Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019

 

Lluniwyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan Is-adran y Gymraeg ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019. Rwy’n fodlon bod y manteision yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg

18 Rhagfyr 2019

 


 

RHAN 1

 

Disgrifiad

 

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 ("Rheoliadau 2019") yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â:

 

·         Hyd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ("y Cynllun")

·         Ffurf a chynnwys y Cynllun

·         Cyflwyno'r Cynllun i Weinidogion Cymru

·         Cymeradwyo’r Cynllun

·         Amseriad cyhoeddi'r Cynllun a sut i'w gyhoeddi

·         Ymgynghori ar y Cynllun

·         Adolygu'r Cynllun

·         Diwygio’r Cynllun

·         Dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu'r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013.

 

 

Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Nid oes gwybodaeth benodol y mae'r Gweinidog am ddod â hi i sylw'r Pwyllgor.

 

 

Cefndir deddfwriaethol

 

Gwneir y rheoliadau hyn o dan adrannau 84, 87 a 97 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ("Deddf 2013").

 

Mae adran 84 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (“y cynllun”), ac mae'n nodi y dylai Cynllun o'r fath gynnwys:

 

a.    cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn:

 

              i.        gwella'r broses o gynllunio'r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ("addysg cyfrwng Cymraeg") yn cael ei darparu yn ei ardal;

 

            ii.        gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;

 

b.    targedau'r awdurdod lleol ar gyfer gwella'r broses o gynllunio'r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau'r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;

 

c.    adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni'r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu'r cynllun diwygiedig blaenorol.

 

Mae adran 84 hefyd yn nodi pwy y mae'n ofynnol i awdurdod lleol ymgynghori â nhw wrth baratoi neu ddiwygio ei Gynllun, ac mae'n darparu pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi unigolion eraill y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â nhw.

 

O dan adran 85 o Ddeddf 2013, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gyflwyno ei Gynllun i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo. Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo, addasu neu wrthod Cynllun (gan osod eu cynllun eu hunain yn ei le). Mae is-adran (6) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i gymryd pob cam rhesymol i weithredu Cynllun a gymeradwywyd.

 

Mae adran 87 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fydd yn gwneud darpariaethau pellach ar faterion fel ffurf a chynnwys Cynllun, ei amseriad a'i hyd, cadw golwg ar Gynllun, ymgynghori arno, ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo a'i gyhoeddi. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth sy'n galluogi dau neu fwy o awdurdodau lleol i lunio cydgynllun.

 

Mae adran 87 hefyd yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau.

 

Mae adran 97 o Ddeddf 2013 yn darparu bod pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf yn cynnwys pŵer—

 

(a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol ar achos, gwahanol ardaloedd neu ddibenion gwahanol;

 

(b) i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol ar achos yn unig;

 

(c) i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

 

Gwneir Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 o dan y weithdrefn Negyddol.

 

Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i awdurdod lleol baratoi Cynllun deng mlynedd, y gyntaf i ddod yn weithredol o 1 Medi 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer y materion canlynol:

 

a)    Ffurf a chynnwys Cynllun (rheoliad 3)

b)    Hyd Cynllun (rheoliad 4)

c)    Erbyn pryd y bydd yn rhaid cyflwyno'r Cynllun i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo (rheoliad 5)

d)    Cymeradwyo Cynllun (rheoliad 6)

e)    Amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiad adolygu (rheoliad 7)

f)     trefniadau diwygio Cynllun (rheoliad 8)

g)    Y personau a'r cyrff y mae'n rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â nhw ynghylch y Cynllun drafft (rheoliad 9)

h)    Erbyn pryd y bydd yn rhaid cyhoeddi'r Cynllun (rheoliad 10) 

i)     Sut i gyhoeddi Cynllun (rheoliad 11)

j)     Dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu'r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 (rheoliad 12)

 

Diben y rheoliadau hyn yw gwella'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyfrannu at gyflawni'r disgwyliad o ran twf addysg cyfrwng Cymraeg, nawr ac yn y dyfodol.  Bydd gwella'r ffordd y caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio hefyd yn cyfrannu at gyflawni'r uchelgais genedlaethol hirdymor ar gyfer y Gymraeg a amlinellir yn strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Llywodraeth Cymru a'r gwaith o gyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru.

 

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu'r Galw (Cymru) 2013 ("Rheoliadau 2013") oedd y Rheoliadau cyntaf i'w gwneud o dan y pwerau yn Neddf 2013.  Mae'r rhain, ynghyd â Deddf 2013, yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer sut y dylai awdurdodau lleol gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.  Roedd y Cynlluniau statudol cyntaf yn cwmpasu'r cyfnod tair blynedd o 2014 i 2017. Rydym bellach yng nghyfnod 2017-2020.

 

Er bod Rheoliadau 2013 wedi gwella'r ffordd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynllunio drwy alluogi awdurdodau lleol i'w chynllunio o fewn fframwaith strwythuredig, daeth ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn 2015, yn ogystal ag adolygiad thematig Estyn o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i gasgliadau tebyg, sef nad oedd y Cynlluniau yn ddigon cydnaws â gweledigaeth hirdymor genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Roedd Adolygiad Brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020, a gomisiynwyd yn 2017 yn cydnabod yr angen am newid, nid yn unig o ran uchelgeisiau Cynlluniau awdurdodau lleol unigol ond hefyd o ran y fframwaith deddfwriaethol a amlinellwyd gan y Llywodraeth. Roedd yr adolygiad yn pwysleisio'r angen i newid y rheoliadau.  

 

Sefydlwyd Bwrdd Cynghori annibynnol rhwng Mai 2018 a Mawrth 2019. Rhoddodd y Bwrdd sylw i'r newidiadau yr oedd angen eu gwneud i Reoliadau 2013, yng nghyd-destun argymhellion yr Adolygiad Brys a'r datblygiadau polisi ehangach ym myd addysg (ee diwygio'r cwricwlwm, Deddf ADY, dynodiadau ysgolion yn ôl darpariaeth Gymraeg, gofal plant a threfniadau teithio dysgwyr).

Yng ngoleuni'r uchod, daeth y Bwrdd i'r casgliad nad oedd y strwythur deddfwriaethol presennol bellach yn cefnogi cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg gan awdurdodau lleol i’r graddau sydd ei hangen i ymateb i’r uchelgais genedlaethol hirdymor ar gyfer y Gymraeg. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Cynghori ym mis Mai 2019 yma: https://llyw.cymru/gwellar-broses-cynllunio-addysg-gymraeg

Sut y bydd yr is-ddeddfwriaeth yn gwella'r sefyllfa bresennol

 

 

Ymestyn hyd y Cynllun o'i gylch 3 blynedd presennol i 10 mlynedd.

