GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

158 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael Â’r UE) 20199

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Hydref 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Nac ydynt

Gweithdrefn:

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 22

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae Rheoliadau 2019 yn gwneud y cywiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod Rheoliad (UE) 2019/1021 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch llygryddion organig parhaus yn parhau mewn grym ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ("UE").

 

Mae hyn yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau deddfwriaethol a gweinyddol a roddir ar hyn o bryd gan ddeddfwriaeth yr UE i'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd, i'w harfer yn lle hynny gan awdurdodau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, fel y gallant gael eu harfer ar lefel genedlaethol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

O ran meysydd polisi datganoledig yng Nghymru, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau o ran Cymru yn ddilyffethair ac i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Rydym yn fodlon bod y Rheoliadau ond yn gwneud cywiriadau i'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn weithredol, yn hytrach na deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig. 

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.