Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 drafft  

 

 


 

Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 Drafft

 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac fe’i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

 

 

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019 drafft.  Rwy'n fodlon bod y buddion yn cyfiawnhau'r costau tebygol.

 

Vaughan Gething AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

15 Hydref 2019

 

 

 


RHAN 1

 

 

1.    Disgrifiad

 

1.    Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr isafbris uned y bydd manwerthwyr yn cyflenwi alcohol o safleoedd cymwys yng Nghymru i berson yng Nghymru, ac mae'n sefydlu gweithdrefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol.

 

2.    Mae adran 1 o'r Ddeddf yn amlinellu'r fformiwla i'w chymhwyso wrth gyfrifo'r isafbris cymwys at y diben hwn. Y fformiwla yw I x Cr x Cy.

 

3.    I yw'r isafbris uned a bennir mewn rheoliadau; Cr yw cryfder yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol (felly er enghraifft os yw’r cryfder yn 5%, 5 fydd y rhif prifol perthnasol); a Cy yw cyfaint yr alcohol mewn litrau.

 

4.    Mae'r rheoliadau hyn yn pennu mai 50c yw'r isafbris uned (I) at ddiben Deddf 2018.

 

 

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

5.    Dim.

 

 

 

3. Y cefndir deddfwriaethol

 

 

6.     Caiff y rheoliadau eu gwneud yn unol ag adran 1(1)(a) o'r Ddeddf.

 

7.    Yn unol ag adran 26(2) o'r Ddeddf, mae'r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

 


 

 

4. Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

 

8.    Diben y Rheoliadau hyn yw pennu lefel yr isafbris uned at ddibenion y gyfundrefn isafbris a gyflwynwyd gan y Ddeddf.  

 

9.    Amcan pennaf y Rheoliadau hyn yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellid eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol. Yn 2017, cafwyd 540 o farwolaethau yng Nghymru a oedd yn gysylltiedig ag alcohol (wedi codi o 504 yn 2016) ac yn 2017/18, cafwyd bron i 55,000 o dderbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol. Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn wedi'u hanelu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol (gan gynnwys pobl ifanc) sy'n dueddol o yfed symiau uwch o gynhyrchion rhad sy'n cynnwys lefelau alcohol uchel.

 

10. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno isafbris uned ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru, a bydd yn cael ei gyfrifo ar yr isafbris uned, canran cryfder yr alcohol a'i gyfaint. Ni fyddai cyflwyno isafbris am alcohol yn cynyddu pris pob diod alcoholaidd, dim ond y rhai hynny sy’n cael eu gwerthu islaw’r pris hwnnw ar hyn o bryd.

 

11. Er y rhagwelir y bydd gosod isafbris uned yn golygu y bydd pobl yn yfed llai o alcohol, byddant yn talu mwy am gynhyrchion a fu'n cael eu gwerthu am bris islaw'r isafbris cymwys. Bydd yr arian yn mynd i'r manwerthwyr diodydd, nid i Lywodraeth Cymru. Mae'n bosibl y bydd refeniw eraill yn y gadwyn gyflenwi yn cynyddu.

 

12. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield i greu model o effaith bosibl ystod o bolisïau prisio alcohol ar Gymru. Ar 8 Rhagfyr 2014, cyhoeddwyd yr adroddiad Model-based appraisal of minimum unit pricing for alcohol in Wales[1] . Ers hynny, mae'r model wedi’i ddiweddaru â'r data yfed alcohol diweddaraf o Arolwg Cenedlaethol Cymru a data gwerthiant Cymru a’r Gorllewin. Cafodd ffigurau diwygiedig yn dangos effaith y lefelau isafbris uned gwahanol (yn amrywio o 35 ceiniog i 70 ceiniog, fesul pum ceiniog) eu cyhoeddi ar 22 Chwefror 2018.[2]  Cyn hyn, cyhoeddwyd adroddiad interim ar effeithiau isafbris uned o 50c ym mis Tachwedd 2017.[3]

 

13. Gan ystyried ystod o ffactorau, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y bydd gosod isafbris uned o 50c yn targedu lefelau yfed ymysg yfwyr peryglus a niweidiol, gyda'r nod o sicrhau buddion iechyd gwell i'r rheini sydd fwyaf mewn perygl, gan hefyd ystyried yr effeithiau ar yfwyr cymedrol a'r ymyrraeth yn y farchnad.

 

14. Gallwch weld trafodaeth fanwl am effeithiau gosod isafbris uned o 45c, 50c a 55c yn Rhan 2 o'r ddogfen hon – yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

 

 

5. Ymgynghori

 

15. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ddwywaith am yr egwyddor o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru – yn 2014 fel rhan o Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd[4] ac yn 2015 ar Fil drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).[5]

 

16. Ar 28 Medi 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar lefel yr isafbris a ffefrir ganddi ar gyfer uned o alcohol, sef 50c, a rheoliadau drafft.[6]  

 

17. Cafodd yr ymgynghoriad 12 wythnos ar lefel yr isafbris a ffefrir a'r rheoliadau drafft ei ddwyn at sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol gan gynnwys y cyhoedd, manwerthwyr, y diwydiant alcohol, darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid iechyd y cyhoedd, Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau a sefydliadau'r trydydd sector, fel y Rhwydwaith Camddefnyddio Sylweddau. 

 

18. Daeth 148 o ymatebion ysgrifenedig i law - a chafodd crynodeb o'r ymatebion hyn (a'r themâu a godwyd gan randdeiliaid yn ystod y cyfarfodydd ynghylch y lefel a ffefrir) ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 15 Chwefror 2019.[7] Cafodd yr ymatebion eu defnyddio i gyfrannu at y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd ei gynnwys yn adran 8 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. 

 

 

 


 

RHAN 2 – ASESIAD EFFAITH RHEOLEIDDIOL

 

 

6. Opsiynau

 

19. Roedd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn ystyried opsiynau i gyflawni'r amcan a fynegwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol drwy leihau lefelau yfed alcohol, yn enwedig ymysg yfwyr peryglus a niweidiol.[8]  Yn benodol, roedd yr Asesiad Effaith i'r Bil yn cynnwys: Opsiwn 1 – gwneud dim; Opsiwn 2 – cryfhau'r polisi presennol; ac Opsiwn 3 – cyflwyno isafbris uned ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol yng Nghymru.

 

20.  Nid oes unrhyw dystiolaeth ychwanegol neu wahanol wedi dod ar gael sy'n newid yn sylweddol y dadansoddiad yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i'r Bil a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018.  Er bod isafbris am alcohol wedi'i weithredu yn yr Alban yn ddiweddar, nid yw'r canfyddiadau o'i werthusiad wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn yr Alban. Ond mae data a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer yr Alban yn rhoi cipolwg cynnar ar effaith isafbris uned ar werthiant - ar gyfer y pedwar mis cyn cyflwyno isafbris uned (1 Mai 2018) a'r wyth mis yn dilyn hynny. Mae'r data yn dangos:

 

(a)  Yn 2018, gwerthwyd 9.9 litr (L) o alcohol pur am bob oedolyn yn yr Alban, sydd gyfwerth â 19.0 uned yr oedolyn, bob wythnos. Dyma'r lefel isaf a welwyd yn yr Alban yn ystod y cyfnod amser sydd ar gael.

 

(b)  Roedd cyfaint yr alcohol pur a werthwyd yn yr Alban yn 2018 9% yn uwch nag yng Nghymru a Lloegr, y gwahaniaeth lleiaf ers 2003. Mae hyn yn bennaf oherwydd y pwynt data diweddaraf; rhwng 2017 a 2018 syrthiodd gwerthiant fesul oedolyn yn yr Alban ond cynyddodd yng Nghymru a Lloegr.

 

(c)  Yn 2018, pris cyfartalog yr alcohol a werthwyd allfasnach yn yr Alban oedd 59 ceiniog yr uned, cynnydd o 55 ceiniog yr uned yn 2017; yng Nghymru a Lloegr y pris allfasnach ar gyfartaledd oedd 56 ceiniog yr uned (55 ceiniog yr uned yn 2017). Y pris mewnfasnach ar gyfartaledd yn yr Alban oedd £1.87, cynnydd o £1.80 yn 2017; yng Nghymru a Lloegr y pris mewnfasnach ar gyfartaledd oedd £1.84 (£1.78 yn 2017).

 

(d)  Yn yr Alban yn 2018, gwerthwyd ychydig yn llai na chwarter yr holl alcohol allfasnach hwn (23%) yn rhatach na 50 ceiniog yr uned; syrthiodd hyn o 47% yn 2017. Yng Nghymru a Lloegr, gwerthwyd 42% o'r holl alcohol allfasnach yn rhatach na 50 ceiniog yr uned (45% yn 2017).[9] Cyflwynwyd isafbris uned yn yr Alban ar 1 Mai 2018.

 

 

21. Yn sgil hyn, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddio hwn ar gyfer y rheoliadau drafft yn canolbwyntio ar effeithiau pennu lefelau gwahanol o isafbris uned – ac mae'n cynnwys tri opsiwn, sef:

 

Opsiwn 1 – Cyflwyno isafbris uned o 50c (y lefel a ffefrir)

Opsiwn 2 – Cyflwyno isafbris uned o 55c

Opsiwn 3 – Cyflwyno isafbris uned o 45c

 

22. Ni ystyrir bod opsiynau ar gyfer gosod isafbris uned sy'n is na'r uchod yn ddigonol i gyflawni effaith ddymunol y ddeddfwriaeth ar iechyd y cyhoedd a'r effaith gymdeithasol. Nid oes lefelau uwch wedi'u cynnwys gan fod tystiolaeth yn dangos bod patrwm clir yn ymddangos wrth edrych ar yr ystod o drothwyon isafbris uned a fodelwyd. Mae lefelau uwch yn arwain at ostyngiadau cyffredinol uwch i'r lefelau yfed ac i'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol; ond maent hefyd wedi'u targedu llai, gan effeithio ar gyfran uwch o'r alcohol a brynir gan yfwyr cymedrol ac felly byddai hynny'n cael fwy o effaith ar eu lefelau yfed. Mewn geiriau eraill, yr uchaf yw trothwy'r isafbris uned, y mwyaf fydd yr effaith, ond bydd yr effeithiau hyn yn llai dwys ar y grwpiau o'r boblogaeth sy'n wynebu'r risg fwyaf o niwed.

 

23. Mae adran 7 yn cynnwys costau a manteision pob opsiwn.Mae hyn yn cynnwys amcangyfrif o'r costau i ddefnyddwyr, manwerthwyr, awdurdodau lleol, y llysoedd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Caiff y costau a'r manteision eu cymharu i linell sylfaen, sef sefyllfa o 'fusnes fel arfer'.

 

24. Mae'r costau a'r manteision wedi'u hasesu dros gyfnod gwerthuso o 20 mlynedd, gyda llifau arian yn cael eu disgowntio gan ddefnyddio cyfradd ddisgownt ganolog Trysorlys Ei Mawrhydi o 3.5%.  

 

 


 

7. Costau a Manteision

 

Opsiwn 1: isafbris uned o 50c

 

Costau

Defnyddwyr

 

25. Bydd effaith uniongyrchol ar ddefnyddwyr sydd ar hyn o bryd yn prynu alcohol am bris llai na’r isafbris uned cymwys.

 

26. Ar hyn o bryd, mae ychydig o dan ddwy ran o bump (37%) o'r holl alcohol[10] yn cael ei brynu am bris sy'n is na 50c yr uned (gweler Tabl 1). Fodd bynnag, mae hyn yn gyfrifol am ychydig o dan hanner o'r holl alcohol allfasnach (47% yn cael ei werthu islaw 50c).[11]

 

27. Mae model Sheffield yn amcangyfrif y bydd y costau'n bennaf yn cael eu hysgwyddo gan yfwyr peryglus a niweidiol sy'n dueddol o ffafrio alcohol rhad yr effeithir arno fwyaf gan isafbris uned.

 

28. Yn ôl y dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol Sheffield yn 2018, mae ychydig o dan ddwy filiwn o bobl yng Nghymru yn yfed alcohol; mae 72% o'r rhain yn yfwyr cymedrol; 23.5% yn yfwyr peryglus a 4.2% yn yfwyr niweidiol.[12]

 

29. Prynodd yfwyr cymedrol 22% o’u hunedau am bris islaw’r trothwy o 50c yr uned, ac roedd y ffigurau ar gyfer yfwyr peryglus a niweidiol yn uwch (36% a 46% yn y drefn honno), fel y gwelir yn ffigur 1.

 

30. O dan isafbris uned o 50c, bydd yfwr peryglus yn gwario tua £18 yn fwy bob blwyddyn, a bydd yfwr niweidiol yn gwario tua £48 yn fwy bob blwyddyn, a’r effaith fwyaf fydd y gostyngiad a ragwelir yn faint o alcohol a gaiff ei yfed. Mewn cyferbyniad, bydd yfwyr cymedrol yn gwario £3 yn fwy bob blwyddyn ar gyfartaledd.[13]

 

 

 

 

Ffigur 1: Cyfran a chyfanswm yr unedau a brynwyd am bris llai na 50c/uned fesul grŵp yfwyr[14]

 

31. O ran yr alcohol sy’n cael ei yfed gan grwpiau incwm gwahanol, er bod pobl ar gyflogau isel yn talu llai fesul uned o alcohol yn gyffredinol na phobl ar gyflogau mwy, y gwelir hyn ymhlith yfwyr trymach yn hytrach nag yfwyr ysgafnach.[15]

 

32. Ar ben hynny, mae cyfran fwy o'r rheini yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn ymwrthodwyr (27%) o gymharu â'r rheini yn y cwintel lleiaf difreintiedig (14%). Mae hyn i'w weld mewn astudiaethau eraill hefyd sy'n defnyddio data arolwg aelwydydd, lle bo 50% o'r aelwydydd yn y chwartel tlotaf yn prynu dim alcohol o fewn cyfnod o bythefnos o gymharu â 15% o aelwydydd yn y chwartel cyfoethocaf.[16] Mae yfwyr cymedrol yn y cwintel mwyaf difreintiedig hefyd eisoes yn tueddu i yfed llai, 3.7 uned yr wythnos o gymharu â 4.4 ar gyfer yfwyr cymedrol yn y cwintel lleiaf difreintiedig.

 

33. Mae data ar wariant aelwydydd y DU[17] yn dangos bod 1.5 y cant o wariant aelwydydd yn cael ei wario ar alcohol. Does dim patrwm amlwg ar draws y degraddau incwm gyda degraddau chwech ac wyth yn gwario'r gyfran uchaf o incwm eu haelwydydd ar alcohol (1.7 y cant) a degraddau dau a deg yn dyrannu'r gyfran leiaf i alcohol (1.3 y cant). O ystyried bod y cyfrannau hyn o gyfanswm gwariant yn gymharol isel, ar gyfer y rhan fwyaf o yfwyr cymedrol, mae’n annhebygol y bydd cynnydd bach mewn gwariant (y rhagwelir y bydd yn £2.10 y flwyddyn ar gyfer yfwyr cymedrol yn y cwintel WIMD mwyaf difreintiedig, neu £3.80 y flwyddyn i yfwyr cymedrol yn y cwintel WIMD lleiaf difreintiedig) yn cael llawer o effaith ar wariant arall aelwydydd.

 

34. Mae’r cynnydd mewn costau o ganlyniad i’r polisi felly wedi eu canolbwyntio ar yfwyr peryglus a niweidiol. I’r bobl hynny yn y cwintel lleiaf difreintiedig, bydd y cynnydd yn y costau yn £25.40 y flwyddyn i yfwyr peryglus, a £87.60 i yfwyr niweidiol, law yn llaw â gostyngiad o 0.3% (3.6 o unedau) i yfwyr peryglus a 0.7% (26.4 o unedau) i yfwyr niweidiol o ran faint o alcohol a gaiff ei yfed. Mae gostyngiad yn y gwariant yn gyffredinol i'r rheini yn y cwintel mwyaf difreintiedig sy'n yfwyr peryglus, £1.10 ac yfwyr niweidiol (£206.20).[18] Yr effaith fwyaf sylweddol yw gostwng y lefelau yfed (8.4%; 102.7 uned y flwyddyn ar gyfer yfwyr peryglus a 25.6%; 1,119 uned y flwyddyn ar gyfer yfwyr niweidiol).[19] Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'r effaith hon fod yn sylweddol i rai yfwyr niweidiol, yn enwedig y rheini nad ydynt yn gallu cyfyngu ar eu lefelau yfed yn sylweddol. Gallai hyn effeithio ar gyllidebau'r teulu a gallai fod gan aelwydydd lai o arian i’w wario ar eitemau eraill, yn enwedig o fewn y 10% tlotaf lle bo'r swm sy'n cael ei wario ar alcohol yn gymharol uchel o gymharu â chyfanswm gwariant aelwydydd.