Galwodd yr Adolygiad Brys o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg am ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflawni'r Cynlluniau, ac argymhellodd y dylai'r amserlen fod yn debycach i gynlluniau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru. Hefyd, caiff y Cyfrifiad, sef ein ffynhonnell ddata fwyaf dibynadwy o hyd i asesu hyfywedd y Gymraeg a’r prif ddangosydd cynnydd o ran trywydd Cymraeg 2050, ei gynnal bob 10 mlynedd. Mae ystyriaethau cynllunio eraill sy'n berthnasol i'r Cynlluniau yn gweithredu dros gyfnod hirach, ee Cynlluniau Datblygu Lleol (10 mlynedd) ac Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant (5 mlynedd) sy’n ofynnol o dan Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016, a chynlluniau datblygu unigol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a gyflwynwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (5 mlynedd). Y nod yw bod y Cynlluniau yn arwain at broses gynllunio well ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, gall gymryd nifer o flynyddoedd i greu proses gynllunio effeithiol, mwy yn aml na chyfnod tair blynedd Cynllun o dan y system bresennol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun sy'n para 10 mlynedd. Bydd y Cynlluniau yn effeithiol o 1 Medi 2021 tan 31 Awst 2031 (yn achos y Cynllun cyntaf). Bydd yr amserlen hon yn gydnaws â charreg filltir 2031 Cymraeg 2050. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer amgylchiad lle, am ba reswm bynnag, os na all Weinidogion Cymru gymeradwyo Cynllun erbyn 1 Medi yna bydd y Cynllun hwnnw yn cael effaith un mis calendr ar ôl i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r cynllun hwnnw. Fodd bynnag, bydd y Cynllun yn dal i ddod i ben ar yr un pryd (31 Awst 2031) â'r holl Gynlluniau sy'n weithredol o 1 Medi.

 

Dileu'r ddyletswydd i gynnal asesiad o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni a chyflwyno targedau 10 mlynedd sy'n benodol i bob awdurdod lleol, a'r rheiny'n gydnaws â cherrig milltir targed cenedlaethol Cymraeg 2050 o ran addysg

Ers cyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn 2013, mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cynnal o leiaf un asesiad o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni. Bwriad gwreiddiol yr asesiadau oedd rhoi cyfeiriad a gwell dealltwriaeth i awdurdodau lleol o’r angen am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ble roedd ei hangen, ac erbyn pryd. Serch hynny, yn gyffredinol nid yw asesiadau o'r galw ymhlith rhieni wedi arwain at welliant sylweddol yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Gan mai'r duedd yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yw cynnal asesiad unwaith bob tair blynedd, nid yw'r asesiadau yn para'n gyfoes am yn hir iawn ac ni allant adlewyrchu'r newidiadau ieithyddol cyflym a welir mewn rhai cymunedau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r ddyletswydd i asesu'r galw gan rieni gyda gofyniad ar awdurdodau lleol i amlinellu yn eu Cynllun y cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod oes y Cynllun.  Bydd cynllunio ar sail targed hirdymor trosfwaol yn annog cynllunio gwell, mwy strategol ac uchelgeisiol. Gyda tharged i anelu ato dros gyfnod penodol o amser, mae gan awdurdod lleol gyfle i ystyried y llwybrau a'r opsiynau amrywiol sydd ar gael iddo i gyrraedd y targed hwnnw a barnu’r dull a ffafrir. Y bwriad yw y bydd mesur nifer a chanran y dysgwyr sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg o'r flwyddyn flaenorol 1 (sef newid o'r dangosydd presennol o blant 7 oed) yn galluogi awdurdod lleol i ymateb yn brydlon ac yn fwy effeithlon i'r galw am lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg. Dyma un o'r argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Brys o'r Cynlluniau.

 

Cynnwys darpariaeth yn y rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i ganllawiau Llywodraeth Cymru wrth gyfrifo eu targedau.

O ran targedau yr awdurdodau lleol unigol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno methodoleg ar gyfer pennu targedau.  Caiff hyn ei gynnwys yn y ddogfen ganllawiau i Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 i'w dyroddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 87 (4) o Ddeddf 2013. Mae'r fethodoleg yn gyson â'r cerrig milltir yn Cymraeg 2050 sy'n ymwneud â'r cynnydd yn y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen er mwyn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r broses cyfrifo niferoedd wedi'i seilio ar nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 (5/6 oed) a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl gwybodaeth Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Yn ogystal, mae'r awdurdodau wedi'u grwpio i wahanol gategorïau sy'n dangos y gwahaniaethau (a chan gydnabod yr elfennau tebyg) rhwng y 22 awdurdod lleol.

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol bennu eu targed 10 mlynedd ar sail y fethodoleg yng nghanllawiau statudol Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019, y mae'n rhaid i awdurdod lleol roi sylw dyledus iddynt.  Cyhoeddir y canllawiau yn gynnar ym mis Chwefror 2020.

Mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys y Cynllun

Mae Atodlen y rheoliadau hyn yn nodi'r union faterion sydd i'w cynnwys yn y Cynllun, sydd i'w gosod ar ffurf targedau a datganiadau penodol. Mae'r datganiadau yn cwmpasu sbectrwm eang o ystyriaethau sy'n angenrheidiol er mwyn gallu cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn strategol. Mae Atodlen y rheoliadau hyn yn cynnwys llai o ddatganiadau na Rheoliadau 2013 (20 yn lle 25). Mae'r datganiadau yn Atodlen y Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud defnydd gwell o ddata a gwybodaeth i'w chasglu drwy ddeddfwriaeth eraill fel sail i'r gwaith o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Rhaid i'r Cynllun, er enghraifft, gynnwys datganiad sy'n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio gwybodaeth a gaiff drwy'r Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sy'n ofynnol o dan ddyletswyddau a nodir yn rheoliad 3 Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016.  Mae'n ofynnol hefyd i'r Cynllun ddefnyddio gwybodaeth a gaiff drwy adolygiadau sy'n ofynnol o dan adran 63 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

 

Er bod y gofyniad statudol i baratoi a gweithredu Cynllun yn cael ei roi i'r awdurdod lleol, mae profiad wedi dangos bod cydweithredu cryf ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynyddu'r budd. Rhoddwyd pwyslais, felly, ar ddatblygu partneriaethau effeithiol i gefnogi awdurdodau lleol i wneud y newidiadau sydd eu hangen i'w darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg dros y cyfnod 10 mlynedd.

 

Er bod rhai o ddatganiadau Rheoliadau 2013 wedi'u dileu, mae eraill wedi'u cyfuno a datganiadau newydd wedi'u cyflwyno. Ymhlith y datganiadau newydd mae:

 

              datganiadau sy'n delio'n benodol â chyflwyno targedau 10 mlynedd

              datganiadau am ddefnyddio data asesu digonolrwydd gofal plant fel sail i gynllunio darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg a gynhelir yn gynnar

              datganiadau am ystyried sut y bydd awdurdod lleol yn cynyddu nifer y plant oedran derbyn a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg

              datganiadau am ganolbwyntio'n fwy ar gydweithio a gwaith partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill a chonsortia addysg rhanbarthol.

 

Adolygu a diwygio'r Cynllun

O ran cadw golwg ar y Cynllun, rydym yn cyflwyno gofyniad i awdurdodau lleol ddarparu diweddariad blynyddol ar ffurf adroddiad adolygu cryno, ac rydym o'r farn bod hyn yn rhesymol ac yn gymesur. Nod y strwythur adrodd newydd hwn yw lleihau biwrocratiaeth, a chanolbwyntio'n glir ar weithredu. Hwn yw'r unig adroddiad blynyddol y byddai angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

O ran cyflwyno Cynllun diwygiedig, mae darpariaethau yn Rheoliadau 2019 i ddiwygio'r Cynllun dim ond os, ar ôl cyflwyno'r adroddiad adolygu blynyddol, mae'n glir i’r awdurdodau lleol bod angen Cynllun diwygiedig.

