Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

 

 

 

 

 

Animal Welfare Network Wales Logo


Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir

 

 

 

Cynnwys

Bwyta at Fridio

 

Rhagair

 

2

Cyflwyniad

6

Diffiniadau

8

Adran 1: Argymhellion sy’n berthnasol i’r holl systemau hwsmonaeth

9

Trin anifeiliaid a staffio

9

Dal a thrin

10

Bwyd a dŵr

11

Iechyd

14

Arolygu a difa heb boen

14

Monitro a digwyddiadau dilynol yn y lladd-dy

15

Rheoli clefydau a bioddiogelwch

16

Iechyd coesau

17

Adeiladau a llety

19

Awyru, tymheredd a straen gwres

19

Goleuadau

22

Sarn/Llaesodr (Litter)

24

Offer awtomatig neu fecanyddol

24

Dwysedd stocio a rhyddid i symud

26

Anffurfiadau

29

Tocio pigau

30

Cadw cofnodion

31

Cynllunio wrth gefn

32

Adran 2: Argymhellion ychwanegol ar gyfer systemau maes

33

Adran 3: Argymhellion ychwanegol ar gyfer ieir bwyta ac ieir

teidiau a neiniau                                                                                                                             34

Gweithdrefnau bridio                                                                                                              34

Bwyd a dŵr                                                                                                                              34

Ymddygiad ymosodol, pigo niweidiol a chyfoethogi                                                          36

Tocio pigau                                                                                                                               36

Adeiladau a llety                                                                                                                      36

Dwysedd stocio a’r rhyddid i symud                                                                                     37

Sarn/Llaesodr (Litter)                                                                                                              37

Dal, trin a chludo                                                                                                                     38


Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

1

 
Cod Ymarfer ar gyfer Lles Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio

 

 

 

Atodiad 1: Deddfwriaeth arall sy’n effeithio ar ieir bwyta, adar bwyta at fridio

a deorfeydd                                                                                                                                     39

Cludo                                                                                                                                        39

Lladd                                                                                                                                         39

Systemau maes ac organig                                                                                                  39

Hylendid bwyd                                                                                                                        39

Cadw cofnodion                                                                                                                      39

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid                                                                                                  40

Atodiad 2: Ffurflen i’w defnyddio i hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o newid mewn dwysedd stocio ieir bwyta a fegir

yn gonfensiynol                                                                                                                              41

Atodiad 3: Lefelau sbarduno                                                                                                       42

Atodiad 4: Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus: enghraifft weithiol                                 43

Atodiad 5: Triniaethau a ganiateir                                                                                               45

Ffynonellau gwybodaeth bellach*                                                                                               47

Lladd                                                                                                                                         47

Dal a thrin                                                                                                                                47

Gwrthficrobiaid a brechlynnau                                                                                             47

Cofrestru dofednod                                                                                                                47

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

© Hawlfraint y Goron 2020

WG39727    ISBN digidol 978-1-83933-803-8


 

 

 

 


Rhagair

Nid yw’r rhagair hwn yn rhan o’r cod; yn hytrach, mae’n esbonio rôl y cod a’r ystyriaethau cyffredinol y mae’n seiliedig arnynt.

Mae’r cod hwn yn berthnasol i Gymru yn unig. Mae’n disodli’r Cod Argymhellion ar Gyfer Lles Da Byw: Ieir Bwyta ac Ieir Bwyta at Fridio, a gyhoeddwyd yn 2002. Mae hefyd yn disodli’r canllawiau dros dro ar gyfer ceidwaid ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol mewn perthynas â Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010.

Nid yw’r testun cyfreithiol yn y blychau drwy gydol y ddogfen hon yn rhan o’r cod hwn ond mae’n tynnu sylw at ddeddfwriaeth berthnasol. Y testun yn y blychau hyn yw’r gyfraith fel y saif ar y diwrnod y cafodd y cod hwn ei gyhoeddi (gweler y dudalen olaf ar gyfer y dyddiad cyhoeddi). Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw ofynion cyfreithiol a ddyfynnir yma newid. Dylech wirio bod y rhain yn ddatganiad cywir o’r gyfraith fel y saif ar hyn o bryd.

Gweler Atodlen 1 am restr o ddeddfwriaeth berthnasol arall.

Gwneir y cod hwn o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae’r Ddeddf yn gwneud perchnogion a cheidwaid yn gyfrifol am sicrhau bod

anghenion lles eu hanifeiliaid yn cael eu diwallu, bod ganddynt amgylchedd addas, eu bod yn cael eu bwydo â deiet priodol, a’u bod yn cael eu hamddiffyn rhag poen, anaf, dioddefaint

a chlefyd.

Y brif ddeddfwriaeth y cyfeirir ati yn y cod hwn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007, sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC yn ymwneud ag amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio, a Chyfarwyddeb y Cyngor

2007/43/EC, sy’n nodi’r rheolau isafswm ar gyfer amddiffyn ieir a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig.


 

Mae Adran 14 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi fel a ganlyn:

14 (1) The appropriate national authority may issue, and may from time to time revise, codes of practice for the purpose of providing practical guidance in respect of any provision made by or under this Act.

(2)  The authority responsible for issuing a code of practice under subsection (1) shall publish the code, and any revision of it, in such manner as it considers appropriate.

(3)  A person’s failure to comply with a provision of a code of practice issued under this section shall not of itself render him liable to proceedings of any kind.

(4)  In any proceedings against a person for an offence under this Act or an offence under regulations under section 12 or 13 –

(a) failure to comply with a relevant provision of a code of practice issued under this section may be relied upon as tending to establish liability, and

(b) compliance with a relevant provision of such a code of practice may be relied upon as tending to negative liability.

Mae Adran 3 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi fel a ganlyn:

3 (1) In this Act, references to a person responsible for an animal are

to a person responsible for an animal whether on a permanent or temporary basis.

(2)  In this Act, reference to being responsible for an animal include being in charge of it.


 

 

 

 

 


(3)   For the purposes of this Act, a person who owns an animal shall always be regarded as being a person who is responsible for it.

(4)   For the purposes of this Act, a person shall be treated as responsible for any animal for which a person under the age of 16 years of whom he has actual care and control is responsible.

Mae Rheoliad 6 Rheoliadau Lles Anifeiliaid

a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

(1)  Rhaid i berson sy’n gyfrifol am anifail a ffermir —

(a)  peidio â gofalu am yr anifail onid yw’n gyfarwydd â’r cod ymarfer perthnasol a bod y cod ar gael iddo tra’n gofalu am yr anifail; a

(b)  cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw person a gyflogir ganddo, neu a gymerir i weithio ganddo,

yn gofalu am yr anifail oni bai bod y person arall hwnnw—

(i)       yn gyfarwydd ag unrhyw god ymarfer perthnasol;

(ii)     bod y cod ar gael iddo tra’n gofalu am yr anifail; a

(iii)    ei fod wedi cael hyfforddiant ac arweiniad ar y cod hwnnw.

(2)   Yn yr adran hon, ystyr ‘cod ymarfer perthnasol’ (‘relevant code of practice’) yw cod ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 neu god ymarfer statudol a gyhoeddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 mewn perthynas

â’r rhywogaeth benodol o anifeiliaid a ffermir y mae’r person yn

gofalu amdanynt.


Bwriedir i’r cod hwn helpu pawb sy’n gofalu am ieir bwyta ac ieir bwyta at fridio i arfer safon dda o drin anifeiliaid. Heb drin anifeiliaid yn dda, ni fydd lles anifeiliaid byth yn gallu cael

ei amddiffyn yn ddigonol. Bydd glynu at yr argymhellion hyn yn helpu ceidwaid i gynnal y safonau sy’n ofynnol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth.

Dylai’r sawl sy’n gofalu am ieir ddangos yr isod:

  Cynllunio a rheoli gofalgar a chyfrifol

  Trin anifeiliaid gyda sgiliau a gwybodaeth ac yn gydwybodol

  Cynllunio amgylcheddol priodol

  Trin a chludo ystyriol

  Lladd heb boen

Mae lles ieir bwyta ac ieir bwyta at fridio yn cael ei ystyried o fewn fframwaith a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm ac sy’n cael ei adnabod fel y ‘Pum Rhyddid’. Mae’r rhain yn ffurfio’r egwyddorion arweiniol ar gyfer asesu lles o fewn unrhyw system, ynghyd â’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i ddiogelu lles o fewn cyfyngiadau diwydiant da byw effeithlon.

Dylai’r Pum Rhyddid gael eu hystyried ar y cyd â thair elfen hanfodol trin anifeiliaid y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm.

Y Pum Rhyddid yw:

1.     Rhyddid rhag Newyn a Syched drwy fynediad parod at ddŵr ffres a deiet i gynnal iechyd ac egni llawn.

2.     Rhyddid rhag Anghysur drwy ddarparu amgylchedd priodol, gan gynnwys cysgod ac ardal gyfforddus i orffwys.

3.     Rhyddid rhag Poen, Anaf neu Glefyd drwy ataliaeth neu ddiagnosis a thriniaeth gyflym.

4.     Rhyddid i Ymddwyn yn Naturiol drwy ddarparu gofod digonol, cyfleusterau priodol a chwmni anifeiliaid o’r un math â hwy.

5.     Rhyddid rhag Ofn a Dioddefaint drwy sicrhau amodau a thriniaeth a fydd yn osgoi dioddefaint meddyliol.


 

 

 

 

 


Tair Elfen Hanfodol Trin Anifeiliaid yw:

1.          Gwybodaeth am Hwsmonaeth Anifeiliaid Gwybodaeth gadarn am fioleg a hwsmonaeth anifeiliaid fferm, gan gynnwys sut y gellir darparu ar gyfer eu hanghenion orau ym mhob achos.

2.          Sgiliau mewn Hwsmonaeth Anifeiliaid –  Y gallu i ddangos sgiliau o ran arsylwi, trin, gofal a thrafod anifeiliaid, a chanfod a datrys problemau.

3.          Rhinweddau Personol Dangos perthynas ac empathi ag anifeiliaid, ymroddiad ac amynedd.

Yn ystod arolygiadau lles ar y fferm gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA, sy’n arfer swyddogaethau Gweinidog Cymru) ac awdurdodau lleol, bydd arolygwyr yn asesu cydymffurfiaeth yn ôl y ddeddfwriaeth a’r cod hwn. Mae peidio â chydymffurfio

â’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i les a amlinellir yn y blychau drwy gydol y cod hwn yn drosedd. Mewn achosion sy’n mynd i’r llys ar gyfer eu herlyn, gall p’un a bod

rhywun wedi diwallu gofynion y cod hwn neu beidio gael ei ddefnyddio i helpu i sefydlu atebolrwydd unigolyn.

Gallai fod deddfwriaeth a gofynion eraill nad ydynt yn cael eu hamlinellu yn y cod hwn ond mae’n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â hwy

a chydymffurfio â hwy.

Mae Adran 4 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi fel a ganlyn:

(1)  A person commits an offence if-

(a)       an act of his, or a failure of his act, causes an animal to suffer

(b)       he knew, or ought reasonably to have known, that the act, or failure to act, would have that effect or to be likely do so,

(c)         the animal is a protected animal, and

(d)        the suffering is unnecessary.


(2)   A person commits an offence if-

(a)       he is responsible for an animal,

(b)       an act, or failure to act, of another person causes the animal to suffer,

(c)       he permitted that to happen or failed to take such steps (whether by way of supervising the other person or otherwise) as were reasonable in all the circumstances to prevent that happening, and

(d)       the suffering is unnecessary

(3)   The considerations to which it is relevant to have regard when determining for

the purposes of this section whether suffering is unnecessary include-

(a)       whether the suffering could reasonably have been avoided or reduced;

(b)       whether the conduct which caused the suffering was in compliance with any relevant enactment or any relevant provisions of a license or code of practice issued under an enactment;

(c)       whether the conduct which caused the suffering was for a legitimate purpose, such as-

(i)    the purpose of benefiting the animal, or

(ii)   the purpose of protecting a person, property or another animal;

(d)       whether the suffering was proportionate to the purpose of the conduct concerned;

(e)       whether the conduct concerned was in all the circumstances that of a reasonably competent and humane person.


 

 

 

 

 


(4)   Nothing in this section applies to the destruction of an animal in an appropriate and humane manner.

Mae Adran 9 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi fel a ganlyn:

(1)  A person commits an offence if he does not take such steps as are reasonable in all the circumstances to ensure that the needs of an animal for which he

is responsible are met to the extent required by good practice.

(2)   For the purposes of this Act, an animal’s needs shall be taken to include -

(a)  its need for a suitable environment,

(b)  its need for a suitable diet,

(c)  its need to be able to exhibit normal behaviour patterns,

(d)  any need it has to be housed with, or apart from, other animals, and

(e)  its need to be protected from pain, suffering, injury and disease.


Mae ffynonellau gwybodaeth ychwanegol yn cael eu cynnwys ar ddiwedd y cod hwn.

Mae’r ffynonellau gwybodaeth bellach hyn yn berthnasol ar gyfer lles ieir bwyta ac ieir bwyta at fridio ond maent er gwybodaeth yn unig ac ni ddylent gael eu hystyried fel rhan o’r Cod Ymarfer.

Cyhoeddwyd y Cod hwn gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.


 

 

 

 


Cyflwyniad

Mae’r cod hwn (sy’n berthnasol i Gymru yn unig) yn cwmpasu holl rannau’r sector cynhyrchu ieir bwyta, gan gynnwys adar bridio a stoc teidiau

a neiniau o dan yr holl fathau o systemau hwsmonaeth.

Mae’r testun cyfreithiol yn y blychau wedi cael ei liwio yn ôl cod. Mae’r gofynion lles ar gyfer yr holl gynhyrchwyr ieir bwyta mewn glas,

ac mae’r gofynion lles ychwanegol ar gyfer cadw ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol mewn coch. Nid yw’r gofynion ychwanegol ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol (sy’n ofynnol

gan Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007) yn berthnasol i ddeorfeydd neu pan fod llai na 500 o ieir neu ieir bwyta at fridio yn cael eu cadw; hefyd nid ydynt yn berthnasol pan fo


 

adar yn cael eu magu yn ôl safonau marchnata ar gyfer ieir a fegir dan do o dan system llai dwys, ieir maes neu ieir organig. Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol, mae’r darpariaethau lles ychwanegol ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, er enghraifft ar oleuadau a sarn, yn gallu helpu i sicrhau lles adar pan fônt yn cael eu cymhwyso i’r holl systemau cynhyrchu. Mae argymhellion Cyngor Ewrop yn ymwneud ag ieir bwyta a stoc teidiau a neiniau, lle nad ydynt yn cael eu cwmpasu mewn deddfwriaeth, yn cael eu cynnwys yn y cod hwn.

Er hwylustod cyfeirio, mae’r tabl isod yn crynhoi’r darpariaethau cyfreithiol amrywiol yn ymwneud â lles anifeiliaid ar gyfer gwahanol fathau o systemau cynhyrchu ieir bwyta.


 

Math o system cynhyrchu ieir bwyta

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd)

Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd)

Daliadau gyda <500 ieir

 

Ieir bridio

 

Deorfeydd

 

>500 o adar a fegir yn gonfensiynol, dwysedd stocio hyd at 33kg/m2

>500 o adar a fegir yn gonfensiynol, dwysedd stocio yn fwy na 33kg/m2 hyd at 39kg/m2

 

 

 

a Ieir maes, uchafswm dwysedd stocio o 27.5kg/m2

 

a Ieir a fegir dan do dan system llai dwys, uchafswm dwysedd stocio o 25kg/m2

 

 

 

b Ieir a fegir yn organig, uchafswm dwysedd stocio o 21kg/m2

 

 


a. Fel y cyfeirir ato ym mhwyntiau (b), (c), (d) ac

(e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008, sy’n nodi rheolau manwl o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod i weithredu Rheoliad Sengl CMO (EC) Rhif 1308/2013.


b. Yn unol â Rheoliadau Organig perthnasol yr UE – Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 889/2008.


 

 

 

 

 


Ni ddylai unrhyw unigolyn weithredu neu sefydlu uned ieir bwyta neu ieir bwyta at fridio oni bai y gellir diogelu lles yr holl adar i’r graddau llawnaf ag y bo’n bosibl. Gellir cyflawni hyn drwy sicrhau bod yr adeiladau a’r offer, y sgiliau a’r galluoedd, a’r nifer o geidwaid yn briodol i’r system hwsmonaeth a’r nifer o adar i’w cadw.