 

35. Mae’n anodd rhagweld pa effaith y gallai hyn ei chael ar wariant teuluol os caiff gwariant ei drosglwyddo o amrywiaeth fawr o feysydd o wariant aelwydydd. Nid yw’n bosibl darparu amcangyfrifon o unrhyw newidiadau posibl yn nyraniad gwariant aelwydydd. Nid ydynt yn hysbys eto.

 

36. Gallai’r gostyngiad bach o ran faint sy’n cael ei yfed gan yfwyr cymedrol (gostyngiad o 1.1%) arwain hefyd at gost i wasanaethau iechyd, o ganlyniad i golli effaith amddiffynnol alcohol ar glefyd isgemia’r galon, strôc isgemig a diabetes math 2. Mae’r effaith yn fach gan fod yr effaith amddiffynnol i’w gweld yn unig wrth yfed lefelau isel, felly byddai’r newid yn effeithio'n unig ar y bobl hynny sydd eisoes yn yfwyr cymedrol (y rhagwelir na fydd eu hymddygiad yn newid ond ychydig, gyda lleihad o 2.4 o unedau yn y cyfanswm y maent yn ei yfed bob blwyddyn).

 

37. Fodd bynnag, mae model Prifysgol Sheffield yn amcangyfrif dros gyfnod o 20 mlynedd y bydd effaith net cyflwyno isafbris uned o 50c yn arbed 66 o farwolaethau a 1,281 o dderbyniadau i ysbytai.[20]

 

38. Bydd cynyddu pris alcohol hefyd yn arwain at ostyngiad i ddefnyddioldeb (boddhad defnyddwyr) i'r rheini sy'n lleihau eu lefelau yfed mewn ymateb i hyn. Nid oes modd amcangyfrif beth fydd y gostyngiadau hyn, a thybir y bydd cynnydd yn y defnyddioldeb o'r buddion iechyd sy'n cronni o ganlyniad i lefelau yfed is yn uwch na hynny. Nid yw’n bosibl amcangyfrif unrhyw werthoedd ariannol cysylltiedig – ac felly nid ydynt yn hysbys eto.

 

Manwerthwyr

 

39.Bydd cyflwyno isafbris uned am ddiodydd alcoholaidd yn effeithio ar safleoedd mewnfasnach ac allfasnach. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae'n debygol o gael mwy o effaith ar safleoedd allfasnach nag ar safleoedd mewnfasnach gan fod pris alcohol allfasnach yn gyffredinol is na phris alcohol mewnfasnach.

 

40. Er bod digwyddiadau hyrwyddo diodydd mewnfasnach yn gyffredin, mae mwyafrif yr alcohol a werthir yn y fewnfasnach yn gwerthu am bris sy'n uwch na 50c yr uned. Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 50c yn arwain at gynnydd cyffredinol o £1 miliwn (cynnydd o 0.2%) mewn refeniw i fanwerthwyr mewnfasnach.[21]

 

41.Prynir mwyafrif (yn ôl cyfaint) o'r holl alcohol, ac eithrio gwin, am bris sy'n llai na 50c yr uned yn yr allfasnach: prynir 62% o gwrw allfasnach am lai na 50c yr uned, 73% o seidr, 32% o win a 60% o wirodydd (gweler Tabl 1).

Tabl 1: Cyfran yr alcohol sy'n cael ei werthu sydd islaw trothwyon pris yn ôl y math a’r cyfrwng[22]

 

 

 

Trothwy’r pris

35c

40c

45c

50c

55c

60c

65c

70c

Allfasnach

Cwrw

20%

34%

47%

62%

76%

83%

89%

94%

Seidr

48%

56%

66%

73%

79%

84%

86%

89%

Gwin

4%

8%

22%

32%

55%

64%

75%

81%

Gwirodydd

2%

19%

43%

60%

74%

79%

85%

88%

Diodydd parod i’w hyfed

0%

0%

1%

1%

2%

2%

8%

13%

Mewnfasnach

Cwrw

0%

1%

1%

1%

2%

3%

3%

4%

Seidr

0%

0%

2%

3%

4%

5%

6%

7%

Gwin

1%

2%

2%

2%

3%

3%

4%

5%

Gwirodydd

2%

2%

4%

5%

8%

9%

9%

11%

Diodydd parod i’w hyfed

0%

0%

0%

0%

0%

1%

1%

1%

 

 

 

 

Holl ddiodydd allfasnach

9%

19%

35%

47%

65%

72%

81%

85%

Holl ddiodydd mewnfasnach

1%

1%

1%

2%

3%

3%

4%

5%

 

 

 

 

Holl alcohol

7%

15%

27%

37%

50%

56%

63%

66%

 

 

42.Ar gyfer manwerthwyr allfasnach, mae model Sheffield yn awgrymu y bydd unrhyw ddirywiad mewn gwerthiant yn cael ei ddigolledu gan brisiau uwch, a fydd yn arwain at gynnydd cyffredinol mewn refeniw, oherwydd yr anelastigrwydd cymharol yn y galw am alcohol, er nad oes sicrwydd ynghylch yr effaith gyffredinol ar refeniw. Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 50c yn arwain at gynnydd cyffredinol o £16.8 miliwn (cynnydd o 9.9%) mewn refeniw i fanwerthwyr allfasnach.[23] Er hyn, bydd y costau gweithredu i fanwerthwyr yn amrywio gan ddibynnu ar faint y busnes – er, nid yw’n hysbys i ba raddau y bydd y costau hyn yn amrywio ar hyn o bryd.

 

43. Gallai busnesau mwy sy’n gweithredu ledled y DU wynebu costau sy’n gysylltiedig â gwahanol brisiau a gwahanol drefn hyrwyddo yng Nghymru. Ni ystyrir y bydd cost ailbrisio a labelu ar yr adeg gweithredu yn ormodol, gan fod y siopau hyn yn ailbrisio eu cynhyrchion yn rheolaidd, gan gynnwys mewn ymateb i newidiadau mewn tollau alcohol ar fyr rybudd. Fodd bynnag, nid yw’r costau hyn yn hysbys.

 

44. Bydd isafbris uned yn berthnasol i fusnesau cymwys sy’n cynnig danfoniad o alcohol ar-lein neu dros y ffôn wrth gyflenwi i berson yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall gwerthu dros y we/clicio a chasglu/archebion dros y ffôn fod yn her o ran gweithredu i rai manwerthwyr yng Nghymru. Felly, rydym wedi gofyn am safbwyntiau ar y mater hwn yn yr ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) drafft yn 2015. Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr sydd o blaid y cynnig y byddai effaith deddfwriaeth yn fach ar y rheini sy'n prynu neu'n gwerthu alcohol ar-lein, yn enwedig gan fod y cynnyrch hynny eisoes yn aml yn cael eu gwerthu am bris sy'n uwch nag unrhyw isafbris tebygol, a'u bod yn aml yn gynhyrchion arbenigol ee gwin da neu frandiau cynnyrch unigryw. Dywedodd un ymatebydd y gallai hyn arwain at effaith andwyol i fanwerthwyr ar-lein y mae eu prif fusnes yn dibynnu ar werthu alcohol rhad a chryf.

 

45. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi amlygu nifer o gostau eraill, gan gynnwys yr angen i ddiweddaru systemau mewn siopau a ddefnyddir ar hyn o bryd i atal gwerthu alcohol wrth y til yn is na phris y gost. Yn ymateb y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'r ymgynghoriad ar y Bil, amlinellwyd y farn y byddai gweithredu a chyflenwi'r isafbris uned yn faich ar rai manwerthwyr yng Nghymru. Roedd yr ymateb hefyd yn nodi bod creu systemau a phrosesau newydd yn cymryd amser a bod angen buddsoddiad gan y busnesau hynny ar adeg pan fo maint yr elw ar fwyd a diod yn fach.[24] Fodd bynnag, nid yw’r costau hyn yn hysbys.  Mae un gadwyn archfarchnad wedi amcangyfrif y gallai hyn gostio hyd at £1 miliwn, ac y gallai gymryd rhwng dwy a thair blynedd i’w weithredu a’i brofi.[25] Er enghraifft, dywedodd Asda yn ei ymateb i'r ymgynghoriad gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi syniad o'r costau hyn, bod y gost o baratoi ei systemau prisio i weithredu'r isafbris uned yn yr Alban wedi costio dros £1 miliwn gan gymryd bron tair blynedd.[26]  Mae rhai cynrychiolwyr o'r diwydiant alcohol a manwerthu hefyd wedi awgrymu y gallai fod cost ar gyfer cynnal gwahanol systemau prisio a chydymffurfio bob ochr i’r ffin.[27]

 

46. Fodd bynnag, mae gan nifer sylweddol o’r manwerthwyr hyn (cadwynau archfarchnadoedd yn bennaf) wahanol brisiau mewn gwahanol siopau o wahanol fath/maint eisoes, ac maent hefyd yn gyfarwydd iawn â gweithredu a delio â gwahanol reolau ar gynigion arbennig ar bris alcohol a chyflwyno'r isafbris am alcohol yn ddiweddar yn yr Alban.

 

47. Soniodd y Wine and Spirit Trade Association am y gost o adolygu deunydd hyrwyddo yn ei ymateb i'r Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd yn 2014 ac yn ei ymateb i'r ymgynghoriad mwy diweddar gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol ar y Bil.[28] Mae’n bosibl y byddai costau yn gysylltiedig â gwastraff hefyd gan na fydd modd i gynnyrch sydd wedi ei ddifrodi gael ei werthu am lai na’r isafbris uned cymwys.[29] Nid yw’r costau hyn yn hysbys. Er ein bod yn cydnabod y bydd rhai costau’n gysylltiedig â’r newid, dylai manwerthwyr mwy allu amsugno’r costau hwyluso a gweithredu, gan eu bod yn debygol o elwa ar gynnydd mewn refeniw o ganlyniad i isafbris uned. Caiff tua 84% o’r alcohol a gaiff ei allwerthu ei werthu gan fanwerthwyr lluosog mawr, yn ôl Nielsen.[30]

 

48. Bydd isafbris uned yn berthnasol i fusnesau cymwys sy’n cynnig danfoniad o alcohol ar-lein neu dros y ffôn wrth gyflenwi i berson yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall gwerthu dros y we/clicio a chasglu/archebion dros y ffôn fod yn her o ran gweithredu i rai manwerthwyr yng Nghymru. Felly, rydym wedi gofyn am safbwyntiau ar y mater hwn yn yr ymgynghoriad ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) drafft yn 2015. Dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr sydd o blaid y cynnig y byddai effaith deddfwriaeth yn fach ar y rheini sy'n prynu neu'n gwerthu alcohol ar-lein, yn enwedig gan fod y cynnyrch hynny eisoes yn aml yn cael eu gwerthu am bris sy'n uwch nag unrhyw isafbris tebygol, a'u bod yn aml yn gynhyrchion arbenigol ee gwin da neu frandiau cynnyrch unigryw. Dywedodd un ymatebydd y gallai hyn arwain at effaith andwyol i fanwerthwyr ar-lein y mae eu prif fusnes yn dibynnu ar werthu alcohol rhad a chryf.

 

49. Lle bo manwerthwyr yn parhau i ddefnyddio gostyngiadau mawr ar alcohol i annog cwsmeriaid, fe allent golli rhai o’r bobl a fyddai’n dod i’r siopau o ganlyniad. Ond mae hyn yn anodd ei gyfrifo a bydd manwerthwyr mawr yn debygol o gystadlu â manwerthwyr mawr eraill a fydd yn ddarostyngedig i'r un effaith a byddant yn parhau i fod yn gallu cystadlu drwy gynnig gostyngiadau ar gynhyrchion eraill. Nid yw’r costau cysylltiedig o ganlyniad i golli rhai o’r bobl a fyddai’n dod i’r siopau yn hysbys.

 

50. Gall busnesau bach, yn enwedig y rhai hynny heb gymorth pencadlys, wynebu costau gweithredu uwch. Er enghraifft, gallai fod angen i fanwerthwyr annibynnol neilltuo aelod o staff i wneud hyn am un diwrnod, am gost o ryw £67 fesul siop (yn seiliedig ar gynorthwyydd manwerthu yn gweithio am wyth awr ar gyflog o £8.33 yr awr).[31] Byddai hyn yn golygu y byddai cyfanswm y gost weithredu tua £477,040 ar gyfer yr holl fanwerthwyr, ac mae cyfanswm o 7,120 ohonynt yng Nghymru yn seiliedig ar y ffigurau hyn.[32]  Fodd bynnag, gallai manwerthwyr llai ganfod eu bod yn adennill y gost hon mewn refeniw, a hefyd drwy eu gallu cynyddol i gystadlu â manwerthwyr mawr ac archfarchnadoedd. Fodd bynnag, er bod amcangyfrif wedi’i gynnwys ar gyfer costau gweithredu, nid yw costau penodol (neu gynnydd mewn refeniw) yn hysbys.

 

51. Bydd angen i fanwerthwyr ymgyfarwyddo hefyd â gofynion isafbris uned er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â nhw. Gallai gymryd tua phedair awr i reolwyr siopau ymgyfarwyddo’n llawn â’r newidiadau a hysbysu’r staff yn ôl y gofyn. Yn seiliedig ar gyfradd fesul awr rheolwyr manwerthu (£11.01),[33] a chan gymryd y byddai un aelod o staff ar y lefel hon fesul siop, byddai’r costau ar gyfer hyn yn dod i gyfanswm o ryw £313,600 yn ystod y flwyddyn cyn gweithredu. Tybir y bydd gan fanwerthwyr system barhaus i sicrhau bod gan reolwyr siopau yr wybodaeth gyfredol am safonau trwyddedu alcohol. Mae’n bosibl y byddai cynnwys isafbris uned am alcohol yn rhan o’r system hon yn ychwanegu awr at y broses ymgyfarwyddo, sef cost o tua £78,000 (ar gyfer manwerthwyr trwyddedig yng Nghymru) yn y dyfodol.

 

52. Mae ansicrwydd yn parhau ynghylch ymatebion penodol manwerthwyr i’r cam o gyflwyno isafbris uned, a’r effaith ar y farchnad yn ei chyfanrwydd. Ychydig iawn o gonsensws a geir yn y diwydiant ynghylch a fydd isafbris uned yn effeithio ar brisiau gwerthu sy’n uwch na’r isafbris – pa un a fydd y brandiau drutaf hefyd yn codi eu prisiau er mwyn cynnal y gwahaniaeth rhwng y rhain a brandiau rhad. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi dadlau y bydd yn effeithio’n anghymesur ar alcohol brand yr archfarchnad.[34] Mae model Prifysgol Sheffield yn tybio mai’r unig newid fydd codi’r prisiau i drothwy’r isafbris uned, gan nad yw’n bosibl modelu’r effaith ar gostau a refeniw i wahanol fathau o fanwerthwyr a chynhyrchwyr yn gywir. Rhagwelir y bydd cost y dirywiad yn y swm sy’n cael ei brynu yn llai na’r refeniw uwch o ganlyniad i brisiau uwch. Bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu o'r gwaith gweithredu isafbris uned yn yr Alban, a'i werthusiad. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i drafod â Rhwydwaith Diwydiant Alcohol Llywodraeth Cymru cyn (ac ar ôl) gweithredu’r isafbris uned. Mae aelodau’r rhwydwaith yn cynnwys cynhyrchwyr a manwerthwyr.

