod maint y pwyllgorau ar hyn o bryd eisoes yn arwain at heriau o ran presenoldeb ac arbenigedd Aelodau.

Cylch gwaith y Pwyllgor

26.         Trafodwyd a fyddai modd uno pwyllgorau, ond roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod cylchoedd gorchwyl y pwyllgorau yn eang iawn yn barod ac y byddai eu hehangu ymhellach yn cyfyngu ar allu pwyllgorau i gyflawni eu holl gyfrifoldebau yn llawn. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellid addasu cylchoedd gwaith i gael gwared ar feysydd sy’n gorgyffwrdd ar hyn o bryd, neu y gallai pwyllgorau wneud gwaith craffu ar y cyd neu graffu cydgysylltiedig ar feysydd sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr er mwyn atal dyblygu.

Ymgysylltu â'r cyhoedd

27.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellir cynyddu capasiti trwy ymgysylltu’n well â’r cyhoedd. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys:

a.Sefydlu cynulliad dinasyddion sefydlog i ystyried materion perthnasol a llywio gwaith craffu’r Aelodau.

b. Cynnal mwy o fusnes y Cynulliad oddi ar ystâd y Cynulliad, gan gynnwys cynnal yr holl fusnes pwyllgor ffurfiol a busnes y Cyfarfod Llawn mewn lleoliad arall am wythnos i alluogi Aelodau sy'n cynrychioli'r ardaloedd hynny i dreulio mwy o amser yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.

c. Cynnal busnes pwyllgor sy'n arbennig o berthnasol i ranbarth penodol o Gymru yn y rhanbarth hwnnw, er enghraifft craffu ar fyrddau iechyd lleol penodol.

Mwy o gymorth i staff Comisiwn y Cynulliad

28.         Trafododd y cyfranogwyr a fyddai cynyddu lefel staff Comisiwn y Cynulliad i gynorthwyo busnes y Cynulliad yn cynyddu capasiti’r sefydliad. Fe wnaethant nodi y bu cynnydd yn y lefelau staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bod y Panel Arbenigol wedi dod i'r casgliad na all cynyddu lefelau staff fynd i'r afael â’r prinder amser sydd ar gael i'r Aelodau ddarllen, ymchwilio, myfyrio a dwyn eu persbectif gwleidyddol eu hunain i’w gwaith craffu.

Cyfethol arbenigwyr

29.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gellir cyfethol arbenigwyr perthnasol i eistedd ar bwyllgorau'r Cynulliad. Byddai arbenigwyr cyfetholedig yn gallu cyfrannu at y gwaith craffu, a thrwy hynny gynyddu arbenigedd a chapasiti, ond ni fyddent yn gallu pleidleisio. Roedd rhai cyfranogwyr yn poeni am atebolrwydd a thryloywder; nododd cyfranogwyr eraill fod gweithgorau arbenigol yn aml yn cael eu defnyddio i gefnogi datblygiad polisi Llywodraeth Cymru.

Rhannu swyddi

30.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai galluogi Aelodau i rannu swyddi olygu y gallai un partner sy’n rhannu’r swydd ymgymryd â gwaith etholaethol tra bod y llall yn gyfrifol am fusnes ffurfiol y Cynulliad, a nodwyd y gallai hyn gynyddu capasiti’r Cynulliad a chael mwy o amrywiaeth o leisiau a phrofiadau yn y sefydliad ar yr un pryd.

Pleidleisio drwy ddirprwy

31.         Nododd cyfranogwyr fod y Pwyllgor Busnes yn ystyried a ddylid caniatáu i Aelodau bleidleisio drwy ddirprwy pan fyddant ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb rhiant o fath arall, ac awgrymwyd y dylid ymestyn hyn i ganiatáu i Aelodau eraill gymryd rhan ym musnes y Cynulliad o bell.

Defnyddio technoleg

32.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai defnyddio mwy o dechnoleg alluogi Aelodau i glywed gan bobl ledled Cymru, ond roedd eraill yn poeni na ddylai technoleg gymryd lle Aelodau yn teithio ac yn ymgymryd â gweithgarwch busnes ac ymgysylltu ffurfiol i ffwrdd o Fae Caerdydd.

