Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
Tachwedd 2019
Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Cyllideb 2020 - 2021
1. Ar 5 Gorffennaf 2019, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes gyda dyddiadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2020-21, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2.
2. Ar 16 Gorffennaf, yn unol â Rheol Sefydlog 20.4, wedi iddo ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid, lluniodd y Pwyllgor Busnes amserlen er mwyn ystyried cyllideb 2020-21.
3. Ar 24 Medi 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 20.6, ac wedi ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid, diwygiodd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2020-21.
4. Ar 7 Tachwedd 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 20.6, diwygiodd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb 2020-21 unwaith eto, fel a ganlyn:
|
|
Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth
|
16 Rhagfyr 2019 |
Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth |
16 Rhagfyr 2019 |
Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth
|
31 Ionawr 2020 |
Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb
|
31 Ionawr 2020 |
Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol
|
3 Mawrth 2020 |