 

53. Bydd effaith anuniongyrchol ar gyfanwerthwyr alcohol gan y disgwylir y bydd gostyngiad yng nghyfaint yr alcohol a gaiff ei brynu am bris llai na’r isafbris uned cymwys. Bydd graddau’r effaith yn dibynnu ar faint o alcohol y maent yn ei werthu i fanwerthwyr sydd wedyn yn cael ei brisio yn llai na’r isafbris cymwys am alcohol. Fodd bynnag, ni fyddant yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o ran isafbris uned mewn perthynas â'u gwerthiannau i fasnachwyr eraill.[35] Gallai cyfanwerthwyr ddewis cynyddu prisiau gan wybod bod prisiau manwerthu nwyddau penodol wedi cynyddu, ond penderfyniad i gwmnïau unigol yn y gadwyn gyflenwi fyddai hynny. Yn yr un modd, mae’n anodd darogan yr effaith ar gynhyrchwyr gan nad ydym yn gwybod beth fydd yr ymateb ar yr ochr gyflenwi ac ymhle y bydd refeniw ychwanegol yn cronni yn y gadwyn gyflenwi. Er enghraifft, gallai cynhyrchwyr ddewis cynhyrchu cynhyrchion â chryfder is, a fydd yn manwerthu am bris rhatach, neu ganolbwyntio ar frandiau drutach. Mae’r diwydiant alcohol eisoes wedi arloesi yn y maes hwn, gan dynnu dros biliwn o unedau o farchnad alcohol y DU fel rhan o’r cytundeb cyfrifoldeb.[36]

 

54. Gallai manwerthwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion isafbris uned wynebu costau o ganlyniad i hysbysiadau cosb benodedig a orfodir, neu byddant yn agored i erlyniad posibl a dirwyon. Nid yw’r costau hyn yn hysbys. Er hyn, drwy ddysgu o bolisi gorfodi presennol awdurdodau lleol, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y gallai awdurdodau lleol, mewn achosion penodol a lle y bo'n bosibl, ddymuno arfer eu disgresiwn a gweithio gyda manwerthwyr i ddatrys materion yn wirfoddol. 

 

Awdurdodau lleol

 

55. Rhagwelir y bydd arolygiadau ar gyfer cydymffurfio â’r isafbris yn dod yn rhan o'r drefn arolygu bresennol ar gyfer mangreoedd sy’n gwerthu alcohol. Amcangyfrifodd Moore et al. y byddai cost ymweliad arolygu (gan swyddog iechyd yr amgylchedd neu swyddog drwyddedu) tua £125.[37] Gallai hefyd fod cost ychwanegol i awdurdodau lleol oherwydd bod angen cynnal gwiriadau yn amlach a manylach, yn enwedig yn ystod dyddiau cynnar y ddeddfwriaeth. Yn yr un modd, er y gallai fod rhai costau gweinyddol ychwanegol yn gysylltiedig â chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig i fusnesau nad ydynt yn cydymffurfio â’r isafbris, bydd y gost hon yn cael ei chydbwyso i ryw raddau ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'r Ddeddf yn darparu y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio symiau cosb penodedig a geir am eu swyddogaethau gorfodi o dan y Ddeddf. Yn gyffredinol – nid yw’r costau cydymffurfio hyn yn hysbys.

 

56. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng Llywodraeth Cymru  a Phenaethiaid Safonau Masnach Cymru am ariannu gweithgarwch arolygu a gorfodi.  Ar ôl ystyried cynigion gan y Penaethiaid, bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyfanswm o £300,000 dros dair blynedd (2019/20, 2020/21 a 2021/22) i’r Penaethiaid ar gyfer gorfodi’r Ddeddf yn y lle cyntaf. Bydd y cyllid yn dod i ben ar ôl y drydedd flwyddyn.

 

57. Bydd y £300,000 hwn yn cael ei ddyrannu fel a ganlyn: £66,000 yn y flwyddyn gyntaf (rhagwelir mai 2019/20 fydd y flwyddyn honno); £204,000 yn yr ail flwyddyn (2020/21); a £30,000 yn y drydedd flwyddyn (2021/22). Mae 3,275 o safleoedd sy’n allwerthu yn unig yng Nghymru, a byddai darparu mwyafrif y cyllid yn y flwyddyn gyntaf (2019/20) yn caniatáu i awdurdodau lleol ymweld â’r holl safleoedd hyn er mwyn eu harolygu yn ystod y tri mis cyntaf ar ôl rhoi’r isafbris uned am alcohol ar waith. Rhagwelir y bydd y lefel gydymffurfio yn uchel. 

 

58. Pan fo erlyniadau’n ofynnol, mae’n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn wynebu costau gweinyddol a chyfreithiol. Fel arfer, gellir hawlio’r costau cyfreithiol yn ôl gan y sawl sy’n cael ei erlyn os yw’r achos yn llwyddiannus, ond bydd costau cychwynnol. Mae'r gwersi a ddysgwyd o orfodi'r ddeddfwriaeth am fagiau plastig yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd y costau ar gyfer gorfodi isafbris yn isel – fodd bynnag, nid yw’r costau hyn yn hysbys. Mae awdurdodau lleol yn nodi bod gorfodi’r ddeddfwriaeth am fagiau plastig wedi bod yn effeithiol drwy ddefnyddio dulliau anffurfiol yn bennaf (fel rhybuddion ar lafar/ailymweliadau).

 

Costau llys

 

59. Mae'n debygol y bydd yr amcangyfrif o'r costau llys sy'n gysylltiedig â chyflwyno isafbris uned yr un fath, ni waeth beth fo lefel yr isafbris uned.

 

60. Er y bydd camau gweithredu yn cael eu cymryd gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd mynd yn groes i'r isafbris uned yn arwain at lawer o achosion llys oherwydd y lefelau cydymffurfio uchel a ragwelir. Yn ogystal â hyn ac fel y nodwyd, caiff awdurdodau lleol, lle y bo'n bosibl ac mewn achosion priodol, ddewis arfer eu disgresiwn a gweithio gyda manwerthwyr i ddatrys materion yn wirfoddol gyda swyddogion gorfodi sy'n gweithio gyda manwerthwyr alcohol i’w helpu i osgoi aildroseddu. Disgwylir y bydd gwaith o'r fath yn rhan o drefn weithio arferol swyddogion gorfodi. Bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi i helpu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno isafbris am alcohol. Yn ogystal â hyn, mae darpariaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad cosb benodedig cyn erlyn neu yn hytrach nag erlyn.  Nid ydym yn rhagweld y bydd llawer iawn o achosion Llys felly. Fodd bynnag, nid yw’r costau cysylltiedig yn hysbys cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.

 

Llywodraeth Cymru

 

61. Mae'n debygol y bydd yr amcangyfrif o'r costau i Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno isafbris uned am alcohol yr un fath, ni waeth beth fo lefel yr isafbris uned.

 

62. Bydd cost gweithredu isel i Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu canllawiau ar isafbris uned. Disgwylir i’r gwaith o ddatblygu canllawiau (yn seiliedig ar amcangyfrif o 6,000 o eiriau), gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y canllawiau’n addas at eu diben, gymryd tua phum wythnos dros gyfnod o dri mis o amser swyddog gweithredol uwch cyfwerth ag amser llawn (sy’n gyfartal â £4,280), a phum wythnos dros gyfnod o dri mis o amser swyddog gweithredol cyfwerth ag amser llawn (sy'n gyfartal â £2,740). Byddai’r costau hyn yn cael eu talu yn 2019/20. Cyfanswm y gost o baratoi’r canllawiau felly fyddai £7,020.[38]

 

63. Yn seiliedig ar ganllawiau blaenorol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru, disgwylir y byddai’r gwaith dylunio a chyfieithu yn cymryd tua deufis i’w gwblhau. Byddai angen tua wythnos o amser swyddog gweithredol cyfwerth ag amser llawn i wneud y gwaith dylunio dros gyfnod o ddau fis, a fyddai’n gyfartal â thua £600. Amcangyfrifir y byddai'r gost o gyfieithu a phrawfddarllen tua £600.[39]  Byddai costau gweinyddu a rheoli hefyd, sydd wedi ei amcangyfrif yn wythnos o amser swyddog gweithredol cyfwerth ag amser llawn. Eto, byddai hyn yn gyfartal â thua £600. Byddai’r canllawiau’n cael eu rhannu’n electronig ag awdurdodau lleol, gan osgoi’r angen am gostau argraffu a dosbarthu. Cyfanswm y gost o ddylunio a chyfieithu’r canllawiau felly fyddai £1,800, yn seiliedig ar raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru 2017/18.

 

64. Os na chaiff y darpariaethau isafbris eu diddymu ar ddiwedd y cyfnod o 6 blynedd, byddai Llywodraeth Cymru yn diweddaru’r canllawiau ar ôl y cyfnod adolygu yn ôl yr angen. Rhagwelir y gallai fod angen wythnos o amser swyddog gweithredol uwch cyfwerth ag amser llawn (yn gyfartal â thua £860) er mwyn eu diweddaru ac wythnos o amser swyddog gweithredol cyfwerth ag amser llawn (yn gyfartal â thua £600 yn seiliedig ar raddfeydd cyflog Llywodraeth Cymru 2017/18) i adolygu'r gweithrediad a'r systemau â’r holl awdurdodau lleol ynghyd â chymryd tystiolaeth o’u gweithrediad. Byddai costau cyfieithu a dylunio'n gyfrifol am hanner y costau gwreiddiol, sef cyfanswm o £900. Cynigir y byddai’r adolygiad yn cael ei ailadrodd bob pedair i bum mlynedd wedi hynny. Cyfanswm y gost o adolygu’r canllawiau felly fyddai tua £2,360 bob pum mlynedd.

 

65. Mae adran 29 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo'r gyfundrefn isafbris uned a gyflwynwyd gan y Ddeddf cyn ei weithredu. Mae'n nodi bod yn rhaid i'r camau a gymerir yn hynny o beth gynnwys hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol a'r ffordd y mae cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru yn bwriadu lleihau'r lefelau yfed alcohol.   

 

66. Datblygwyd deunyddiau cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ofynion y Ddeddf a'r ffordd y mae cyflwyno isafbris am alcohol yn bwriadu lleihau lefelau goryfed alcohol, a chawsant eu cyhoeddi i gyd-fynd â'r Cydsyniad Brenhinol a roddwyd ar 9 Awst 2018.  Parhaodd y gwaith hwn yn ystod y cyfnod ymgynghori ar lefel yr isafbris uned a ffefrir, a bydd yn parhau yn y cyfnod cyn (ac ar ôl) ei weithredu, yn gynnar yn 2020. 

 

67. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i'r newidiadau yn y gyfraith er mwyn rhoi gwybod i fusnesau (er enghraifft drwy ohebiaeth uniongyrchol, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau masnach), ac i’r cyhoedd (er enghraifft drwy ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus, digwyddiad lansio ac ar y we a chyfryngau cymdeithasol). Bydd hyn yn help wrth osgoi dryswch i fanwerthwyr ynglŷn â sut i ymdrin â’r lefelau isafbris gwahanol a osodir gan Lywodraeth y DU (drwy’r gwaharddiad ar werthiannau islaw'r gost) a chan Lywodraeth Cymru (drwy’r isafbris uned).[40]

 

68. Y bwriad yw darparu hyfforddiant mewn perthynas â gofynion y ddeddfwriaeth i staff gorfodi awdurdodau lleol. Amcangyfrifir y bydd hyn yn costio £6,000 i Lywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddi 22 o awdurdodau lleol am hanner diwrnod. Ni fydd hon yn gost i awdurdodau lleol, gan y bydd yn rhan o hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus arferol y staff. Bwriedir hefyd ddatblygu deunyddiau e-ddysgu / Powerpoint i awdurdodau lleol (a ellir wedyn eu defnyddio gan ddarparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid), er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofynion y Ddeddf, ynghyd â'i nodau.

 

69. Yn ystod y cyfnod ymgynghori ar y Bil drafft, dangosodd Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd (Cymru) eu bod yn cefnogi'r sail resymegol i gyflwyno isafbris uned ond gan nodi pryderon ynghylch beichiau ychwanegol i lywodraeth leol sy'n ymwneud â'r weithdrefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol a'r angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi. Codwyd hyn hefyd yn ystod sesiynau craffu cyfnod 1 a gynhaliwyd gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y Bil a oedd ger ei fron ar y pryd. Fel y nodwyd uchod, ar ôl ystyried cynigion Penaethiaid Safonau Masnach Cymru, bydd £300,000 yn cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu am y gweithgarwch arolygu a gorfodi ychwanegol yn y tair blynedd cyntaf o weithredu.

 

70. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol, bum mlynedd ar ôl gweithredu'r gyfundrefn isafbris uned, ac yna ei gyhoeddi. Yn y cam hwn, yn seiliedig ar gostau sy'n gysylltiedig â gwerthusiadau ac adolygiadau tebyg a gynhaliwyd yn flaenorol – gan gynnwys Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 – amcangyfrifir y byddai'r costau ar gyfer y gwaith hwn tua £350,000 dros bum mlynedd. Mae'n bwysig nodi y bydd cyfanswm cost y gwerthusiad yn dibynnu ar y cydbwysedd o ddefnyddio a dadansoddi data sydd ar gael fel mater o drefn ac sy'n bwrpasol, gwaith modelu yn y dyfodol, y posibilrwydd o brynu data masnachol ac ymchwil ar weithredu a gorfodi'r ddeddfwriaeth. Rhannwyd cynlluniau ar gyfer gwerthuso'r gwaith o gyflwyno isafbris uned am alcohol â Phwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol.[41] Mae gwahanol elfennau o'r gwaith ymchwil a gwerthuso bellach wedi eu comisiynu. Mae crynodeb o'r cynlluniau hyn ar gael yn adran 10 yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn (Adolygiad ôl-weithredu).

 

 

Llywodraeth y DU

 

71. Bydd effaith ar Lywodraeth y DU o ganlyniad i leihad yn lefel y tollau a TAW sy’n gysylltiedig ag unrhyw newidiadau yng nghyfaint a phatrwm gwerthu cynhyrchion alcohol pan fo isafbris uned yn llwyddo i leihau’r defnydd o alcohol. O dan isafbris uned o 50c, disgwylir y bydd gostyngiad cyffredinol mewn refeniw o 0.4% (sef cyfanswm o £1.9 miliwn y flwyddyn), yn bennaf o ganlyniad i’r gostyngiad mewn derbyniadau allfasnach oherwydd y gostyngiad yn lefel yr alcohol a gaiff ei yfed.[42]

 

 

Manteision

Unigolion a chymdeithas 

 

72. Mae isafbris uned o 50c yn gysylltiedig â gostyngiad cymdeithasol mewn niwed i iechyd, troseddau ac absenoldebau o’r gwaith a amcangyfrifir ei fod yn £783 miliwn (prisiau 2016) dros y cyfnod o 20 mlynedd a ddangosir.[43] Mae’r ffigur hwn yn cynnwys costau gofal iechyd uniongyrchol is (£91 miliwn); arbedion yn sgil llai o droseddau (£188 miliwn); arbedion yn sgil llai o absenoldebau o’r gwaith (£14 miliwn); a phrisiant ariannol o’r manteision iechyd (£490 miliwn), a fesurir yn ôl blynyddoedd o fywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd, sy’n cael eu prisio yn £60,000 yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Gartref).[44] [45]

73. Mantais benodol yr isafbris uned yw’r graddau y mae wedi ei dargedu at yfwyr peryglus a niweidiol, y mae costau camddefnyddio alcohol wedi eu cysylltu gryfaf â nhw. Mae effaith gref ar lefelau yfed yr yfwyr hyn, gan eu bod yn tueddu i ffafrio’r alcohol rhatach y mae’r polisi hwn yn effeithio fwyaf arno. Byddai isafbris uned o 50c yn achosi lleihad o 6.8% yng nghyfanswm yr alcohol y mae yfwyr niweidiol yn ei yfed, sy’n lleihad absoliwt o 268.7 o unedau’r flwyddyn, o gymharu â gostyngiad o 1.1% yn yr alcohol a yfir, sy’n gyfystyr â 2.4 o unedau y flwyddyn, ar gyfer yfwyr cymedrol. Mae yfwyr niweidiol yn cyfrif am 69% o’r gostyngiad mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a 44% o’r gostyngiad mewn derbyniadau i ysbytai.