Gweithio trawsbleidiol

33.         Awgrymodd rhai cyfranogwyr y gallai Aelodau a grwpiau gwleidyddol fynd ati i geisio datblygu consensws gwleidyddol yn anffurfiol, fel bod modd i fusnes ffurfiol y Cynulliad ganolbwyntio ar faterion lle bu gwahaniaeth barn go iawn. Roedd pobl eraill yn teimlo efallai na fyddai hyn yn ymarferol yn realiti gwleidyddiaeth yr wrthblaid, yn enwedig yn ystod y cyfnod cyn etholiadau. Bu peth trafodaeth ynghylch a allai system etholiadol fwy cyfrannol annog llywodraeth glymblaid ac felly mwy o weithio trawsbleidiol.

Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o rolau a chyfrifoldebau cyfnewidiol Aelodau a’r Cynulliad

34.         Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo y byddai codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o rôl y Cynulliad a’i Aelodau yn helpu. Fe wnaethant awgrymu y dylid diffinio rolau a chyfrifoldebau'r Aelodau yn iawn, gan gynnwys:

a. Syniad o sut mae’r rôl wedi newid.

b.  Syniad o ddisgwyliadau a gofynion rôl Aelod Cynulliad, gan gynnwys egluro nad bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn yn unig y mae'r Aelodau'n ei wneud.

c.  Eglurhad o’r materion a'r cyfrifoldebau nad ydynt yn rhan o gylch gwaith yr Aelodau.

35.         Awgrymodd y cyfranogwyr hefyd y gallai'r tudalennau ‘Canfod eich Aelod’ ac ‘Aelodau’r Cynulliad’ ar wefan y Cynulliad gynnwys rhagor o wybodaeth am arbenigeddau a buddiannau penodol yr Aelodau, gan gynnwys, er enghraifft lle roedd Aelodau rhanbarthol sy'n cynrychioli'r un blaid wedi cytuno'n anffurfiol i ganolbwyntio ar wahanol feysydd daearyddol neu feysydd polisi.

Rôl rhanddeiliaid

36.         Nododd rhanddeiliaid y gallent wneud mwy i ystyried capasiti’r sefydliad wrth ddatblygu eu syniadau a'u blaenoriaethau polisi eu hunain, er eu bod yn teimlo y byddai hyn yn eu cyfyngu wrth ddatblygu eu gweledigaethau eu hunain ar gyfer Cymru ac yn cyfyngu ar eu gallu i wasanaethu eu sectorau eu hunain yn effeithiol. Awgrymodd rhai cyfranogwyr y byddai gwella’r cysylltiadau rhwng academyddion, rhanddeiliaid arbenigol a staff Comisiwn y Cynulliad yn helpu i sicrhau bod gan Aelodau fynediad at y dystiolaeth, y dadansoddiadau a'r syniadau polisi diweddaraf, ac y byddai'n galluogi’r sefydliad i sganio'r gorwel a meddwl mewn modd strategol.

Datganoli rhanbarthol

37.         Trafodwyd a fyddai rhai o gyfrifoldebau'r Cynulliad yn gallu cael eu datganoli i lefel ranbarthol. Awgrymwyd y gallai hyn ryddhau capasiti trwy ailddiffinio Aelodau fel archwilwyr, llunwyr polisi a deddfwyr cenedlaethol, tra bod y cyfrifoldeb am gyflawni, gweithredu a chraffu lleol wedi'i ddatganoli i strwythurau rhanbarthol. Fodd bynnag, mynegwyd pryder y gallai datganoli’n sylweddol i strwythurau rhanbarthol greu bwlch atebolrwydd ac y byddai'n rhaid cael safonau cenedlaethol trylwyr gydag unrhyw ddatganoli.

Datganoli pwerau a defnyddio pwerau datganoledig

38.         Tynnodd y cyfranogwyr sylw at gyfrifoldebau cyllidol newydd y Cynulliad, a dadleuon parhaus ynghylch datganoli cyfiawnder a phlismona. Awgrymodd rhai efallai y dylid cael saib cyn datganoli unrhyw gyfrifoldebau pellach nes bod gan y Cynulliad ddigon o gapasiti. Awgrymodd pobl eraill y dylai'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru flaenoriaethu pa bwerau fyddai'n cael eu harfer ai peidio nes bod y capasiti yn cynyddu. Er enghraifft, awgrymwyd efallai y bydd angen i Gymru ddewis peidio â gwyro oddi wrth San Steffan o ran polisi trethiant am y tro.