Newid gofynion sy'n ymwneud ag unrhyw wybodaeth ategol sydd i'w chynnwys mewn cynllun

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn nodi'n benodol bellach pa wybodaeth ategol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei chynnwys yn eu Cynlluniau, fel yn y Rheoliadau cyfredol. Yn hytrach, yn y canllawiau statudol, byddwn yn nodi manylion yr wybodaeth ategol y dylid ei chynnwys yng Nghynllun yr awdurdod lleol.  Rydym am sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn parhau i fod mor berthnasol â phosibl, yn ogystal ag yn ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau a allai effeithio ar gynnwys Cynlluniau wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno. Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 yn un enghraifft o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm sy'n gwahardd cyhoeddi data ysgol penodol o dan drefniadau adrodd cyfredol Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Dirymu Rheoliadau 2013 ac arbed y Cynlluniau a wnaed o dan Reoliadau 2013

 

Daw'r Rheoliadau i rym ar 1 Ionawr 2020.  Bydd yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol gyflwyno Cynlluniau drafft i Weinidogion Cymru eu cymeradwyo y flwyddyn gyntaf ar 31 Ionawr 2021, ac wedi hynny bob 10 mlynedd yn unol â'r Rheoliadau. 

 

Bydd cynlluniau a gymeradwyir, ac a fydd yn weithredol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn parhau i fod yn weithredol hyd nes y bydd Cynllun 10 mlynedd cyntaf yr awdurdod lleol yn weithredol.

 

 

Risgiau peidio â gwneud Rheoliadau

 

Byddai peidio â newid y fframwaith deddfwriaethol cyfredol sy'n sail i'r broses o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn effeithio'n andwyol ar allu awdurdodau lleol i gyflawni prif nod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, sef gwella'r ffordd y caiff darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio a safon y ddarpariaeth.

 

Mae profiad Llywodraeth Cymru o fonitro Cynlluniau, ynghyd ag adborth cyson gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allanol, yn ogystal â'r adolygiadau amrywiol o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg y soniwyd amdanynt eisoes, yn cadarnhau o'r newydd y farn gyffredinol nad yw Rheoliadau 2013 yn ategu bellach yr uchelgais genedlaethol o ehangu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Mae angen inni fod mewn sefyllfa lle mae mynediad mwy cyfartal i ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, fel bod mwy o ddysgwyr nid dim ond yn cael dewis darpariaeth addysg o'r radd flaenaf, ond hefyd y cyfle i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol, fel y gallant fod yn hyderus a rhugl yn y Gymraeg a Saesneg o leiaf.

 

Ystyrir y gofynion presennol o ran cadw golwg ar Gynllun yn hynod fiwrocrataidd, heb adael fawr o amser i ganolbwyntio ar weithredu'r ymrwymiadau a nodir ynddo. Mae rhai gofynion, ee yr asesiadau o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ymhlith rhieni, wedi bod yn aneffeithiol. Nid oedd yr asesiadau yn para'n gyfoes am yn hir iawn ac roedd yr wybodaeth ynddynt yn annibynadwy. Nid ydym wedi gweld awdurdodau lleol yn mabwysiadu gwell dulliau o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg o ganlyniad, fel y'i bwriadwyd. Os dewisir dilyn y drefn bresennol o ran y rheoliadau, bydd y gofyniad penodol hwn yn gweithio'n uniongyrchol yn erbyn yr uchelgais a nodir yn Cymraeg 2050 i ymateb yn gryf ac yn rhagweithiol i ddatblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Mantais symud i fframwaith sydd, fel man cychwyn, gyda tharged clir i gynllunio, yw bod mwy o gyfleoedd i awdurdodau lleol fynd ati mewn ffordd hyderus ac uniongyrchol i dyfu a gwella'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Rhoddir yr amser i awdurdodau ystyried materion trefniadaeth ysgolion ar draws yr awdurdod addysg yn ei chyfanrwydd, neu gydgysylltu darpariaeth ag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill. Mae hyn oll yn cefnogi dull cynllunio fydd yn y pen draw yn arwain at fwy o ddewis, a gwell safon o ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i bob dysgwr.

 

Mae yna risg y caiff cyfle ei golli i wneud cyfraniad sylweddol a phwysig yn y modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg os na chaiff y Rheoliadau hyn eu gwneud. Nid oes amheuaeth bod uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn newid y drafodaeth o gwmpas y Gymraeg, gan ddod ag gwell ymwybyddiaeth o fanteision bod yn ddwyieithog ac yn amlieithog yng Nghymru a thu hwnt. Mae adeiladu ar seiliau addysg cyfrwng Cymraeg sefydledig yn hanfodol i sicrhau bod y cyfleoedd ar gael i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddatblygu'r sgiliau ieithyddol y bydd eu hangen arnynt mewn Cymru ddwyieithog.

 

 

Ymgynghori

 

Rhwng 30 Mai ac 13 Medi 2019, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 15 wythnos er mwyn holi barn pobl am Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a'r Canllawiau (drafft).

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru hefyd bedwar digwyddiad ymgynghori cyhoeddus mewn ysgolion yng Ngheredigion, Conwy, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf. Daeth tua 100 o bobl i'r rhain, gan gynnwys penaethiaid; cynrychiolwyr awdurdodau addysg lleol; unigolion sydd â diddordeb yn y Gymraeg; cynrychiolwyr undebau athrawon; colegau addysg bellach a chynrychiolwyr prifysgolion. Fel rhan o'r digwyddiadau, cafwyd trafodaethau ar hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a manteision dwyieithrwydd.  Cynhaliwyd sesiwn i bobl ifanc hefyd ar 1 Mehefin 2019 yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gydag aelodau Bwrdd Syr IfanC, (pwyllgor ieuenctid cenedlaethol yr Urdd).

 

Yn ogystal â'r rhanddeiliaid a nodwyd eisoes uchod, derbyniwyd ymatebion ysgrifenedig gan gyrff addysg fel Estyn, CLlLC, consortia rhanbarthol; Cymwysterau Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru; yn ogystal â Chomisiynydd y Gymraeg, y Comisiynydd Plant, a chyrff ac unigolion eraill. Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o 72 o ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad hwn.

 

Rydym yn fodlon bod y newidiadau arfaethedig yn Rheoliadau drafft 2019 wedi'u croesawu'n gyffredinol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Yn gyffredinol, mae'r ymatebion wedi bod o blaid y ddau newid mwyaf sylweddol, sef ymestyn amserlen Cynllun i 10 mlynedd a dileu'r gofyniad i gynnal asesiad o'r galw ymhlith rhieni, gan ei ddisodli â tharged a bennir gan bob awdurdod unigol i'w gyrraedd erbyn diwedd y cyfnod 10 mlynedd newydd.