74. Ar ben hynny, fel y dangosir uchod, mae patrymau yfed yn wahanol pan y’u harchwilir yn ôl grŵp incwm. Mae’r yfwyr cymedrol yn y cwintel mwyaf difreintiedig,  wedi gweld gostyngiad bach i lefelau yfed mewn termau absoliwt (6.9 uned y flwyddyn), ac ni ragwelir y bydd yfwyr cymedrol yn y cwintel lleiaf difreintiedig yn newid eu lefelau yfed. Ar gyfer yfwyr niweidiol yn y cwintel mwyaf difreintiedig, gan eu bod yn tueddu i ffafrio diodydd rhatach a diodydd sydd â’r elastigedd pris mwyaf, yn enwedig cwrw a seidr allfasnach, mae isafbris uned yn cael yr effaith fwyaf, a’r effaith honno yn bennaf yw gostyngiad yn y lefelau o alcohol a gaiff ei yfed (1,118.9 o unedau y flwyddyn) a gostyngiad yn y gwariant o £206.20 y flwyddyn.[46]

75. Mae isafbris uned yn debygol o gael effaith fanteisiol ar yr yfwyr trymaf hyd yn oed, sydd â phroblemau difrifol ag alcohol. Canfu un astudiaeth yn yr Alban, gan fod pobl â phroblem yfed (sy’n yfed cyfartaledd o 198 o unedau yr wythnos) eisoes yn yfed yn y ffordd rataf bosibl a bod prisiau is fesul uned yn gysylltiedig â chynnydd yn lefelau yfed y grŵp hwn, y byddai isafbris uned yn debygol o gael effaith absoliwt gymharol fawr ar lefelau yfed.[47] Fel y nodwyd eisoes, mae canllawiau NICE yn nodi bod isafbris uned yn gallu helpu pobl sydd â phroblem yfed, y rhai hynny nad ydynt mewn cyswllt rheolaidd a’r gwasanaethau perthnasol, a’r rhai hynny sy’n derbyn triniaeth fel ei gilydd, drwy greu amgylchedd sy’n cefnogi yfed llai peryglus.[48]

76. Mae'r model yn awgrymu y byddai isafbris uned o 50c yn cael mwy o effaith ar iechyd y bobl hynny yn y cwintel WIMD mwyaf difreintiedig,  gyda 12 yn llai o farwolaethau a 203 yn llai o dderbyniadau i ysbytai fesul 100,000 o yfwyr yn y cwintel mwyaf difreintiedig o gymharu â dim marwolaeth yn llai a dau yn llai o dderbyniadau i ysbytai fesul 100,000 o yfwyr yn y cwintel lleiaf difreintiedig, fel y nodir yn Nhabl 2 isod. Mae Ludbrook et al. hefyd o’r farn y gallai yfed llai fod yn fwy buddiol i’r rhai hynny sydd mewn tlodi, gan fod grwpiau dan anfantais yn tueddu i gael canlyniadau iechyd gwaeth nag eraill, pan fo lefel yr alcohol sy’n cael ei yfed yn debyg.[49]

77. Isod ceir manylion manteision isafbris uned i’r boblogaeth o ran lleihau problemau iechyd, troseddu ac absenoldebau o’r gweithle sy’n gysylltiedig ag alcohol.

 

Iechyd

 

78. Mae model Prifysgol Sheffield yn amcangyfrif y bydd gostyngiadau sylweddol mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol o’r holl bolisïau a fodelwyd, ac amcangyfrifir y bydd 66 yn llai o farwolaethau a 1,281 yn llai o dderbyniadau i ysbytai y flwyddyn o ganlyniad i isafbris uned o 50c.

 

79. Amcangyfrifir y bydd y costau uniongyrchol i wasanaethau gofal iechyd yn lleihau dan yr holl bolisïau a fodelwyd, gydag arbedion o fwy na £90 miliwn dros 20 mlynedd ar gyfer trothwy isafbris uned o 50c (Tabl 4).

 

80. Mae hyn yn cyd-fynd â thystiolaeth o wledydd eraill sydd wedi rhoi polisïau tebyg ar waith. Yng Nghanada, roedd cysylltiad rhwng cynnydd o 10% yn isafbrisiau cyfartalog alcohol a gostyngiad o 32% mewn marwolaethau a achosir yn gyfan gwbl gan alcohol.[50]

 

 

 

 


 

Tabl 2: Amcangyfrif o effaith isafbris uned o 50c ar gyfraddau marwolaeth a derbyniadau i ysbytai yn ôl amddifadedd[51]

 

C1 WIMD (lleiaf difreintiedig)

C2 WIMD

C3 WIMD

C4 WIMD

C5 WIMD (mwyaf difreintiedig)

Llinell sylfaen flynyddol y marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol fesul 100,000 o yfwyr

28

30

35

45

75

Marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ar ôl ymyrraeth fesul 100,000 o yfwyr

28

29

32

42

62

Newid absoliwt

-0.1) yn nodi

-0.9) yn nodi

-2.7) yn nodi

-3.6) yn nodi

-12.3) yn nodi

Newid cymharol

-0.3) yn nodi%

-3.1) yn nodi%

-7.7) yn nodi%

-8.0) yn nodi%

-16.5) yn nodi%

 

 

 

 

 

 

Llinell sylfaen flynyddol y derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol fesul 100,000 o yfwyr

1,390) yn nodi

1,542) yn nodi

1,741) yn nodi

2,124) yn nodi

2,823) yn nodi

Derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol ar ôl ymyrraeth fesul 100,000 o yfwyr

1,388) yn nodi

1,522) yn nodi

1,684) yn nodi

2,031) yn nodi

2,619) yn nodi

Newid absoliwt

-1.8) yn nodi

-19.7) yn nodi

-57.4) yn nodi

-93.4) yn nodi

-203.3) yn nodi

Newid cymharol

-0.1) yn nodi%

-1.3) yn nodi%

-3.3) yn nodi%

-4.4) yn nodi%

-7.2) yn nodi%

 

 

 

Absenoldebau o’r gweithle

 

81. Amcangyfrifir y bydd absenoldebau o’r gweithle yn lleihau dan yr holl bolisïau a fodelwyd (fel y nodir yn Nhabl 3), gyda gostyngiad o 514 o ddiwrnodau o absenoldeb fesul 100,000 o yfwyr y flwyddyn erbyn blwyddyn 20 ar gyfer isafbris uned o 50c. Mae hyn yn werth £14 miliwn dros 20 mlynedd (fel y nodir yn Nhabl 4).

 

Troseddu

82.Disgwylir i lefelau troseddu ostwng, gydag amcangyfrif o 110 yn llai o droseddau fesul 100,000 o yfwyr y flwyddyn dan bolisi isafbris uned o 50c. Rhagwelir y bydd y gostyngiadau mwyaf i’w gweld ymysg yr yfwyr peryglus.  Amcangyfrifir y bydd £188 miliwn (prisiau 2016) o ostyngiad yng nghostau troseddu dros 20 mlynedd dan bolisi isafbris uned o 50c (fel y nodir yn Nhabl 4).[52]
Tabl 3:Amcangyfrifiad o effaith polisïau isafbris uned ar absenoldebau o’r gweithle y gellir eu priodoli i alcohol yn ôl grŵp o yfwyr[53]

 

Pob yfwr

Cymedrol

Peryglus

Niweidiol

Llinell sylfaen flynyddol nifer y diwrnodau o absenoldeb y gellr eu priodoli i alcohol

507,795) yn nodi

212,963) yn nodi

227,856) yn nodi

66,975) yn nodi

Llinell sylfaen flynyddol nifer y diwrnodau o absenoldeb y gellir eu priodoli i alcohol fesul 100,000 o yfwyr

26,585) yn nodi

15,440) yn nodi

50,709) yn nodi

82,287) yn nodi

 

 

 

 

Newid absoliwt yn nifer y diwrnodau o absenoldeb bob blwyddyn

Isafbris uned o 35c

-1,838) yn nodi

-457

-1,110) yn nodi

-272

Isafbris uned o 40c

-3,737) yn nodi

-911

-2,330) yn nodi

-497

Isafbris uned o 45c

-6,270) yn nodi

-1,519) yn nodi

-3,997) yn nodi

-754

Isafbris uned o 50c

-9,808) yn nodi

-2,621) yn nodi

-6,138) yn nodi

-1,049) yn nodi

Isafbris uned o 55c

-14,476) yn nodi

-4,359) yn nodi

-8,787) yn nodi

-1,331) yn nodi

Isafbris uned o 60c

-20,489) yn nodi

-6,766) yn nodi

-12,076) yn nodi

-1,647) yn nodi

Isafbris uned o 65c

-27,468) yn nodi

-9,738) yn nodi

-15,762) yn nodi

-1,968) yn nodi

Isafbris uned o 70c

-35,086) yn nodi

-13,169) yn nodi

-19,603) yn nodi

-2,315) yn nodi

 

 

 

 

 

Newid absoliwt yn nifer y diwrnodau o absenoldeb fesul 100,000 o yfwyr bob blwyddyn

Isafbris uned o 35c

-96

-33

-247

-334

Isafbris uned o 40c

-196

-66

-518

-610

Isafbris uned o 45c

-328

-110

-890

-926

Isafbris uned o 50c

-514

-190

-1,366) yn nodi

-1,289) yn nodi

Isafbris uned o 55c

-758

-316

-1,955) yn nodi

-1,635) yn nodi

Isafbris uned o 60c

-1,073) yn nodi

-491

-2,687) yn nodi

-2,024) yn nodi

Isafbris uned o 65c

-1,438) yn nodi

-706

-3,508) yn nodi

-2,418) yn nodi

Isafbris uned o 70c

-1,837) yn nodi

-955

-4,363) yn nodi

-2,844) yn nodi

 

 

 

 

Newid cymharol

Isafbris uned o 35c

-0.4) yn nodi%

-0.2) yn nodi%

-0.5) yn nodi%

-0.4) yn nodi%

Isafbris uned o 40c

-0.7) yn nodi%

-0.4) yn nodi%

-1.0) yn nodi%

-0.7) yn nodi%

Isafbris uned o 45c

-1.2) yn nodi%

-0.7) yn nodi%

-1.8) yn nodi%

-1.1) yn nodi%

Isafbris uned o 50c

-1.9) yn nodi%

-1.2) yn nodi%

-2.7) yn nodi%

-1.6) yn nodi%

Isafbris uned o 55c

-2.9) yn nodi%

-2.0) yn nodi%

-3.9) yn nodi%

-2.0) yn nodi%

Isafbris uned o 60c

-4.0) yn nodi%

-3.2) yn nodi%

-5.3) yn nodi%

-2.5) yn nodi%

Isafbris uned o 65c

-5.4) yn nodi%

-4.6) yn nodi%

-6.9) yn nodi%

-2.9) yn nodi%

Isafbris uned o 70c

-6.9) yn nodi%

-6.2) yn nodi%

-8.6) yn nodi%

-3.5) yn nodi%

 


 

Tabl 4: Amcangyfrif o effaith polisïau isafbris uned ar gostau cymdeithasol dros 20 mlynedd ar ôl gweithredu’r polisi [54]

 

 

Costau gofal iechyd uniongyrchol

Pris y QALY a gafwyd

Costau troseddau

Costau absenoldebau o’r gweithle

Cyfanswm[55]

Llinell sylfaen flynyddol costau y gellir eu priodoli i alcohol dros 20 mlynedd, wedi’u disgowntio

£1,992) yn nodi

£6,500) yn nodi

£7,487) yn nodi

£668

£16,647) yn nodi

 

 

 

 

Newid cronnol absoliwt dros 20 mlynedd (£m), wedi’i ddisgowntio

Isafbris uned o 35c

-£20

-£115

-£34

-£3

-£171

Isafbris uned o 40c

-£38

-£213

-£70

-£5

-£326

Isafbris uned o 45c

-£62

-£336

-£119

-£9

-£526

Isafbris uned o 50c

-£91

-£490

-£188

-£14

-£783

Isafbris uned o 55c

-£127

-£656

-£276

-£21

-£1,079) yn nodi

Isafbris uned o 60c

-£171

-£858

-£382

-£29

-£1,441) yn nodi

Isafbris uned o 65c

-£222

-£1,085) yn nodi

-£502

-£39

-£1,849) yn nodi

Isafbris uned o 70c

-£275

-£1,317) yn nodi

-£632

-£50

-£2,274) yn nodi

 

 

 

 

Newid cymharol

Isafbris uned o 35c

-1.0) yn nodi%

-1.8) yn nodi%

-0.5) yn nodi%

-0.4) yn nodi%

-1.0) yn nodi%

Isafbris uned o 40c

-1.9) yn nodi%

-3.3) yn nodi%

-0.9) yn nodi%

-0.8) yn nodi%

-2.0) yn nodi%

Isafbris uned o 45c

-3.1) yn nodi%

-5.2) yn nodi%

-1.6) yn nodi%

-1.4) yn nodi%

-3.2) yn nodi%

Isafbris uned o 50c

-4.6) yn nodi%

-7.5) yn nodi%

-2.5) yn nodi%

-2.1) yn nodi%

-4.7) yn nodi%

Isafbris uned o 55c

-6.4) yn nodi%

-10.1) yn nodi%

-3.7) yn nodi%

-3.1) yn nodi%

-6.5) yn nodi%

Isafbris uned o 60c

-8.6) yn nodi%

-13.2) yn nodi%

-5.1) yn nodi%

-4.4) yn nodi%

-8.7) yn nodi%

Isafbris uned o 65c

-11.2) yn nodi%

-16.7) yn nodi%

-6.7) yn nodi%

-5.9) yn nodi%

-11.1) yn nodi%

Isafbris uned o 70c

-13.8) yn nodi%

-20.3) yn nodi%

-8.4) yn nodi%

-7.5) yn nodi%

-13.7) yn nodi%

 

 

Manwerthwyr

 

83.Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 50c yn arwain at gynnydd cyffredinol mewn refeniw i fanwerthwyr o £17.8 miliwn y flwyddyn (2.6%), gyda chynnydd mewn refeniw i fanwerthwyr allfasnach o £16.8 miliwn (9.9%) ac i fanwerthwyr mewnfasnach o £1 miliwn (0.2%).[56] Fodd bynnag, dylid nodi bod ansicrwydd yn parhau ynghylch ymatebion tebygol manwerthwyr i gyflwyno isafbris uned yng Nghymru. Gallai manwerthwyr a chynhyrchwyr wneud amrywiaeth o newidiadau ychwanegol i brisiau a chynhyrchion a allai effeithio ar newidiadau refeniw i’r Trysorlys a manwerthwyr a chanlyniadau eraill sydd wedi'u modelu.

 

Crynodeb o'r costau a'r manteision ar gyfer isafbris uned o 50c: y lefel a ffefrir gan Lywodraeth Cymru

 

84.  Mae Tabl 5 yn crynhoi'r costau ar gyfer cyflwyno isafbris uned o 50c yng Nghymru.

 

Tabl 5: Crynodeb o gostau isafbris uned o 50c[57]

 

Costau blwyddyn un £

£

Costau blwyddyn dau £

Costau blwyddyn tri £

Costau blwyddyn pedwar

 

£

Costau blwyddyn pump

£

Costau Llywodraeth Cymru

Costau canllawiau

8,820

0

0

0

2,360

Cyfathrebu

100,000

0

0

0

0

Hyfforddiant i staff ALlau

6,000

0

0

0

0

Gwerthuso ac adolygu

70,000

70,000

70,000

70,000

70,000

Costau arolygu a gorfodi

66,000

204,000

30,000

 

 

Cyfanswm y gost i Lywodraeth Cymru

250,820

 

274,000

 

 

100,000

 

70,000

72,340

Llywodraeth y DU – refeniw tollau alcohol is

1,900,000

1,900,000

1,900,000

1,900,000

1,900,000

 

Awdurdodau lleol

Costau staff o ran arolygiadau a gorfodi

Disgwylir iddynt fod yn isel, disgwylir i’r gwaith o orfodi isafbris uned gael ei wneud fel rhan o’r gyfundrefn arolygu bresennol. 

