GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

159 - Rheoliadau’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Chwefror 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

26 Hydrefnnaf 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

18 Gorffennaf 2019

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

26 Gorffennaf 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 24

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw'n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Negyddol 

Y weithdrefn

Negyddol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

24 Ebrill 2019

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

18 Mawrth 2019

Sylwadau

 

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21(b), o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau'n dirymu deddfwriaeth yr UE a fyddai'n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael sy'n ymwneud â Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion.

 

Rhaglen Ewrop Greadigol yw rhaglen gymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y diwydiannau clyweledol a diwylliannol. Mae'n cefnogi hyfforddiant, datblygu prosiectau, a dosbarthu a hyrwyddo gweithiau clyweledol a diwylliannol Ewropeaidd.

 

Mae’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion yn ariannu prosiectau sy'n hybu dealltwriaeth rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'i dinasyddion, gan ddyfnhau ymwybyddiaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ewropeaidd a datblygu ymdeimlad o hunaniaeth Ewropeaidd.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Nodwn yr esboniad a ddarperir yn y datganiad ysgrifenedig am gyllid i rai fudiadau o Gymru sy’n rhan o’r Rhaglen Ewrop Greadigol a’r Rhaglen Ewrop i Ddinasyddion, pe bai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb. Nodwn y byddai Llywodraeth y DU yn darparu cyllid o'r fath o dan delerau trefniant asiantaeth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddo (o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Rydym hefyd yn nodi'r esboniad tryloyw a ddarperir yn y datganiad ysgrifenedig ynghylch sut y gwnaed y Rheoliadau heb i Lywodraeth Cymru gael ei hysbysu, na chydsynio iddynt.

 

Rydym yn cydnabod yr esboniad mai achos anfwriadol o dorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol gan Lywodraeth y DU oedd hwn, a bod Llywodraeth Cymru ers hynny wedi rhoi cydsyniad i'r Rheoliadau, ar y sail nad oes, ym marn Llywodraeth Cymru, unrhyw effaith ar bwerau’r Cynulliad neu Weinidogion Cymru, ac y gellir ymdrin â’r mater drwy’r cytundeb asiantaeth a nodwyd uchod.

 

Fodd bynnag, nodwn ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn ymwybodol o’r achos o dorri'r Cytundeb Rhynglywodraethol rywbryd rhwng mis Mawrth a 16 Gorffennaf 2019, sef y dyddiad pan ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at y Dirprwy Weinidog. Nid yw'n eglur pam na roddwyd gwybod i’r Cynulliad Cenedlaethol am yr achos o dorri’r Cytundeb tan 29 Hydref 2019.