Mae’r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid berthnasol yn berthnasol i berchnogion yn ogystal ag unrhyw unigolyn sy’n gofalu am yr ieir ar

eu rhan, lle bynnag y bo’r ieir wedi’u lleoli. Dylai protocol ysgrifenedig amlinellu’n glir ar gyfer yr holl bartïon eu cyfrifoldebau o ran lles.

Fodd bynnag, bydd y rhwymedigaethau a osodir gan y gyfraith yn dal yn weithredol.


Mae paragraff 29 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

29.   Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i’w hiechyd neu eu lles.

Mae’n rhaid i’r math o adar a ddewiswyd fod yn addas ar gyfer y system gynhyrchu. Yn arbennig, dylid cymryd gofal wrth gynhyrchu adar gyda chyfnodau tyfu estynedig (er enghraifft, organig, maes ac ati) eich bod yn defnyddio mathau addas a threfnau bwydo ofynnol.


 

 

 


Diffiniadau

At ddibenion y cod hwn, mae diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn y cod hwn yn cael eu crynhoi isod. Mae rhai o’r rhain (sy’n cael eu marcio gyda seren) yn cael eu cymryd yn uniongyrchol o’r ddeddfwriaeth berthnasol, tra bo eraill yn cael eu cynnwys i ddarparu eglurhad o ddibenion y cod.

mae ‘iâr fridio’ yn golygu anifail o’r rhywogaeth Gallus gallus y mae ei chywion naill ai’n stoc rhiant neu’n ieir bwyta

mae ‘iâr a fegir yn gonfensiynol’ yn golygu anifail o’r rhywogaeth Gallus gallus sy’n cael ei gadw ar gyfer cynhyrchu cig, ac eithrio un:

(a)  sydd ar ddaliad gyda llai na 500 o anifeiliaid o’r fath neu gyda stociau bridio yn unig o anifeiliaid o’r fath

(b)  sydd ar ddeorfa

(c)  y gellir defnyddio’r term “A fegir yn bennaf dan do (mewn cytiau)”, “Iâr fuarth”,

“Iâr fuarth – dull traddodiadol” neu

“Iâr fuarth – dull hollol rydd” o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn Rhif 543/2008/EC, sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad CMO Sengl (EU) 1308/2013 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod, neu

(d)  a fegir yn organig yn unol â rheoliadau organig perthnasol yr UE – Rheoliad y Cyngor Rhif 834/2007/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) 889/2008.

mae ‘cyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus’ (*) yn golygu’r swm o gyfraddau marwolaethau dyddiol

mae ‘cyfradd farwolaeth ddyddiol’ (*) yn golygu nifer yr ieir sydd wedi marw mewn cwt ar yr un diwrnod, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael

eu difa naill ai oherwydd clefyd neu oherwydd rhesymau eraill, wedi’i rannu gan nifer yr ieir sy’n bresennol yn y cwt ar y diwrnod hwnnw, wedi’i luosi gan 100

mae ‘haid’ (*) yn golygu grŵp o ieir sy’n cael eu gosod mewn cwt daliad ac sy’n bresennol yn y cwt hwn ar yr un pryd


 

mae ‘stoc teidiau a neiniau’ yn golygu anifail o’r rhywogaeth Gallus gallus y mae ei gywion yn stoc rhiant

mae ‘daliad’ (*) yn golygu safle cynhyrchu lle y bo ieir yn cael eu cadw

mae ‘cwt’ (*) yn golygu adeilad ar ddaliad lle y bo haid o ieir yn cael eu cadw

mae ‘pigo niweidiol’ yn ymddygiad twrio am fwyd a ailgyfeirir i blu a chroen adar eraill ac mae’n cwmpasu pigo ysgafn a difrifol, pigo’r cloaca a chanibaliaeth

mae ‘ceidwad’ (*) yn golygu unrhyw unigolyn cyfreithiol neu naturiol sy’n gyfrifol am ieir neu’n gofalu amdanynt drwy gontract neu drwy’r gyfraith boed ar sail barhaol neu dros dro

mae ‘laparosgopi’ yn archwiliad o’r ceudod abdomenol drwy fewnosod offeryn o’r enw laparasgop

mae ‘iâr fwyta’ yn golygu anifail o’r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig

mae ‘anffurfio’ yn weithdrefn sy’n ymwneud ag ymyrraeth â’r meinweoedd sensitif neu ffurfiant esgyrn anifail, ar wahân i at ddiben ei drin yn feddygol

mae ‘perchennog’ (*) yn golygu unrhyw unigolyn neu unigolion cyfreithiol neu naturiol sy’n berchen ar y daliad lle y bo’r ieir yn cael eu cadw

mae ‘stoc rhiant’ yn golygu anifail o’r rhywogaeth Gallus gallus y mae ei gywion yn ieir bwyta

mae ‘dwysedd stocio’ (*) yn golygu cyfanswm pwysau’r ieir byw sy’n bresennol mewn cwt ar yr un adeg fesul metr sgwâr o’r lle y gellir ei ddefnyddio

‘cyfanswm y gyfradd farwolaeth’ yw cyfanswm nifer yr adar a fu farw neu a gafodd eu difa yn ystod holl gyfnod magu haid, wedi’i rannu gan nifer gwreiddiol yr adar a osodwyd ar y diwrnod cyntaf, wedi’i luosi gan 100

mae ‘lle y gellir ei ddefnyddio’ (*) yn golygu, mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, ardal â sarn sy’n hygyrch i’r ieir ar unrhyw adeg.


 

 

 

 

Adran 1: Argymhellion sy’n berthnasol i’r holl systemau hwsmonaeth

 


Trin anifeiliaid a staffio

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraff 1 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

1.   Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy’n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a’r hyfedredd proffesiynol priodol.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 2 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

2.   (1) Mae’n rhaid i geidwad feddu ar drwydded a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Erthygl 4(3) neu (4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC (3) (tystysgrifau yn ymwneud â chwblhau cyrsiau hyfforddiant neu brofiad perthnasol).

(2) Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi o dro i dro, yn y fath fodd ag y bo Gweinidogion Cymru yn ystyried sy’n briodol, restr o dystysgrifau a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (1).

Mae trin anifeiliaid yn un o’r dylanwadau pwysicaf ar les ieir. Mae’n hanfodol fod personél cymwys sydd wedi’u cymell yn ddigonol yn cael eu cyflogi i gyflawni’r holl dasgau angenrheidiol. Dylai’r staff gael eu rheoli a’u goruchwylio’n dda, dylent fod yn hollol gyfarwydd â’r tasgau y bydd yn ofynnol iddynt eu cyflawni, a dylent fod yn


gymwys o ran defnyddio unrhyw offer.

Dylai ceidwaid yr holl ieir bwyta, adar bridio ar gyfer cig a’r rheini sy’n trin adar yn y deorfeydd, gan gynnwys y rheini a gyflogir gan gontractwyr, gael eu hyfforddi’n briodol cyn derbyn cyfrifoldeb dros anifeiliaid. Mae hyn yn golygu meithrin sgiliau trin anifeiliaid penodol, y gellir eu datblygu ar y safle gydag unigolyn profiadol neu ddarparwr hyfforddiant addas, ac, mewn rhai achosion, gallai gynnwys hyfforddiant yn y dosbarth.

Dylai’r holl geidwaid feddu ar ddealltwriaeth lawn y gellir ei dangos o anghenion lles a bioleg sylfaenol yr adar.

Fel isafswm, dylent allu gwneud fel a ganlyn:

       adnabod a yw’r adar mewn iechyd da neu beidio

       deall arwyddocâd newidiadau o ran ymddygiad yr adar, a

       gwerthfawrogi addasrwydd yr holl amgylchedd ar gyfer iechyd a lles yr adar.

Tra bônt o dan oruchwyliaeth eraill a chyn iddynt dderbyn yr holl gyfrifoldeb am yr anifeiliaid,

dylai ceidwaid fod wedi dangos cymhwysedd a dealltwriaeth, gan gynnwys o allu ymarferol ar y fferm, er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar y gallu i ddiogelu adar o dan yr holl amodau y gellir eu rhagweld. Bydd gan geidwad da agwedd dosturiol a dyngarol, bydd yn gallu

rhagweld ac osgoi nifer o broblemau lles posibl, a bydd yn meddu ar y gallu i nodi’r rhai sy’n digwydd ac ymateb iddynt yn brydlon.

Er mwyn i’r adar ddod yn gyfarwydd â phresenoldeb y sawl sy’n trin yr anifeiliaid heb ofn, dylent gael eu trin yn aml, yn dawel ond yn agos o oedran cynnar fel nad yw’r adar yn cael eu dychryn yn ddiangen.


 

 

 

 

 


Dylai adar ifanc gael profiad cynnar priodol o arferion rheoli ac amodau amgylcheddol er mwyn eu galluogi i addasu i’r systemau

hwsmonaeth y byddant yn dod ar eu traws yn ddiweddarach mewn bywyd. Er enghraifft, gallai dod i gysylltiad cynnar â systemau bwydo a dyfrhau, golau naturiol, clwydi a sarn penodol fod yn fuddiol.

Ni ddylai ieir bwyta a fegir at ddibenion ffermio gael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall,

gan gynnwys sioeau neu arddangosiadau cyhoeddus, os yw defnydd o’r fath yn debygol o fod yn niweidiol i’w hiechyd neu les.

Dylai’r holl geidwaid sy’n derbyn cyfrifoldeb dros ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol ar unrhyw adeg, gan gynnwys staff dros gyfnod gwyliau, staff rhan amser a dros dro, feddu ar dystysgrif sy’n tystio eu bod wedi cwblhau cwrs hyfforddi cydnabyddedig neu wedi derbyn Hawliau Taid/Tad-cu o dan gynllun DEFRA (sydd wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd bellach).

Mae’n rhaid i’r cwrs hyfforddi gwmpasu’r meysydd arbennig a gwmpesir gan Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC:

(a) Atodiadau I a II

(b) ffisioleg, yn arbennig anghenion yfed a bwyta, ymddygiad anifeiliaid a’r cysyniad o straen

(c) agweddau ymarferol ar drin ieir yn ofalus a’u dal, llwytho a’u cludo

(d) gofal brys ar gyfer ieir, lladd mewn argyfwng, a difa, ac

(e) mesurau bioddiogelwchataliol.

Dyma feysydd y dylai holl geidwaid heidiau, waeth pa system gynhyrchu a ddefnyddir, dderbyn hyfforddiant ynddynt. Y cymhwyster gofynnol sy’n ddigonol er mwyn cydymffurfio

â Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yw’r diploma Lefel

2 mewn Amaethyddiaeth sy’n Seiliedig ar Waith (Cynhyrchu Dofednod), gan sicrhau bod yr unedau gorfodol wedi cael eu cwblhau. Gallai cymwysterau a gymeradwywyd mewn


gweinyddiaethau eraill o fewn y DU a gwledydd eraill hefyd gael eu cydnabod gan DEFRA –

er enghraifft, yng Ngogledd Iwerddon y diploma Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth sy’n Seiliedig ar Waith (Cynhyrchu Dofednod), ac SVQ Lefel 2 Amaethyddiaeth (Dofednod) yn yr Alban.

Caiff perchnogion a cheidwaid ieir o dan yr holl systemau hwsmonaeth, gan gynnwys y rhai â Hawliau Taid/Tad-cu, eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol yn rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau yn gyfredol.

Dylai hyfforddiant barhau drwy gydol cyflogaeth yr holl geidwaid, a dylent fynychu cyrsiau diweddaru yn rheolaidd. Lle bynnag y bo’n bosib, dylai’r hyfforddiant fod o fath sy’n arwain at gydnabyddiaeth ffurfiol o gymhwysedd.

Gan fod y risgiau lles yn gallu amrywio yn ôl y system fagu, dylai hyfforddiant o’r fath fod yn benodol i’r system a ddefnyddir.

 

Dal a thrin

Mae angen sgìl er mwyn dal a thrin adar heb beri niwed neu straen iddynt. Dylai fod ond yn cael ei wneud gan unigolion cymwys,

h.y. y rheini sydd wedi cael eu hyfforddi’n briodol ar gyfer y dasg ac wedi derbyn canllawiau a chyfarwyddiadau clir oddi wrth y perchennog neu’r ceidwad. Dylai cyfrifoldeb ar gyfer rheoli’r gweithrediad gael ei ddyrannu’n glir. Dylai pawb sydd mewn cysylltiad ag adar gydymffurfio â’r bioddiogelwch gofynnol yn unol â’r hyn a bennir gan y perchennog/ceidwad. (Gweler hefyd baragraff 17.)

Gallai systemau casglu adar mecanyddol fod â manteision ar gyfer lles. Dim ond systemau

y mae’r gwneuthurwr wedi dangos sy’n foddhaol o safbwynt iechyd a lles adar ddylai gael eu defnyddio. Pan fônt yn cael eu defnyddio, mae’n rhaid i weithredwyr fod yn gymwys i’w defnyddio a bod yn wyliadwrus o arwyddion

o straen neu fygu, fel ag wrth ddal â llaw. Dylai systemau o’r fath gael eu monitro’n rheolaidd a dylid gwerthuso eu heffaith ar iechyd a lles adar yn rheolaidd.


 

 

 

 


 

Mae’n rhaid gweithredu safonau uchel yn ystod dal a thrin beth bynnag y bo gwerth economaidd posibl yr adar. Dylai ieir bwyta dros ben,

gan gynnwys ieir bridio ar ddiwedd eu cyfnod dodwy sy’n aros am eu gwaredu, gael eu trin heb boen yn yr un modd â’r rheini a fwriadwyd i’w cadw neu eu gwerthu.

Dylai dal a thrin gael eu gwneud yn ddistaw a hyderus, gan ddangos gofal i osgoi ymladd diangen a allai gleisio neu niweidio’r adar fel arall. Dylid osgoi creu panig ymhlith yr adar,

er mwyn lleihau’r perygl o anafiadau. Dylid dal yr adar mewn golau isel neu olau glas er mwyn lleihau’r ymatebion ofnus. Dylai’r golau gael

ei ddychwelyd i isafswm o 20 lwcs ar unwaith os oes unrhyw adar yn parhau yn y cwt ar ôl teneuo. Gallai cynnydd graddol mewn dwysedd golau ar yr adeg hon, yn debyg i gyfnod gwawrio neu nosi, leihau’r perygl o grafu cefn. Pan fo pryder y bydd dychwelyd y goleuadau i 20 lwcs yn arwain at berygl i les yr adar, mae gostyngiad dros dro yn lefel y goleuni yn cael ei ganiatáu

ar sail achosion unigol, ond o ganlyniad i ddilyn cyngor milfeddygol yn unig ar bob achlysur. (Gweler hefyd dudalen 23.)

Mae’n rhaid dal yr adar yn ofalus a dylid eu codi’n uniongyrchol i’r modiwl cludo. Dylid eu dal naill ai drwy gydio ynddynt o gwmpas y corff neu, os ydynt yn cael eu dal gan y coesau, yna dylid cydio yn y ddwy goes. Os oes angen cario adar, dylai hynny fod naill ai drwy eu dal o gwmpas y corff neu gyda’r ddwy goes. Ni ddylai unrhyw ddaliwr ddal mwy na thair iâr gyda’r coesau (neu ddau aderyn bridio sy’n oedolion)

ymhob llaw. Ni ddylid cario adar gan gydio yn eu hadenydd neu eu gyddfau.


Bwyd a dŵr

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 22 i 27 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

22.      Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy’n briodol i’w hoedran a’u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i’w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol olesiant.

23.       Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy’n cynnwys unrhyw sylwedda allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd ahylif

ar eu cyfer mewn modd nad yw’n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

24.       Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy’n briodol i’w anghenion ffisiolegol (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.

25.      Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddŵr a chael cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.

26.       Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a’i gynnal fel bod difwyno bwyd a dŵr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i’r lleiaf posibl.

27.     (1) Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu

broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.


 

 

 

 


Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 6 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

6 (1) Rhaid i ddalwyr diod fod wedi’u lleoli a bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn y fath fodd fel mai’r ychydig lleiaf sy’n gorlifo ohonynt.

(2)  Rhaid i fwyd anifeiliaid fod ar gael naill ai yn barhaus neu ar adegau bwydo.

(3)  Rhaid peidio â rhoi’r gorau i fwydo’r ieir â bwyd anifeiliaid fwy na 12 awr cyn amser disgwyliedig eu cigydda.

Mae’n rhaid i’r holl adar, gan gynnwys adar bridio, gael mynediad dyddiol i fwyd. Wrth gyflwyno adar i amgylchedd newydd,

dylai’r ceidwad sicrhau bod yr adar yn gallu dod o hyd i fwyd a dŵr yn hawdd.

Mae maeth priodol, sy’n gywir ac yn gytbwys ac wedi’i gynllunio yn benodol ar gyfer oedran a math yr aderyn, yn bwysig ar gyfer magu ieir bwyta iach. Dylai arferion rheoli bwyd ymgorffori canllawiau maeth ar gyfer y math

o aderyn a ddarperir gan argymhellion y bridiwr a’r cwmni sy’n cyflenwi’r adar, yn ychwanegol

at unrhyw gyngor milfeddygol, i osgoi datblygiad cyflyrau penodol megis dropsi’r bol, syndrom marwolaeth sydyn a chloffni.

Er y dylai’r amgylchedd a geneteg hefyd gael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o reoli’r cyflyrau a restrir yn y paragraff uchod, gallai rheoli’r gyfradd dyfu drwy reoli maeth yn ofalus,

heb effeithio’n gyffredinol ar bwysau terfynol y corff, leihau nifer yr achosion. Fodd bynnag, dylai unrhyw newidiadau o ran swm neu ansawdd y deiet gael eu rheoli ar y cyd ag arbenigwyr maeth a chynghorwyr milfeddygol.

Dylai unrhyw newidiadau i ddeiet gael eu cyflwyno’n raddol ac yn dilyn cyngor milfeddygol/arbenigol priodol. Yn gyffredinol, dylid osgoi newidiadau sydyn o ran math, swm a chynnwys y bwyd.


Dylai bwyd a dŵr gael eu newid yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad ydynt yn mynd yn hen neu’n halogedig. Dylid sicrhau darpariaeth addas ar gyfer cyflenwi dŵr yn ystod amodau tywydd rhewllyd.

Ni ddylai’r pellter y mae’n rhaid i unrhyw aderyn ei deithio i gwt er mwyn cyrraedd bwyd fod yn fwy na phedwar metr ac er mwyn cyrraedd dŵr ni ddylai fod yn fwy na thri metr. Fodd bynnag, mewn rhai

amgylchiadau, megis rhai systemau cynhyrchu awyr agored, gallai fod yn angenrheidiol i’r adar deithio ymhellach. Yn y sefyllfaoedd

hyn, mae’n rhaid i’r holl adar dderbyn gofal digonol gyda’r addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i’r dwysedd stocio, y gofod bwydo ac yfed, a’r dosbarthiad o ran dalwyr bwyd a diod er mwyn caniatáu ar gyfer symudiadau o’r fath.

Ni ddylai bwyd gael ei dynnu yn ôl rhag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol am fwy na 12 awr cyn yr amser lladd disgwyliedig.

Cyn cludo, dylid darparu dŵr hyd at ddechrau’r weithdrefn ddal. Mae’n rhaid i gludwyr ieir bwyta ac ieir bridio leihau hyd y daith a

chludo heb oedi.

Ar yr amod fod cywion yn cyrraedd pen eu taith o fewn 72 awr ar ôl deor ac nid yw amser y daith yn fwy na 24 awr, yna nid

oes angen darparu bwyd a dŵr wrth eu cludo. Fodd bynnag, os oes unrhyw rai o’r cyfnodau hyn y tu hwnt i hynny, mae’n rhaid darparu bwyd a dŵr.

Lle y bo’n bosib, dylai mesuryddion dŵr gael eu gosod ar bob cwt er mwyn galluogi monitro’r defnydd o ddŵr yn ddyddiol. Mae mesurydd

dŵr yn offeryn rheoli defnyddiol; mae cofnodion dyddiol o’r defnydd o ddŵr yn darparu rhybudd cynnar o broblemau posibl.


 

 

 

 

 

Dylid darparu mynediad dyddiol at ddŵr drwy gydol y cyfnod goleuo a nifer digonol o ddalwyr diod, wedi’u cynnal a’u cadw’n gywir,

eu dosbarthu’n dda, ac wedi’u haddasu ar gyfer uchder a gwasgedd. Mewn cytiau dofednod hirach ac yn y rheini ar ogwydd llawr mwy,

dylid darparu rheoleiddwyr gwasgedd dŵr os bydd sarnu neu ollwng dŵr yn cael ei ystyried yn broblem.

Gallai sarnu neu ollwng o’r dalwyr dŵr gynyddu lleithder y llaesodr yn sylweddol, gan effeithio’n negyddol ar ansawdd y sarn ac felly ar iechyd yr adar. Dylai gollyngiadau dŵr felly gael eu trwsio cyn gynted ag y bomodd. Gallai fod yn

angenrheidiol gosod sarn newydd yn y tymor byr mewn ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio’n wael, ar y cyd â chynyddu’r awyru a’r tymereddau er mwyn cael gwared ar ormodedd o leithder.

Fodd bynnag, dylid dod o hyd i ddatrysiadau hirdymor a dylid ceisio cyngor arbenigol pan fo’n briodol. (Gweler hefyd dudalen 24.)


 

 

 

 


Iechyd

Arolygu a difa heb boen

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraff 2 (1) a (2) o Atodlen 1 Rheolidau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

2 (1) …rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.

(2)  …rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.

Mae paragraff 3 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

3. Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i’w galluogi i gael eu harchwilio’n drwyadl ar unrhyw adeg.

Dylid gweithredu cynllun iechyd a lles ar gyfer pob fferm a ddylai nodi gweithgareddau

iechyd a hwsmonaeth sy’n cwmpasu’r gadwyn gynhyrchu yn gyfangwbl. Dylai’r cynllun gael ei ddatblygu gyda chyngor milfeddygol priodol, a chael ei adolygu’n rheolaidd yn ôl perfformiad a’i ddiweddaru yn unol â hynny, o leiaf

bob blwyddyn.

Dylai’r cynllun hefyd sefydlu gweithdrefnau rheoli a mesurau rheoli i leihau’r perygl o heintiau ac anafiadau a chynnwys rhaglen frechu effeithiol. Ni ddylai gwrthfiotigau gael eu defnyddio’n rheolaidd ond at ddibenion triniaeth yn unig wedi’u rhagnodi gan filfeddyg pan fo diagnosis o glefyd neu haint penodol wedi’i dderbyn er mwyn osgoi problem lles.


 

 

Dylai’r cynllun hefyd gynnwys y defnydd

o asesiadau canlyniad lles er mwyn asesu a monitro lles parhaus yr adar ar y fferm.

Mae canlyniadau lles yn cael eu mesur yn y lladd-dy fel rhan o’r system sbarduno (Gweler hefyd dudalen 16).

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 11 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

11 (1) Rhaid i geidwad sicrhau bod yr holl ieir a gedwir ar y daliad yn cael eu harolygu o leiaf ddwywaith y dydd.

(2)  Rhaid talu sylw arbennig i arwyddion sy’n dynodi gostyngiad yn safon iechyd neu les yr anifeiliaid.

(3)  Rhaid i ieir sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu sy’n dangos arwyddion amlwg o afiechyd (gan gynnwys

y rheini sy’n cael anhawster i gerdded, rhai â dropsi’r bol difrifol neu rhai sydd â chamffurfiadau difrifol), ac sy’n debygol o ddioddef, gael triniaeth briodol neu gael eu difa’n syth.

Fel rhan o’r cynllun, dylai ceidwaid sefydlu ymlaen llaw y camau gweithredu gorau i’w cymryd pe bai problemau yn cael eu nodi a sicrhau bod cyngor milfeddygol ac arbenigol arall ar gael pan fo angen.

O ran ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol,

dylid cynnal arolygiad systematig o’r holl heidiau o leiaf ddwywaith y dydd, gyda bylchau priodol, er mwyn lleihau’r perygl o broblem lles yn datblygu. Argymhellir bod ceidwaid ieir bwyta

ac ieir bridio yn cynnal arolygiad o’r fath o leiaf ddwywaith y dydd. Dylai adar ifanc, yn ystod diwrnodau cyntaf eu bywydau, gael eu harolygu o leiaf deirgwaith y dydd.


 

 

 

 

 


Dylai archwiliad o’r haid gynnwys asesiad o gyflwr y corff, unrhyw amrywiaeth o ran twf yn yr haid, ymsymudiad, cerddediad, anadlu,

cyflwr y plu, arwyddion o bigo pen neu’r cloaca, cyflwr baw, llygaid, croen, pig, coesau, traed a chrafangau, a, lle y bo’n briodol, gribau a thagellau. Gallai unrhyw beth sy’n wahanol i’r arfer fod yn arwydd o broblem a ddylai dderbyn sylw i’w hadfer ar unwaith.

Er mwyn sicrhau archwiliad manwl,

dylai’r ceidwad gerdded yn ddigon agos at bob aderyn i’w annog i symud, gan ofalu i beidio

â dychryn yr adar gyda symudiad, sŵn neu newidiadau o ran lefelau golau sydyn ac anarferol. Y nod ddylai fod i fynd heibio’n ddigon agos i’r adar er mwyn eu gweld yn glir ac iddynt gael eu haflonyddu ac felly symud i ffwrdd. Bydd hyn yn galluogi adnabod unrhyw unigolyn sy’n sâl, wedi’i anafu neu’n wan er mwyn i’r ceidwad gymryd camau gweithredu priodol.

Gallai archwiliadau iechyd a lles gael eu cysylltu ag ymweliadau eraill â’r cytiau dofednod

ond dylai pob archwiliad gael ei gynnal fel gweithdrefn benodol, ar wahân.

Mae’n rhaid i’r lefelau golau yn ystod archwiliad fod yn ddigonol er mwyn sicrhau bod yr adar sy’n cael eu harchwilio yn gallu cael eu gweld yn glir yn ystod yr arolygiad hwnnw.

Er na fydd efallai’n bosibl yn gyffredinol i archwilio pob aderyn yn unigol yn ystod arolygiad rheolaidd, dylid sicrhau arwydd da o iechyd

yr haid ar bob achlysur. Pan nad yw’r adar yn cael eu bwydo ar ddeietau byrfyfyr, mae archwiliad yn arbennig o effeithiol ar adeg

bwydo, pan fydd unrhyw adar nad ydynt yn iach yn bwydo’n araf ac yn gallu cael eu hadnabod. Dylid gwneud archwiliad unigol o’r adar hynny y mae’r archwiliad cyffredinol yn nodi bod hynny’n angenrheidiol iddynt.

Mae’n rhaid i ieir sydd wedi’u hanafu neu sy’n dangos arwyddion o anhwylder iechyd (gan gynnwys y rheini sy’n cael anawsterau

cerdded neu gyrraedd bwyd neu ddiod, neu sydd â dropsi’r bol difrifol neu anffurfiadau difrifol),


ac sy’n debygol o ddioddef, dderbyn triniaeth briodol neu gael eu difa heb boen ar unwaith. Dylai adar marw a welir yn ystod archwiliad gael eu tynnu o’r cwt ar unwaith a’u gwaredu’n briodol.

Pa fo unrhyw aderyn yn cael ei ladd mewn deorfa neu ar fferm, mae’n rhaid i hynny gael

ei wneud gan ddefnyddio dull a ganiateir yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r gweithdrefnau a gynhwysir yn y cynllun iechyd a lles.

 

Monitro a digwyddiadau dilynol yn y lladd-dy

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraffau 14 a 15 o Ran 3, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir

(Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

14    (1) At ddibenion Adran III (gwybodaeth y gadwyn fwyd) o Atodiad II i Reoliad 853/2004, caiff y gyfradd farwolaeth ddyddiol a’r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus a

chroesryw neu frîd yr ieir o haid gyda dwysedd stocio uwch na 33 cilogram i’r m2 o’r lle y gellir ei ddefnyddio eu trin fel gwybodaeth iechyd bwyd berthnasol.

(2) Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy’n rhedeg lladd-dy—

(a)  o dan arolygiaeth y milfeddyg swyddogol, gofnodi nifer yr ieir o haid o’r fath sy’n farw pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy;a

(b)  rhoi’r wybodaeth honno i’r milfeddyg swyddogol os gofynnir amdani.

15    (1) Rhaid i filfeddyg swyddogol sy’n cyflawni rheolaethau o dan Reoliad 854/2004 mewn cysylltiad ag ieir werthuso canlyniadau’r archwiliad post-mortem er mwyn canfod arwyddion posibl o amodau lles gwael ar eu daliad neu yn eu cwt gwreiddiol.


 

 

 

 

 


(2) Os yw cyfradd marwolaeth yr ieir neu ganlyniadau’r archwiliad post-mortem yn gyson ag amodau lles anifeiliaid gwael, rhaid i’r milfeddyg swyddogol hysbysu’r data hwnnw i geidwad yr ieir hynny ac i Weinidogion Cymru yn ddi-oed.

Mae’r holl ieir bwyta yn caelasesiad

ante-mortem a phost-mortem yn y lladd-dy. Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, mae canlyniadau’r asesiadau hyn yn

cael eu bwydo i’r “system sbarduno”,

a gynlluniwyd ar y cyd â DEFRA, y diwydiant ieir bwyta, milfeddygon dofednod annibynnol, sefydliadau lles a chyrff cyflenwi, ac sydd wedi bod yn gweithredu mewn lladd-dai ers 2010. Mae’r system yn monitro’r holl lwythi

o ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol ac mae’n defnyddio canlyniadau’r archwiliadau

post-mortem a gynhaliwyd yn y lladd-dy i nodi problemau lles posibl ar fferm.

Mae’r cyflyrau post-mortem sy’n cael eu monitro ar hyn o bryd gan y system yn cael eu rhestru yn Atodiad 3. Mae’r system yn cynnwys dwy broses:

Mae Proses 1 wedi’i chynllunio i nodi sefyllfaoedd pan fo lefelau cyflwr yn eithriadol o uchel ac mae Proses 2 wedi’i chynllunio i nodi sefyllfaoedd pan fo lefelau marwolaeth yn anarferol o uchel a hefyd pan fo lefelau amrediad cyflyrau eraill uwchlaw’r cyfartaledd. Mae trothwyon gwahanol a ddiffiniwyd ymlaen llaw, a adwaenir fel “lefelau sbarduno”, yn bodoli ar gyfer y ddwy broses hon.

Pan eir y tu hwnt i’r trothwyon hyn,

mae adroddiad sbarduno yn cael ei lunio a’i anfon at berchennog/ceidwad yr adar.

Dylai’r perchennog/ceidwad ystyried sut y byddai orau i leihau’r lefelau hyn mewn heidiau yn y dyfodol a, phan fo’n briodol, geisio cyngor gan filfeddyg neu arbenigwr arall. Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn defnyddio’r adroddiad sbarduno i nodi ffermydd o dan y perygl uchaf o ddiffyg cydymffurfio â deddfwriaeth lles anifeiliaid, ac mae’n targedu arolygiadau i’r ffermydd hynny a nodwyd fel y rhai o dan y perygl uchaf.


Mae’n rhaid i geidwaid ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol ar ddwysedd stocio o 33 kg/m2 o’r lle y gellir ei ddefnyddio ddarparu’r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus ar gyfer pob

cwt adar a hybrid neu frîd yr adar hynny ar yr adroddiad gwybodaeth cadwyn fwyd. Mae holl geidwaid ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol yn cael eu hannog i ddarparu’r data hyn yn ogystal â dwysedd stocio’r adar ar adeg dadboblogi.

Mae’r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus yn cael ei diffinio fel cyfanswm y gyfradd farwolaeth ddyddiol. Y gyfradd farwolaeth ddyddiol yw nifer yr adar sydd wedi marw mewn cwt ar yr un diwrnod, gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu difa naill ai oherwydd clefyd neu resymau eraill, wedi’i rannu gan nifer yr ieir sy’n bresennol yn y cwt ar y diwrnod hwnnw, wedi’i luosi gan 100.

Ni ddylai’r ffigurau cyfanswm marwolaethau (h.y. nifer y marwolaethau ac achosion o ddifa a gofnodwyd drwy’r gadwyn gynhyrchu wedi’i rannu gan nifer yr adar a osodwyd, wedi’i fynegi fel canran) a marwolaethau dyddiol cronnus fod ymhell oddi wrth ei gilydd, ond os oes teneuo yn digwydd neu os yw’r marwolaethau yn uchel, yna gallai’r ddau ffigur fod yn dra gwahanol.