 

 

 

 

Cyfanswm y gost i awdurdodau lleol

Anhysbys  

 

 

 

 

 

Manwerthwyr

Costau staff o ran ymgyfarwyddo â’r ddeddfwriaeth newydd

313,600

(pedair awr fesul deiliad trwydded)

78,000

(awr fesul deiliad trwydded)

78,000

78,000

78,000

Costau staff o ran newid prisiau

477,040

0

0

0

0

Cyfanswm y gost i fanwerthwyr*

790,640

78,000

78,000

78,000

78,000

 

 

 

 

 

 

Defnyddwyr**

£17.8m

bob blwyddyn

£17.8m

bob blwyddyn

£17.8m

bob blwyddyn

£17.8m

bob blwyddyn

£17.8m

bob blwyddyn

* Amcangyfrif o gost grynswth yw hyn. Mae’n bosibl y bydd costau eraill yn gysylltiedig â gweithredu ar gyfer siopau mwy, er enghraifft diweddaru meddalwedd, gwastraff, adolygu hyrwyddiadau, ond mae'n anodd iawn eu hamcangyfrif ar hyn o bryd. Dylai’r costau hyn hefyd gael eu talu gan y cynnydd mewn refeniw a fydd yn deillio o brisiau uwch.

 

** Dylid nodi bod y gost o £17.8 miliwn y flwyddyn i ddefnyddwyr yn gynnydd o £17.8 miliwn y flwyddyn i fanwerthwyr, ac felly caiff ei drin fel taliad trosglwyddo.

 

 

85. At ddibenion cymharu, dylai'r costau gael eu gostwng dros gyfnod o 20 mlynedd i fod yn gyson â'r manteision. Mae hyn yn cyfateb i gyfanswm costau o £0.7 miliwn i Lywodraeth Cymru, a chyfanswm costau o £1.9 miliwn i'r manwerthwr.[58]

 

86. Un o effeithiau cost fwyaf y polisi fyddai gostyngiad yn y refeniw o dollau alcohol o ganlyniad i lefelau yfed is. Mae hyn yn cyfateb i £27 miliwn dros y cyfnod o 20 mlynedd. Fodd bynnag, o ran cyfrifo costau a buddion net, mae trethiant yn cael ei drin fel arfer fel trosglwyddiad sy'n golygu nad oes newid cyffredinol.

 

87. Yn ogystal â'r uchod, byddai'r polisi yn cynnwys trosglwyddiad sylweddol o ddefnyddwyr i fanwerthwyr. Amcangyfrifir bod hyn tua £18 miliwn y flwyddyn. Y £18 miliwn hwn yw'r fantais i fanwerthwyr wrth i'r defnyddwyr dalu mwy nag y byddent wedi'i wneud heb isafbris uned. O ran cyfrifo costau net a manteision, nid oes gan y taliad trosglwyddo hwn unrhyw effaith gan ei fod yn gost i'r defnyddwyr ond yn fudd i'r manwerthwyr. Nid yw hyn yn effeithio ar y gost/budd cyffredinol yn uniongyrchol ond gallai fod canlyniadau dosraniadol.

 

88. O ran y buddion: Amcangyfrifir y bydd cyflwyno isafbris uned o 50c yn arwain at ostyngiad i'r costau iechyd o £581 miliwn, gostyngiad i gostau troseddau o £188 miliwn a gostyngiad i absenoldebau o'r gweithle o £14 miliwn dros gyfnod o 20 mlynedd.  Mae hyn yn arwain at fudd net dros 20 mlynedd o £781 miliwn.

 

 

 


 

Opsiwn 2: isafbris uned o 55c

 

 

Costau

 

Defnyddwyr

 

89. Ar hyn o bryd, mae 50% o'r holl alcohol[59] yn cael ei brynu am bris sy'n is na 55c yr uned. Mae hyn yn gyfrifol am ychydig o dan dwy ran o dair o'r holl alcohol allfasnach (65 y cant yn cael ei werthu islaw 55c).[60]

 

90. Er yr amcangyfrifir y bydd isafbris uned uwch yn arwain at ostyngiadau mwy o ran faint sy'n cael ei yfed (a gostyngiadau cysylltiedig mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol) ymysg yfwyr peryglus a niweidiol (gweler yr adran ar fanteision iechyd), amcangyfrifir hefyd y bydd yn cael mwy o effaith ar yfwyr cymharol.[61]

 

91. Prynodd yfwyr cymedrol ychydig dros draean (34%) o'u hunedau islaw isafbris uned o 55c, ac roedd y ffigurau ar gyfer yfwyr peryglus a niweidiol yn uwch (49% a 62% yn y drefn honno).

 

92. Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 55c yn arwain at ostyngiadau i'r lefelau yfed o 5.0 y cant (30.3 o unedau y flwyddyn) ar lefel y boblogaeth. Amcangyfrifir y byddai’r lleihad mwyaf o ran faint o alcohol a gâi ei yfed ymysg yfwyr niweidiol (8.6%, 339.3 o unedau am bob yfwr pob blwyddyn) ac yfwyr peryglus (4.4%, 55.0 o unedau am bob yfwr pob blwyddyn). Byddai’r effeithiau lleiaf i’w gweld ymysg yfwyr cymedrol (1.9%, 4.0 uned am bob yfwr pob blwyddyn).[62]

 

93. O’r holl leihad yn yr unedau a gâi eu hyfed yn achos isafbris uned o 55c, byddai 48% ymysg yfwyr niweidiol, 43% ymysg yfwyr peryglus a 10% ymysg yfwyr cymedrol.[63]

 

94. Yn dilyn y newidiadau hyn ym maint yr alcohol a gâi ei yfed, amcangyfrifir y byddai gwariant ar alcohol yn cynyddu 2.4% neu £14 am bob yfwr pob blwyddyn yn achos isafbris uned o 55c. Byddai’r cynnydd mwyaf yn y gwariant ymysg yfwyr niweidiol (3.0%, £88 am bob yfwr pob blwyddyn) gyda chynnydd llai ymysg yfwyr peryglus (2.5%, £30 am bob yfwr pob blwyddyn) ac yfwyr cymedrol (1.8%, £5 am bob yfwr pob blwyddyn).[64]

 

95. Amcangyfrifir y byddai yfwyr cymedrol yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn cynyddu eu gwariant 1.7% (£3) o gymharu â chynnydd o 1.7% (£7) ar gyfer y cwintel lleiaf difreintiedig. Amcangyfrifir y bydd yfwyr peryglus yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn cynyddu eu gwariant 0.1% (£1) ac y bydd yfwyr niweidiol yn y cwintel hwn yn lleihau eu gwariant 7.9%.[65]

 

96. Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 55c yn cael effaith fwy ar yfwyr cymedrol, gan y byddai'n cynnwys ychydig dros draean o'r alcohol y maent yn ei brynu o gymharu ag ychydig dros un rhan o bump ar lefel o 50c. Er mai bach yw'r gwahaniaeth yn yr effaith ar wariant, y rheswm dros hyn yw bod yfwyr cymedrol yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn lleihau eu lefelau yfed yn fwy na'r cwintelau eraill (gostyngiad o 5.5% ar gyfer y mwyaf difreintiedig, o gymharu â gostyngiad o 3.4% ar gyfer y cwintel mwyaf difreintiedig ond un a dim ond 0.1% ar gyfer y cwintel lleiaf difreintiedig).[66]

 

 

Manwerthwyr

 

97. Amcangyfrifir y bydd isafbris uned uwch yn cael mwy o effaith ar werthiannau allfasnach a mewnfasnach. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae tua hanner yr holl alcohol yn cael ei brynu am bris sy'n llai na 55c yr uned, ond mae hyn yn gyfrifol am bron i ddau draean o'r holl alcohol allfasnach (65% yn cael ei werthu islaw 55c) a 3% o'r holl alcohol mewnfasnach.

 

98.Prynir cyfrannau uwch o'r holl alcohol (o gymharu ag isafbris uned o 50c a 45c) am lai na 55c yr uned yn yr allfasnach: prynir 76% o gwrw allfasnach am lai na 55c yr uned, 79% o seidr, 55% o win a 74% o wirodydd (gweler Tabl 1).

 

99. Mae rhanddeiliaid o'r diwydiant manwerthu ac alcohol wedi parhau i nodi y byddent yn ffafrio inni gyd-fynd â threfn isafbris uned yr Alban i'r graddau sy'n bosibl er mwyn lleihau'r costau gweithredu a chydymffurfio. Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaethau posibl o ran y costau gweithredu i fanwerthwyr (ar gyfer lefelau gwahanol o isafbris uned) yn hysbys ac felly ar hyn o bryd, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn nodi y byddai’r amcangyfrif o'r costau gweithredu am isafbris uned o 55c (a 45c) yr un fath: £1.9 miliwn wedi'i ddisgowntio dros gyfnod o 20 mlynedd.

 

 

Awdurdodau Lleol, y Llysoedd a Llywodraeth Cymru

 

100.      Byddai'r amcangyfrif o'r costau i awdurdodau lleol, y llysoedd a Llywodraeth Cymru yr un fath ni waeth beth fyddai lefel yr isafbris uned (gweler Tabl 5).

 

 

Llywodraeth y DU

 

101.      Amcangyfrifir y byddai’r refeniw blynyddol i’r Trysorlys o dollau a TAW ar alcohol yng Nghymru yn gostwng 0.4% neu £2.1 miliwn ar ôl cyflwyno isafbris uned o 55c.[67]

 

 

 

Manteision

 

Unigolion a chymdeithas

 

102.      Ar gyfer isafbris uned o 55c, amcangyfrifir mai cyfanswm y lleihad wedi’i ddisgowntio yng nghostau alcohol i’r gymdeithas dros 20 mlynedd a fyddai’n deillio o’r lleihad hwn mewn niwed y gellir ei briodoli i alcohol yw £1,079 miliwn neu 6.5% o ostyngiad yng nghyfanswm y costau. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 6.4% neu £127 miliwn mewn costau gofal iechyd uniongyrchol, gostyngiad o 10.1% neu £656 miliwn yn y blynyddoedd o fywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd (QALY) colledig, gostyngiad o 3.7% neu £276 miliwn yng nghostau uniongyrchol a chostau cysylltiedig â QALY troseddau, a gostyngiad o 3.1% neu £21 miliwn yn y costau cysylltiedig ag absenoldeb o’r gweithle (gweler Tabl 4).

 

Iechyd

 

103.      Amcangyfrifir y byddai isafbris uned o 55c yn arwain at 87 neu 11.2% yn llai o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol pob blwyddyn a 1,807 neu 5.1% yn llai o dderbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol pob blwyddyn.[68]

 

104.      O’r holl leihad yn nifer y marwolaethau a fyddai’n deillio o isafbris uned o 55c, amcangyfrifir y byddai 66% ymysg yfwyr niweidiol, y byddai 52% ymysg y cwintel mwyaf difreintiedig ac y byddai 39% ymysg yfwyr niweidiol yn y cwintel mwyaf difreintiedig. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer lleihad yn nifer y derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol yw 41%, 45% a 20%.[69]

 

Troseddu

 

105.      Disgwylir i lefelau troseddu ostwng, gydag amcangyfrif o 162 yn llai o droseddau fesul 100,000 o yfwyr y flwyddyn dan bolisi isafbris uned o 55c. Rhagwelir y bydd y gostyngiadau mwyaf i’w gweld ymysg yr yfwyr peryglus.  Amcangyfrifir y bydd £276 miliwn (prisiau 2016) o ostyngiad yng nghostau troseddu dros 20 mlynedd dan bolisi isafbris uned o 55c (fel y nodir yn Nhabl 4).[70]

 

Absenoldebau o’r gweithle

 

106.      Amcangyfrifir y bydd absenoldebau o’r gweithle yn lleihau (fel y nodir yn Nhabl 3), gyda gostyngiad o 758 o ddiwrnodau o absenoldeb fesul 100,000 o yfwyr y flwyddyn erbyn blwyddyn 20 ar gyfer isafbris uned o 55c. Mae hyn yn werth £21 miliwn dros 20 mlynedd (fel y nodir yn Nhabl 4).

 

Manwerthwyr

 

107.      Amcangyfrifir y bydd refeniw manwerthwyr yn cynyddu o swm mwy o dan isafbris uned uwch.

 

108.      Yn benodol, amcangyfrifir y byddai cyfanswm y refeniw blynyddol i fanwerthwyr o werthiannau alcohol yn codi 15.9% neu £27.1 miliwn yn yr allfasnach a 0.5% neu £2.5 miliwn yn y fewnfasnach o dan isafbris uned o 55c. Mae hyn yn amcangyfrif o gynnydd mewn refeniw i fanwerthwyr o £29.7 miliwn o dan isafbris uned o 55c, o gymharu ag £17.8 miliwn o dan isafbris uned o 50c.[71]

 

 

Crynodeb o'r costau a'r manteision ar gyfer isafbris uned o 55c:

 

109.      Amcangyfrifir y bydd y costau i Lywodraeth Cymru, manwerthwyr ac awdurdodau lleol yr un fath ar gyfer y tri opsiwn (gweler Tabl 5).

 

110.      O dan isafbris uned o 55c, mae'r gostyngiad i'r refeniw o doll alcohol o ganlyniad i lefelau yfed is gyfystyr â £29.8 miliwn dros y cyfnod o 20 mlynedd. Fodd bynnag, fel y nodir yn opsiwn 1, o ran cyfrifo costau a buddion net, mae trethiant yn cael ei drin fel arfer fel trosglwyddiad sy'n golygu nad oes newid cyffredinol.

 

111.      Byddai isafbris uned o 55c hefyd yn cynnwys trosglwyddiad sylweddol o ddefnyddwyr i fanwerthwyr. Amcangyfrifir y byddai hyn £29.7 miliwn y flwyddyn (o gymharu â £18 miliwn am isafbris uned o 50c). Fel y nodir yn opsiwn 1, y £29.7 miliwn hwn yw'r fantais i fanwerthwyr wrth i'r defnyddwyr dalu mwy nag y byddent wedi'i wneud heb i isafbris uned gael ei gyflwyno. O ran cyfrifo costau net a manteision, nid oes gan y taliad trosglwyddo hwn unrhyw effaith gan ei fod yn gost i'r defnyddwyr ond yn fudd i'r manwerthwyr.[72]

 

112.      O ran y buddion: Ar gyfer isafbris uned o 55c, amcangyfrifir mai cyfanswm y lleihad wedi’i ddisgowntio yng nghostau alcohol i’r gymdeithas dros 20 mlynedd a fyddai’n deillio o’r lleihad hwn mewn niwed y gellir ei briodoli i alcohol yw £1,079 miliwn neu 6.5% o ostyngiad yng nghyfanswm y costau. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 6.4% neu £127 miliwn mewn costau gofal iechyd uniongyrchol, gostyngiad o 10.1% neu £656 miliwn yn y blynyddoedd o fywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd (QALY) colledig, gostyngiad o 3.7% neu £276 miliwn yng nghostau uniongyrchol a chostau cysylltiedig â QALY troseddau, a gostyngiad o 3.1% neu £21 miliwn yn y costau cysylltiedig ag absenoldeb o’r gweithle. Mae hyn yn arwain at fudd net dros 20 mlynedd o £1,076.5 miliwn.

