1. Yn sicr nid oes digon o ganolfannau mewn cymunedau ar draws Cymru i gynnal cerddoriaeth. Yn aml mae hyn yn adlewyrchiad o broblemau economaidd ehangach ee tafarnau yn cau ayb ond yn bennaf mae’n adlewyrchiad o ddifyg hyrwyddwyr ar lawr gwlad.

 

2. Drwy ein gwaith yn dosbarthu cerddoriaeth yn ddigidiol mae ein data yn dangos bod cynulleidfa mwy nac erioed i gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig a bod y gynulledifa honno yn gwrando a darganfod cerddoriaeth newydd drwy wasanaethau ffrydio.

 

3. Yr hyn sydd yn cael ei amlygu yw bod angen ymyrraeth/gwariant/hyrwyddo mewn sawl agwedd i greu tirwedd newydd fydd yn meithrin artistiaid newydd (a datblygu eu gyrfaeodd) yn ogystal a datblygu cynulleidfa newydd i’r dyfodol. Mae PYST eisoes yn weithgar yn y maes ac yn cychwyn sawl cynllun i’r diben hwn ond yn fras credwn y dylai y gefnogaeth fod ar hyd y llinellau canlynol -

 

- Cefnogaeth i feithrin a mentora hyrwyddwyr newydd mewn gwahanol gymunedau fel bod artistiaid yn chwarae mewn mwy o gymunedau a bod y cymunedau hynny yn cael profit cerddoriaeth fyw. Mae gennym gynllun ar waith fydd yn cychwyn cyfnod peilot yn mis Hydref. Ond yn hytrach na meddwl am ganolfannau h.y brics a mortar bydd y ffocws ar weithio a mentora criwiau ifanc fel bod hyrwyddwyr y dyfodol yn cael y sgiliau a’r hyder i drefnu gigs. Drwy gael mwy o hyrwyddwyr bydd canolfannau yn ymateb i’r galw.

 

- Cyfrwng digidol ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig fydd yn ffocws i weithgaredd ac yn adlewyrchu yr hyn sydd yn digwydd yn ogystal a chreu cynnwys newydd. Eto rydym yn gweithio ar hyn.

- Mwy o waith mewn ysgolion i ddysgu sglliau fel bod mynediad i’r diwydiant fel cerddorion neu swyddi gysylltiedig yn fwy agored.

 

- Cefnogaeth i wasnanethau hyrwyddo all dynnu partneriaid at ei gilydd - yn ganolfannau, labeli a sefydliadau. Mae llawer yn gweithio yn y maes ond yn aml yn gweithio yn ynysig yn hytrach na rhan o strategaeth ehangach all dynnu ar adnoddau, profiadau a gwybodaeth gyfunol. 

 

4. Mae mwy o gynnyrch nac erioed ond mae lleihad yn niferoedd artistiaid newydd sydd yn ymddangos ac mae hynny yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffactorau hynny - cyfleon byw, cyfrwng a thirwedd sydd yn annog datblygiad artist a thyfu cynulledifa. 

 

5. Mae’r dechnoleg a’r mynediad i’r farchnad gennym - yn Gymraeg neu Saesneg - gweler enghraifft Alffa os am brofi sut y gall y Gymraeg lwyddo ar y gwasanaethau ffrydio. Yr hyn sydd ar goll wedyn yw tirwedd / llwybr sydd yn caniatau y twf angenrheidiol i artistiaid a chynulleidfa.

 

6. Dros y blynyddoedd mae diffyg gwariant cyhoeddus a diffyg strategaeth dymor hir i’r gwariant hwnnw, o’i gymharu gyda’r diwydiant teledu/ffilm, wedi arwain at sefyllfa lle nad oes cyd-destun i wariant a bod y seiliau anghenrheidiol i ddiwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn absennol. Dros y 30 mlynedd mae hyn wedi bod yn wir - o gyfnod Cool Cymru i’r cyfnod presennol. O greu strategaeth a thargedau tymor hir - wedi ei greu gyda arbenigwyr sydd yn deall y diwydiant ac yn deall Cymru/y Gymraeg - mae modd i wariant cyhoeddus boed hynny gan Gyngor y Celfyddydau neu fod yn ddeallus a pwrpasol yn hytrach nac mewn panic neu’r teimlad bod angen taflu ychydig o bres at rywbeth.

 

7. Canlyniad diffyg strategaeth yw problemau cerddoriaeth yng Nghymru heddiw i gyd a dyna pam bod gennym gyfle ar hyn o bryd i sicrhau bod conglfeini tŵf tymor hir synhwyrol yn ei le i fanteisio ar y gynulleidfa bresennol sydd yn cael ei amlygu drwy ffigyrau ffrydio. 

 

Diolch

 

Alun Llwyd

Prif Weithredwr

PYST

 

@pystpyst