Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd | Inquiry into Fuel Poverty

FP 07

Ymateb gan : Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Evidence from : Older People’s Commissioner for Wales

 

Mae tlodi tanwydd yn parhau’n broblem sylweddol i bobl hŷn ledled Cymru gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod oddeutu 88,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd.1 Mae hyn er gwaethaf dyletswydd statudol i ddileu tlodi tanwydd yn Neddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000, ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru, cyn belled ag y bo’n ymarferol bosibl, na ddylai neb yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi tanwydd erbyn 2018.2

Er bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi tanwydd wedi haneru dros y degawd diwethaf,3 o ganlyniad i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes a chyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru, mae’n achosi pryder fod cynifer o bobl hŷn yn parhau i fyw mewn tlodi tanwydd, gan, o bosibl, fod yn dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwyta’n iawn.

Dylai strategaeth newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd barhau i adeiladu ar lwyddiannau’r gwasanaeth wedi’i deilwra a’r gwasanaeth cyfeirio yn ‘canolbwyntio ar yr unigolyn’ y bu’r rhaglen Nest yn ei ddatblygu ochr yn ochr â’i phartneriaid yn y sector gwirfoddol dros y blynyddoedd diwethaf a rhaid iddi gynnwys gwirio’r hawl i fudd-daliadau.

Mae’n bwysig peidio â ‘dadfachu’ tlodi tanwydd oddi wrth y broblem ehangach o dlodi ymysg pobl hŷn. Mae dros 20% o bobl hŷn yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru, ac i lawer o bobl hŷn, mae misoedd hir y gaeaf yn golygu’r benbleth anochel ynghylch ‘gwresogi neu fwyta’,4 gyda 25% o bobl hŷn yn prynu bwyd rhatach, neu lai ohono.

Mae cynyddu incwm aelwydydd yn ffactor sylweddol o ran atal tlodi tanwydd ac mae’n hanfodol i bobl hŷn fod yn gwbl ymwybodol o’r holl hawliadau ariannol y maent yn gymwys i'w derbyn, a’u bod yn cael eu hannog i hawlio’r rhain.

 

Amcangyfrifir bod hyd at £214m o Gredyd Pensiwn nad yw’n cael ei hawlio yng Nghymru bob blwyddyn.5

Gallai pobl hŷn gydag incwm pensiwn o lai na £167.25 (£255.25 i gyplau) fod yn gymwys i daliad Credyd Pensiwn a fyddai’n ychwanegu at eu hincwm. Y cyfartaledd a dderbynnir gan y rhai sy’n ei hawlio yw £58 yr wythnos, a all wneud gwahaniaeth o oddeutu £3,000 y flwyddyn i’w hincwm. Gall hawlio Credyd Pensiwn hefyd ddatgloi ystod o hawliau eraill fel gostyngiad yn y dreth gyngor, triniaeth ddeintyddol am ddim a chymorth gyda chostau tai.

Pe byddai mwy o bobl yn hawlio’r budd-dal, byddai’n ffordd arwyddocaol o fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymysg rhai o’r bobl hŷn dlotaf a rhaid i’r strategaeth newydd adeiladu ymhellach ar lwyddiant gwirio’r hawl i fudd-daliadau a chefnogi mesurau a gyflawnwyd hyd yma.

Rhaid i’r strategaeth newydd wella ymhellach y gwahanol lwybrau cyfeirio a chynnwys partneriaethau drwy awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd, sefydliadau’r trydydd sector ac elusennau er mwyn canfod ac estyn allan at yr aelwydydd agored i niwed hynny sy’n parhau i fyw mewn tlodi tanwydd.

Er mwyn sicrhau bod cartrefi newydd yn hynod effeithlon o ran ynni, dylai Llywodraeth Cymru gynnal trosolwg fel bod pob datblygiad tai yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru, sy’n datgan bod yn rhaid i’r system gynllunio ‘sicrhau bod modd darparu amrywiaeth o dai’r farchnad agored a thai fforddiadwy sydd wedi’u dylunio’n dda, yn effeithlon o ran ynni ac o ansawdd da a fydd yn helpu i greu lleoedd cynaliadwy’.6

Yn olaf, oherwydd y niferoedd o aelwydydd agored i niwed sy’n parhau i fyw mewn tlodi tanwydd, rhaid i’r strategaeth gynnwys rhaglen waith wedi’i diffinio’n glir ar gyfer y ddau gynllun. Dylai’r rhaglenni gwaith gynnwys cerrig milltir ystyrlon, yn disgrifio erbyn pa bryd y disgwylir gostwng lefelau tlodi tanwydd a faint fydd y gostyngiad, yn flynyddol. Dylai cynnydd/cyfraniad yn erbyn y cerrig milltir gael eu hadlewyrchu yn adroddiad blynyddol pob cynllun.

Rwy'n gobeithio bod y sylwadau hyn yn ddefnyddiol.

 

1 Llywodraeth Cymru. (2019). Amcangyfrifon tlodi tanwydd yng Nghymru: 2018; http://bit.ly/2mBiRXj

2 Llywodraeth Cymru. (2010). Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010; t.7; Ar gael yn http://bit.ly/2lstwDz

3 Llywodraeth Cymru. (2019). Amcangyfrifon tlodi tanwydd yng Nghymru: 2018; http://bit.ly/2mBiRXj

4 Age Cymru. (2014). AMs discuss fuel poverty among older people in Wales; http://bit.ly/2mEto3I

5 Independent Age. (2019). Pension Credit: A closer look. http://bit.ly/2mFWIXz

6 Llywodraeth Cymru. (2018). Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10; http://bit.ly/2l25HCd