 

 

Opsiwn 3: isafbris uned o 45c

 

 

Costau

 

Defnyddwyr

 

113.      Ar hyn o bryd, gwerthir llai o unedau (27% o'r cyfanswm) islaw isafbris uned o 45c (gweler Tabl 1).

 

114.      Yn benodol, rhagwelir y bydd isafbris uned is yn cael llai o effaith ar leihau lefelau yfed (a gostyngiadau perthnasol mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol) ymysg yfwyr peryglus a niweidiol (gweler yr adran ar fanteision iechyd). Mae yfwyr cymedrol yn prynu 16% o’u hunedau am bris islaw isafbris uned o 45c, ac roedd y ffigurau ar gyfer yfwyr peryglus a niweidiol yn uwch (26% a 35% yn y drefn honno).[73]

 

115.      Amcangyfrifir y bydd isafbris uned o 45c yn gostwng y lefelau yfed 2.4% y cant (14.9 o unedau'r flwyddyn) ar lefel y boblogaeth. Fel sy’n wir am y lefelau eraill sy’n cael eu hystyried yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn, amcangyfrifir y byddai’r gostyngiadau i’r lefelau yfed (er y byddent yn is nag isafbris uned o 50c neu 55c) i'w gweld fwyaf ymysg yfwyr niweidiol (4.9%, 193.1 o unedau am bob yfwr pob blwyddyn) ac yfwyr peryglus (1.9%, 24.0 o unedau am bob yfwr pob blwyddyn). Byddai’r effeithiau lleiaf i’w gweld ymysg yfwyr cymedrol (0.7%, 0.7 uned am bob yfwr pob blwyddyn).[74]

 

116.      O’r holl leihad yn yr unedau a gâi eu hyfed yn achos isafbris uned o 45c, byddai 55% ymysg yfwyr niweidiol, 38% ymysg yfwyr peryglus a 7% ymysg yfwyr cymedrol. Yfwyr o’r cwintel mwyaf difreintiedig fyddai’n gyfrifol am 53% o’r lleihad yn yr unedau a gâi eu hyfed.[75]

 

117.      Yn dilyn y newidiadau hyn ym maint yr alcohol a gâi ei yfed, amcangyfrifir y byddai gwariant ar alcohol yn cynyddu 0.7% neu £4 am bob yfwr pob blwyddyn yn achos isafbris uned o 45c. Byddai’r cynnydd mwyaf yn y gwariant ymysg yfwyr niweidiol (0.8%, £24 am bob yfwr pob blwyddyn) gyda chynnydd llai ymysg yfwyr peryglus (0.7%, £8 am bob yfwr pob blwyddyn) ac yfwyr cymedrol (0.6%, £2 am bob yfwr pob blwyddyn).[76]

 

118.      Amcangyfrifir y byddai’r rheini yn y cwintel mwyaf difreintiedig yn lleihau eu gwariant ar alcohol 1.3% neu £6 am bob yfwr pob blwyddyn, yn dilyn y newidiadau uchod ym maint yr alcohol a gâi ei yfed. Amcangyfrifir y byddai yfwyr mewn cwintelau amddifadedd eraill yn cynyddu eu gwariant rhwng £4 a £7 am bob yfwr pob blwyddyn.[77]

 

Manwerthwyr

 

119.      Amcangyfrifir y bydd isafbris uned is yn cael llai o effaith ar werthiannau allfasnach a mewnfasnach. Ar hyn o bryd, prynir 27% o'r holl alcohol (35% o'r holl alcohol allfasnach ac 1% o'r holl alcohol mewnfasnach) am lai na 45c yr uned, o gymharu â 37% o dan isafbris uned o 50c a 50% o dan isafbris uned o 55c (gweler Tabl 1).

 

120.      Amcangyfrifir y bydd y costau gweithredu yr un fath â'r costau ar gyfer lefelau eraill: £1.9 miliwn wedi'i ddisgowntio dros gyfnod o 20 mlynedd.

 

 

 

 


 

Awdurdodau Lleol, y Llysoedd a Llywodraeth Cymru

 

121.      Byddai'r amcangyfrif o'r costau i awdurdodau lleol, y llysoedd a Llywodraeth Cymru yr un fath ni waeth beth fyddai lefel yr isafbris uned.

 

 

Llywodraeth y DU

 

122.      Amcangyfrifir y byddai’r refeniw blynyddol i’r Trysorlys o dollau a TAW ar alcohol yng Nghymru yn gostwng 0.3% neu £1.6 miliwn ar ôl cyflwyno isafbris uned o 45c.[78]

 

 

Manteision

 

Unigolion a chymdeithas

 

123.      Ar gyfer isafbris uned o 45c, amcangyfrifir mai cyfanswm y lleihad wedi’i ddisgowntio yng nghostau alcohol i’r gymdeithas dros 20 mlynedd a fyddai’n deillio o’r lleihad hwn mewn niwed y gellir ei briodoli i alcohol yw £526 miliwn neu 63.2% o ostyngiad yng nghyfanswm y costau. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 3.1% neu £62 miliwn mewn costau gofal iechyd uniongyrchol, gostyngiad o 5.2% neu £336 miliwn yn y blynyddoedd o fywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd (QALY) colledig, gostyngiad o 1.6% neu £119 miliwn yng nghostau uniongyrchol a chostau cysylltiedig â QALY troseddau, a gostyngiad o 1.4% neu £9 miliwn yn y costau cysylltiedig ag absenoldeb o’r gweithle (gweler Tabl 4).

 

Iechyd

 

124.      Amcangyfrifir y bydd isafbris uned is yn cael llai o effaith ar farwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol.  Amcangyfrifir y byddai isafbris uned o 45c yn arwain at 45 neu 5.8% yn llai o farwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol pob blwyddyn a 857 neu 2.4% yn llai o dderbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol pob blwyddyn.[79]

 

125.      O’r holl leihad yn nifer y marwolaethau a fyddai’n deillio o isafbris uned o 45c, amcangyfrifir y byddai 70% ymysg yfwyr niweidiol, y byddai 60% ymysg y cwintel mwyaf difreintiedig ac y byddai 47.4% ymysg yfwyr niweidiol yn y cwintel mwyaf difreintiedig. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer lleihad yn nifer y derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol yw 46%, 51% a 26%.

 

Troseddu

 

126.      Disgwylir i lefelau troseddu ostwng, gydag amcangyfrif o 69 yn llai o droseddau fesul 100,000 o yfwyr y flwyddyn dan bolisi isafbris uned o 45c (ond mae'r gostyngiad hwn yn llai nag y byddai ar gyfer isafbris uned o 50c neu 55c).  Amcangyfrifir y byddai isafbris uned o 45c yn arwain at 1.5% neu 1,315 yn llai o droseddau y gellir eu priodoli i alcohol pob blwyddyn. Byddai’r lleihad mwyaf mewn troseddau a gyflawnir gan yfwyr peryglus sef 2.0% neu 830 yn llai o droseddau pob blwyddyn, o gymharu ag 1.0% neu 371 yn llai o droseddau pob blwyddyn gan yfwyr cymedrol ac 1.4% neu 114 yn llai o droseddau pob blwyddyn gan yfwyr niweidiol.[80]

 

127.      Amcangyfrifir y bydd £119 miliwn (prisiau 2016) o ostyngiad yng nghostau troseddu dros 20 mlynedd dan bolisi isafbris uned o 45c (fel y nodir yn Nhabl 4).[81]

 

Absenoldebau o’r gweithle

 

128.      Amcangyfrifir y byddai nifer y diwrnodau gwaith a gâi eu colli oherwydd absenoldeb o’r gweithle y gellir ei briodoli i alcohol yn gostwng 1.2% neu 6,270 o ddiwrnodau pob blwyddyn yn achos isafbris uned o 45c. Byddai’r lleihad mwyaf yn nifer y diwrnodau o absenoldeb ymysg yfwyr peryglus sef 1.8% neu 3,997 yn llai o ddiwrnodau o absenoldeb pob blwyddyn, o gymharu â 0.7% neu 1,519 yn llai o ddiwrnodau o absenoldeb pob blwyddyn ymysg yfwyr cymedrol ac 1.1% neu 754 yn llai o ddiwrnodau o absenoldeb pob blwyddyn ymysg yfwyr niweidiol.

 

 

Manwerthwyr

 

129.      Bydd amcangyfrif o'r cynnydd mewn refeniw i fanwerthwyr yn is o dan isafbris uned o 45c.

 

130.      Amcangyfrifir y byddai’r refeniw blynyddol i fanwerthwyr o werthiannau alcohol yn codi 5.6% neu £9.6 miliwn yn yr allfasnach ac yn gostwng rhywfaint o 0% neu £0.2 miliwn yn y fewnfasnach. Mae hyn yn amcangyfrif o gynnydd mewn refeniw i fanwerthwyr o £9.4 miliwn o dan isafbris uned o 45c, o gymharu ag £17.8 miliwn o dan isafbris uned o 50c.[82]

 

 

 

Crynodeb o'r costau a'r manteision ar gyfer isafbris uned o 45c

 

131.      Amcangyfrifir y bydd y costau i Lywodraeth Cymru, manwerthwyr ac awdurdodau lleol yr un fath ar gyfer y tri opsiwn (gweler Tabl 5).

 

132.      O dan isafbris uned o 45c, mae'r gostyngiad i'r refeniw o doll alcohol o ganlyniad i lefelau yfed is gyfystyr â £22.7 miliwn dros y cyfnod o 20 mlynedd. Fodd bynnag, fel y nodir yn opsiwn 1, o ran cyfrifo costau a buddion net, mae trethiant yn cael ei drin fel arfer fel trosglwyddiad sy'n golygu nad oes newid cyffredinol.

 

133.      Byddai isafbris uned o 45c hefyd yn cynnwys trosglwyddiad sylweddol o ddefnyddwyr i fanwerthwyr – ond mae hyn yn is nag y byddai ar gyfer isafbris uned o 50c a 55c. Amcangyfrifir bod hyn tua £9.6 miliwn y flwyddyn. Fel y nodir yn opsiynau 1 a 2, dyma'r fantais i fanwerthwyr wrth i'r defnyddwyr dalu mwy nag y byddent wedi'i wneud heb i isafbris uned gael ei gyflwyno.

 

134.      O ran y buddion: Cyfanswm y lleihad wedi’i ddisgowntio yng nghostau alcohol i’r gymdeithas dros 20 mlynedd a fyddai’n deillio o’r lleihad hwn mewn niwed y gellir ei briodoli i alcohol yw £526 miliwn neu 3.2% o ostyngiad yng nghyfanswm y costau. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 3.1% neu £62 miliwn mewn costau gofal iechyd uniongyrchol, gostyngiad o 5.2% neu £336 miliwn yn y blynyddoedd o fywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd (QALY) colledig, gostyngiad o 1.6% neu £119 miliwn yng nghostau uniongyrchol a chostau cysylltiedig â QALY troseddau, a gostyngiad o 1.4% neu £9 miliwn yn y costau cysylltiedig ag absenoldeb o’r gweithle. Mae hyn yn arwain at fudd net dros 20 mlynedd o £523.5 miliwn.

 

 

 


 

Crynodeb o'r costau a'r manteision ar gyfer pob opsiwn

135.      Mae Tabl 6 isod yn crynhoi'r costau a'r manteision ar gyfer y tri opsiwn.

 

Tabl 6: Crynodeb o'r costau ar gyfer pob opsiwn[83]

 

 

 

Opsiwn 1

isafbris uned o 50c

 

Opsiwn 2

isafbris uned o 55c

Opsiwn 3

isafbris uned o 45c

Costau

LlC

£0.7 miliwn

 

£0.7 miliwn

£0.7 miliwn

 

Manwerthwyr

£1.9m

 

£1.9m

£1.9m

 

 

 

 

 

Manteision

Iechyd

£581 miliwn

 

£784 miliwn

£398 miliwn

 

Troseddu

£188 miliwn

 

£276 miliwn

£119 miliwn

 

Absenoldebau o’r gweithle

£14 miliwn

£21 miliwn

£9 miliwn

 

 

 

 

 

Budd Net / (Cost)

 

£781m

£1,078m

£523.5 miliwn

 

 

 

 

 

Arall

+/- refeniw manwerthwyr

cynnydd o £17.8 miliwn y flwyddyn (effaith yr isafbris uned a delir i fanwerthwyr)

cynnydd o £29.7 miliwn y flwyddyn

cynnydd o £9.4 miliwn y flwyddyn

 

 

Refeniw o ostyngiad y DU i dollau alcohol oherwydd gostyngiad i werthiannau alcohol

-£27 miliwn

yn seiliedig ar ostyngiad o £1.9 miliwn y flwyddyn

-£29.8 miliwn

yn seiliedig ar ostyngiad o £2.1 miliwn y flwyddyn

-£22.7 miliwn

yn seiliedig ar ostyngiad o £1.6 miliwn y flwyddyn

 

 

Casgliadau a’r opsiwn a ffefrir

 

136.      Y lefel a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yw isafbris uned o 50c (Opsiwn 1).

 

137.      Mae'r modelu'n awgrymu y byddai isafbris uned o 50c yn targedu lefelau yfed yfwyr peryglus a niweidiol (sy'n tueddu i yfed symiau uwch o gynhyrchion alcohol rhad a chryf) wrth leihau'r effeithiau ar yfwyr cymedrol.

 

138.      Bydd isafbris uned o 50c yn targedu bron hanner (47%) yr holl alcohol allfasnach sy'n cael ei brynu ac ychydig o dan hanner yr alcohol a brynir gan yfwyr niweidiol, gan gynnwys ychydig dros un rhan o bump yn unig o'r alcohol a brynir gan yfwyr cymedrol.[84] Dyma ffactor bwysig sydd wedi cyfrannu at ein ffafriaeth o osod isafbris uned ar y lefel hon – ein bwriad yw targedu alcohol rhad (sy'n cael ei ffafrio gan yfwyr trymach ac sy'n cael ei werthu'n bennaf yn yr allfasnach) wrth gydbwyso hyn yn erbyn ymyrraeth yn y farchnad.

 

139.      O dan isafbris uned o 50c, yfwyr niweidiol fyddai'n gyfrifol am dros hanner y gostyngiad a amcangyfrifir i'r lefelau yfed. O ganlyniad i hynny byddai effaith fach iawn ar yfwyr cymedrol, sef llai na deg y cant o'r gostyngiad i'r lefelau yfed, eto yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth.

 

140.      Amcangyfrifir y byddai mwy o effeithiau ar y rheini sy'n byw mewn tlodi a gostyngiadau i'r lefelau yfed wrth osod isafbris uned uwch na 50c. Fodd bynnag, amcangyfrifir y byddai hefyd fwy o effeithiau ar yfwyr cymedrol sy'n byw mewn tlodi.

 

141.      Mae isafbris uned o 50c hefyd yn cyd-fynd â'r lefel sy'n gymwys ar hyn o bryd yn yr Alban. Mae manwerthwyr a chynrychiolwyr o'r diwydiant alcohol wedi nodi'n barhaus y byddent yn ffafrio cysondeb i'r graddau sy'n bosibl.

 

142.      Byddai Opsiwn 2, sef isafbris uned o 55c, yn effeithio ar gyfran uwch o'r alcohol a brynir gan yfwyr niweidiol (ychydig dros dair rhan o bump, o gymharu ag ychydig o dan hanner ar gyfer isafbris uned o 50c) ac amcangyfrifir hefyd y byddai'n arwain at fwy o ostyngiad i'r lefelau yfed alcohol ynghyd ac effaith uwch ar farwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol. Fodd bynnag, byddai isafbris uned o 55c yn cael mwy o effaith ar yfwyr cymedrol.

 

143.      Byddai Opsiwn 3, sef isafbris uned o 45c, yn effeithio ar 27% yn unig o gyfanswm yr unedau a brynir, 35% o'r alcohol a brynir gan yfwyr niweidiol ac ychydig dros chwarter o'r alcohol a brynir gan yfwyr peryglus (26%).  Felly, amcangyfrifir y byddai isafbris uned ar y lefel hon yn arwain at ostyngiadau llai i'r lefelau yfed, yn enwedig ymysg yfwyr peryglus a niweidiol, gan arwain at ostyngiadau is nag y rhagwelir yn nifer y marwolaethau a'r derbyniadau sy'n gysylltiedig ag alcohol y gellir eu cyflawni drwy osod lefelau isafbris uned uwch. 

 

 

8. Ymgynghori

 

144.      Fel y mae adran 5 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar lefel yr isafbris uned a ffefrir ganddi, sef 50c, a hynny am 12 wythnos, rhwng 28 Medi a 21 Rhagfyr 2018.

 

145.      Bwriad yr ymgynghoriad oedd casglu barn gan ystod o randdeiliaid ynghylch lefel yr isafbris uned i'w nodi yn y rheoliadau, at ddibenion Deddf 2018.  Nid oedd yr ymgynghoriad yn ymwneud â'r egwyddor o gael isafbris uned, gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y mater hwn ddwywaith o'r blaen (yn 2014 a 2015).

