Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd | Inquiry into Fuel Poverty

FP 06

Ymateb gan : Ynni Clyfar GB

Evidence from : Smart Energy GB

 

 

1.   Rydym yn croesawu'r cyfle hwn i ddarparu mewnbwn i ymchwiliad y Pwyllgor CCERA i dlodi tanwydd.

 

2.   Rydym yn credu y dylai olynydd Llywodraeth Cymru i strategaeth tlodi tanwydd 2010 gynnwys cefnogi'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru (a Phrydain Fawr) a nodau Ynni Clyfar GB. Yn benodol, hoffem weld y Pwyllgor CCERA a Llywodraeth Cymru'n rhoi cefnogaeth weithredol i hyn o beth trwy helpu ni i amlygu pwysigrwydd hollbwysig cael gosodiad mesurydd clyfar i aelwydydd yng Nghymru (pan fydd modd iddynt gael un) er mwyn helpu Cymru i gwrdd â'i thargedau tlodi tanwydd a charbon.

 

3.   Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw budd-ddeiliaid perthnasol yn gweld yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar ar ei phen ei hun a'u bod yn cydnabod y cyfleoedd ehangach sy'n deillio o ddigideiddio, ennyn diddordeb cwsmeriaid yn well a data cyfoethocach.

 

4.   Ynni Clyfar GB yw'r corff ennyn diddordeb defnyddwyr nid er elw cenedlaethol ar gyfer cyflwyno mesuryddion clyfar. Ein tasg ni yw ennyn diddordeb pawb ar draws Prydain Fawr mewn deall mesuryddion clyfar a'r manteision a ddaw gyda nhw. O fewn ein rôl, fel a ddisgrifir yn amodau trwydded y cyflenwyr ynni, mae gennym y dasg o sicrhau nad oes neb yn cael ei anghofio wrth i ni bontio i system ynni glyfrach ac y gall pawb barhau i gynnal lefel ddigonol o gynhesrwydd.

 

5.   Rydym yn ceisio cyflawni hyn, yn rhannol, trwy ein rhaglen bartneriaeth Ynni Clyfar GB mewn Cymunedau, sy'n galluogi ni i weithio ochr yn ochr â sefydliadau rheng flaen ar draws Cymru (gan gynnwys NEA Cymru, Cyngor ar Bopeth, Gofal a Thrwsio Cymru, Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, Groundwork Gogledd Cymru, Cartrefi Melin a Chyngor Caerdydd) i ddarparu cyllid grant, hyfforddiant a deunyddiau ennyn diddordeb wedi'u teilwra er mwyn iddynt gefnogi aelwydydd a allai fod yn profi rhwystrau ychwanegol. Yn 2018 a 2019, mae'r rhaglen hon wedi canolbwyntio ar bobl dros 65 oed y maent, yn ôl yr amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddarach a gyfrifir ar gyfer Cymru, yn byw mewn 39% o'r aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd.[1]

 

Effeithlonrwydd ynni

 

6.   Mae gwaredu tlodi tanwydd a chyflawni allyriadau net o ddim byd yn uchelgeisiau cydweddol yn hytrach na gwrthwynebol. Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein tai'n hollbwysig o ran taclo tlodi tanwydd. Ac mae un o gydrannau hanfodol dad-garboneiddio gwres, er enghraifft, wedi'i hymwreiddio mewn effeithlonrwydd ynni cartrefi (rhai newydd a phresennol).

 

7.   Mae mesuryddion clyfar eisoes yn helpu aelwydydd ar draws Cymru a Phrydain Fawr i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, gostwng ynni a wastreffir a chadw'r gwres ymlaen pan fydd ei angen arnom; gyda gwerthusiad o dreialon yn dangos arbedion ynni rhwng 5 a 20%[2].

 

8.   Er hynny, y tu hwnt i hwn gall data mesuryddion clyfar hybu a chynorthwyo mesurau effeithlonrwydd ynni o fewn ein cartrefi hefyd trwy alluogi dulliau newydd a gwell o fesur perfformiad ynni a dilysu arbedion yn well.