 

Cadarnhaodd yr ymatebion ein safbwynt bod cylch cynllunio 3 blynedd a'r ddyletswydd i gynnal asesiad costus ac aneffeithiol o'r galw yn andwyol i'n hymrwymiad cenedlaethol i ddatblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a dinasyddion dwyieithog ar gyfer y dyfodol. Fel y mae ar hyn o bryd, nid yw'r fframwaith rheoleiddio yn darparu'r seilwaith angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg. Mynegodd sawl un rwystredigaeth, er enghraifft, ynghylch yr amser a dreulir ar hyn o bryd yn diweddaru'r Cynllun tair blynedd yn lle datblygu a gweithredu'r ymrwymiadau o'i fewn. Cyfeiriodd eraill at y cyfle y byddai Cynllun 10 mlynedd yn ei greu o ran gwella'r broses gynllunio strategol a manteision gweithio tuag at nod a gweledigaeth hirdymor.   

 

Roedd ymatebion ynghylch y gofyniad i awdurdodau lleol amlinellu yn eu Cynllun y cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal yr awdurdod lleol dros oes y Cynllun, yn awgrymu fod cyflwyno'r targedau hyn yn cael ei ystyried yn gam synhwyrol a rhesymol. Mae'r fethodoleg arfaethedig i gyfrifo'r targedau hyn, a ffurfiodd ran o'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau 2019 drafft ac a groesawyd yn gyffredinol gan ymatebwyr a rhanddeiliaid, yn dangos cysylltiad clir rhwng y targedau unigol fesul ardal ac uchelgais Cymraeg 2050

 

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn cefnogi gweld awdurdodau lleol yn cynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd llawer mwy rhagweithiol.  Serch hynny, roedd ambell un am nodi bod yn rhaid cydnabod ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth awdurdod lleol, ee yr hinsawdd wleidyddol, capasiti'r gweithlu ac ansicrwydd ariannol.

Rydym yn sylweddoli na all awdurdod lleol ymateb i holl elfennau'r broses o gynllunio Cymraeg mewn addysg ar ei ben ei hun, a bod angen rhanddeiliaid eraill i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'r newid yn ffocws rhai datganiadau (a nodir yn Atodlen rheoliad 3), sy'n cyfeirio at awdurdodau yn gweithio mewn partneriaeth yn hytrach na gweithredu'n annibynnol, yn cydnabod hyn.

Rydym yn glir mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain yr ymateb cenedlaethol i faterion fel addysg gychwynnol i athrawon, trefniadau teithio dysgwyr, y gweithlu ac adnoddau. Fodd bynnag, mae angen i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ein helpu i amlygu’r bylchau y mae angen rhoi sylw iddynt. Dyna pam mae'r gofynion o ran Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn dal i gynnwys y materion hyn.

Mae rhai mân-newidiadau wedi'u gwneud i Reoliadau 2019 ers yr ymgynghoriad. Mae rheoliad 7 wedi'i ailddrafftio i sicrhau eglurder ynghylch y trefniadau adrodd blynyddol. Rhoddwyd ystyriaeth benodol hefyd i'r Atodlen i'r Rheoliadau oherwydd, er bod llawer yn cytuno â geiriad y datganiadau, roedd ambell un yn feirniadol, gan nodi bod angen targedau clir yn lle datganiadau, yn enwedig ynghylch materion yn ymwneud â dilyniant dysgwyr. Mae mân-newidiadau wedi'u gwneud a thargedau wedi'u hymgorffori, lle bo hynny'n ymarferol. 

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael yn:  https://llyw.cymru/rheoliadau-cynlluniau-strategol-cymraeg-mewn-addysg-cymru-2019-ar-canllawiau-drafft

 

 

 

 

 

 

 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

1.    Opsiynau

 

1.1 Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn ystyried dau opsiwn.

 

 

2.    Costau a buddiannau

 

OPSIWN 1: Cadw at y drefn bresennol (hy dim newid)

 

2.1 Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn paratoi cynlluniau o dan adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Caiff cynlluniau eu paratoi mewn cylch tair blynedd o 1 Ebrill i 31 Mawrth (er enghraifft 1 Ebrill 2015 – 31 Mawrth 2018) ac mae’n rhaid i gynlluniau newydd drafft gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu cymeradwyo yn ystod mis Rhagfyr y flwyddyn cyn y daw’r cynlluniau sydd ar waith i ben. O dan yr opsiwn hwn bydd y trefniadau statudol hyn yn parhau.

 

Costau

 

2.2 Dyma’r opsiwn dim newid, ac nid oes unrhyw gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn felly.  Mae’r adran ganlynol yn cyflwyno crynodeb o’r costau sy’n gysylltiedig â’r gofynion presennol.  Amcangyfrifwyd costau’r system bresennol yn wreiddiol yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013[1].

 

Costau Gweinyddu Llywodraeth Cymru

 

2.3  Mae costau gweinyddu Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â gweinyddu’r prosesau sy’n ymwneud â pharatoi ac adolygu Cynlluniau. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno eu cynlluniau drafft i’w cymeradwyo ac mae’r cynlluniau yn cael eu monitro’n flynyddol ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo. Mae hyn yn cynnwys neilltuo staff i oruchwylio’r broses o gyflwyno cynlluniau ac ymgymryd â’r broses gymeradwyo a monitro.

2.4 Mae’r tasgau sy’n cael eu gwneud gan staff Llywodraeth Cymru yn cynnwys asesu pob Cynllun drafft unigol, rhoi adborth ysgrifenedig ac ar lafar i awdurdodau lleol, cael diweddariadau ar gynnydd a diwygiadau ac ymateb iddynt, a chynghori Gweinidogion ar gynnwys Cynlluniau ac ar y cynnydd a wnaed. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ymgymryd â dyletswyddau rheoli prosiectau sy'n gysylltiedig â gweithredu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, er enghraifft adolygu dulliau gweithredu Cynlluniau effeithiol awdurdodau lleol, ymchwil i fodelau gweithredu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg i hwyrddyfodiaid, datblygu darpariaeth addysgu amgen gan ddefnyddio technolegau digidol, yn ogystal â monitro dulliau effeithiol o weithredu systemau grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg. Mae'r dyletswyddau hyn yn aml yn newid bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweinyddu’r system ers 2013, felly mae ganddi ddealltwriaeth gadarn yn seiliedig ar dystiolaeth o’r lefelau staffio sydd eu hangen i ymdrin â’r system.  Ar hyn o bryd, dyma nifer y staff y cytunwyd arno i weithio ar y Cynlluniau: 1 Swyddog Band Gweithredol 2; 4 Swyddog Band Rheoli 1 (cyfwerth ag amser llawn) ac 1 Swyddog Band Rheoli 2 (cyfwerth ag amser llawn). Byddai’r lefelau staffio hyn yn parhau o dan yr opsiwn hwn.  Mae’r costau staffio blynyddol cylchol presennol fel a ganlyn:

 

 

Gradd Staff

Nifer

Cost*

Cyfanswm y Gost (i’r £’000 agosaf)

Band Gweithredol 2

1

£76,308

                                     £76,000

Band Rheoli 1

4

£57,977

                                   £232,000

Band Rheoli 2

1

£45,644

                                     £46,000

 

 

 

                                   £354,000

 

*Mae’r gost yn seiliedig ar y costau cyflog gros blynyddol cyfartalog ar gyfer 2018-19.  Mae'r costau staff yn cynnwys argostau (hy cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn y cyflogwr). 