Rhoddir enghraifft weithiol yn Atodiad 4.

 

Rheoli clefydau a bioddiogelwch

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 5 a 6 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

5.  Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy’n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i’r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.

6.  Pan fo’n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo’n briodol.


 

 

 

 


Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 12 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

12.      Wedi diboblogi cwt yn derfynol a chyn cyflwyno haid newydd—

(a)  rhaid glanhau’n llwyr a diheintio unrhyw ran o gwt, ac unrhyw gyfarpar neu declyn a fu mewn cysylltiad â’r ieir; a

(b)  rhaid clirio ymaith bob llaesodr a gosod llaesodr lân.

Gellir sylwi ar her gan glefyd yn gyntaf drwy newid yn yr arferion yfed, amharodrwydd i fwyta, newidiadau mewn baw, newidiadau yn ansawdd y sarn neu mewn ymddygiad cyffredinol yr haid. Dylid ymchwilio’n fanwl i newid amlwg o ran defnydd dŵr. Dylid ceisio sylw milfeddygol yn gynnar mewn unrhyw achos o glefyd er mwyn pennu’r hyn a oedd yn achosi’r clefyd a chymryd y camau gweithredu priodol.

Dylai mesurau i reoli clefydau a achosir gan barasitiaid allanol gael eu cymryd gan ddefnyddio’r parasitleiddiaid priodol.

Mae’n arbennig o bwysig gymryd mesurau i atal pla gwiddon coch rhag sefydlu mewn heidiau ieir bridio. Ni ddylai’r mesurau hyn achosi niwed i’r adar.

Dylai pawb sydd mewn cysylltiad ag adar ddilyn arferion hylendid llym o ran newid esgidiau neu weithdrefnau dadheintio a golchi dwylo, yn arbennig wrth symud rhwng pob cwt, er mwyn cyfyngu ar gyflwyno a lledaenu clefydau posibl. Os yw staff fferm yn cadw eu

hadar eu hunain gartref, dylent fod yn arbennig o wyliadwrus o arwyddion o glefyd a bod hyd yn oed yn fwy gofalus ynglŷn â bioddiogelwch yn y cartref ac ar y fferm. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai adar dŵr (h.y. gwyddau a hwyaid) gael eu cadw ar wahân i rywogaethau dofednod eraill.


Argymhellir y dylai’r safle gael ei reoli fel bod yr holl gytiau yn wag ar yr un pryd er mwyn hwyluso glanhau, dadheintio a dibryfedu effeithiol. Bydd agwedd “popeth i mewn – popeth allan” gyda chyfnodau pan nad oes unrhyw adar ar y safle hefyd yn gweithredu i ddarparu brêc rhag clefyd. Pan nad oes modd osgoi safleoedd aml-oedran, dylent gael eu

rheoli yn unol â threfn reolaidd lle y bo’r heidiau iau yn derbyn sylw yn gyntaf, ac yn y blaen, drwyddo i’r hynaf.

Pan fydd yn wag, dylai llety adar gael ei lanhau’n sych yn gyntaf i gael gwared ar ddeunydd organig, cael ei olchi ac yna’i ddadheintio. Mae’n rhaid gwareduhen sarn ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol o’r cwt a dylid ei waredu o’r safle cyn ailstocio er mwyn lleihau’r perygl o drosglwyddo clefydau. Dylid dilyn yr arfer hwn hefyd ar gyfer yr holl ieir bwyta ac ieir bridio eraill.

Wrth gynllunio safleoedd newydd, dylid rhoi ystyriaeth i ddarparu’r pellter uchaf posibl rhwng y safle arfaethedig a safleoedd presennol i wella bioddiogelwch. Canllaw defnyddiol yw’r pellter

o 3km sy’n diffinio radiws Parth Gwarchod wrth reoli clefydau hysbysadwy megis ffliw adar pathogenig iawn. Dylid ystyried y pellter rhwng cytiau ar safle hefyd, ynghyd â’r agosatrwydd at ffynonellau adar gwyllt. (Gweler hefyd dudalen 19.)

Dylai archwilwyr, lle bynnag y bo’n bosibl, gydymffurfio â’r bioddiogelwch gofynnol yn

unol â’r hyn a bennir gan y perchennog/ceidwad (ac a allai fod yn ddarostyngedig i newid o dan heriau clefydau newidiol), gan gynnwys cyswllt personol/preifat ag adar.

 

Iechyd coesau

Gallai anhwylderau coesau yn gysylltiedig â chloffni fod yn achos allweddol lles gwael mewn ieir bwyta. Mae llawer o achosion anhwylderau coesau sy’n arwain at iechyd coesau gwael, gan gynnwys y rheini sy’n gysylltiedig â maeth,


 

 

 

 

 


haint microbaidd a geneteg. Gall diffygion maethol ac anghydbwyseddau, gan gynnwys calsiwm, ffosfforws a fitamin D, arwain at gynnydd mewn camffurfiadau esgyrn a chloffni. Gall cloffni hefyd gael ei achosi gan haint ar yr esgyrn neu’r cymalau, felly mae atal a rheoli clefydau firol a bacterol ynghyd â rheoli sarn yn dda yn hanfodol.

Dylai ystyriaethau iechyd a lles, yn ogystal â chynhyrchiant, gael eu hystyried wrth ddewis math o adar at ddiben neu system gynhyrchu benodol. Yn unol â hyn, dylai ieir bwyta ddeillio o raglenni bridio eang, sy’n hyrwyddo ac yn diogelu iechyd, lles a chynhyrchiant.

Dylid ystyried cadw adar yn unol â chromliniau twf priodol sy’n mwyafu’r meini prawf hyn,

yn arbennig o ran iechyd coesau.

Dylai ceidwaid fonitro’r holl adar am arwyddion o gloffni, gwendid coesau neu gerddediad anarferol bob dydd fel rhan o’r broses arolygu. Wrth gofnodi marwolaethau ac achosion o ddifa, mae’n ddefnyddiol cofnodi’r achos fel y gall cloffni gael ei fonitro o fewn yr heidiau a rhwng yr heidiau. Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, mae’n rhaid cofnodi’r achos dros ddifa a dylai unrhyw aderyn sy’n dioddef gael ei ddifa heb boen ar unwaith.

Dylai ceidwaid fod yn arbennig o wyliadwrus pan fo’r perygl o gloffni ar ei uchaf, megis tuag at ddiwedd y gadwyn gynhyrchu ac yn ystod misoedd yr haf, pan allai gweithgarwch adar fod ar ei isaf.

Gall arferion rheoli penodol gyfyngu neu leihau’r perygl o gloffni mewn haid. Gall cynyddu gweithgarwch ieir bwyta yn ystod y dydd ac annog gorffwys priodolgyda’r nos – er enghraifft, drwy addasu patrymau’r goleuni (gan gynyddu dwysedd y golau yn ystod cyfnodau golau

wedi’i gyfuno â chyfnod tywyll di-dor sy’n hirach)helpu i atal cloffni. Gellir sicrhau mwy o weithgarwch yn ystod y dydd hefyd drwy gyfoethogi’r amgylchedd, lleihau’r dwysedd stocio a darparu golau naturiol.


Os oes anhwylderau coesau yn datblygu, mae’n rhaid asesu arferion rheoli a hwsmonaeth ar unwaith. Dylai unrhyw newidiadau sy’n ofynnol gael eu rhoi ar waith cyn gynted ag y bo’n ymarferol a, lle y bo’n briodol, yn dilyn cyngor milfeddygol a thechnegol cyflenwr y brîd.

Os oes problem yn codi gyda rheoli sarn ac iechyd adar, gallai’r ffermwr ddewis tyfu ieir bwyta islaw eu perfformiad uchaf drwy wneud newidiadau i gyfansoddiad eu bwyd, strwythur bwydo a threfn bwydo. Dylai hyn gael ei wneud gydag ystyriaeth briodol o’r goblygiadau ar gyfer yr adar a chyngor milfeddygol a thechnegol priodol.

Hefyd, dylid monitro’n ofalus effeithiau newid deiet ar gyflwr y sarn.

Gallai cloffni ddatblygu o ganlyniad i heintiau a gafwyd yn haid y rhieni neu’r ddeorfa.

Dylid cynnal safonau uchel o fioddiogelwch a hylendid yn haid y rheini, wrth drin wyau, yn y ddeorfa, ac wrth drin a chludo cywion wedi hynny.

Cyn eu rhoi mewn cawell, dylid cynnal asesiad o ffitrwydd yr adar i deithio. Dylai’r ceidwad ystyried yn ofalus p’un a yw unrhyw adar cloff yn ffit yn gyfreithiol i deithio ar gyfer y siwrne arfaethedig. Os nad ydynt, dylent gael eu

difa heb boen ar y fferm. Nid yw adar gyda chyflyrau difrifol a phoenus fel necrosis gwadnol datblygedig yn ffit i deithio. Ni ddylid cludo adar bach neu esgyrnog sy’n debygol o gael eu difa wrth gyrraedd y lladd-dy. Dylid eu difa ar y fferm adeg ei dadboblogi.


 

 

 

 


Adeiladau allety

Yr holl ieir bwyta –

gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 11 a 12 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

11.    Rhaid i’r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i’r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a’u diheintio’n drylwyr.

12.    Rhaid i’r llety a’r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu’r anifeiliaid fod wedi eu

hadeiladu a’u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy’n debygol o achosi anaf i anifail.

Dylid ceisio cyngor ar agweddau iechyd a lles oddi wrth gynghorydd gwybodus a milfeddyg cyn bod unrhyw adeiladau newydd yn cael eu

cynllunio neu pan fo adeiladau presennol yn cael eu haddasu. Mae’n bwysig sicrhau bod cynllun

y cytiau a’r offer yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd. Mae dulliau newydd o offer neu lety hwsmonaeth ar gyfer ieir bwyta ac ieir bridio

ar gael – er enghraifft, defnyddio biomas a system wresogi o dan y llawr. Dylid ond defnyddio technolegau newydd pan fônt wedi cael eu profi’n gynhwysfawr ac wedi’u canfod i fod yn foddhaol ar gyfer iechyd a lles adar. Dylid rhoi ystyriaeth i osgoi ymgorffori offer a allai beri perygl sylweddol o gyflwyno a lledaenu clefydau rhwng cytiau neu rhwng ffermydd.

Pan fo llety newydd ar gyfer ieir bwyta ac ieir bridio yn cael ei gynllunio, dylid dethol safle addas, gan ystyried y peryglon o ffactorau amgylcheddol allanol megis llygredd sŵn, golau, dirgryniad ac atmosfferig ac oddi wrth


 

 

ysglyfaethwyr. Pan fo’n briodol, dylid manteisio ar nodweddion naturiol i ddarparu cysgod ac

i amddiffyn adar rhag ysglyfaethwyr, llygod

ac anifeiliaid eraill. (Gweler hefyd dudalen 17.)

 

Awyru, tymheredd a straen gwres

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 13 a 18 i 21 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir

(Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

13.    Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i’r anifeiliaid.

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy’n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i

ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i’r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

20.  Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)   rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu’r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i’r system fethu; a


 

 

 

 

 


(b)   rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

21.  Rhaid i’r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio’n drwyadl a rhaid i’r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y

system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 8 (1) a (2) o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir

(Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

8 (1) Rhaid i’r gwyntyllu fod yn ddigonol i osgoi gorboethi.

(2)  Rhaid i wyntyllu, o’i gyfuno â’r systemau awyru, fod yn ddigonol i gael gwared

â gorleithder.

Ar gyfer adar sy’n cael eu stocio mewn dwyseddau uwch (h.y. uwchlaw 33kg/m2), mae paragraff 5 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru)2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi yn ychwanegol at baragraff 8 (1) a (2):

5.  [R]haid i’r ceidwad—

(a)      cynnal a chadw ac, os gofynnir iddo wneud hynny, peri bod dogfennau ar gael i Weinidogion Cymru yn y cwt yn disgrifio’n fanwl y systemau cynhyrchu, ac yn benodol yn rhoi gwybodaeth ar fanylion technegol y cwt a’r offer ynddo, gan gynnwys—

(i)    plan o’r cwt gan gynnwys mesurau’r arwynebeddau y mae’r ieir yn eu meddiannu;


(ii)   gwyntylliad ac unrhyw system oeri a chynhesu berthnasol (gan gynnwys eu lleoliad),

a phlan gwyntyllu, sy’n dangos paramedrau ansawdd aer yr anelir atynt (megis y llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd);

(iii)  systemau bwydo a dyfrio (a’u lleoliadau);

(iv) systemau larwm ac wrth gefn os digwydd i unrhyw offer sy’n hanfodol er iechyd a lles yr ieir dorri i lawr;

(v)  math y llawr a’r llaesodr a ddefnyddir fel rheol; a

(vi) cofnodion o archwiliadau technegol o’r systemau gwyntyllu a’r systemau larwm;

(b)      peri bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael eu cadw’n gyfredol;

(c)      sicrhau bod yna offer gwyntyllu ym mhob cwt ac, os oes angen, systemau gwresogi ac oeri sydd

wedi’u dylunio, wedi’u hadeiladu ac yn cael eu gweithredu yn y fath fodd—

(i)    fel nad yw’r dwysedd o amonia yn uwch na 20 rhan i’r filiwn ac nad yw dwysedd y carbon

deuocsid yn uwch na 3,000 rhan i’r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau’r ieir;

(ii)   pan fo’r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, nad yw’r tymheredd y tu mewn yn uwch na’r tymheredd y tu allan o fwy na 3°C; a

(iii)  pan fo’r tymheredd y tu allan islaw 10°C, nad yw’r lleithder cymharol cyfartaledig pan gaiff ei fesur y tu mewn i’r cwt yn ystod cyfnod parhaus o 48 awr yn uwch na 70%.


 

 

 

 

 


Mae’n rhaid i gyfraddau awyru, dosbarthiad aer ac amodau cytiau fod yn ddigonol bob amser i ddarparu digon o aer ffres sy’n briodol ar gyfer oedran yr adar, heb ddrafftiau, a chadw’r sarn yn sych ac yn hyfriw. Dylid rheoli ansawdd yr aer, gan gynnwys lefel y llwch a chrynodiadau carbon monocsid, a’u cadw o fewn y terfynau lle nad yw lles yr adar yn cael ei effeithio’n negyddol.

Dylid cofnodi’r awyru sy’n briodol ar gyfer proffil twf yr haid a dylai’r wybodaeth hon fod ar gael fel canllaw i’r ceidwad.

Dylid gosod y cywion mewn cytiau a gynheswyd ymlaen llaw neu gyda deoryddion pan fyddant yn cyrraedd a monitro eu hymddygiad yn ofalus. Mae cywion ifanc yn arbennig o agored i eithafion tymheredd a bydd dosbarthiad cyfartal o gywion yn y cwt yn arwydd eu bod

yn thermol gyfforddus. Ar ôl bedair i bum wythnos, gall yr adar oddef amrediad cymharol eang o dymereddau, ond dylid gwneud pob ymdrech i osgoi creu amodau a fydd yn arwain at oeri, tyrru a mygu dilynol. Yn ychwanegol, mae tymereddau isel wedi cael eu cysylltu â bod yn fwy agored i gyflyrau megis dropsi’r bol.

Mewn adeiladau sydd heb gael eu hinsiwleiddio cystal ac sydd wedi’u stocio ar y dwyseddau uwch, gallai fod angen gwres ychwanegol ynghyd â lefel uwch o awyru er mwyn lleihau’r lefelau lleithder cymharol islaw 70%.

Ni ddylai adar fod yn llygad yr haul neu o dan amodau poeth a llaith yn ddigon hir i achosi straen gwres, fel y nodir gan fod yn fyr eu gwynt am gyfnod maith. Mae’r cytiau yn effeithio

ar allu’r adar i gynnal tymheredd arferol eu cyrff ond, o dan unrhyw system reoli, gallai tymereddau amgylchynol ddigwydd sy’n ddigon uchel i achosi i’r adar fod yn fyr eu gwynt am gyfnod maith, yn arbennig pan fo’r lleithder yn gymharol uchel. Felly, dylai’r holl lety gael ei

ddylunio fel bod yr awyru yn ddigonol i ddiogelu’r adar rhag gorboethi o dan unrhyw fath o dywydd y gellir ei ragweld yn rhesymol. Dylid rhoi sylw i’r trwybwn awyr a’i ddosbarthiad drwy gydol y llety,


gan gynyddu cyflymder yr aer ar lefel yr adar yn arbennig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.

