Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Ymchwiliad i Addysg Heblaw yn yr Ysgol
EOTAS 16      

Ymateb gan: Chwearae Cymru

___________________________________

 

National Assembly for Wales
Children, Young People and Education Committee Inquiry into Education Otherwise than at School EOTAS 16

Response from: Play Wales

_______________________________________

 

Am Chwarae Cymru

 

Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn gweithio i gynnyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o’r broses gwneud penderfyniadau ac ym mhobman y gallai plant chwarae. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru un diwrnod yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu’n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn. Mae ein tîm o saith yn gweithio ledled Cymru -mae ein gwaith yn cynnwys:

·         Polisi

·         Gwasanaeth gwybodaeth

·         Cyngor a chefnogaeth

·         Datblygu’r gweithlu.

 

Ein hymateb

 

Bydd ein hymateb yn canolbwyntio ar sut y gall plant sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol gyflawni eu hawl i chwarae. Bydd yn ymateb i’r pwyntiau canlynol:

 

Canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol

 

Ceir tystiolaeth bod chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant[1] ac mae chwarae wedi ei gorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae llawer yn derbyn bellach bod chwarae’n hanfodol i ddatblygiad dychymyg, doniau mentro, gweithredu gwybyddol, sgiliau corfforol a chydweithredu cymdeithasol.

 

Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd, gan gyfrannu at les corfforol ac emosiynol. I lawer o blant, amser chwarae yn yr ysgol yw’r prif gyfle a gânt i chwarae, i fod yn fywiog ac i gymdeithasu gyda’u ffrindiau.[2] 

 

Canfuwyd bod y mwyafrif o adolygiadau a gwerthusiadau systematig awdurdodol sy’n mesur tystiolaeth am ddeilliannau ehangach ac effaith ymyriadau a mentrau chwarae yn canolbwyntio ar chwarae yn yr ysgol.[3] Mae tystiolaeth empirig ryngwladol yn awgrymu bod mentrau amser egwyl ac amser chwarae ar fuarth yr ysgol sy’n cynyddu mynediad plant i gyfleoedd chwarae cyfoethog yn gysylltiedig ag ystod o welliannau mewn sgiliau academaidd, agweddau ac ymddygiad. Mae buddiannau eraill yn cynnwys gwell sgiliau cymdeithasol, gwell perthnasau cymdeithasol rhwng gwahanol grwpiau ethnig, a chyfaddasu’n well i fywyd ysgol.[4] Bydd ymdrechion i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol yn derbyn digon o amser, lle a chyfleoedd i chwarae gyda phlant eraill yn cyfrannu at lesiant a chanlyniadau gwell.

 

Ansawdd y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc yn yr ystod o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol

Ceir adroddiadau niferus bod chwarae rhydd plant gyda phlant eraill wedi dirywio’n sylweddol dros y degawdau diwethaf. Dros yr un cyfnod, mae gorbryder, iselder, hunanladdiad, ymdeimlad o ddiymadferthwch a narsisiaeth wedi cynyddu’n gyflym mewn plant, glasoed, ac oedolion ifainc.[5]

Mae adroddiad newydd Estyn, Iach a hapus - Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion[6] yn gwerthuso pa mor dda y mae ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cefnogi iechyd a llesiant disgyblion. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at amser chwarae ac amser egwyl yn yr ysgol

Mae’r adroddiad yn tanlinellu bod ysgolion sy’n defnyddio dull ysgol gyfan tuag at gefnogi iechyd a llesiant yn darparu amgylchedd, cyfleusterau a lle i chwarae, cymdeithasu ac ymlacio’n ystod amser egwyl. Mae’n mynegi pryderon bod disgyblion yn yr ysgolion hyn yn llai corfforol egnïol ac y gallant ei chael yn anodd ymlacio’n ystod amserau chwarae sy’n effeithio ar eu llesiant. Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

·         Datblygu ymagwedd ysgol gyfan sy’n cefnogi iechyd a llesiant pob disgybl

·         Hyfforddi athrawon newydd i ddeall a chefnogi disgyblion.


Dylai’r gwasanaethau addysgol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol ofalu i ystyried adroddiad Estyn a’i argymhellion.

 

Dylai darpariaeth egwyliau digonol i chwarae fod yn orfodol a chael eu harchwilio fel rhan o arolygiadau ysgol gyfan a darpariaeth gwasanaethau addysgol. Mae Chwarae Cymru’n bryderus ynghylch adroddiadau cynyddol am dynnu amser chwarae’n ôl (yn cynnwys egwyl chwarae amser cinio) er mwyn cwtogi’r diwrnod ysgol, neu, yn fwy pryderus fyth, fel rhan o bolisi rheoli ymddygiad. Mae’r olaf yn bryderus iawn i rai plant allai fod yn cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol. Gan fod Adran Seicoleg Addysg a Phlant (Cymdeithas Seicolegol Prydain) yn pwysleisio na ddylai addysgwyr ddefnyddio’r bygythiad o dynnu amser chwarae neu amser egwyl yn ei ôl oddi wrth ddisgyblion ysgol fel cosb, neu er mwyn ceisio cwblhau gwaith heb ei orffen.[7]

 

Cymorth datblygiad proffesiynol i staff Unedau Cyfeirio Disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n darparu addysg yn y cartref 

 

Bydd dysgu am chwarae plant yn rhoi hyder i athrawon, cynorthwywyr a goruchwylwyr i gynorthwyo plant i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Bydd cynnig cymwysterau gwaith chwarae fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa. Mae deunyddiau gwerthuso cyrsiau cyn-ddysgwyr astudiodd gymwysterau gwaith chwarae[8] Chwarae Cymru yn awgrymu bod astudio ar gyfer cymhwyster gwaith chwarae’n cefnogi datblygiad sgiliau dysgu, gan ddarparu cipolwg unigryw ar y rôl bwysig sydd gan chwarae wrth gefnogi dysg, datblygiad, gwytnwch a chydlyniant.

 

Mae plant angen oedolion myfyriol o’u hamgylch i’w cefnogi ar eu hanturiau chwareus. Er mwyn i bob plentyn allu chwarae yn eu ffordd ei hun, bydd rhaid ystyried eu hanghenion a’u natur unigol. Mae arferion chwareus wedi eu seilio ar ddealltwriaeth o ddiddordebau a dealltwriaeth ddiwylliannol bersonol pob plentyn yn hanfodol er mwyn cefnogi plant i gyflawni eu hawl i chwarae.

 

Mae’n ddyledus ar oedolion i arsylwi a gwrando ar blant sy’n chwarae ac i ddysgu oddi wrthynt am y ffordd orau i gefnogi eu datblygiad. Mae angen i oedolion eiriol dros chwarae ac mae hyn yn golygu deall cymaint â phosibl am sut a pham y bydd plant yn chwarae a’r sensitifrwydd sydd ei angen ar oedolion i ryngweithio mewn chwarae a phrofiadau chwareus. Bydd deall potensial naturiol chwarae ar gyfer plant yn galluogi pob oedolyn i gynnal hawl plant i chwarae a buddiannau hwyrach dysg seiliedig ar chwarae i’r gymuned.

 

Bydd plant yn ymateb yn gadarnhaol ac yn gyflym pan fydd oedolion yn cyfleu eu bod yn derbyn chwarae. Er enghraifft, gwyddom fod plant sy’n mwynhau chwarae boddhaus yn rheolaidd yn cwblhau tasgau a osodir gan yr athro yn yr ystafell ddosbarth yn gyflymach.[9]

 

Y risgiau posibl i blant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol

Mae’n bosibl bod plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol yn profi gorbryder a straen a achosir gan drawma neu Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs). Mae’n debyg y bydd tyfu i fyny gyda Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn cael effaith aruthrol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant. Gall rhoddwyr gofal ymatebol sy’n deall chwarae, a mannau cefnogol ble mae chwarae’n cael ei ganiatáu a’i ddathlu, chwalu’r cylchdro o brofiadau plentyndod niweidiol. Gallant wrthdroi effeithiau straen gwenwynig a chyfrannu at welliannau tymor hir mewn deilliannau i blant.

Mae chwarae’n ddull allweddol ar gyfer datblygu gwytnwch a delio gyda straen a gorbryder. Mae’n darparu strategaethau effeithlon ar gyfer delio gydag ansicrwydd ac mae’n cyfrannu at iechyd corfforol a meddyliol da. Gall plentyn sydd wedi datblygu gwytnwch ymateb a chyfaddasu’n fwy effeithlon i amgylchiadau anodd

 

Mae Chwarae Cymru’n cynghori’n gryf y dylai darparu cyfleoedd ac amser ar gyfer chwarae a gyfarwyddir yn bersonol gael ei gynnwys yn unrhyw strategaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol.

 



[1] Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: National Children’s Bureau ar ran Play England

[2] Dyfynwyd yn Chwarae Cymru (2019) Ffocws ar chwarae – Chwarae ac addysg. Caerdydd: Chwarae Cymru

[3] Gill, T. (2014) The Play Return: A review of the wider impact of play initiatives. UK Children’s Play Policy Forum

[4] Ibid

[5] Gray, P. The Decline of Play and the Rise of Psychopathology in Children and Adolescents, American Journal of Play, Gwanwyn 2011

[6] Estyn (2019) Iach a hapus - Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiantdisgyblion. Caerdydd: Hawlfraint y Goron

[7] Division of Educational and Child Psychology (2019) Children’s right to play position paper. Caerlŷr: The British Psychological Society

[8] https://www.chwaraecymru.org.uk/cym/cymwysterau

[9] Howard, J. (2015) dyfynwyd yn J. Moyles (gol.) The Excellence of Play (4ydd argraff). Maidenhead: Gwasg y Brifysgol Agored