 

9.   Yn wahanol i fesuryddion clyfar, mae mesuryddion clyfar yn mesur faint o ynni a ddefnyddiwn a phryd yn y diwrnod yr ydym yn ei ddefnyddio. O ganlyniad i hyn, gan ddefnyddio mesuryddion clyfar bydd yn bosib cymharu a dadansoddi data defnyddio ynni cyn ac ar ôl gweithgareddau ôl-osod, er mwyn mesur canlyniadau gosod mesurau effeithlonrwydd ynni domestig, yn lle tybiaethau sy'n seiliedig ar feincnodau, sef yr arfer cyfredol. Yn ei dro gallai hyn gyfeirio targedu a chyflwyno cynlluniau tlodi tanwydd yn effeithiol yn y dyfodol megis y Rhaglen Cartrefi Clyd, fel a argymhellir o dan Gam Gweithredu 5.1 adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell y Grŵp Ymgynghorol ar Ddad-garboneiddio Cartrefi.

 

 

 

 

Rhagdalu a hunan-ddatgysylltu

 

10.                Ochr yn ochr â hybu a chynorthwyo gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi, mae gan fesuryddion clyfar y potensial i greu canlyniadau cadarnhaol ychwanegol ar gyfer aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd, a hefyd ar gyfer y gwasanaethau a sefydliadau hynny sy'n eu cefnogi nhw.

 

11.                Rydym yn gwybod bod 19% o aelwydydd yng Nghymru'n cael eu cyflenwi ar hyn o bryd trwy fesuryddion rhagdalu (271,833 ar gyfer trydan a 217,994 ar gyfer nwy). Yn draddodiadol rhagdalu fu'r ffordd ddrutaf o brynu ynni. Er hynny, mae cyflwyno mesuryddion clyfar yn trawsnewid y profiad rhagdalu er gwell.

 

12.                Daw mesuryddion clyfar â llu o fanteision yn yr aelwyd i bawb, gan ddod â biliau wedi'u hamcangyfrif i ben a medru gweld faint rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau. Mae'r uwchraddiad i ragdalu'n dod â manteision ychwanegol, gan gynnwys dulliau cyfleus a hygyrch newydd o ychwanegu credyd a mwy o ffyrdd o fonitro a rheoli credyd.

 

13.                At hynny, yn y dyfodol agos, bydd newid rhwng y modd credyd a rhagdalu'n broses ddi-dor gan na fydd angen i'r mesurydd gael ei newid. Bydd hyn yn gostwng cost y gwasanaeth, gan olygu biliau rhatach a mwy cystadleuol ar gyfer defnyddwyr rhagdalu.

 

14.                Un flaenoriaeth allweddol yn Strategaeth Bregusrwydd Defnyddwyr Ddrafft  Ofgem yw delio â mater hunan-ddatgysylltu sydd wedi plagio nifer enfawr o aelwydydd yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn profi tlodi tanwydd. Ac, fel y mae Ofgem yn ei amlygu yn ei strategaeth, mae gan ddata mesuryddion clyfar botensial penodol hefyd o ran adnabod bregusrwydd yn well a galluogi cyflenwyr i gefnogi eu cwsmeriaid yn fwy rhagweithiol mewn cyfnodau anodd.

 

15.                Mae systemau a dulliau targedu cefnogaeth cadarn yn dibynnu ar adnabod yn briodol a data o safon dda. Bydd yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar yn rhoi cyfle i gyflenwyr ymdrin â materion cyfyngu ar ddefnyddio ynni a hunan-ddatgysylltu, gan ei wneud yn haws iddynt adnabod pan fydd defnydd yn newid ac ymyrryd bron mewn amser real. Mae hyn yn cynnwys cysylltu'n rhagweithiol â'r rhai sydd wedi datgysylltu eu hunain i gynnig cefnogaeth iddynt, gan roi blaenoriaeth i gwsmeriaid ar y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth (CGB) y gwyddys eu bod yn agored i niwed;  a chan ddarparu credyd disgresiynol wedi'i deilwra a gysylltir â defnydd ynni gwirioneddol y cwsmer, a all gael ei gymhwyso i'r mesurydd o bell ar unwaith; a chan ddefnyddio mewnwelediadau o'r data mesurydd clyfar i ddarparu cyngor effeithlonrwydd ynni wedi'i deilwra. [3]