Dylai perchnogion a cheidwaid gynllunio ymlaen llaw er mwyn osgoi straen gwres. Eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod mesurau priodol yn cael

eu cymryd, yn seiliedig ar gynllun yr adeilad, ei leoliad a’r tymheredd/lleithder uchaf disgwyliadwy, i osgoi straen gwres. Yn ystod cyfnodau o dymereddau a lleithder uchel, dylid rhoi ystyriaeth i leihau’r dwysedd stocio

a gynlluniwyd ar adeg archebu neu osod cywion diwrnod oed.

Yn ystod cyfnodau poeth a llaith, dylai’r adar gael eu gwirio yn fwy rheolaidd, ond ni ddylid tarfu arnynt yn ormodol.

Gall gwyntyllau cludadwy wrth gefn helpu i gynyddu awyru yn ystod cyfnodau o dywydd poeth a llaith. Gallai tymheredd yr aer mewn adeilad gael ei ostwng drwy wella inswleiddio a’r defnydd cywir o oeri anweddol ar gyfer awyr sy’n dod i mewn, gan gymryd gofal i osgoi cyfuniad o dymheredd uchel a lleithder uchel. Dylid ystyried chwistrellu dŵr oer ar y to fel y cam olaf a dim ond pan fo’r tymheredd a lefelau’r lleithder yn ormodol. Gallai allbwn gwres yr adar gael ei leihau drwy leihau’r dwysedd stocio neu newid

y patrymau bwydo.

Gofynion awyru ychwanegol ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol wedi’u stocio uwchlaw 33kg/m2

Ar gyfer heidiau wedi’u stocio mewn dwyseddau sy’n uwch na 33kg/m2, awgrymir bod cyflymder aer o o leiaf 1 m/eiliad yn cael ei ddarparu dros gymaint o arwynebedd y llawr ag y bo’n bosibl mewn adeiladau a wyntyllir yn gonfensiynol.

Mewn adeiladau sydd â gallu awyru twnnel, y cyflymder aer a awgrymir yw o leiaf 2 m/yr

eiliad. Ar gyfer adeiladau a wyntyllir yn naturiol, dylai mewnfeydd ac allfeydd fod yn ddigon mawr i ganiatáu ar gyfer cyflymder aer mor uchel ag

y bo’n bosibl uwchben yr adar. Gellir cyflwyno gwyntyllau annibynnol i ddarparu symudiad aer ychwanegol ar lefel yr adar. Mae’n rhaid


 

 

 

 

 


i’r ceidwad fod â’r wybodaeth ganlynol a gofnodwyd ar gyfer pob cwt:

(i)    gwybodaeth am fanylion technegol yr awyru ac, os ydynt yn berthnasol,

y system oeri a gwresogi, gan gynnwys eu lleoliad, maint y mewnfeydd

ac allfeydd, a niferoedd, maint a pherfformiad rhagweladwy’r gwyntyllau

(ii)   cynllun awyru, a

(iii)  cofnodion archwiliadau technegol y systemau awyru a larwm.

Dylai’r cynllun awyru ddarparu manylion paramedrau gweithredol megis llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd a fydd yn sicrhau:

(i)         nad yw’r dwysedd o amonia (NH3) yn uwch na 20 rhan i’r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau’r ieir

(ii)          nad yw dwysedd y carbon deuocsid (CO2) yn uwch na 3,000 rhan i’r filiwn ar lefel pennau’r ieir

(iii)       nad yw’r tymheredd y tu fewn, pan fo’r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, yn uwch na’r tymheredd y tu allan hwn o fwy

na 3°C, ac

(iv)     nad yw’r lleithder cymharol cyfartalog a fesurir y tu fewn i’r cwt yn ystod 48 awr yn fwy na 70% pan fo’r tymheredd y

tu allan islaw 10°C. Argymhellir bod lleithder cymharol yn cael ei fesur yn ddyddiol ac ni ddylai’r cyfartaledd fod yn fwy na 70% pan fo’r tymheredd y tu allan yn gyson islaw 10°C ar gyfer unrhyw gyfnod o 48 awr.

Gellir darparu tystiolaeth fod y cynllun yn bodloni’r gofynion gweithredol hyn drwy gynnal a chadw cofnod o fesuriadau uniongyrchol o NH3, CO2, lleithder cymharol a thymereddau.


Nid yw mesur CO2 a NH3 yn barhaus yn ofynnol ond, fel isafswm, dylid cymryd mesurau o CO2 a NH3 pan fo perygl o ormod o’r sylweddau hyn yn cynyddu. Fel arfer ar gyfer CO2, mae hyn

yn ystod cyfnod deor ac ar gyfer NH3 yn ystod

cyfnodau o ddwysedd stocio uchaf, yn enwedig

yn ystod tywydd oerach.

Dylai’r cynllun hefyd gynnwys manylion y systemau larwm ac wrth gefn a gweithdrefn ar gyfer ymdrin â straen gwres. (Gweler tudalen 25.)

Dylai’r cynllun awyru gael ei adolygu lle bynnag y bo unrhyw newidiadau sylweddol i adeiledd y cwt neu’r system awyru.

Argymhellir bod arolygiad gweledol yn cael ei wneud o’r mewnfeydd aer a’r gwyntyllau rhwng cnydau. Dylai gwresogyddion, chwiliedyddion tymheredd a’r system reoli hefyd gael eu gwirio i sicrhau eu bod yn gweithredu’n gywir. Cynghorir hefyd y dylid cynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd ar y gosodiadau trydanol a nwy. Mae’n rhaid gwneud cofnod o’r archwiliadau technegol hyn o’r systemau awyru a larwm.

 

Goleuadau

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 14 i 16 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

14.   Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.

15.   Pan nad yw’r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.

16.   Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.


 

 

 

 


Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 10 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

10 (1) Rhaid bod golau ym mhob cwt a’i ddwyster yn o leiaf 20 lux yn ystod y cyfnodau goleuo, o’i fesur ar lefel llygad yr adar ac sy’n goleuo o leiaf 80% o’r lle y gellir ei ddefnyddio.

(2)  Caniateir gostyngiad dros dro o’r lefel hwnnw o oleuo pan fo angen yn dilyn cyngor milfeddygol.

(3)  O fewn 7 diwrnod o’r adeg pan gaiff yr ieir eu rhoi yn y cwt a hyd 3 diwrnod cyn adeg ddisgwyliedig eu cigydda, rhaid i’r golau ddilyn rhythm 24awr

a rhaid iddo gynnwys cyfnodau o dywyllwch sy’n para am gyfanswm o o leiaf 6 awr, gydag o leiaf un cyfnod di-dor o dywyllwch o o leiaf 4 awr, heb gynnwys cyfnodau pylu.

Dylai’r holl ieir bwyta gael eu cartrefu mewn lefelau golau sy’n caniatáu iddynt weld yn glir ac sy’n ysgogi gweithgarwch. Gellir cyflawni hyn drwy systemau goleuadau sy’n defnyddio goleuadau naturiol neu artiffisial neu gyfuniad o’r ddau, wedi’u cynnal a’u gweithredu i roi isafswm o 20 lwcs ar uchder llygad adar

dros o leiaf 80% o’r lle y gellir ei ddefnyddio. Os yw lefelau’r golau yn cael eu lleihau wrth deneuo er mwyn cadw’r adar yn ddigynnwrf, dylid dychwelyd y golau i isafswm o 20 lwcs ar unwaith os oes unrhyw adar yn parhau yn y cwt ar ôl teneuo. Gallai cynnydd graddol mewn dwyster golau ar yr adeg hon, yn debyg i gyfnod gwawrio neu nosi, leihau’r perygl o grafu cefn. Pan fo pryder y bydd dychwelyd y goleuadau i 20 lwcs yn arwain at berygl i les

adar, caniateir lleihau’r lefelau golau dros dro ar sail achos wrth achos ond o ganlyniad i ddilyn cyngor milfeddygol ymhob achos yn unig.


Mae’n rhaid i ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gael cyfnod o dywyllwch sy’n para o leiaf chwe awr ymhob cyfnod o 24 awr, gydag o leiaf

un cyfnod di-dor o dywyllwch o bedair awr o leiaf, heb gynnwys cyfnodau pylu. Mae’n arfer da i’r holl ieir bwyta gael eu magu yn unol

â’r safon hon a gorau oll os yw’r cyfnod o dywyllwch a ddarperir yn ddi-dor, gan barhau am o leiaf chwe awr mewn rhythm o 24 awr. Dylai ceidwaid gadw mewn ystyriaeth y bydd y goleuadau’n cael eu cynnau ar ôl y cyfnod tywyll yn debygol o arwain at gynnydd sylweddol yng ngweithgarwch yr adar, a allai achosi problemau megis crafu cefnau. Felly bydd angen rhoi mwy o sylw i arferion rheoli er mwyn sicrhau bod lles yr adar yn cael ei gynnal pan fo’r golau’n cael

ei ailgynnau. Er enghraifft, dylai dalwyr bwyd a diod digonol fod ar gael i ganiatáu i’r holl adar fwyta ac yfed ar yr un pryd yn dilyn cyfnod o orffwys. Bydd yn rhaid hefyd roi sylw i gyflwr y sarn, yn arbennig o dan linellau yfed drwy dethi, a allai fynd yn wlyb yn sgil nifer o adar yn yfed ar yr un pryd. Os yw hynny’n wir, dylid ystyried ychwanegu mwy o sarn.

Gallai darpariaeth “gwawrio a nosi” gyda chynnydd a lleihad graddol mewn goleuadau helpu i reoli newidiadau yn lefelau gweithgarwch yr adar. Gallai adeiladau sy’n rhoi golau naturiol i adar ddarparu’r cyfnod pontio hwn yn effeithiol a gallai’r sbectrwm tonfedd golau naturiol fod

â manteision ychwanegol ar gyfer ymddygiad adar. Fodd bynnag, dylai fod cyfleuster i leihau faint o olau naturiol a geir os yw lles yr adar yn cael ei beryglu gan lefelau golau uchel –

er enghraifft, crafu neu bigo niweidiol, neu ar gyfer gweithdrefnau rheoli penodol megis dal.

Yn ystod y saith diwrnod cyntaf yn dilyn gosod yr adar yn y cwt, dylid darparu digon o olau i’r cywion i sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i fwyd a dŵr yn hawdd.


 

 

 

 


Sarn/Llaesodr

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

(ar wahân i’r rhai a fegir yn gonfensiynol)

Mae Rheoliad 5 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir(Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

5 (1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am—

(a)   dofednod (ac eithrio’r rheini a gedwir yn y systemau cyfeirir atynt yn Atodlenni 2 i 4 a ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol) a gedwir mewn adeilad sicrhau y cânt eu cadw ar laesodr, neu y gallant bob amser fynd at laesodr sydd wedi ei gynnal yn dda, neu fan sydd wedi ei ddraenio’n dda ar gyfer gorffwys[.]

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 7 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

7. Rhaid i bob iâr fedru cael at laesodr bob amser sy’n sych ac yn hyfriw ar yr wyneb.

Mae ieir bridio yn treulio eu bywydau mewn cysylltiad â sarn ac mae eu hiechyd a’u lles yn gysylltiedig â’i ansawdd. Mae cyflyrau fel

llosg gar, anafiadau i badiau’r traed a phothelli ar y frest fel arfer yn ganlyniadau ansawdd sarn gwael. Mae offer a gynlluniwyd yn dda

a safonau rheoli uchel yn bwysig os yw sarn o ansawdd da yn mynd i gael ei chynnal.

Dylai’r capasiti awyru fod yn ddigonol er mwyn gwaredu lleithder gormodol. Dylai cyfansoddiad y bwyd fod yn gytbwys i osgoi problemau gyda baw gwlyb neu ludiog. Dylid ceisio cyngor arbenigol a gweithredu arno a dylai’r dwysedd stocio gael ei leihau mewn heidiau dilynol os na ellir gwella ansawdd sarn gwael. (Gweler hefyd baragraff 27.)

Mae’n rhaid i’r deunydd a ddefnyddir mewn sarn gael ei ddethol i sicrhau ei fod o ansawdd


priodol. Mae’n rhaid ei fod yn addas i ddarparu deunydd gwely sych ac ni ddylai gynnwys unrhyw beth a allai fod yn wenwynig neu beri niwed i’r ieir. Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, mae’n rhaid i’r sarn fod yn hyfriw (rhydd) ac yn sych ar yr wyneb, ac argymhellir hyn ar gyfer yr holl systemau cynhyrchu.

Dylid cymryd mesurau i leihau’r perygl o lwydni a phla gwiddon. Dylai sarn gael ei archwilio’n

rheolaidd am arwyddion o ddirywiad, yn arbennig yn yr ardaloedd hynny o’r cwt sydd mewn

perygl, megis o dan ddalwyr diod neu gerllaw’r waliau, a dylid cymryd camau gweithredu priodol i ddatrys unrhyw broblem. Dylai sarn gael ei archwilio hefyd i sicrhau nad yw’n mynd yn rhy wlyb neu lychlyd. Dylai system dal diod sy’n lleihau sarnu dŵr gael ei defnyddio, megis tethi dŵr gydau chwpanau diferu wedi’u lleoli ar uchder priodol ar gyfer yr holl adar.

Gellir defnyddio llinellau yfed drwy dethi heb gwpanau os ydynt yn cael eu rheoli’n dda a bod y gwasgedd dŵr yn cael ei wirio’n rheolaidd i sicrhau nad oes unrhyw ollyngiad.

 

Offer awtomatig neu fecanyddol

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 18 i 21 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

18.  Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy’n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.

19.  Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol

i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i’r diffygion hynny gael eu


 

 

 

 

 


cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.

20.  Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —

(a)   rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu’r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i’r system fethu; a

(b)   rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.

21.  Rhaid i’r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio’n drwyadl a rhaid i’r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y

system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 9 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

9.  Ym mhob cwt—

(a)  rhaid i lefel y sŵn fod ar ei isaf posibl; a

(b)  rhaid i ffaniau gwyntyllu, peirianwaith bwydo neu beirianwaith arall fod wedi eu hadeiladu a’u lleoli, ac yn cael eu gweithredu a’u cynnal a’u cadw yn y fath fodd fel eu bod yn peri cyn lleied o sŵn ag sy’n bosibl.

Dylai’r holl offer a gwasanaethau, gan gynnwys hoprau bwyd, systemau cadwyn a chyflenwi bwyd, dalwyr diod, gwyntyllau awyru, unedau gwresogi a goleuo, diffoddyddion tân a systemau larwm, gael eu glanhau, eu harchwilio


a’u cynnal yn rheolaidd a’u cadw mewn cyflwr da. Mae’n rhaid i eneraduron neu systemau ynni wrth gefn eraill hefyd fod ar gael ac mae’n rhaid iddynt gael eu profi a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd.

Dylai systemau awyru, gwresogi, goleuo, bwydo a dyfrio, a’r holl offer neu osodiadau trydanol eraill, gael eu dylunio, eu lleoli a’u gosod er mwyn osgoi perygl o niweidio’r adar.

Dylai’r holl offer awtomataidd y mae lles adar yn ddibynnol arno gynnwys dyfais ddiogel na all fethu neu ddyfais wrth gefn a system larwm i rybuddio’r ceidwad o fethiant. Mae’n rhaid

datrys diffygion ar unwaith neu gymryd mesurau dros dro eraill i ddiogelu iechyd a lles yr adar tan fod y broblem wedi’i datrys. Dylai dulliau bwydo amgen ac o gynnal amgylchedd boddhaol felly fod yn barod i’w defnyddio.

 

Cyfoethogi’r amgylchedd

Yn y pen draw, mae’r broses o gyfoethogi’r amgylchedd yn darparu mwy o gyfleoedd i’r aderyn o ran ei weithgareddau, y gellir eu darparu’n haws mewn rhai systemau nag eraill.

Gall cyfoethogi’r amgylchedd wella iechyd a lles adar drwy leihau ymyraethau, ymddygiad ymosodol, pigo niweidiol, ymatebion ofnus

a straen, a thrwy wella iechyd coesau drwy gynyddu’r lefel o ymarfer corfforol.