Yn ogystal â’r costau staff a amlinellir uchod, ceir costau teithio o tua £2,000 y flwyddyn, yr eir iddynt wrth gyfarfod ag awdurdodau lleol. Costau cylchol blynyddol yw’r rhain, sydd eisoes yn cael eu hariannu o Gostau Rhedeg Uniongyrchol Llywodraeth Cymru.

 

Cyfanswm y gost i Lywodraeth Cymru, felly, yw £356,000 y flwyddyn.

 

 

Costau amcangyfrifedig Awdurdodau Lleol

 

2.5 Costau sy’n ymwneud â pharatoi Cynlluniau a’u rhoi ar waith:

Mae awdurdodau lleol yn neilltuo amser i swyddogion baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac ymateb i adborth gan Lywodraeth Cymru. Caiff amser swyddogion ei neilltuo hefyd er mwyn helpu i roi’r cynlluniau ar waith yn eu hardal leol, sy'n cynnwys arwain ar fforymau Cymraeg mewn addysg. Fel rheol, nid yw'r rôl hon yn swydd lawn amser o fewn awdurdod lleol. Ar sail profiad Llywodraeth Cymru o ddelio ag awdurdodau lleol ers cyflwyno'r trefniadau hyn, rydym yn amcangyfrif ei fod yn cymryd amser swyddog Band Rheoli 1 a swyddog Band Rheoli 3 cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol am gyfnod o ryw 4 mis y flwyddyn.

 

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyhoeddi eu Cynlluniau. Maent yn tueddu i wneud hyn drwy eu cyhoeddi ar eu gwefannau eu hunain a gallant argraffu copïau ar gais os oes angen. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â hyn yn fach iawn ac nid yw’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn cyhoeddi copïau caled o’u cynlluniau fel rheol.

 

Dyma amcangyfrif o gostau staffio cylchol y flwyddyn pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru:

 

 

Gradd Staff

Nifer

*Cost (i’r £000 agosaf)

BRh1

0.33

£19,132x 22 = £421,000

BRh3

0.33

£11,576x 22 = £255,000

Cyfanswm

 

                                                       £676,000

 

*Mae’r gost yn seiliedig ar gostau cyflog gros blynyddol cyfartalog Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.  Mae'r costau staff yn cynnwys argostau (hy cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn y cyflogwr)

 

2.6 Cynnal arolygon i fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg

Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu’r galw ymhlith rhieni am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriedir i’r asesiadau roi cyfeiriad a gwell dealltwriaeth i awdurdodau lleol o’r angen am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ble mae ei hangen, ac erbyn pryd. Byddai'r gofyniad hwn yn parhau o dan opsiwn 1.

 

Amcangyfrifir bod y broses o weinyddu a dadansoddi arolygon yn costio £15,000 ar y mwyaf fesul arolwg. Mae’r canllawiau yn argymell cynnal arolygon bob tair blynedd. Felly, amcangyfrifir y bydd y broses o gynnal arolygon o’r fath yn debygol o gostio £5,000 y flwyddyn ar y mwyaf ar gyfartaledd, fesul awdurdod lleol, fel cost gylchol. Oherwydd y ffordd y maent yn categoreiddio ysgolion, nid yw’r awdurdodau lleol yng Ngwynedd nac yn Ynys Môn yn cynnal arolygon, ac felly mae’r gost ond yn berthnasol i 20 o awdurdodau lleol, nid 22.

 

Cyfanswm y Gost: £5000 y flwyddyn i 20 o awdurdodau lleol = cost gylchol o £100,000 y flwyddyn.

 

Cyfanswm Costau Gweinyddu yr opsiwn i Gadw at y Drefn Bresennol

 

2.7 Mae cyfanswm costau gweinyddu cylchol y flwyddyn fel a ganlyn:

 

 

Costau staff Llywodraeth Cymru

                                             £356,000

Costau staff awdurdodau lleol

                                             £676,000

Cynnal Arolygon

                                             £100,000

CYFANSWM

                                          £1,132,000

 

 

Costau rhoi’r Cynlluniau ar waith

 

2.8 Unwaith y bydd y Cynlluniau wedi’u cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, dylent gael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol.

 

2.9 Mae costau yn gysylltiedig â chynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Gall y costau hyn gynnwys adeiladu ysgolion newydd neu ailwampio hen adeiladau, ehangu'r ddarpariaeth gyfredol neu redeg canolfannau trochi. Gan gydnabod y costau gweinyddol, y costau o ran trefniadau teithio dysgwyr, a'r costau staffio (meithrin, oedran statudol yn ogystal â chydlynwyr ADY) sy'n codi yn sgil y datblygiadau hyn, dylid ystyried hyn fel gwariant ar y system addysg yn hytrach na gwariant ar gyflawni polisi'r Gymraeg. Mae gwariant ar gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, i raddau, yn disodli gwariant a fyddai wedi cael ei wario fel arall ar addysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

2.10      Caiff cyllid ar gyfer addysg oedran statudol mewn ysgolion yng Nghymru, fel yn achos gwasanaethau eraill a ddarperir gan lywodraeth leol, ei ddarparu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru drwy’r setliad refeniw llywodraeth leol sy'n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw.  Nid yw’r cyllid wedi’i glustnodi’n benodol, gan fod Llywodraeth Cymru o’r farn mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu anghenion ac amgylchiadau lleol ac ariannu ysgolion yn unol â hynny. Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn eu helpu i nodi anghenion darpariaeth cyfrwng Cymraeg a phenderfynu sut i gynllunio eu gwariant ar ysgolion. Ar ôl i’r Grant Cynnal Refeniw gael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, yr awdurdodau unigol sy’n gyfrifol am bennu cyllidebau ar gyfer eu hysgolion drwy ddefnyddio fformiwla ariannu leol. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o’r cyllid ar gyfer cyllidebau ysgolion gael ei ddosbarthu ar sail nifer y disgyblion. Fodd bynnag, caiff awdurdodau lleol benderfynu sut i bwysoli'r niferoedd disgyblion ar sail nifer o ffactorau, ee Angen Dysgu Ychwanegol a chyfrwng iaith. 

2.11      Mae gan awdurdodau ddisgresiwn i ddosbarthu’r 30% sy’n weddill ar sail amrywiaeth o ffactorau er mwyn iddynt ystyried amgylchiadau ysgolion unigol, er bod yn rhaid cadw blaenoriaethau gwahanol a chyllidebau sy'n tynhau mewn cof. Yn unol â’r fframwaith rheoleiddio, wrth bennu eu fformiwla gyllido, gall awdurdodau lleol ystyried p’un a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chyllido ysgolion yn unol â hynny, gan ystyried y costau sy’n gysylltiedig â darparu’r un gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

2.12      Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dosbarthu £150m y flwyddyn drwy'r pedwar consortiwm rhanbarthol ar ffurf Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol (“GGYCRh”). Mae hwn yn gyfuniad o grantiau addysg eraill Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion, wedi'u pecynnu'n un ffrwd gyllid. Y Grant Gwella Addysg (“GGA”) yw £118m ohono. Diben y rhaglen gyllido hon yw helpu’r consortia rhanbarthol a’r awdurdodau cysylltiedig o fewn y consortia i wireddu’r dyheadau a chyflawni’r blaenoriaethau i ysgolion ac addysg a amlinellwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, a’n cynllun gweithredu ar gyfer addysg, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl.

