Gorchymyn a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

2019 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”).

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig ym mhob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae 2020 yn flwyddyn pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio.

Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r swm gwahanol a bennir felly fod yn is na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol yw 291.0.

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 yw 289.0.

Yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ni fydd y Gorchymyn ond yn dod i rym os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Llywodraeth Leol, yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


 

Gorchymyn a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

2019 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Gwnaed                            14 Tachwedd 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       19 Tachwedd 2019

Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru     ***

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy i’r graddau y mae’r pŵer hwnnw yn arferadwy o ran Cymru([2]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020.

(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y lluosydd ardrethu annomestig

2. At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020, pennir mai 289.0 yw B.

 

 

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

14 Tachwedd 2019

 



([1])           1988 p. 41.

([2])           Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r pŵer bellach wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru.