GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
159 - Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
26 Hydrefnnaf 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
18 Gorffennaf 2019 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
26 Gorffennaf 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 24 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Negyddol |
Y weithdrefn |
Negyddol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
24 Ebrill 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
18 Mawrth 2019 |
Sylwadau
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21(b), o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau'n dirymu deddfwriaeth yr UE a fyddai'n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael sy'n ymwneud â Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion.
Rhaglen Ewrop Greadigol yw rhaglen gymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y diwydiannau clyweledol a diwylliannol. Mae'n cefnogi hyfforddiant, datblygu prosiectau, a dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol a diwylliannol Ewropeaidd.
Mae’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion yn ariannu prosiectau sy'n hybu dealltwriaeth rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'i dinasyddion, gan ddyfnhau ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ewropeaidd a datblygu ymdeimlad o hunaniaeth Ewropeaidd.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nodwn yr esboniad a ddarperir yn y datganiad ysgrifenedig am gyllid i rai fudiadau o Gymru sy’n rhan o’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion, pe bai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Nodwn y byddai Llywodraeth y DU yn darparu cyllid o'r fath o dan delerau trefniant asiantaeth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo (o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
Rydym hefyd yn nodi'r esboniad tryloyw a ddarperir yn y datganiad ysgrifenedig ynghylch sut y gwnaed y Rheoliadau heb i Lywodraeth Cymru gael ei hysbysu, na chydsynio iddynt.
Rydym yn cydnabod yr esboniad mai achos anfwriadol o dorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol gan Lywodraeth y DU oedd hwn, a bod Llywodraeth Cymru ers hynny wedi rhoi cydsyniad i'r Rheoliadau, ar y sail nad oes, ym marn Llywodraeth Cymru, unrhyw effaith ar bwerau’r Cynulliad neu Weinidogion Cymru, ac y gellir ymdrin â’r mater drwy’r cytundeb asiantaeth a nodwyd uchod.
Fodd bynnag, nodwn ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn ymwybodol o’r achos o dorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol rywbryd rhwng mis Mawrth a 16 Gorffennaf 2019, sef y dyddiad pan ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at y Dirprwy Weinidog. Nid yw'n eglur pam na roddwyd gwybod i’r Cynulliad Cenedlaethol am yr achos o dorri’r Cytundeb tan 29 Hydref 2019. |