2.13       Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl yn nodi sut y bydd y system ysgolion yn symud ymlaen dros y cyfnod 2017-21, pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith gyda ffocws ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol a rhagoriaeth a thegwch mewn system hunanwella. Mae’r cynllun gweithredu yn canolbwyntio ar godi safonau i bawb, gan gau’r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy’n ennyn balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, sef ein dyheadau cyffredinol dros addysg yng Nghymru.

 

2.14      Un o'r meini prawf o ran cyllid y cytunwyd arno gyda'r consortia yw bod cymorth yn cael ei roi i weithredu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol. 

 

2.15      Felly, ar awdurdodau lleol y mae’r ddyletswydd i sicrhau bod darpariaeth addysgol addas ar gael i bob plentyn a nhw yn unig sy’n penderfynu ar y swm o gyllid a neilltuir gan bob awdurdod ar gyfer cyllidebau ysgolion. Disgwylir i awdurdodau lleol drefnu eu hysgolion mor effeithlon â phosibl er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau er budd pob disgybl. Felly dylid ystyried y broses o roi eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar waith a’r costau sy’n gysylltiedig â hynny yng nghyd-destun ehangach cyllido system addysg yr awdurdod.

 

Manteision ac anfanteision

 

2.16      Y manteision sy’n gysylltiedig â’r opsiwn hwn i gadw at y drefn bresennol yw bod Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol yn rhannu’r cyfrifoldeb am greu system gynllunio fwy effeithiol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg sy’n adlewyrchu anghenion lleol. Mae’r gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i baratoi Cynllun, a’r gofyniad bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo a monitro’r Cynllun hwnnw, yn sicrhau bod system cynllunio ac atebolrwydd lleol a chenedlaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r ffaith bod cael cynlluniau yn ofyniad statudol wedi gwella gwaith cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, i’r graddau y maent yn galluogi awdurdodau lleol i gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg o fewn fframwaith strwythuredig.

2.17      Prif anfantais yr opsiwn hwn i gadw at y drefn bresennol yw nad yw darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn newid yn ddigon cyflym i gyfrannu’n effeithiol tuag at darged y Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel y nodir yn Rhan 1, ategwyd hyn gan ymchwiliad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yn 2015[2] ac adolygiad thematig o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gan Estyn yn 2016[3]. Daeth y ddau i gasgliadau tebyg, sef nad oedd y cynlluniau yn ddigon cyson â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac y gallai’r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrth bennu targedau mewn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gael ei chryfhau.

2.18      Mae’r adolygiadau allanol y cyfeirir atynt yn 2.17 (uchod), yr Adolygiad Brys, a’r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Cynghori Gweinidogol yn 2017 (y cyfeirir ato yn Rhan 1), yn ogystal â phrofiadau Llywodraeth Cymru wrth gymeradwyo a monitro Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg oll yn cyfeirio at brif anfantais y system bresennol ac yn cryfhau’r ddadl dros newid. Hynny yw, os na fydd y ffordd y mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn cynllunio eu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn newid, ni fydd y nifer ychwanegol o blant sydd eu hangen mewn addysg cyfrwng Cymraeg i gyflawni’r targedau cenedlaethol a bennwyd gan Cymraeg 2050 yn cael ei gwireddu. Mae’r Rheoliadau hynny'n deillio o’r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Cynghori ac yn mynd i’r afael ag anfanteision yr opsiwn i gadw at y drefn bresennol.

 

 

OPSIWN 2: Cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Strategol mewn Addysg (Cymru) 2019

 

Costau

 

2.19      Mae Opsiwn 1 uchod yn nodi’r categorïau canlynol o gostau:

 

2.20      Ni chredwn y byddai dilyn Opsiwn 2 a chyflwyno’r Rheoliadau hyn yn cael effaith ar y Costau Gweinyddu sy’n gysylltiedig â pharatoi a monitro cynlluniau. Bydd y newid o lunio cynlluniau tair blynedd i lunio cynllun 10 mlynedd yn lleihau nifer y cynlluniau y mae’n rhaid eu paratoi gan awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn ymgynghori ar Gynllun diwygiedig ac yn ei gyflwyno bob blwyddyn. Yn ymarferol ni fydd hyn yn effeithio ar waith Llywodraeth Cymru o fonitro’r ffordd y rhoddir y cynlluniau ar waith, nac ar y gwaith o gynghori awdurdodau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion am gynnydd, oherwydd bydd yn rhaid i’r cynlluniau gael eu monitro’n barhaus drwy gydol eu hoes am 10 mlynedd. Hefyd, ni fydd y ffaith y bydd yn rhaid i awdurdodau baratoi adroddiad cynnydd blynyddol, a pharatoi cynlluniau diwygiedig o bosibl os nad yw’r cynnydd yn foddhaol, yn cael fawr ddim effaith ar lwyth gwaith awdurdodau lleol.

2.21      Mae’r Rheoliadau a gaiff eu cyflwyno os dewisir Opsiwn 2 yn dileu’r dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynllunio eu darpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar ganlyniadau o asesiad o angen gan rieni. O dan yr adran yn Opsiwn 1 sy’n ymwneud â chostau, amcangyfrifwyd bod y ddyletswydd hon yn costio cyfanswm cost gylchol o £100,000 y flwyddyn (cyfanswm y gost ar gyfer 20 o awdurdodau lleol). O dan Opsiwn 2, ni fyddai angen mynd i’r gost hon ac felly byddai’n cael ei harbed.

2.22      Mae’n bosibl y bydd costau cynyddol o ran y gwaith o baratoi cynlluniau o dan Opsiwn 2 o gymharu â’r drefn bresennol. Byddai’r costau hyn yn rhai gweinyddol yn yr ystyr y bydd yn rhaid i awdurdodau o bosibl ymgysylltu â mwy o staff yn ystod y broses o bennu targedau, gan gynnwys cydweithwyr ym maes ystadegau, cyllid a threfniadaeth ysgolion. Fodd bynnag, ni fyddent yn mynd i’r gost hon bob blwyddyn. Cost untro fyddai, y byddent yn mynd iddi wrth baratoi’r cynllun 10 mlynedd.

 

2.23      Ym marn Gweinidogion Cymru, nid oes fawr ddim gwahaniaeth o ran costau gweinyddu rhwng Opsiwn 1 ac Opsiwn 2. 

 

Costau rhoi’r cynlluniau ar waith

 

2.24      Fel y nodwyd yn Opsiwn 1 uchod, bydd yn rhaid i’r costau sy’n gysylltiedig â rhoi cynlluniau ar waith a ddatblygir o dan y Rheoliadau arfaethedig ddod o setliad refeniw awdurdodau lleol fel y caiff ei ddarparu iddynt gan Lywodraeth Cymru. O dan yr opsiwn hwn, bydd y consortia rhanbarthol hefyd yn parhau i gael cyllid GGA (sy'n rhan o Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol) gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i wireddu’r dyheadau a chyflawni’r blaenoriaethau i ysgolion ac addysg a amlinellwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, a’r cynllun gweithredu ar gyfer addysg, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl. 