Gall darparu byrnau gwellt, clwydi, rhwystrau isel a gwrthrychau pigo (megis cnydau bresych, grawn cyflawn wedi’u gwasgaru a byrnau naddion) i’r adar gynyddu’n sylweddol faint

o amser mae’r adar yn ei dreulio’n sefyll, cerdded a rhedeg; lleihau faint o amser mae’r adar yn ei dreulio’n eistedd ac yn gorffwys; a lleihau pigo niweidiol a’r nifer o ryngweithiadau ymosodol rhwng adar.


 

 

 

 

Dwysedd stocio a rhyddid i symud

 


Yr holl ieir bwyta –

gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 9 a 10 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

9.     Gan roi sylw i’w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.

10.  Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu’n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraffau 3 i 5 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

3 (1) Oni fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na 33 cilogram i’r m2 o’r lle y gellir ei ddefnyddio.

(2) Caniateir dwysedd stocio uwch na 33 cilogram a hyd at 39 cilogram i’r m2 o’r lle y gellir ei ddefnyddio os cydymffurfir â gofynion paragraff 5.

(4 (1) Rhaid i geidwad sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o’r dwysedd stocio arfaethedig ar gyfer pob cwt y bwriedir cadw ieir ynddo

ar ddwysedd uwch na 33 cilogram i’r m2 o’r lle y gellir ei ddefnyddio, ac o unrhyw newid diweddarach i’r dwysedd hysbysedig hwnnw.


(2)  Rhaid i’r hysbysiad fod yn y cyfryw ddull a ffurf ag y dichon fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3)  Rhaid rhoi hysbysiad (gan gynnwys hysbysiad o unrhyw newid) o leiaf

15 diwrnod gwaith cyn bod stocio ar y dwysedd hwnnw neu ddwysedd wedi newid yn digwydd.

(4)  Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, Dydd Nadolig,

Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn ŵyl y Banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.

5.  Gofynion y paragraff hwn yw bod rhaid i’rceidwad—

(a)     cynnal a chadw ac, os gofynnir iddo wneud hynny, peri bod dogfennau ar gael i Weinidogion Cymru yn y cwt yn disgrifio’n fanwl y systemau cynhyrchu, ac yn benodol yn rhoi gwybodaeth ar fanylion technegol y cwt a’r offer ynddo, gan gynnwys –

(i)    plan o’r cwt gan gynnwys mesurau’r arwynebeddau y mae’r ieir yn eu meddiannu;

(ii)  gwyntylliad ac unrhyw system oeri a chynhesu berthnasol (gan gynnwys eu lleoliad), a phlan gwyntyllu,

sy’n dangos paramedrau ansawdd aer yr anelir atynt (megis y llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd);


 

 

 

 

 


(iii)  systemau bwydo a dyfrio (a’u lleoliadau);

(iv)systemau larwm ac wrth gefn os digwydd i unrhyw offer sy’n hanfodol er iechyd a lles yr ieir dorri i lawr;

(v)  math y llawr a’r llaesodr a ddefnyddir fel rheol; a

(vi) cofnodion o archwiliadau technegol o’r systemau gwyntyllu a’r systemau larwm;

(b)      peri bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael eu cadw’n gyfredol;

(c)      sicrhau bod yna offer gwyntyllu ym mhob cwt ac, os oes angen,

systemau gwresogi ac oeri sydd wedi’u dylunio, wedi’u hadeiladu ac yn cael eu gweithredu yn y fath fodd—

(i)    fel nad yw’r dwysedd o amonia yn uwch na 20 rhan i’r filiwn ac nad yw dwysedd y carbon deuocsid yn uwch na 3,000 rhan i’r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau’r ieir;

(ii)   pan fo’r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, nad yw’r tymheredd y tu mewn yn uwch na’r tymheredd y tu allan o fwy na 3°C; a

(iii)  pan fo’r tymheredd y tu allan islaw 10°C, nad yw’r lleithder cymharol cyfartaledig pan gaiff ei fesur y

tu mewn i’r cwt yn ystod cyfnod parhaus o 48 awr yn uwch na 70%.

Mae’n rhaid ystyried ffactorau amrywiol i hyrwyddo lles da wrth osod a monitro dwyseddau stocio. Mae glynu at unrhyw

uchafswm penodol ar gyfer dwysedd stocio yn bwysig ond ni all sicrhau lles yr adar ar ei ben ei hun. Mae perthynas agos rhwng trin anifeiliaid, rheoli sarn, rheoli amgylcheddol a dwysedd stocio. Bydd adar yn cael eu cadw mewn cyflwr da os yw’r cydbwysedd yn gywir yn unig ac mae’r cyfrifoldeb ar y perchennog/ceidwad i


ddangos nad yw lles yn cael ei beryglu beth bynnag y bo’r dwysedd stocio.

Dylai’r penderfyniad i stocio ar ddwysedd arbennig gael ei wneud ar sail cwt a dylai ystyried ffactorau rheoli cytiau penodol.

Mae nifer o ffactorau rheoli a ddylai ddylanwadu ar benderfyniad y ceidwad i stocio ar ddwysedd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys mesurau iechyd a lles heidiau blaenorol,

megis adroddiadau o’r lladd-dy, a chyfyngiadau rheolaethau amgylcheddol o fewn cwt,

a allai amrywio yn ôl tymor ac amodau tywydd. Er mwyn stocio ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol uwchlaw 33kg/m2, mae’n rhaid cydymffurfio

â’r ffactorau ychwanegol a nodir mewn deddfwriaeth.

Er gwaethaf y math o system, dylai’r holl ieir bwyta fod â rhyddid symud digonol i fod yn gallu sefyll yn normal, troi o gwmpas ac ymestyn

eu hadenydd heb anhawster. Dylai hefyd fod ganddynt ddigon o ofod i allu eistedd heb ymyrraeth gan adar eraill.

Dylid cymryd cyngor priodol os oes problemau’n digwydd, yn arbennig o dan amodau o wres neu leithder gormodol yn sgil awyru annigonol a sarn o ansawdd gwael. Os oes clefyd neu broblemau amgylcheddol yn codi mewn adeilad neu system benodol, gallai lleihau’r dwysedd stocio mewn heidiau dilynol leihau’r tebygolrwydd y byddant yn digwydd eto. Dylid ystyried stocio ar ddwysedd is cyn tywydd poeth a ragwelir.

Mae teneuo yn peri straen i’r adar a dylid ei osgoi. Os oes teneuo yn digwydd, dylai gael

ei wneud yn ofalus i gynnal bioddiogelwch ac i sicrhau’r ymyrraeth isaf i’r adar y mae eu bwyd a’u dŵr wedi’u tynnu nôl dros dro. Dylai protocol ysgrifenedig nodi gweithdrefnau i leihau’r effaith ar yr adar a’r perygl bioddiogelwch,

gan gynnwys y perygl o gyflwyno milheintiau i’r haid, a gweithdrefnau i leihau’r symiau o fwyd a dŵr sy’n cael eu tynnu’n ôl.


 

 

 

 

 

Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, gwnaed hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r dwysedd stocio a fwriadwyd ymhob cwt

yn 2010 drwy ffurflen a anfonwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) at yr holl geidwaid hysbys. Os bydd ceidwaid yn newid dwysedd stocio’r adar sy’n cael eu magu mewn cwt o’r hyn a hysbyswyd yn 2010 neu’n adeiladu cytiau newydd, mae’n rhaid hysbysu APHA 15 diwrnod gwaith

cyn bod yr adar yn cael eu gosod. Dylid gwneud yr hysbysiad hwn drwy anfon y ffurflen y cyfeirir ati yn Atodiad 2.


 

 

 

 


Anffurfiadau

Yr holl ieir bwyta –

gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae Adran 5 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi fel a ganlyn:

5 (1) A person commits an offence if–

(a)  he carries out a prohibited procedure on a protectedanimal;

(b)  he causes such a procedure to be carried out on such an animal.

(2)   A person commits an offence if–

(a)  he is responsible for an animal,

(b)  another person carries out a prohibited procedure on the animal, and

(c)  he permitted that to happen or failed to take such steps (whether by way of supervising the other person or otherwise) as were reasonable in

all the circumstances to prevent that happening.

(3)   References in this section to the carrying out of a prohibited procedure on an animal are to the carrying out of a procedure which involves interference with the sensitive tissues or bone structure of the animal, otherwise than for the purpose of its medical treatment

(4)   Subsections (1) and (2) do not apply in such circumstances as the appropriate national authority may specify by regulations.

Mae Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 yn caniatáu i filfeddygon neu unigolion eraill a ganiateir i gyflawni’r gweithdrefnau o dan Ddeddf


 

 

Milfeddygon 1966 neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 2015 gyflawni nifer o driniaethau a ganiateir ar anifeiliaid penodedig, gan gynnwys dofednod.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae Atodlen 4 (A1) Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

A1. Ni chaniateir rhoi’r triniaethau a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1, ac eithrio tocio pigau (gweler paragraff 5), ar y canlynol—

(1)  ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol[.]

Mae holl anffurfiadau ieir wedi’u gwahardd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Mae Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 yn esemptio

gweithdrefnau penodol (gweler Atodiad 5) o’r gwaharddiad hwn, ar yr amod eu bod yn cael eu cyflawni gan unigolyn a ganiateir i gyflawni’r weithdrefn ac:

       yn unol â’r gofynion perthnasol yn yr atodlenni

       mewn ffordd sy’n lleihau’r boen a’r dioddefaint maent yn eu hachosi i’r anifail

       mewn amgylchiadau hylan, ac

       yn unol ag arfer da.

Gall anffurfiadau achosi poen i ieir a dylent ond gael eu gwneud pan fo’n angenrheidiol er mwyn osgoi canlyniad lles gwaeth. Dylent ond gael eu gweithredu ar ôl ceisio cyngor priodol

ar ymyriadau amgen posibl ymhob achos ac nid fel arfer rheolaidd.


 

 

 

 


Tocio pigau

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraff 5 (1) i (3) o Atodlen 4 Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

5 (1) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid i’r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas.

(2)   Ar gyfer pob dofednyn, rhaid atal unrhyw waedlif sy’n dod o’r big yn sgil hynny drwy ei serio.

(3)   Ar gyfer pob dofednyn, rhaid rhoi’r driniaeth a ganlyn—

(a)    y big isaf a’r big uchaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu, neu

(b)    y big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 5 (6) o Atodlen 4 Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir)

(Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

5 (6) Ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol—

(a)    caniateir i’r driniaeth gael ei rhoi yn unig er mwyn atal pigo plu a chanibaliaeth;

(b)    ni chaniateir i’r driniaeth gael ei rhoi i adar sy’n 10 niwrnod oed neu drosodd;

(c)    rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi gan berson a gafodd wybodaeth,

cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi’r driniaeth; ac

(ch) rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg a chael cyngor ganddo.


Dylid rhoi ystyriaeth i gyfoethogi’r amgylchedd fel ffordd o osgoi’r angen i docio pigau.

Dylai dulliau posibl o gyfoethogi’r amgylchedd gael asesiad risg yn erbyn cyflwyno pathogenau a chynnwys darparu byrnau gwellt neu

gnydau bresych neu wasgaru grawn cyflawn. (Gweler tudalen 25.) Dylai diffygion maethol mewn bwyd gael eu hymchwilio fel achos posibl dros unrhyw ddigwyddiad o bigo niweidiol.

Nid yw tocio pigau ieir bwyta’n cael ei argymell ac ni ddylai fod yn angenrheidiol oherwydd maent fel arfer yn cael eu lladd cyn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol. Fodd bynnag, os yw’n angenrheidiol, dylai hyn gael ei wneud gan ddefnyddio technoleg is-goch cyn deg diwrnod oed, a gorau oll os ydynt yn ddiwrnod oed.

Dylai tocio pigau adar hŷn ond gael ei wneud mewn argyfwng pan gaiff hynny ei gynghori gan filfeddyg. (Gweler tudalen 36 am ganllawiau ar dorri pigau adar bridio.)


 

 

 

 


Cadw cofnodion

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 7 ac 8 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

7.      Rhaid cadw cofnod —

(a)  o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a

(b)  o’r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o’r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o’r darpariaethau canlynol…

(iv) mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o’r Atodlen hon.

8.        Rhaid cadw’r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o’r dyddiad pan roddwyd y

driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae paragraff 13 o Ran 2, Atodlen 5A Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

13(1)     Rhaid i geidwad gadw cofnod ar gyfer bob cwt—

(a)    o nifer yr ieir a gyflwynir iddo;

(b)    o’r lle y gellir ei ddefnyddio;

(c)    o groesryw neu frîd yr ieir (os yw’n hysbys);


 

 

(ch) o nifer yr ieir a gafwyd yn farw, gan nodi achosion y farwolaeth (os yw’n hysbys), ynghyd â nifer yr ieir a gafodd eu difa, gyda’r achos, ar bob arolygiad; a

(d)    o nifer yr ieir sydd ar ôl yn yr haid wedi symud ieir ymaith i’w gwerthu neu i’w cigydda.

(2) Rhaid dal gafael ar y cofnod am o leiaf 3 blynedd.

Mae cofnodion ychwanegol yn ofynnol ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol a gellir dod o hyd i’r rhain yn adrannau “Awyru, tymheredd a straen gwres” a “Monitro a digwyddiadau dilynol yn y lladd-dy” y cod hwn.

Yn ogystal â’r gofynion cadw cofnodion hyn, mae nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol eraill yn bodoli ar gyfer cadw cofnodion ar fferm. Nodir y rhain yn Atodiad 1.


 

 

 

 

Cynllunio wrth gefn

Dylai mesurau hefyd gael eu rhoi ar waith ar gyfer cynllunio wrth gefn yn dilyn asesiad o beryglon posibl. Dylai cynlluniau o’r fath ddelio â digwyddiadau megis:

               tarfu ar gyflenwad bwyd, pŵer neu ddŵr, gan gynnwys methiant systemau awtomataidd

               straen gwres

               trychinebau naturiol megis llifogydd

               tanau

               trefniadau er mwyn caniatáu mynediad cyflym at adeiladau dan glo mewn achosion brys, er enghraifft drwy ddarparu cyfarwyddyd clir ar fanylion cyswllt brys

               trefniadau ar gyfer ymdrin â chyfyngiadau a osodwyd mewn achos o glefyd hysbysadwy, gan gynnwys ymdrin ag oediadau o ran symud adar i’w lladd a darparu llety dros dro gorfodol ar gyfer adar maes, a

               threfniadau ar gyfer lladd a gwaredu heidiau pan fo dadboblogi yn ofynnol mewn achos o glefyd hysbysadwy neu yn sgil llygru bwyd neu dir pori gyda gwenwynau.


 

 

 

 

Adran 2: Argymhellion ychwanegol ar gyfer systemau maes

 


Yr holl ieir bwyta –

gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraff 17 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

17. Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo’n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i’w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi’i draenio’n dda.

Gall tir y mae adar maes yn cael eu cadw arno am gyfnodau hir gael ei lygru gydag organebau sy’n achosi neu’n cario clefyd i raddau a allai beryglu iechyd yr adar ar y tir yn ddifrifol.

Dylai adar gael eu monitro’n rheolaidd i wirio am arwyddion o gynnydd mewn pathogenau ar y tir.

Mae’r amser a gymerir i dir gael ei lygru fel hyn yn dibynnu ar y math o dir a’r dwysedd stocio. Dylid cymryd mesurau priodol i atal llygredd o’r fath neu ddarparu ardal grwydrol newydd drwy symud y cytiau (yn achos unedau symudol) neu drwy gylchdroi’r ardal grwydrol y tu allan

i gytiau sefydlog.

Dylai cytiau digonol fod ar gael i’r adar ar bob adeg. Gallai fod yn angenrheidiol eithrio adar o’r maes, er enghraifft mewn tywydd garw neu pe bai gorchymyn tai gorfodol (Parth Gwarchod Ffliw Adar) yn cael ei gyhoeddi yn ystod achos o glefyd hysbysadwy, os oes pryder y bydd eu hiechyd a’u lles yn cael eu peryglu.


Dylai adar gael eu hannog i ddefnyddio’r ardal tu allan. Bydd darparu llystyfiant digonol ac addas a reolir yn briodol, gorchudd uwchben sy’n ffurfio coridorau sy’n arwain allan o’r cwt ac yn cael eu dosbarthu o amgylch y maes,

a chyflenwad o ddŵr ffres i ffwrdd o’r cwt yn helpu i ddenu’r adar i grwydro. Ni ddylid

darparu bwyd yn rheolaidd yn yr awyr agored, ond lle nad oes modd osgoi hynny, dylid cymryd mesurau i osgoi denu adar gwyllt, llygod ac anifeiliaid eraill i’r haid. Os oes pyllau’n cael eu lleoli ar y maes neu gerllaw, dylid gosod ffensys neu rwydi o’u hamgylch rhag annog adar gwyllt, yn arbennig adar y dŵr, rhag glanio.

Mae ffactorau megis y math o bridd, draeniad, maint y nythfa ac amlder cylchdroi’r haid yn bwysig iawn wrth benderfynu faint o adar y gall ardal arbennig eu dal. Gall pridd trwm sy’n draenio’n wael gefnogi llai o adar na thir sy’n ysgafn ac yn draenio’n dda.


 

 

 

 

Adran 3: Argymhellion ychwanegol ar gyfer ieir bwyta ac ieir teidiau a neiniau

 


Mae adar bridio ar gyfer ieir bwyta wedi cael eu dethol ar sail cydbwysedd o nifer o nodweddion, gan gynnwys y rheini sy’n

ymwneud â chynhyrchu wyau ffrwythlonedig a’r rheini sy’n ymwneud â chynhyrchu cig ieir. O ganlyniad, mae eu gofynion hwsmonaeth yn dra gwahanol i’w hepil. Mae trin anifeiliaid yn gymwys iawn, safon uchel cytiau ac offer, a rheoli amgylcheddol da yn hanfodol.

 

Gweithdrefnau bridio

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraffau 28 a 29 o Atodlen 1 Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn nodi fel a ganlyn:

28 (1) Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy’n peri neu sy’n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o’r anifeiliaid o dan sylw.

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy’n debygol o beri’r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod

angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.

29. Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i’w hiechyd neu eu lles.

Dylai adar ddod o raglenni bridio cytbwys sy’n hyrwyddo ac yn diogelu iechyd, lles a nodau cynhyrchu ar yr un pryd.


Dylid annog adnabod adar, er mwyn galluogi adborth o wybodaeth yn y dyfodol o fewn y pyramid bridio a gweithredu bridio gwell ar gyfer lles, yn seiliedig ar ddata o’r gadwyn gyflenwi.

Dylai mesurau ac arferion hwsmonaeth ar y fferm fridio gael eu cynllunio i leihau wyau ar y llawr ac ni ddylai wyau a drochwyd yn fawr

gael eu hanfon fel wyau deor. Mae ieir bridio yn ffafrio nythod â deunydd nythu ynddynt a gallent leihau nifer yr wyau ar y llawr os yw is-haen y sarn yn cael ei gosod mewn nyth, beth bynnag y bo’r math o sylfaen (metel, pren, mat rwber).

Dylai cywion dros ben ac embryonau yng ngwastraff y ddeorfa neu’n deillio o ddeor

ar fferm gael eu lladd heb boen gan unigolyn cymwys a gafodd ei hyfforddi ac yn unol â’r ddeddfwriaeth lles benodol ar adeg eu lladd.

 

Bwyd a dŵr

Mae magu a rheoli ieir bridio yn gydbwysedd gofalus rhwng bwydo a rheoli golau yn briodol yn ystod y cam glasoed a rheoli priodol wrth iddynt ddodwy, fel y gall yr adar gyrraedd eu twf optimaidd a chynnal parhad y dodwy.

Yn ystod y cam magu, dylid dilyn cromlin twf priodol ar gyfer y brîd. Yn ystod y magu, dylid sicrhau nad yw’r adar yn cael bwyta

gormod rhag, arwain at ennill gormod o bwysau, cynnydd mewn marwolaethau, a pheryglu iechyd, lles a chynhyrchiant.

Fodd bynnag, os cyfyngir gormod ar faint o fwyd y caiff iâr ei fwyta, mae’r adar yn debygol o brofi straen a newyn. Mae cydbwyso bwyd â thyfiant a math o fwyd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr adar yn cael y cyfnod pontio gorau i’w llawn dwf.


 

 

 

 

 


Pan fo’r ieir bridio a’r ceiliogod gweithredol yn y cam atgenhedlu, dylid addasu’r cyflenwad bwyd yn gyson i gynhyrchu real fel bod yr adar yn ffynnu ac yn cynhyrchu’n dda ac nad ydynt yn colli pwysau. Mae’n arbennig o bwysig fod anghenion yr adar unigol yn cael eu bodloni

a dylai staff profiadol sydd â’r sgiliau priodol fonitro’r haid yn ofalus.

Dylid cynnig bwyd i’r adar o leiaf bob dydd drwy gydol y cylch cynhyrchu ac eithrio’r diwrnod cludo gan eu bod yn teithio’n fwy cyfforddus gyda chrombil gwag. Dylid cynyddu’r bwyd i’r adar

sy’n bridio ar y diwrnod cyn iddynt deithio a dylid sicrhau bod dŵr ar gael hyd at adeg eu dal.

Dylid rhoi sylw arbennig i sicrhau bod swm priodol o fwyd ar gael i’r holl adar er mwyn osgoi cystadleuaeth ormodol. Dylai offer bwydo fod yn gallu cyflenwi symiau bach o fwyd yn gyflym, yn gywir ac yn gyfartal i’r holl adar yn y cwt a dylai’r faint o ofod a ddyrennir yn y cafn ganiatáu mynediad digonol i fwyd ar gyfer yr holl adar y bwriedir eu bwydo. Dylai’r bwyd feddu ar nodweddion ffisegol da, er enghraifft peledi caled. Mae gwasgaru bwyd yn lleihau ymddygiadau dadleoli ac mae’n cynyddu twrio am fwyd. Os yw’r bwyd yn cael ei wasgaru, dylai gael ei ddosbarthu dros ardal ddigonol

i alluogi mynediad i’r holl adar gael eu bwydo.

Yn ychwanegol at y gwiriadau dyddiol rheolaidd, dylai pwysau corff a chyflwr yr adar gael eu monitro’n systematig bob wythnos.

Dylid gwneud addasiadau prydlon a phriodol i’r dyraniad bwyd yn unol â’r hyn a gaiff ei ganfod.

Mae’n rhaid i ansawdd maethol bwyd ieir bridio gael ei fonitro a’i reoli’n ofalus, yn enwedig o ran microfaethynnau a phrotein. Mae’n ddoeth wirio cynnwys maethol dognau i gadarnhau eu bod yn cynnwys y fanyleb gywir, yn enwedig os oes unrhyw broblemau yn codi. Dylai’r ceidwad fod yn arbennig o wyliadwrus ar ôl newidiadau

i sypynnau bwyd.


Yn ystod chwe wythnos gyntaf bywyd, dylai’r lefelau bwyd fod yn ddigonol i sicrhau datblygiad ysgerbydol da. Dylai lefelau’r bwyd drwy gydol y cyfnod magu gael eu rheoli i sicrhau cyfradd twf dyddiol gyson ac ni ddylent fod yn llai na’r hyn a argymhellir yn llawlyfrau’r bridwyr.

Gallai adar y mae swm eu bwyd yn cael ei reoli ddangos cynnydd o ran yfed ac ymddygiad dadleoli megis pigo amgylcheddol (er enghraifft, pigo’r cafn bwyd gwag a’r wal neu bigo “smotyn”). (Gweler tudalen 36.) Gall yfed gormod o ddŵr arwain at effaith negyddol ar

y sarn. Mae cynyddu cynnwys ffibr y bwyd yn cynyddu’r amser mae’n cymryd i adar fwyta eu bwyd a gall arwain at yfed llai o ddŵr, gan felly wella cyflwr y sarn. Nid yw hyn yn cael unrhyw effaith negyddol ar gynhyrchu wyau wedi hynny na phwysau neu ansawdd yr adar bridio.

Gallai fod yn angenrheidiol reoli’r cyflenwad dŵr o ran y system a’r rhaglen fwydo i leihau gormod

o yfed a chynnal ansawdd y sarn. Fodd bynnag, mae’n rhaid darparu cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres bob dydd. Pan fo mynediad at ddŵr wedi’i gyfyngu gan amser, mae’n hanfodol

fod darpariaeth hael o ddalwyr diod gyda llif digonol i alluogi i’r holl adar yfed heb gystadlu’n ormodol.

Yn ystod y cyfnod dodwy, mae gan geiliogod ac ieir ofynion maethol gwahanol a gallant gael eu bwydo’n wahanol o fewn yr un cwt. Dylai’r offer a ddefnyddir i atal y ceiliogod rhag cymryd bwyd a fwriedir ar gyfer yr ieir gael ei addasu’n ofalus i sicrhau cynnal y mynediad ar gyfer yr ieir ac nad yw’r ceiliogod yn cael eu hanafu. Fodd bynnag, mae rhai systemau a chamau yng nghylch yr haid yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwrywod a’r benywod gael eu bwydo gyda symiau tebyg o fwyd gyda’i gilydd ac felly efallai y gallai fod yn ddymunol gael gwared

ar y gwrthodwyr ceiliogod o’r systemau bwydo

benywod. Ni ddylai adar bridio gael eu hysgogi i fwrw plu drwy atal y bwyd a’r dŵr.


 

 

 

 


Ymddygiad ymosodol, pigo niweidiol a chyfoethogi

Gallai darparu cyfoethogiad megis byrnau naddion heb eu hagor, gwellt o ansawdd da, gwasgaru grawn cyflawn bioddiogel, neu gyfoethogiad arall i annog crafu ac

ymddygiad pigo arferol helpu i atal neu leihau pigo niweidiol ac ymosodol yn ystod y cyfnod magu sy’n effeithio’n niweidiol ar les yr adar.

Er mwyn cyfoethogi’r amgylchedd, dylid cynnig graean annhoddadwy (naill ai wedi’i wasgaru ar y sarn neu wedi’i gyflenwi mewn cynwysyddion ar wahân, gyda symiau wedi’u mesur) pan fydd y cywion yn chwe wythnos oed. Bydd hyn hefyd yn helpu’r crombil falu unrhyw laesodr neu blu a allai fod wedi cael eu bwyta ac annog crafu. Mantais ychwanegol ymddygiad twrio am fwyd yw gwella ansawdd y sarn. Gallai clwydi addas yn y cwt magu ddarparu math o gyfoethogiad

i gynorthwyo’r adar i berfformio un o’u hymddygiadau naturiol eraill. Bydd clwydi hefyd yn cynorthwyo’r adar i addasu wrth symud o sarn i loriau tyllog a godwyd pan fyddant yn symud i’r cam dodwy.

 

Tocio pigau

Yr holl ieir bwyta – gan gynnwys adar bridio a’r rheini mewn deorfeydd

Mae paragraff 5 (1) i (3) o Atodlen 4 Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 yn nodi fel a ganlyn:

5 (1) Ar gyfer pob dofednyn, rhaid i’r driniaeth docio pigau gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas.

(2)  Ar gyfer pob dofednyn, rhaid atal unrhyw waedlif sy’n dod o’r big yn sgil hynny drwy ei serio.


(3)  Ar gyfer pob dofednyn, rhaid rhoi’r driniaeth a ganlyn—

(a)  y big isaf a’r big uchaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean o bob un wedi ei dynnu, neu

(b)  y big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu.

Fel arfer, nid yw’n angenrheidiol tocio pigau cywion bridio benywaidd a chywion neiniau yn rheolaidd. Ar gyfer cywion bridio gwrywaidd

a chywion teidiau, gallai tocio pigau fod yn angenrheidiol er mwyn atal anafiadau i adar eraill oddi wrth bigo ymosodol neu niweidiol. Os felly, dim ond blaen y pig ddylai gael ei waredu o’r cywion hyn. Dylid gwneud hyn gan ddefnyddio technoleg is-goch cyn eu bod yn ddeg diwrnod oed, neu gorau oll os ydynt

yn ddiwrnod oed. Rhaid i’r driniaeth tocio pigau adar hŷn gael ei rhoi mewn argyfwng yn unig, yn dilyn cyngor milfeddygol.

 

Adeiladau a llety

Yn debyg i ieir bwyta eraill, dylai adar sy’n bridio ac adar teidiau a neiniau gael eu magu mewn cytiau lle y bo’r tymheredd, lleithder, cyfraddau awyru, lefelau golau a chyfnodau

ffoto yn cael eu rheoleiddio’n ofalus. Bydd cwt a gynlluniwyd yn dda yn cynnwys systemau awyru a gwresogi, systemau effeithiol i flocio golau a system oleuo sy’n darparu lefelau golau y gellir eu rheoli ac sydd wedi’u dosbarthu’n unffurf.

Mae’n rhaid i gyfraddau awyru, dosbarthu aer a chyflwr y cytiau fod yn ddigonol bob amser er mwyn darparu digon o aer ffres sy’n briodol ar

gyfer oedran yr adar, heb ddrafftiau. Dylid rheoli ansawdd yr aer, gan gynnwys lefelau’r llwch a chrynodiadau carbon monocsid, a’u cadw o fewn y terfynau lle nad yw lles yr adar yn cael

ei effeithio’n negyddol.


 

 

 

 


 

Mae ieir bridio ar fwyd a reolir yn fwy agored i dymereddau isel ond yn llai agored i

dymereddau uchel. Os caniateir i’r tymheredd ddisgyn, gallai fod angen cynyddu’r bwyd neu ddarparu gwresogyddion.

Mae’r dwyseddau golau a chyfnodau ffoto isaf a argymhellir ar gyfer adar bridio ac adar teidiau a neiniau fel a ganlyn, ond gorau oll os

oes dwysedd golau uwch yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod magu:

 

Oedran

Dwysedd golau

Hyd diwrnod di-dor

Diwrnod oed

Isafswm o 60 lwcs, gan leihau i

10 lwcs erbyn eu bod yn

10 diwrnod oed

Isafswm o wyth awr

Hyd at adeg dodwy

Isafswm o 10 lwcs

Isafswm o wyth awr

Wrth ddodwy

Isafswm o 20 lwcs

Yn cynyddu o wyth awr hyd at uchafswm o 18 awr

Dylid mesur dwysedd y golau ar lefel uchder llygaid yr adar. Os oes ymddygiad ymosodol neu bigo niweidiol yn digwydd, dylai’r goleuadau gael eu pylu am ychydig ddyddiau a dylid ystyried mesurau eraill er mwyn lleihau’r ymddygiad.

Ar ôl yr ychydig ddiwrnodau cyntaf, dylai fod cyfnod penodedig o chwe awr o dywyllwch o leiaf, gan gynnwys pedair awr o dywyllwch di-dor o leiaf, mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.

Dylid rhoi sylw gofalus i’r gymhareb ieir i geiliogod (niferoedd, aeddfedrwydd, pwysau)

i sicrhau’r datblygiad o berthnasau gwrywaidd– benywaidd gorau oll ac i osgoi ymddygiad ymosodol oddi wrth fenywod tuag at wrywod anaeddfed, neu er mwyn diogelu’r ieir rhag presenoldeb gormod o geiliogod aeddfed yn

y cwt bridio. Pan fo problemau perthynas

yn digwydd, dylid ystyried darparu rhwystrau sy’n gallu lleihau’r straen ar y benywod drwy ganiatáu iddynt gilio rhag y ceiliogod.


Dwysedd stocio a’r rhyddid i symud

Ni ddylai dwysedd stocio ar gyfer adar bridio fod yn fwy na 25kg/m2, wedi’i gyfrifo drwy rannu cyfanswm pwysau’r holl adar

(gwrywod a benywod) yn y cwt gyda chyfanswm y lle sydd ar gael i’r adar. Wrth gyfrifo’r lle hwn, dylid rhoi ystyriaeth i’r gofod a gymerir gan yr offer yn y cwt.

Mae’n rhaid ystyried ffactorau amrywiol i hyrwyddo lles da wrth osod a monitro

dwyseddau stocio. Mae glynu wrth unrhyw uchafswm penodol ar gyfer dwysedd stocio yn bwysig, ond ni all gwneud hynny ar ei ben ei hun sicrhau lles yr adar. Mae perthynas agos rhwng trin anifeiliaid, rheoli sarn, rheoli amgylcheddol a dwysedd stocio. Ni fydd adar yn cael eu cynnal mewn cyflwr da oni bai fod ycydbwysedd yn gywir ac mae’r cyfrifoldeb ar y ceidwad i ddangos nad yw lles yn cael ei beryglu beth bynnag y bo’r dwysedd stocio.

Dylai’r penderfyniad i stocio ar ddwysedd penodol gael ei wneud ar sail cwt a dylai ystyried ffactorau rheoli sy’n benodol i’r cwt.