 

16.                Yn yr un modd, mewn tywydd oer, rhywbeth sy'n gadael aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn hynod agored i niwed, mae rhagdalu clyfar yn darparu cyfle i aelwydydd fedru ychwanegu a/neu ofyn am gredyd brys ar-lein neu drwy neges destun o'u cartrefi eu hunain, heb fod angen iddynt fynd allan. Yn ystod y 'Bwystfil o'r Dwyrain' yn 2018, bu modd i gyflenwyr ychwanegu credyd yn awtomatig at fesuryddion rhagdalu clyfar o bell yn ystod y tywydd garw, i sicrhau yr oedd gan gwsmeriaid gredyd digonol i gadw'n gynnes.

 

Pontio i system ynni sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

 

17.                Mae mesuryddion clyfar yn un o flociau adeiladu hanfodol mewn system glyfrach, glanach a gwyrddach a fydd yn cyflenwi mwy o ynni dibynadwy a charbon isel i aelwydydd ar draws Cymru. Bydd yn ein helpu rheoli ein hadnoddau naturiol yn fwy effeithlon a thaclo'r argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu.[4]

 

18.                Mae mesuryddion clyfar yn darparu data defnyddio angenrheidiol i'r diwydiant ynni i weithredu system carbon isel, gan ei alluogi i ragfynegi galw yn well ac, yn ei dro, cydbwyso'r system a hwyluso integreiddio mwy o ynni adnewyddadwy i'r grid.

 

19.                Ar ben hynny, gyda gosodiadau mesurydd clyfar, gallwn ni:

 

a.    alluogi defnyddwyr i gael eu gwobrwyo am ddefnyddio ynni yn ystod cyfnodau pan fydd prisiau'n is, gan drosglwyddo'r arbedion yn uniongyrchol i'w biliau trwy dariffau amser defnydd;

b.   hybu datblygu ac integreiddio technolegau gwyrdd, fel cyfarpar clyfar yn yr aelwyd a cherbydau trydan; a

c.    galluogi datblygu modelau busnes wedi'u hawtomeiddio newydd, megis gwres-fel-gwasanaeth neu awto-newid a allai helpu, gyda'r gefnogaeth a diogelu priodol, gan helpu sicrhau y gall rhai defnyddwyr nad oes ganddynt ddiddordeb elwa o hyd a chael eu cynnwys yn ddiffwdan.

 

20.                Nid ydym eisiau i ddefnyddwyr sy'n agored i niwed gael eu heffeithio'n negyddol gan arloesedd technegol. Yn hytrach, rydym eisiau gweld bod y fath arloesedd yn gwella bywydau pobl yn weithredol pryd bynnag y bo'n bosib. Mae mesuryddion clyfar yn darparu'r data fel y gall llawer o'r newidiadau hyn ddigwydd ac mae'n hollbwysig y bydd budd-ddeiliaid yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y newid hwn yn diwallu anghenion yr holl aelwydydd, gan gynnwys y rhai sy'n profi, neu sydd mewn perygl o brofi, sefyllfaoedd bregus a thlodi tanwydd.

 

21.                Fe fydd angen clir am gyngor a chymorth ym marchnad ynni mwy hyblyg, ond mwy cymhleth, y dyfodol. Bydd angen cefnogaeth wedi'i theilwra ar, ymysg rhai eraill, aelwydydd mewn tlodi tanwydd i'w helpu dod i ben â hyn o beth mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys: cyrchu'r bargeinion, tariffau a modelau cyflenwi gorau ar gyfer eu hamgylchiadau; helpu nhw i ddatrys anawsterau a/neu ddyled a allai godi; deall sut i ddefnyddio offer rheoli gwres newydd yn effeithlon; a/neu beth i'w wneud pan fydd pethau'n torri i lawr. Mae gan fesuryddion clyfar y potensial i gynorthwyo hyn, gan alluogi defnyddwyr i rannu eu data, ar ôl rhoi caniatâd, gyda sefydliadau trydydd parti a gwasanaethau cyhoeddus sy'n cynnig cefnogaeth. Gall y data hwyluso'r sefydliadau hyn wrth ddarparu cefnogaeth wedi'i theilwra bron mewn amser real, gan helpu sicrhau nad oes neb yn cael ei anghofio.