 

146.      Cafodd yr ymgynghoriad ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Cafodd gwybodaeth am y dogfennau ymgynghori a sut i ymateb, ei lledaenu'n eang a'i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.  Rhannwyd gwybodaeth hefyd gydag Arweinwyr Cydraddoldeb y GIG, Rhwydweithiau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Plant, y Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Ymarferwyr Ymyriadau Byr ar Alcohol ac Arweinwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Alcohol. Cafwyd erthyglau hefyd yng Nghylchlythyr y Prif Swyddog Meddygol a Chylchlythyr yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

147.      Cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd â rhanddeiliaid, darparwyr gwasanaethau, Byrddau Cynllunio Ardal, Penaethiaid Safonau Masnach Cymru, manwerthwyr a chynrychiolwyr o'r diwydiant alcohol. Cynhaliwyd tri chyfarfod ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau (yng Ngwent, Rhondda Cynon Taf, a Chaerdydd a'r Fro) a chynhaliodd mudiad Plant yng Nghymru ddau weithdy gyda phlant a phobl ifanc (yn y gogledd a'r de). Caiff rhestr o holl gyfarfodydd y rhanddeiliad a chrynodeb o'r prif themâu sy'n codi o'r ymgysylltiad hwn eu cynnwys fel rhan o'r crynodeb hwn.[85]

 

148.      Yn seiliedig ar waith dadansoddi gan Brifysgol Sheffield ar effeithiau isafbris uned, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018[86] (yn ogystal â'r sylfaen o dystiolaeth ehangach a nodir yn y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil)[87] nododd y ddogfen ymgynghori ar lefel yr isafbris uned a ffefrir y canlynol: “Gan ystyried amrywiaeth o ffactorau, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod  isafbris uned o 50c yn ymateb cymesur i fynd i'r afael â risgiau yfed gormod o alcohol i iechyd, a'i fod yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y buddion disgwyliedig i iechyd y cyhoedd ynghyd â'r buddion cymdeithasol ac ymyrraeth yn y farchnad.”[88]

 

149.      O'r 148 o ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law, nododd 95 sylwadau ar yr isafbris uned o 50c a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.  

 

·         O'r 95 o'r ymatebwyr hynny a wnaeth sylwadau penodol ar lefel arfaethedig yr isafbris uned o 50c, roedd 43 yn ymatebion gan sefydliadau a 52 gan unigolion.

 

·         Roedd 58 (61%) o'r ymatebwyr a wnaeth sylwadau ar y pris arfaethedig o 50c yr uned yn cefnogi'r lefel a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

 

·         Dywedodd 9 (9%) o'r ymatebwyr a wnaeth sylwadau ar y pris arfaethedig o 50c yr uned y dylai'r isafbris uned fod yn uwch na 50c yr uned.

 

·         Dywedodd 13 (14%) o'r ymatebwyr a wnaeth sylwadau ar y pris arfaethedig o 50c yr uned y dylai'r isafbris uned fod yn is na 50c yr uned. Nododd 5 o'r rhain yn benodol y dylai lefel yr isafbris uned fod yn ddim.

 

·         Gwnaeth 15 (16%) o'r ymatebwyr sylwadau ar y pris ond heb egluro p'un a oeddent yn cefnogi'r pris arfaethedig o 50c yr uned ai peidio.

 

·         O'r 148 o ymatebion, nododd 55 na ddylid cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol.

 

·         Nododd nifer bach o'r ymatebion na fyddai'n briodol iddynt wneud sylwadau yn benodol ar lefel yr isafbris uned (neu ddweud nad oedd barn ganddynt). Roedd hyn yn cynnwys nifer bach o sefydliadau Trydydd Sector a'r rheini sy'n cynrychioli manwerthwyr / y diwydiant alcohol. 

 

150.      Wrth wneud sylwadau ar lefel yr isafbris uned a ffefrir, cododd nifer o themâu allweddol o'r ymatebion gan y rheini a oedd yn cefnogi'r isafbris uned o 50c.  Cyfeiriwyd yn benodol at yr ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Sheffield a'r manteision iechyd posibl yn sgil cyflwyno isafbris uned o 50c, gan hefyd gydnabod yr angen am gydbwysedd a chymesuredd, o ran ymyrraeth yn y farchnad. Nodwyd yn yr ymatebion bod isafbris uned o 50c yn "bris teg" / "man synhwyrol i ddechrau" / "man da i ddechrau" / "pris rhesymol i'w bennu" - a bod "rhesymeg gyffredinol i'r cynigion".

 

151.      Thema arall a gododd oedd pwysigrwydd bod yr isafbris yn gyson ac yn cyd-fynd â lefel yr isafbris uned yn yr Alban. Pwysleisiwyd hyn mewn ymatebion gan fanwerthwyr, rhwydweithiau yn cynrychioli manwerthwyr a'r diwydiant alcohol, sefydliadau'r Trydydd Sector, yn ogystal â rhanddeiliaid iechyd y cyhoedd a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Byrddau Cynllunio Ardal.

 

152.      Ymhlith yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi isafbris uned uwch, y prif fater a godwyd oedd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar isafbris uned o 50c yn 2015 ac felly dylai'r lefel a ffefrir nawr fod yn uwch. Gwnaeth rhai ymatebwyr sylwadau hefyd ar y manteision i iechyd y cyhoedd yn sgil cael isafbris uned uwch - a'r posibilrwydd o weld mwy o ostyngiad mewn marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol, o gael isafbris uned dros 50c. Nododd nifer o'r ymatebwyr sylwadau ar yr angen i ystyried chwyddiant, ers i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar yr isafbris uned fel rhan o Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd yn 2014 a Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) drafft yn 2015. Awgrymwyd hefyd y gallai'r isafbris uned uwch gael mwy o effaith ar newid diwylliant a lleihau lefel yr alcohol a gaiff ei yfed gan blant a phobl ifanc.

 

 

 

153.      Ymhlith yr ymatebion yn cefnogi isafbris uned is, y prif fater a godwyd oedd effaith bosibl yr isafbris uned ar yfwyr cymedrol a phryderon am yr effaith ar fanwerthwyr, economi Cymru a thwristiaeth.  Gwnaed galwadau hefyd i lefel yr isafbris uned fod yn ddim.

 

154.      Ymhlith yr ymatebion nad oedd yn cefnogi isafbris uned o 50c (neu pennu isafbris yn gyffredinol), codwyd nifer o themâu allweddol. Yn arbennig, codwyd pryderon am effaith yr isafbris uned o 50c ar aelwydydd sy'n byw mewn tlodi.  Yn arbennig, tynnodd nifer o'r ymatebion sylw at effaith cyflwyno isafbris uned am alcohol ar gyllidebau aelwydydd.  Codwyd pryderon penodol y byddai cyflwyno isafbris uned am alcohol yn arwain at ganlyniadau anfwriadol i deuluoedd â phlant. Os yw rhieni yn dewis parhau i yfed ac yn gorfod talu mwy am alcohol, gallent felly fod â llai o arian i brynu bwyd a thanwydd a byddai hyn yn arwain at fwy o ddyled o bosibl. Roedd y cysyniad o gael eich cosbi am fod yn yfwr cymedrol yn thema arbennig o gryf a gododd, gyda nifer o ymatebwyr yn gwneud sylwadau bod pennu isafbris uned yn enghraifft o “wladwriaeth faldodus”. Roedd y rheini nad oeddent yn cefnogi isafbris uned o 50c yn cwestiynu'r rhesymeg polisi a'r sylfaen dystiolaeth o ddefnyddio pris fel ysgogiad i leihau yfed peryglus a niweidiol, gan godi pryderon penodol ynghylch a fyddai yfwyr dibynnol yn lleihau eu lefelau yfed yn sgil y cynnydd ym mhris alcohol.

 

155.      Yn yr ymatebion, tynnwyd sylw hefyd at yr effeithiau posibl a'r canlyniadau anfwriadol i bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys yfwyr dibynnol a phobl sy'n ddigartref; yr effeithiau posibl ar lefelau troseddu - gan gynnwys lladrata a gwerthiant alcohol anghyfreithlon; a chynnydd posibl yn nifer y bobl sy'n cyfnewid alcohol am sylweddau eraill; yr effeithiau ar siopa ar draws y ffin; a'r posibilrwydd o weld cynnydd yn y galw am wasanaethau camddefnyddio sylweddau.

 

156.      Roedd y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru “yn parhau i ystyried y problemau posibl hyn” - gan dynnu sylw at yr ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar i edrych ar y perygl o gyfnewid alcohol am sylweddau eraill, a gaiff ei chyhoeddi cyn y cyfnod gweithredu (gweler adran 10 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol). Yn y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, tynnwyd sylw hefyd at y cyllid ychwanegol gwerth £2.4 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer 2019/20 i'r saith Bwrdd Cynllunio Ardal sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddol rheng flaen.

 

157.      Canlyniad yr ymgynghoriad oedd bod Llywodraeth Cymru yn dal i fod o'r farn y dylai isafbris uned o 50c gael ei nodi yn y Rheoliadau at ddibenion Deddf 2018.

 

 

 

9. Asesiad o'r gystadleuaeth

 

158.      Cynhaliwyd proses Asesu Cystadleuaeth ar gyflwyno isafbris am alcohol fel rhan o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ar y pryd.

 

159.      Mae canlyniad y broses Asesu Cystadleuaeth ac Ail Gam y broses Asesu Cystadleuaeth ar gyfer cyflwyno isafbris am alcohol ar gael ar dudalennau 150 i 177 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil – ac felly nid yw'r asesiad hwn yn cael ei ailadrodd yma.

 

160.      Mae'r Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig ar gyfer y Bil, a gyhoeddwyd ar 5 Mehefin 2018, ar gael yma:

 

http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11577-em/pri-ld11577-em-w.pdf

 

 

 


 

 

 

10. Adolygu ar ôl gweithredu

 

161.      Mae'r Ddeddf yn darparu y daw mwyafrif ei darpariaethau i rym ar y cyfryw ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru. Bwriad y polisi presennol yw y bydd darpariaethau sylweddol y Ddeddf yn cychwyn ym mis Mawrth 2020.  Bwriad hyn yw rhoi digon o amser i’r bobl hynny yr effeithir arnynt baratoi yn unol â hynny.

 

162.      Yn unol â darpariaethau'r Ddeddf, bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, bum mlynedd ar ôl gweithredu’r gyfundrefn isafbris uned, ac yna yn ei gyhoeddi. Wrth lunio'r adroddiad hwnnw, rhaid iddynt ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a'r rheini y maent yn eu hystyried yn briodol.

 

163.      Cynigir y bydd nifer o ddulliau yn cael eu defnyddio i fesur effaith y Ddeddf a'r rheoliadau a wneir odani. Bydd y dulliau hyn yn cynnwys ymchwil a gwerthuso gyda rhanddeiliaid yn ogystal â data iechyd rheolaidd, data monitro, a gwerthusiad ac adolygiad ffurfiol.

 

Data Iechyd Rheolaidd

 

164.      Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu ac yn adrodd ar lefelau yfed alcohol bob blwyddyn – cyhoeddwyd y data newydd dros yr haf ac adroddir ar hyn yn flynyddol fel rhan o'r gwaith o fonitro'r polisi alcohol yn barhaus.

 

165.       Mae data ar farwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol wedi'u cynnwys yn y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau a lunnir ac a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru pob hydref.

 

Data monitro

 

166.      Bydd data monitro ynghylch cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth yn cael eu casglu gan awdurdodau lleol.

 

Gwerthusiad ac adolygiad ffurfiol

 

167.      Y bwriad yw y bydd y gwerthusiad trosfwaol o'r Ddeddf yn cael ei wneud ar ffurf dadansoddiad cyfraniad.

 

168.      Mae dadansoddiad cyfraniad yn ddull gwerthuso sy'n seiliedig ar theori sy'n addas i adolygu rhaglenni gwaith cymhleth aml-lefel lle nad yw priodoleddau achlysurol uniongyrchol yn bosibl.[89]    Mae'r dull yn berthnasol yma gan nad cyflwyno isafbris am alcohol yw'r unig ffactor a allai effeithio ar lefelau yfed alcohol a niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae angen i'r dull o werthuso ystyried hyn ac asesu cyfraniad y polisi i unrhyw newidiadau a welwyd yn y canlyniadau. Yn ddamcaniaethol, fe'i hystyrir yn rhesymol asesu cyfraniad y rhaglen:

 

·         Os oes theori o newid sy'n dangos cysylltiadau rhwng camau gweithredu a chanlyniadau.

·         Os rhoddwyd gweithgareddau cynlluniedig ar waith.

·         Os oes tystiolaeth ar gael i gefnogi'r uchod.

·         Os ystyriwyd effeithiau eraill a allai gael effaith ar ganlyniadau.

 

169.      Nod y dull hwn yw asesu'n rhesymol gyfraniad y polisi i ddiwallu ei nod cyffredin. Mae nifer o elfennau o waith a fydd yn cyfrannu at gynhyrchu ac adolygu tystiolaeth, gan gynnwys data rheolaidd ac astudiaethau a gomisiynir.

 

Astudiaethau a gomisiynir

 

170.      Bydd nifer o astudiaethau penodol yn cael eu comisiynu (neu maent wedi'u comisiynu) i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyfrannu at y dadansoddiad cyfraniad. Maent yn cynnwys ymchwil i effaith yr isafbris uned ar fanwerthwyr; gwaith ansoddol gyda darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau (gan edrych ar y risg bosibl o gyfnewid alcohol am sylweddau eraill); ac asesiad o gyflwyno isafbris uned ar y boblogaeth ehangach o yfwyr.

 

 

Adolygiad Mewnol o Lefel yr Isafbris Uned

 

171.      Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal adolygiad mewnol o lefel yr isafbris uned a bennwyd yn wreiddiol ymhen y ddwy flynedd gyntaf ar ôl y dyddiad y daeth y drefn isafbris i rym.

 

172.      Er mwyn cyfrannu at yr ystyriaeth ynghylch y lefel (ac unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylid newid lefel gychwynnol yr isafbris uned a bennwyd mewn rheoliadau a llunio rheoliadau newydd), bydd yr adolygiad hwn yn ystyried cydymffurfedd, yn ogystal â data ar lefelau yfed alcohol, a chanlyniadau allweddol megis marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol.

 

173.      Swyddogion polisi Llywodraeth Cymru fydd yn cynnal yr adolygiad mewnol gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi. Bydd y broses fewnol hefyd yn cael ei hadolygu gan gymheiriaid. Bydd y canfyddiadau allweddol ac unrhyw argymhellion o'r adolygiad mewnol yn cael eu cyhoeddi.



[1] https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil?_ga=2.143464182.299644843.1558429264-832368275.1548154346  

 

[2] Angus, C., Holmes, J., Brennan, A. a Meier, P. (2018) Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. http://gov.wales/docs/caecd/research/2018/180222-comparative-impact-minimum-unit-pricing-taxation-policies-cy.pdf

 

[3] Angus, C., Holmes, J., Brennan, A. a Meier, P. (2018) Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad interim. Diweddariad ar yr enghraifft Isafbris Uned o 50c. Caerdydd: Llywodraeth Cymru

 

https://gov.wales/docs/caecd/research/2017/171129-comparative-impact-minimum-unit-pricing-taxation-policies-interim-cy.pdf

 

[4] Ymgynghoriad 2014 ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, Gwrando arnoch chi: Mae eich iechyd yn bwysig.

 

https://gov.wales/betaconsultations/healthsocialcare/white-paper/?lang=cy

 

[5] Ymgynghoriad 2015 ar Fil Drafft Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

 

https://llyw.cymru/betaconsultations/healthsocialcare/alcohol/?skip=1&lang=cy

 

[6] https://llyw.cymru/gosod-yr-isafbris-am-alcohol?_ga=2.19815547.231019067.1558426253-283766726.1548160944

 

[7] https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-02/crynodeb-or-ymatebion.pdf

[8] http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11577-em/pri-ld11577-em-w.pdf

 

[9] http://www.healthscotland.scot/media/2587/mesas-monitoring-report-2019.pdf

[10] Yng Nghymru a'r Gorllewin.

 

[11] Diffinnir allfasnach fel lleoliadau lle gwerthir alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ee siopau ac archfarchnadoedd. Diffinnir mewnfasnach fel lleoliadau lle gwerthir alcohol i'w yfed ar y safle, ee tafarndai a bwytai.  Ffynhonnell: Yr eirfa yn Angus, C., Holmes, J., Brennan, A. a Meier, P. (2018) Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. 

 

[12] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 5. Tudalen 26.

 

[13] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 10, tudalen 17.

 

[14] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Ffigur 8, tudalen 12.

 

[15] Crawford, M.J., Parry A.M., Weston, A.R., Seretis, D., Zauter-Tutt, M., Hussain, A., Mostajabi, P., Sanatinia, R. a North, B. (2012)  Relationship Between Price Paid for Off-Trade Alcohol, Alcohol Consumption and Income in England: A Cross-Sectional Survey. Alcohol and Alcoholism. Cyfrol 47 (6). Tudalen 741.

 

[16] Ludbrook, A., Petrie, D., McKenzie, L. a Farrar, S. (2012) Tackling alcohol misuse. Applied Health Economics and Health Policy. Ionawr 2012. Cyfrol 10. Rhifyn 1. Tudalennau 51-63.