2.25      Disgwylir y bydd y Rheoliadau a gynigir o dan yr Opsiwn 2 hwn yn arwain at newid sylweddol yn y gwaith o gynllunio ac, yn y pen draw, ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg . Bydd hyn yn ofynnol er mwyn cyflawni’r targed o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd hyn yn golygu ad-drefnu darpariaeth addysg mewn sawl awdurdod lleol, gan arwain at sefyllfa lle mae mwy o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

2.26      Fodd bynnag, ni fydd y Rheoliadau eu hunain yn arwain at sefyllfa lle mae’n rhaid i awdurdodau addysgu mwy o blant gan na fydd y Rheoliadau yn effeithio ar dueddiadau poblogaeth na demograffig. Ond efallai y bydd angen ystyried mwy o leoedd ysgol er mwyn darparu nifer ddigonol o leoedd ysgol.

2.27      O ganlyniad uniongyrchol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn unol â’r Cynlluniau, efallai y bydd angen athrawon cyfrwng Cymraeg ychwanegol mewn rhai ardaloedd. Mae hyn eisoes yn cael ei ystyried fel rhan o’r diwygiadau addysg ehangach oherwydd y targedau yn Cymraeg 2050 i gynyddu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg. Felly, ni chyfrifir am y costau dan sylw yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol  hwn. Mae'n werth nodi, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymhellion ariannol i athrawon newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhai o'r cymhellion hynny wedi'u hanelu at gynyddu darpariaeth addysgu Cymraeg fel pwnc ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae llwybrau eraill i hyfforddi'n athro, fel dysgu'n rhan-amser neu o bell, hefyd yn cael eu cyflwyno.

2.28      Mae Deddf Addysg 1996 yn diffinio 'swyddogaethau addysg' awdurdod lleol. Mae’n nodi bod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu digon o leoedd ysgol ac, wrth wneud hynny, i ystyried yr egwyddor gyffredinol y dylai disgyblion gael eu haddysgu yn unol â dymuniadau rhieni, i’r graddau y mae hynny’n cydweddu â darparu addysg effeithlon ac osgoi gwariant cyhoeddus afresymol. Os caiff y Rheoliadau arfaethedig eu gwneud, yna byddai’n rhaid i awdurdodau gydymffurfio â’r dyletswyddau creiddiol hynny o hyd wrth gynllunio eu darpariaeth addysg.

 

Manteision ac anfanteision

 

2.29      Mae prif fantais cyflwyno’r Rheoliadau fel y cynigir yn yr opsiwn hwn yn ymwneud â pholisi yn yr ystyr ei bod yn ymateb i’r heriau a bennir gan strategaeth iaith Gymraeg 2017 Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, a’i phrif darged o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn hollbwysig i weithredu’r strategaeth yn llwyddiannus. Bydd angen 438,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol er mwyn cyflawni’r targed o 1 filiwn erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hyn, bydd yn rhaid i’r sector addysg gael ei drawsnewid mewn rhai ffyrdd penodol. Mae’r rheini'n cynnwys y deilliannau canlynol:

 

2.30      Bydd manteision yn codi hefyd o newid y cynlluniau o gylch tair blynedd fel sy’n digwydd yn Opsiwn 1, i gylch 10 mlynedd fel y’i cynigir yn yr opsiwn hwn.  Mae’r penderfyniad i gyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg fel cynlluniau tair blynedd yn deillio o anghenion ariannol yn hytrach nag anghenion cyflawni polisi strategol. Cyn y trefniadau presennol, roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi bod yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chytuno ar Gynllun Addysg Gymraeg. Roedd y Cynlluniau Addysg Gymraeg hyn yn cael eu paratoi’n ychwanegol at Gynlluniau Iaith Gymraeg awdurdodau lleol. Roedd y naill gynllun a’r llall yn dilyn cylch tair blynedd. Er bod y newid hwn yn golygu paratoi un cynllun ar gyfer cyfnod o 10 mlynedd ni chredwn y bydd yn arwain at unrhyw arbedion o ran costau ariannol, gan y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol baratoi adroddiad cynnydd blynyddol o hyd. Felly, mae’r tasgau gweinyddol a’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â pharatoi cynllun, ei roi ar waith a’i fonitro yn annhebygol o leihau.  

2.31      Dylai’r cynlluniau a ddatblygir o dan y Rheoliadau drafft hyn arwain at sefyllfa lle mae mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael eu hagor, eu hadeiladu neu eu hestyn, yn ogystal â chynllunio’r gwaith o roi cynigion arloesol eraill ar waith er mwyn rhoi cyfle i fwy o blant ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus. Gall datblygiadau mawr o ran polisi a chyfalaf megis y rhain gymryd nifer o flynyddoedd i’w cyflawni. Felly, byddai’n fanteisiol symud tuag at gynlluniau 10 mlynedd:

 

2.32      Mae’n rhesymegol ac yn fuddiol felly bod y Cynlluniau a ddatblygir o dan y Rheoliadau hyn yn ymestyn dros gyfnod hwy na’r cyfnod presennol o dair blynedd er mwyn iddynt fod yn fwy cyson â’r cylchoedd cynllunio uchod. Byddai’n annog proses fwy hirdymor, ystyrlon ac uchelgeisiol o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg. Hefyd, byddai’r Rheoliadau yn arwain at gynlluniau a fyddai’n dod i rym ar 1 Medi.  Byddai cynlluniau sy’n gweithredu’n unol â’r flwyddyn ysgol academaidd, sy'n caniatáu i ddata'r ysgol gael eu dadansoddi a'u hadolygu'n well, hefyd yn fuddiol i’r broses gynllunio.

 

2.33      Mae risg y gallai Opsiwn 2 arwain at anfantais drwy ddileu’r ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu’r galw ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg – gallai’r opsiwn hwn greu bwlch yn y data a’r dystiolaeth o ffynhonnell leol. Fodd bynnag, er mai’r bwriad gwreiddiol oedd y byddai’r asesiadau yn rhoi cyfeiriad a gwell dealltwriaeth i awdurdodau lleol o’r angen am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, ni fu digon o dystiolaeth eu bod wedi rhoi sylfaen dystiolaeth i awdurdodau lleol ar gyfer eu gwaith cynllunio. Yn ychwanegol, gall yr asesiad fynd yn anghyfredol yn gyflym. Er gwaethaf yr anfantais posibl o ddileu'r ddyletswydd i asesu'r galw ymhlith rhieni, bu'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft yn tynnu sylw at rai o fanteision barhau i gasglu gwybodaeth am yr angen gan rieni, a rhai eraill yn cytuno y gallai hynny fynd yn rhan o ymarferion casglu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â strategaethau neu ymgyrchoedd i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, credwn y bydd yr hyn a gynigir gan Opsiwn 2, sy’n golygu y bydd awdurdodau lleol yn pennu eu targedau eu hunain gan roi sylw priodol i ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn arwain at ffyrdd gwell o gynllunio a fydd yn gyson â nodau strategol hirdymor Cymraeg 2050