 

22.                Ac, fel y mae tystiolaeth o waith effeithiol a gyflawnir gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Mersey Care mewn cydweithrediad â Phrifysgol John Moores Lerpwl yn ei ddangos, mae gan fesuryddion clyfar nifer o gymwysiadau iechyd a gofal ehangach â'r potensial i fod yn arwyddocaol iawn. [5] Trwy integreiddio data mesuryddion clyfar i wasanaethau monitro arwahanol nad ydynt yn ymwthiol, bydd cyfleoedd i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol rybuddio gofalwyr pan adnabyddir patrymau gweithgarwch anarferol, ac/neu i fonitro cynnydd cyflyrau fel Dementia a Chlefyd Parkinson (i gyfeirio anghenion triniaeth) neu gyflyrau byw (fel defnyddio neu danddefnyddio gwresogi). Gallai hyn agor y drws hefyd i weithwyr iechyd proffesiynol roi 'presgripsiynau ynni' i'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch gysylltiedig ag oerfel, gan alluogi nhw i gadw'n gynnes a chynnal eu hannibyniaeth gartref am gyfnod hwy.

 

 

Sylwadau i gloi

 

 

23.                Rydym yn croesawu'r ymchwiliad hwn i dlodi tanwydd yng Nghymru ac fe hoffem ddiolch i chi am y cyfle hwn i rannu ein barn.

 

24.                Rydym eisiau i'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar fod yn gatalydd ar gyfer ton newydd o gefnogaeth a ffocws ar aelwydydd agored i niwed nad ydynt bob amser wedi cael eu gwasanaethu'n dda gan y system ynni analog, y gallem weld newidiadau sylweddol yn eu profiadau diolch i'r system ddigidol. Ni fydd mesuryddion clyfar yn datrys tlodi tanwydd neu newid yn yr hinsawdd ar eu pennau eu hunain, ond maent yn gam bach y gallwn i gyd ei gymryd tuag at gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

 

25.                Gyda chefnogaeth gan y Pwyllgor CCERA a Llywodraeth Cymru, gallwn helpu sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru'n gwireddu'r buddion mor fuan â phosib ac y gall y rhai sydd, neu mewn perygl o fod, mewn sefyllfaoedd bregus a thlodi tanwydd fod ymysg y rhai cyntaf i elwa o'r newid angenrheidiol hwn.

 

 



[1]Yn ôl Tabl 3.1.1. Math o aelwyd fesul statws tlodi tanwydd yn 2018, roedd 'Pensiynwr Sengl (dim plant)', 'Cwpl pensiynwyr priod (dim plant)' ac 'Aelwyd dau oedolyn (hyd at un pensiynwr) heb blant' mewn 18%, 11% a 10% o'r aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn 2018 yn ôl eu trefn. Gweler Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 ac Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru: 2018, a ryddhawyd ar 29 Awst 2019.

[2] Manteision mesuryddion clyfar: Rôl mesuryddion clyfar wrth ymateb i newid yn yr hinsawdd: Safbwynt Delta -ee, Mai 2019

[3]Mae mwy o wybodaeth ar gael mewn adroddiad gan Ynni Clyfar GB (2019) Mesuryddion clyfar: chwyldroi'r profiad rhagdalu

[4] Mae mwy o wybodaeth ar gael mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Ynni Clyfar GB. Delta-ee (2019) Manteision mesuryddion clyfar: Rôl mesuryddion clyfar wrth ymateb i newid yn yr hinsawdd: Safbwynt Delta -ee

[5] Mae mwy o wybodaeth ar gael mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Ynni Clyfar GB. Coleg y Brifysgol Llundain (2017) Energising Health: a review of the health and care applications of smart meter data