 

[17] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Family Spending in the UK: financial year ending March 2016 Edition Release (Chwefror 2017). Tabl 3.2E: Detailed household expenditure as a percentage of total expenditure by equivalised disposable income decile group 2016.

 

[18] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tablau 12 a 13, tudalennau 19 ac 20.

 

[19] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tablau 12 a 13, tudalennau 19 ac 20.

 

[20] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 14, tudalen 21.

 

[21] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tudalen 43.

 

[22] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tudalen 30.

 

[23] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tudalen 43.

 

[24] Ymateb Consortiwm Manwerthu Cymru i Ymgynghoriad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).  MPA 38.

 

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=282&RPID=1012950534&cp=yes

 

Gweler hefyd: Ymateb Consortiwm Manwerthu Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, Mehefin 2014.

 

[25] Mewn gohebiaeth â  Llywodraeth Cymru. Yn fwy diweddar, codwyd pwyntiau tebyg yn ystod y sesiynau craffu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Er enghraifft, dywedodd Asda yn ei ymateb i'r ymgynghoriad gan y Pwyllgor er mwyn rhoi syniad o'r costau hyn, bod y gost o baratoi ei systemau prisio i weithredu'r isafbris uned yn yr Alban wedi costio dros £1 miliwn gan gymryd bron tair blynedd. 

 

[26]  MPA 48.

 http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=282&RPID=1012950534&cp=yes

 

 

[27] Er enghraifft, dywedodd y Wine and Spirit Trade Association bod y gost gydymffurfio rheoleiddiol i fusnesau yng Nghymru yn ymddangos yn isel (gan ystyried y gost o newid systemau i'r holl fanwerthwyr alcohol gan gynnwys cost hyfforddi staff, ailgyfrifo polisïau prisio a hyrwyddo a newidiadau technegol i gyd-fynd â hyn) – ond nododd hefyd y bydd y gost wirioneddol o gydymffurfio i fanwerthwyr yn dibynnu ar y rheoliadau terfynol. Os byddai'r rheoliadau yn dilyn yr hyn sydd yn yr Alban eisoes, gan gynnwys y pris a'r dull o fynd ati, yna byddai'r costau cydymffurfio yn llai i fanwerthwyr cenedlaethol.

 

 

[28] Ymateb WSTA i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, Mehefin 2014. Gweler hefyd ymateb WSTA i Ymgynghoriad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru. MPA 40.

 

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=282&RPID=1012950534&cp=yes

 

[29] Amlygwyd hyn gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, y Wine and Spirits Trade Association (WSTA) ac Asda yn eu hymateb i'r alwad am dystiolaeth am y Bil gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol.

 

[30] Beeston, C., Robinson, M., Craig, N., a Graham, L. (2011) Monitoring and Evaluating Scotland’s Alcohol Strategy. Setting the Scene: Theory of change and baseline picture – Glossary and Appendices. Edinburgh: NHS Health Scotland. Tudalen 36.

 

[31]Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2016, gyda chodiad i adlewyrchu cynnydd mewn enillion ar gyfer 2017:

 

https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2016provisionalresults?:uri=employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2016provisionalresults  

 

Yn ôl Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2018, gwelwyd cynnydd o 4.3 y cant mewn enillion wythnosol canolrifol gros ar gyfer galwedigaethau Gwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 2016 a 2017, felly mae ffigurau 2016 wedi codi yn unol â hynny.

 

https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2018provisionalresults

 

https://www.ons.gov.uk/releases/analysesbasedonannualsurveyofhoursandearningsprovisional2018andrevised2017

 

 

[32] Nifer y pencadlysoedd menter yng Nghymru yn y Sector Manwerthu ar gyfer 2016 = 7,120 (2013 = 7,095, 2014 = 7,030). Yn seiliedig ar ffigurau dros dro ar gyfer 2016: Cyfradd gyfartalog cynorthwyydd manwerthu fesul awr = £7.99. Cyfradd gyfartalog rheolwyr manwerthu fesul awr = £10.56. Fel yr amlinellir yn nhroednodyn 31, mae'r ffigurau hyn wedi'u cynyddu 4.3 y cant. Cyfrifwyd cyfanswm nifer y manwerthwyr drwy ddefnyddio codau  Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC). Mae'r rhain yn seiliedig ar ddosbarthiad diwydiannol mentrau'r DU. Defnyddiwyd y codau SIC tri digid canlynol - 471, 472, 473, 474, 475, 476, 477. Gellir gweld rhestr o'r codau SIC yma:

 

https://www.gov.uk/government/publications/standard-industrial-classification-of-economic-activities-sic.cy 

 

[33] Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2016:

https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2016provisionalresults 

 

Yn ôl Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2018, gwelwyd cynnydd o 4.3 y cant mewn enillion wythnosol canolrifol gros ar gyfer galwedigaethau Gwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 2016 a 2017, felly mae ffigurau 2016 wedi cael eu codi yn unol â hynny.

 

https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/bulletins/annualsurveyofhoursandearnings/2018provisionalresults

[34] Ymateb Consortiwm Manwerthu Cymru i'r alwad am dystiolaeth gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).  MPA 38.

 

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=282&RPID=1012950534&cp=yes

 

Gweler hefyd ymateb Consortiwm Manwerthu Cymru i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, Mehefin 2014.

 

[35] Pan fo manwerthwr yn masnachu fel busnes manwerthu a chyfanwerthu a’r ddau fath o gwsmer yn siopa yn y siop, dylai’r manwerthwr sicrhau y codir yr isafbris uned ar unigolion sy’n prynu alcohol i’w yfed eu hunain (hynny yw, pan fo'r gwerthiant dan sylw yn achos o 'werthu drwy fanwerthu' at ddibenion adran 192 o Ddeddf Trwyddedu 2003) ac y cynigir y prisiau cyfanwerthu i fusnesau a chwsmeriaid cyfanwerthu eraill yn unig. 

 

[36] Adran Iechyd y DU (Rhagfyr 2014), Responsibility Deal: Monitoring the number of units of alcohol sold – second interim report, 2013 data.

 

[37] Moore, S., O’Brien, C., Alam, M., Cohen, D., Hood, K., Huang, C., Moore, L., Murphy, S., Playle, R., Sivarajasingam, V., Spasic, I., Williams, A. a Shepherd, J. (2015) All-Wales Licensed Premises Intervention (AWLPI): a randomised controlled trial of an intervention to reduce alcohol-related violence. Public Health Research. Cyfrol 3 (10).

[38] Mae'r costau hyn yn seiliedig ar Raddfa Gyflog Llywodraeth Cymru 2017/18.  Ffynhonnell: Updated Pay Band Costs and Revised Standardisation of DRC Forecasting Guidance

 

[39] Yn seiliedig ar £75 fesul 1,000 o eiriau am gyfieithu, £21 fesul 1,000 o eiriau am brawfddarllen.

 

[40] Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid Safonau Masnach Cymru, cydweithwyr awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid perthnasol eraill (a bydd yn parhau i wneud hynny cyn gweithredu'r isafbris uned) i ddatblygu deunyddiau ac ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau yng Nghymru a nodau'r ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn ychwanegol at y canllawiau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi.  Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfres genedlaethol o ddeunyddiau cyhoeddusrwydd a chyfathrebu, a bydd y rhain ar gael i'r awdurdodau lleol, y darparwyr gwasanaeth a'r rhanddeiliaid.  Mae hyn yn dilyn y model a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch bagiau siopa untro lle darparwyd deunyddiau ar y rhyngrwyd ac roedd awdurdodau lleol a rhanddeiliaid yn argraffu'r deunyddiau hyn a'u dosbarthu yn ôl yr angen.

 

[41] http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=20029

 

[42] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 32. Tudalen 59.

 

[43] Mae'r holl gostau a manteision yn y Model Sheffield sy’n ymwneud â chyfnod o 20 mlynedd wedi cael eu disgowntio ar 3.5%.

 

[44] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 32. Tudalen 59.

 

[45] Defnyddir gwerth o £60,000 fesul QALY gan fod eu gwerth yn cael eu cyfrifo o safbwynt cymdeithasol. Mae hyn yn uwch na'r gwerth fesul QALY sy'n cael ei ddefnyddio gan NICE. Gwerth y QALY a ddefnyddir gan NICE yw'r uchaf y gall y GIG gyfiawnhau ei wario arno oherwydd cyfyngiadau ar adnodau. Gweler Public Health England (2015) A Guide to Social Return on Investment for Alcohol and Drug Treatment Commissioners.  http://www.nta.nhs.uk/uploads/a-guide-to-social-return-on-investment-for-alcohol-and-drug-treatment-commissioners.pdf.    

 

[46] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tablau 12 a 13.

 

[47] Black, H., Gill, J. a Chick, J. (2011) The price of a drink: levels of consumption and price paid per unit of alcohol by Edinburgh's ill drinkers with a comparison to wider alcohol sales in Scotland. Addiction. Cyfrol 106. Tudalen 735.

 

[48] Canllawiau Iechyd y Cyhoedd NICE 24 (Mehefin 2010) Alcohol-use disorders: preventing harmful drinking.

 

[49] Ludbrook, A., Petrie, D., McKenzie, L., Farrar, S. (2012) Tackling Alcohol Misuse. Applied Health Economics and Health Policy. Ionawr 2012. Cyfrol 10 (1). Tudalennau 51-63.

 

[50] Stockwell, T. a Thomas, G. (2013) Is alcohol too cheap in the UK? The case for setting a Minimum Unit Price for alcohol. Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Alcohol.

 

[51] Angus, C. et al. (2017); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 16. Tudalen 22.

 

[52] Bydd Llywodraeth y DU yn cronni rhywfaint o'r arbedion hyn gan ystyried bod plismona wedi'i ddatganoli. Fodd bynnag, data ar gyfanswm yr arbedion yn unig sydd ar gael, yn hytrach na'r gallu i ddosrannu'r arbedion hyn i Lywodraeth y DU / Llywodraeth Cymru.

 

[53] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 31. Tudalen 57.

[54] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 32. Tudalen 59.

 

[55] Noder bod a) y ffigur hwn yn cynnwys costau uniongyrchol ac anuniongyrchol a gronnwyd dros rannau gwahanol o gymdeithas (y GIG, yr economi ehangach, cymdeithas ar y cyfan) a  b) ni ddylid dehongli’r ffigur hwn fel ffigur sy’n cynrychioli’r baich llawn (neu effaith lawn y polisi) o alcohol ar gymdeithas gan nad yw nifer o effeithiau heb eu cynnwys yn y modelau (megis niwed i eraill, niwsans cyhoeddus ac ati).

 

[56] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tudalen 43.

[57] Amcangyfrifir y bydd y costau i Lywodraeth Cymru, manwerthwyr ac awdurdodau lleol yr un fath ar gyfer y tri opsiwn.

[58] Mae cyfanswm y costau gostyngedig i’r manwerthwr yn ystyried bod y costau ymgyfarwyddo o £75,000 yn digwydd bob blwyddyn dros y cyfnod o ugain mlynedd.

[59] Yng Nghymru a'r Gorllewin.

 

[60] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 8. Tudalen 30.

 

[61]Fel y mae Angus, C. et al. (2018) yn nodi: ar bob lefel posibl o isafbris uned, wrth i lefelau yfed unigolyn gynyddu, bydd y polisi yn effeithio ar gyfran uwch o’r alcohol y bydd yn ei yfed. Fodd bynnag, mae'r gyfran o lefelau yfed yfwyr cymedrol yr effeithir arni hefyd yn codi wrth i'r trothwy isafbris uned gynyddu, o 4% ar 35c i 22% ar 50c a 50% ar 70c yr uned. Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tudalen 29.

 

[62] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 16. Tudalen 37.

 

[63] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Ffigur 14. Tudalen 39.

[64] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 19. Tudalen 41.

 

[65] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 51. Tudalen 90.

 

[66] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 49. Tudalen 88.

 

[67] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 21. Tudalen 43.

 

[68] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 22. Tudalen 45.

[69] Angus, C. et al. (2018); Sheffield: ScHARR, Prifysgol Sheffield.  Ffigur 22, tudalen 48. Tabl 25, tudalen 50.

 

[70] Bydd Llywodraeth y DU yn cronni rhywfaint o'r arbedion hyn gan ystyried bod plismona wedi'i ddatganoli. Fodd bynnag, data ar gyfanswm yr arbedion yn unig sydd ar gael, yn hytrach na'r gallu i ddosrannu'r arbedion hyn i Lywodraeth y DU / Llywodraeth Cymru.

 

[71] Angus et al. (2018); Sheffield: ScHARR, Prifysgol Sheffield. Tabl 21.

[72] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 39. Tudalen 69.

 

[73] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 7. Tudalen 29.

 

[74] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 16. Tudalen 37.

 

[75] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Ffigur 14. Tudalen 39.

 

[76] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 19. Tudalen 41.

 

[77] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 20. Tudalen 42.

[78] Angus et al. (2018); Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 21. Tudalen 43.

 

[79] Angus et al. (2018). Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 22. Tudalen 45.

 

[80] Angus et al. (2018). Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 30. Tudalen 55.

 

[81] Bydd Llywodraeth y DU yn cronni rhywfaint o'r arbedion hyn gan ystyried bod plismona wedi'i ddatganoli. Fodd bynnag, data ar gyfanswm yr arbedion yn unig sydd ar gael, yn hytrach na'r gallu i ddosrannu'r arbedion hyn i Lywodraeth y DU / Llywodraeth Cymru.

 

[82] Angus et al. (2018). Sheffield: Prifysgol Sheffield. Tabl 21. Tudalen 43.

 

[83] Mae'r ffigurau ar gyfer opsiynau un i dri wedi'u gostwng 3.5% dros gyfnod o 20 mlynedd.  Diben hyn yw sicrhau bod y cyfrifiadau'n gyson â'r gwaith modelu a gynhaliwyd gan Brifysgol Sheffield y mae ei hasesiad yn cynnwys cyfnod o 20 mlynedd. Mae'r 3.5% yn ostyngiad safonol lle bo costau/buddion yn codi dros fwy nag un cyfnod amser. Defnyddir cyfradd o 3.5% ar gyfer prosiectau'r llywodraeth. Rydym yn defnyddio cyfnod o 20 mlynedd yma gan mai dyma'r cyfnod amser a fewngorfforwyd i fodel Sheffield.

 

[84] Diffinnir allfasnach fel lleoliadau lle gwerthir alcohol i'w yfed oddi ar y safle, ee siopau ac archfarchnadoedd. Diffinnir mewnfasnach fel lleoliadau lle gwerthir alcohol i'w yfed ar y safle, ee tafarndai a bwytai.  Ffynhonnell: Yr eirfa yn Angus, C., Holmes, J., Brennan, A. a Meier, P. (2018) Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru 

 

https://gov.wales/docs/caecd/research/2018/180222-comparative-impact-minimum-unit-pricing-taxation-policies-summary-cy.pdf

 

[85] Cafodd rhestr o gyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid a throsolwg o'u barn ar isafbris uned o 50c a materion a godwyd, ei chynnwys fel rhan o'r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd ar 15 Chwefror (gweler Tabl 1, tudalen 26).

 

https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-02/crynodeb-or-ymatebion.pdf

 

[86] Cyhoeddwyd Adroddiad Interim ar effeithiau isafbris uned o 50c ym mis Tachwedd 2017.  Cafodd adroddiad llawn ar effeithiau lefelau isafbris uned gwahanol o 35c i 70c, fesul pum ceiniog, ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2018. Gallwch weld yr adroddiad yma:

 

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil?_ga=2.193864228.860828439.1557822370-283766726.1548160944

 

[87]  Cafodd y Memorandwm Esboniadol a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil eu diweddaru ddiwethaf ym mis Mehefin 2018. Gallwch weld y fersiwn ddiweddaraf yma: http://www.assembly.wales/laid%20documents/pri-ld11577-em/pri-ld11577-em-w.pdf

 

[88]  Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru (Mis Medi 2018) Isafbris Uned ar gyfer Alcohol

 

https://llyw.cymru/gosod-yr-isafbris-am-alcohol?_ga=2.71243219.299644843.1558429264-832368275.1548154346

[89] Mayne, J. (2008) Contribution analysis: An approach to exploring cause and effect. The Institutional Learning and Change (ILAC) Initiative.