Beth bynnag y bo’r math o system, dylai’r holl ieir bridio gael rhyddid symud digonol i allu sefyll yn arferol, troi o gwmpas, ymestyn eu hadenydd a chyflawni ymddygiadau bridio heb anhawster.

 

Sarn/Llaesodr

Yn debyg i’r holl ieir bwyta, mae’n rhaid cynnal

y sarn mewn cyflwr da i osgoi problemau coesau posibl, anafiadau i badiau’r traed, a phroblemau anadlu ac amgylcheddol. Mae’n rhaid rhoi sylw arbennig i gynnal lefelau awyru a phatrymau symud aer er mwyn osgoi drafftiau ar lefel

y sarn, yn ogystal ag ychwanegu sarn yn ôl y gofyn.


 

 

 

 

 

Yn y gaeaf, dylai gwresogi atodol fod ar gael os oes angen i gynnal y tymheredd cywir yn y cytiau bridio ac atal dirywiad o ran ansawdd yr aer a’r llaesodr sy’n arwain at broblemau anadlu, coes a phadiau’r traed.

 

Dal, trin a chludo

Pan fo adar yn cael eu cludo i gyfleusterau dodwy, dylid cymryd gofal wrth eu codi allan o gawell neu wrth eu trosglwyddo allan

o gynhwysydd heb glawr. Dylai adar gael mynediad at ddŵr ar unwaith pan fônt yn cyrraedd, yn arbennig lle y bo slatiau wedi’u gosod.


 

 

 

 

Atodiad 1: Deddfwriaeth arall sy’n effeithio ar ieir bwyta, adar bridio a deorfeydd

 


Mae’r prif ofynion yn cael eu crynhoi isod.

Nid yw hon yn rhestr drwyadl a noder bod peth deddfwriaeth yn cael ei diweddaru a/neu ei diwygio’n rheolaidd. Gellir dod o hyd i holl ddeddfwriaeth y DU yma: www.legislation.gov.uk/cy

 

Cludo

Am wybodaeth ar gludo ieir bwyta, gweler:

       Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (amddiffyn anifeiliaid yn ystod eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig)

       Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

       a chanllawiau cysylltiedig

 

Lladd

Am wybodaeth ar les wrth gigydda a lladd ieir bwyta, gweler:

       Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 (amddiffyn anifeiliaid ar adeg lladd),

a deddfwriaeth a chanllawiau domestig cysylltiedig

 

Systemau maes ac organig

Ar gyfer meini prawf marchnata cig dofednod (e.e. gofynion ar gyfer defnyddio termau marchnata arbennig fel ‘iâr fuarth’),

gan gynnwys dwysedd stocio, gofynion bwydo, mynediad i’r maes ac isafswm oedran wrth ladd, gweler:

       Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008


Mae’r gofynion yn cael eu gorfodi yng Nghymru drwy Reoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011. Mae darpariaethau gorfodi ar wahân yn bodoli ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Am ofynion cynhyrchu organig, gweler:

       Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007

       Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 889/2008

Mae’r gofynion yn cael eu gorfodi yn y DU gan Reoliadau Cynhyrchion Organig 2009.

 

Hylendid bwyd

Ar gyfer rheolau hylendid penodol ar hylendid deunyddiau bwyd, gweler:

       Rheoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a Chyngor Ewrop

Mae Adran III Atodiad II y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd sy’n gweithredu fel lladd-dai, fel y bo’n briodol, i ofyn am, derbyn, gwrio a gweithredu ar wybodaeth am y gadwyn fwyd fel yr amlinellir yn yr adran hon o ran yr holl anifeiliaid, ar wahân i anifeiliaid hela gwyllt, a anfonwyd neu y bwriedir eu hanfon i’r lladd-dy.

 

Cadw cofnodion

Gweler y canlynol:

Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n cadw 50 o adar neu fwy i gofrestru eu haid gydag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn dofednod (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol gadw cofnodion penodol (gan gynnwys mewn deorfeydd) a phrofi salmonela ar gyfer heidiau bridio a dodwy.


 

 

 

 

 

Mae Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol gadw cofnodion penodol

a phrofi salmonela ar gyfer heidiau ieir bwyta.

Mae clefyd Newcastle yn cael ei gwmpasu gan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n

cadw heidiau o 250 o adar o leiaf gadw cofnodion penodol.

Mae Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn ei gwneud yn ofynnol gadw cofnodion ar ddefnyddio a rhoi meddyginiaethau a gwaredu meddyginiaethau sydd heb eu defnyddio. Mae’n rhaid cadw cofnodion am

o leiaf bum mlynedd.

Noder: Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (fel y’u diwygiwyd) yn ymwneud â chofnodi pa feddyginiaeth a gaiff ei rhoi a phryd (at ddibenion lles) ac mae’n berthnasol i’r holl anifeiliaid fferm. Mae gofynion cofnodi Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn disgrifio’n fanwl yr hyn sy’n rhaid ei gofnodi a pha mor hir y mae’n rhaid cadw’r cofnodion ac mae’n cynnwys y gofyniad ar gyfer cofnodi ble a phryd y cafodd y meddyginiaethau eu caffael yn ychwanegol at y gofyniad am gofnodion ar adeg rhoi’r meddyginiaethau.

 

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Ar gyfer y gofynion o ran storio, cludo a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid megis carcasau marw, tail a sarn, gweler:

       Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009

       Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011

Mae’r gofynion yn cael eu gorfodi gan Reoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.


 

 

 

 

Atodiad 2: Ffurflen i’w defnyddio i hysbysu’rAsiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o newid mewn dwysedd stocio ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Mae’r ffurflen hysbysu WF90 ar gyfer ieir bwyta (Lloegr a’r Alban) ar gael ar wefan GOV.UK ar y ddolen ganlynol: www.gov.uk/government/publications/meat-chicken-notification


 

 

 

 


Atodiad 3: Lefelau sbarduno

Proses 1

Mae adroddiad sbarduno yn cael ei gynhyrchu os yw lefel cyflwr post-mortem yn eithriadol uchel (wedi’i diffinio fel yn fwy na chwe gwyriad safonol uwchlaw’r cyfartaledd).

 

Cyflwr post-mortem

Lefel sbarduno Proses 1 (%)

Dropsi’r bol/chwydd gwyn

2.02

Llid yr isgroen a dermatitis

3.00

Yn farw wrth gyrraedd (DOA)

1.51

Teneuder

0.67

Anafiadau i’r cymalau

0.43

Gwenwyn gwaed/trafferthion anadlu

9.28

Cyfanswm y gwrthodiadau

11.76

Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus

11.85

Sgôr dermatitis ar badiau’r traed (FPD)*

167

*Nid yw’r sgôr FPD yn ganran ond yn sgôr o ddifrifoldeb a graddau anafiadau (rhwng 0 a 200) yn seiliedig ar sgorio 100 o draed.


 

Proses 2

Mae adroddiad sbarduno yn cael ei greu os yw’r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus yn anarferol o uchel (wedi’i diffinio fel mwy na thri gwyriad safonol uwchlaw’r cyfartaledd = 7.37%) ac, ar ben hynny, fod lefel tri neu fwy o gyflyrau post-mortem eraill yn uchel (wedi’i diffinio fel uwchlaw’r cyfartaledd).

 

Cyflwr post-mortem

Lefel sbarduno Proses 2 (%)

Dropsi’r bol/chwydd gwyn

0.21

Llid yr isgroen a dermatitis

0.20

Yn farw wrth gyrraedd (DOA)

0.12

Teneuder

0.04

Anafiadau ar y cymalau

0.02

Gwenwyn gwaed/trafferthion anadlu

0.49

Cyfanswm y gwrthodiadau

1.11

Sgôr dermatitis ar badiau’r traed (FPD)*

60

*Nid yw’r sgôr FPD yn ganran ond yn sgôr o ddifrifoldeb a graddau anafiadau (rhwng 0 a 200) yn seiliedig ar sgorio 100 o draed.


 

 

 

 

Atodiad 4: Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus: enghraifft weithiol

Cyfanswm y marwolaethau yn yr enghraifft hon – sied gyda 20,200 o adar wedi’u gosod, un achos o deneuo a chyfanswm o 549 o adar marw – yw 549/20,200 x 100 = 2.72%. Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus yw 2.85%. Yn yr enghraifft hon, nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y ddau ffigur, ond gallai hyn fod wedi bod yn fwy pe bai marwolaethau uwch yn y cwt, er enghraifft.

 

Oedran yr adar/ diwrnod

Nifer yr adar yn y cwt ar ddechrau’r diwrnod

Nifer yr adar a gafodd eu difa A nifer yr adar a

ganfuwyd yn farw bob diwrnod

Y gyfradd farwolaeth ddyddiol

Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus

 

1

20200

29

0.1436

0.1436

 

2

20171

20

0.0992

0.2427

 

3

20151

15

0.0744

0.3172

 

4

20136

15

0.0745

0.3916

 

5

20121

19

0.0944

0.4861

 

6

20102

10

0.0497

0.5358

 

7

20092

15

0.0747

0.6105

 

8

20077

20

0.0996

0.7101

 

9

20057

10

0.0499

0.7600

 

10

20047

12

0.0599

0.8198

 

11

20035

10

0.0499

0.8697

 

12

20025

8

0.0400

0.9097

 

13

20017

10

0.0500

0.9596

 

14

20007

9

0.0450

1.0046

 

15

19998

20

0.1000

1.1046

 

16

19978

15

0.0751

1.1797

 

17

19963

9

0.0451

1.2248

 

18

19954

8

0.0401

1.2649

 

19

19946

10

0.0501

1.3150

 

20

19936

19

0.0953

1.4103

 

21

19917

10

0.0502

1.4605

 

22

19907

8

0.0402

1.5007

 

23

19899

10

0.0503

1.5510

 

24

19889

9

0.0453

1.5962

 

25

19880

21

0.1056

1.7019

 

26

19859

14

0.0705

1.7724

 

27

19845

27

0.1361

1.9084

 

28

19818

12

0.0606

1.9690

 

29

19806

6

0.0303

1.9993

 

30

19800

22

0.1111

2.1104

 

31

19778

31

0.1567

2.2671

 


 

 

 

 

 

Oedran yr adar/ diwrnod

Nifer yr adar yn y cwt ar ddechrau’r diwrnod

Nifer yr adar a gafodd eu difa A nifer yr adar a

ganfuwyd yn farw bob diwrnod

Y gyfradd farwolaeth ddyddiol

Y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus

 

32

16548

19

0.1148

2.3819

Teneuwyd

33

16529

21

0.1270

2.5090

 

34

16508

12

0.0727

2.5817

 

35

16496

10

0.0606

2.6423

 

36

16486

8

0.0485

2.6908

 

37

16478

26

0.1578

2.8486

Cliriwyd


 

 

 

 

Atodiad 5: Triniaethau a ganiateir


Gwaherddir anffurfio ieir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 ac eithrio triniaethau penodol o’r gwaharddiad hwn. Mae’r triniaethau a ganiateir ar gyfer ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol ac ar gyfer yr holl ieir bwyta eraill ac ieir bridio yn cael eu rhestru isod. Er bod rhai anffurfiadau heb eu gwahardd, dylai arferion da sicrhau mai ychydig iawn o le sydd iddynt mewn system cynhyrchu dofednod fodern. Mae’r rhestrau yn gywir ar adeg eu cyhoeddi.

 

Ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

Os glynir at ddarpariaethau penodol, gellir tocio pigau ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol.

Mae’r gyfraith yn nodi os oes torri pig yn cael ei wneud, dylai ddigwydd fel a ganlyn:

       ni chaniateir i’r driniaeth gael ei rhoi heblaw am resymau atal pigo plu a chanibaliaeth

       ni chaniateir i’r driniaeth gael ei rhoi i adar sy’n 10 niwrnod oed neu drosodd

       rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi gan rywun sydd wedi cael gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant addas a digonol fel ei fod yn gymwys i roi’r driniaeth

       rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg a chael cyngor ganddo

       rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas

       rhaid i’r driniaeth gael ei rhoi ar y big uchaf a’r big isaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean o bob un wedi ei dynnu, neu’r big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi ei dynnu, a

       rhaid atal unrhyw waedlif sy’n dod o’r big yn sgil hynny drwy ei serio.


Yr holl ieir bwyta ac ieir bwyta at fridio

Gellir cyflawni dulliau eraill o adnabod adar sy’n cynnwys anffurfiad sy’n ofynnol gan y gyfraith

Tocio pigau – mae’r gyfraith yn nodi os yw’r driniaeth hon yn cael ei rhoi, mae’n rhaid iddi ddigwydd fel a ganlyn:

       mae’n rhaid iddi gael ei rhoi gan ddefnyddio offeryn addas

       mae’n rhaid iddi gael ei rhoi ar y big uchaf a’r big isaf fel ei gilydd, heb fod mwy na thraean o bob un wedi ei dynnu, neu ar y big uchaf yn unig, heb fod mwy na thraean wedi’i dynnu, a

       rhaid atal unrhyw waedlif sy’n dod o’r big yn sgil hynny drwy ei serio.

Torri bysedd traed – mae’r gyfraith yn nodi fel a ganlyn:

       ni chaniateir rhoi’r driniaeth hon i aderyn sy’n 3 diwrnod oed neu’n hŷn oni bai fod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi

       rhaid rhoi anesthetig pan fo’r anifail yn 3 diwrnod oed neu’n hŷn na hynny.

Torri crib – mae’r gyfraith yn nodi fel a ganlyn:

       ni chaniateir rhoi’r driniaeth hon i aderyn sy’n 3 diwrnod oed neu’n hŷn oni bai fod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi

       rhaid rhoi anesthetig pan fo’r aderyn yn 3 diwrnod oed neu’n hŷn na hynny.

Laparosgopi (archwilio’r ceudod abdomenol drwy osod offeryn a elwir yn laparosgop) – mae’r gyfraith yn nodi fel a ganlyn:

       gellir rhoi’r driniaeth hon os oes anesthetig yn cael ei rhoi yn unig

       Gellir cyflawni microsglodynnu at ddibenion adnabod.


 

 

 

 

 

Tagio adenydd ar gyfer adnabod – mae’r gyfraith yn nodi y dylai’r driniaeth hon gael ei rhoi fel a ganlyn:

               caniateir rhoi’r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu brofi am bresenoldeb clefyd yn unig.


 

 

 

 

Ffynonellau gwybodaeth bellach*

 


Cod Argymhellion Cyngor Ewrop

Mae’r cod hwn yn ystyried argymhellion Cyngor Ewrop o ran ieir domestig (Gallus gallus).

Mae’r rhain yn amlinellu egwyddorion cyffredinol hwsmonaeth a gofal ac mae’n cynnwys adran ar ieir bwyta.

Gweler: www.rm.coe.int/16805165ec

 

Lladd

Mae gan Gymdeithas Lladd Heb Boen God Ymarfer ar gyfer Gwaredu Cywion mewn Deorfeydd.

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Am ragor o wybodaeth am sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gweler: www.gov.uk/guidance/ animal-by-product-categories-site-approval- hygiene-and-disposal

 

Asesiadau canlyniad lles

Gellir gweld cyngor ar fesur canlyniadau lles ar:

www.assurewel.org

 

Dal a thrin

               Gellir dod o hyd i gyngor ar ddal a thrin yn Nodyn Technegol 15 Dal a Thrin Dofednod y Gymdeithas Lladd Heb Boen

               www.hsa.org.uk/shop/publications-1/ product/-poultry-catching-and-handling (dogfen PDF am ddim)


Gwrthficrobiaid a brechlynnau

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar y defnydd cyfrifol o wrthficrobiaid a brechlynnau ar: www.ruma.org.uk/poultry www.farmantibiotics.org/media-news- updates/progress-by-sector/poultry/

 

Cofrestru dofednod

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gofrestru dofednod yma: www.gov.uk/guidance/poultry- registration#how-to-register


 

 

 

 

 

 

* Mae’r ffynonellau gwybodaeth bellach hyn er gwybodaeth yn unig ac ni ddylid ystyried eu bod yn rhan o’r Cod Ymarfer. Mae’r ffynonellau gwybodaeth hyn yn gyfredol ar y dyddiad y cafodd y cod hwn ei gyhoeddi (gweler y dudalen olaf ar gyfer y dyddiad cyhoeddi). Dylech fod yn ymwybodol y gallai unrhyw ffynonellau gwybodaeth a restrir yma newid.