 

Casgliad

 

2.34      Fel y nodwyd uchod, ym marn Llywodraeth Cymru, ni fyddai fawr ddim gwahaniaeth o ran costau gweinyddu o ganlyniad i Opsiwn 2 o’i gymharu ag Opsiwn 1, felly byddai modd cyfiawnhau’r manteision o ran polisi a fyddai’n deillio o ddewis Opsiwn 2. Mae’n bosibl y byddai Opsiwn 2 yn arwain at fwy o gostau gweithredu am y byddai’n rhaid creu mwy o leoedd ysgol i gynnig dewis effeithiol i rieni. Fodd bynnag, byddai hyn yn dal i fod o fewn cyfyngiadau’r grant cynnal refeniw a roddir i awdurdodau a byddai’n ddarostyngedig i’r broses ddemocrataidd leol a’r ddyletswydd yn Neddf Addysg 1996 i sicrhau darpariaeth ond osgoi gwariant cyhoeddus afresymol. O ran cymorth grant cyfalaf, mae cyllid cyfalaf ychwanegol i ysgolion wedi'i ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau i baratoi ar gyfer cylch nesaf y Cynlluniau.  Dylai'r rhaglen gymorth a gyflwynir ar gyfer y Cynlluniau, sydd wedi'i hanelu at roi cyngor a chymorth ymarferol i awdurdodau lleol unigol ar agweddau ar roi'r Cynlluniau, ynghyd â chynhadledd flynyddol i rannu arferion da, sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol. O ystyried bod angen y newid hwn er mwyn gwireddu dyheadau Cymraeg 2050, mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y dylid dilyn Opsiwn 2, ac maent o’r farn y gellir cyfiawnhau unrhyw gostau ychwanegol.

 

3.    Ymgynghori

 

3.1Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheoliadau drafft a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn rhwng 30 Mai a 13 Medi 2019.

 

3.2Yn ystod y digwyddiadau ymgynghori ac yn yr ymatebion ysgrifenedig a dderbyniwyd, cafodd safbwyntiau pegynol eu datgan ynghylch y dull a ddefnyddir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft. Roedd yr awdurdodau lleol yn benodol wedi datgan safbwyntiau cryf y gallai nifer gynyddol y newidiadau a gynigir yn y Rheoliadau gael goblygiadau ariannol yn eu barn nhw. Serch cytuno â bwriad y polisi, roedd nifer o'r farn nad oedd cyflwr cyfredol cyllidebau ysgolion na'r system mewn grym ar gyfer cyllid addysg yn cefnogi datblygiadau'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a bod angen cyllid ychwanegol ar wahân i gael ei fuddsoddi yn y maes addysg yng Nghymru. Roedd eraill, ar y llaw arall, gan gynnwys rhai cyrff addysg, yn cytuno'n gryf ag Opsiwn 2 yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, gan nodi bod y manteision o wneud Rheoliadau newydd yn drech na'r anfanteision. Y prif fantais yw'r ffaith bod y Rheoliadau newydd yn ymateb yn gadarn i'r heriau a gyflwynir gan strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg. 

 

3.3Roedd cael cyllid digonol i gefnogi'r gofynion a amlinellir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau wedi codi mewn nifer o ymatebion yr awdurdodau lleol. Dylid nodi bod y Rheoliadau hyn yn cynnwys llai o ddatganiadau na Rheoliadau 2013 (pump yn llai).  Mae unrhyw ddatganiadau newydd yn cynnig bod yr awdurdodau'n defnyddio gwybodaeth sy'n deillio o ddyletswyddau y mae'n rhaid bod deddfwriaeth arall eisoes yn cydymffurfio â nhw (mewn perthynas â digonolrwydd gofal plant a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol). Mae gwneud y defnydd gorau o ddata a gwybodaeth sydd eisoes ar gael wedi bod yn ystyriaeth gyson wrth ddrafftio'r Rheoliadau hyn. Mae gweddill y datganiadau eisoes yn ofynnol o dan y trefniadau presennol ar gyfer y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

3.4O ran cymorth penodol ar gyfer y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa o £46m ar gyfer Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant yn 2018 i gefnogi'r twf yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Roedd hynny'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi tua 46 o brosiectau ar draws 20 o awdurdodau lleol. Yn sgil gwireddu'r holl brosiectau, caiff  2818 o leoedd ysgol a gofal plant ychwanegol eu creu i ddysgwyr Cymraeg. Bydd y cymorth ariannol hwnnw'n helpu i gefnogi'r cynnydd yn y ddarpariaeth sydd ei angen i ymateb i uchelgais Cymraeg 2050 a threfniadau newydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'r cyllid hwn wedi'i gynnwys yn y cyllid grant ychwanegol o £110 miliwn sydd wedi'u dyrannu i awdurdodau lleol a cholegau drwy Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant, Grant Canolfannau Cymunedol, Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod, Grant Atgyweiriadau Brys, a Grant Digidol 2030.

 

3.5Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegol at raglen dreigl grant cyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif i gefnogi'r gwaith o foderneiddio a threfnu ysgolion, sy'n llunio rhan o raglen gyflenwi'r Llywodraeth ar gyfer Cymru. Ar hyn o bryd, cyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi ar gyfer Band A Rhaglen Gyfalaf Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yw £3.7 biliwn - dros £1.4 biliwn wedi'u buddsoddi dros y pum mlynedd ddiwethaf, a £2.3 biliwn o fuddsoddiad pellach wedi'i drefnu ar gyfer y cam nesaf.

 

3.6Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol ar adeg pan welir bod ariannu ysgolion yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn cael ei gyfyngu. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn hyderus y bydd y cynigion a gyflwynir gan y Rheoliadau drafft yn arwain at well cynllunio, llai o fiwrocratiaeth a mwy o effeithlonrwydd. 

 

4.    Asesiad o'r gystadleuaeth

 

4.1Nid yw’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar fusnesau, elusennau na’r sector gwirfoddol felly ni chynhaliwyd asesiad o’r gystadleuaeth.

 

 

5.    Adolygiad ar ôl gweithredu

 

5.1 Bydd y broses newydd o ddatblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a amlinellir yn Rheoliadau yn cynnwys nifer o gamau monitro er mwyn i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru gael dealltwriaeth gyson glir o’r cynnydd a wneir. Caiff cynllun 10 mlynedd ei baratoi a chaiff adroddiad adolygiad blynyddol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd y broses hon yn gofyn am ddeialog cyson rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol dros oes y cynllun. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i nodi unrhyw anawsterau o ran y ddeddfwriaeth yn gyflym, yn ogystal â galluogi Llywodraeth Cymru i gadarnhau pa gymorth sydd ei angen ar awdurdodau lleol.

 



[1]http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s8034/CLA4-12-11p10%20Memorandwm%20Esboniadol.pdf

 

[2] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10475/cr-ld10475-w.pdf

[3] https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/cynlluniau-strategol-cymraeg-mewn-addysg-awdurdodau-lleol