2019 Rhif (Cy. )

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) a Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn 2006 i ddarparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) a gwasanaethau cyn-allforio cysylltiedig, ac i gynyddu’r uchafswm ar gyfer gwasanaethau y mae’r gyfradd gonsesiynol i allforwyr bach yn gymwys iddynt, o £250 i £750.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018, sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau, fel a ganlyn.

Mae rheoliad 3(2) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2018 i ddarparu’r ffioedd sy’n daladwy ar gyfer tystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys ffioedd ar gyfer llwythi cymysg) ac ar gyfer profi samplau.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffi is ar gyfer awdurdodiad pasbort planhigion.

Mae rheoliad 3(6) yn diwygio rheoliad 9(2) o Reoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffi uwch ar gyfer ardystio planhigion ffrwythau a’u deunydd lluosogi.

Mae rheoliad 3(7) yn amnewid Atodlen 1 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd arolygu mewnforio sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad ar gyfer archwiliadau iechyd planhigion mewn cysylltiad â phlanhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol.

Mae rheoliad 3(8) yn amnewid Atodlen 2 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i lefelau is o archwiliadau iechyd planhigion y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaeniad o fewn y Gymuned (OJ Rhif 169, 10.7.2000, t.1). Mae’r rheoliad hwn yn rhoi effaith i’r hysbysiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd am y lefelau is o archwiliadau iechyd planhigion sy’n gymwys i blanhigion penodol ac i gynhyrchion planhigion penodol (a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2018 ac a ddiwygiwyd ar 15 Ebrill 2019).

Mae rheoliad 3(10) yn amnewid Atodlen 4 i Reoliadau 2018 sy’n nodi’r ffioedd ar gyfer trwyddedau iechyd planhigion ac mae’n cynnwys newid i’r ffi ar gyfer monitro a gydymffurfir â thelerau ac amodau’r drwydded sy’n cael ei chynyddu dros gyfnodau ar wahân.

Mae rheoliad 3(11) yn amnewid Atodlen 5 i Reoliadau 2018 sy’n nodi ffioedd ar gyfer samplu a phrofi pridd ac ardystio tatws hadyd gan gynnwys darparu labelau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 


 

2019 Rhif (Cy. )

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed                                22 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Hydref 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)              

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir—

(a)     mewn perthynas â rheoliad 1, gan y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)     mewn perthynas â rheoliad 2, gan adrannau 3(1) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967([1]);

(c)     mewn perthynas â rheoliad 3, gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973([2]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.

(3) Maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006

2.(1) Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006([4]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 5—

(a)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    yn is-baragraff (a)—

(aa)        yn lle “£250” rhodder “£750”;

(bb)       yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 3” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 2 y tabl hwnnw”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “yng ngholofn 4” hyd at y diwedd rhodder “yng ngholofn 3 y tabl hwnnw”;

(b)     ym mharagraff (3), yn lle “yng ngholofnau 3 a 4” rhodder “yng ngholofnau 2 a 3”;

(c)     ym mharagraff (4)—

                            (i)    yn is-baragraff (a)—

(aa)        yn lle “£250” rhodder “£750”;

(bb)       yn lle “£7.43” rhodder “£7.88”;

                          (ii)    yn is-baragraff (b), yn lle “£14.86” rhodder “£15.76”.

(3) Yn lle Atodlen 3, rhodder—

ATODLEN 3 Erthygl 5(1)

Ffioedd gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio

(1)

Gwasanaeth

(2)

Ffi (£)

(3)

Ffi (£)

 

Arolygiad o lwyth

31.90 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 63.80

63.80 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 127.60

Archwiliad o arolygiad grawn a gynhelir yn unol ag erthygl 3(3)

13.20 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 26.40

26.40 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 52.80

Archwiliad mewn labordy

16.78 am bob sampl a brofir

33.56 am bob sampl a brofir

 

Dyroddi tystysgrif

12.76 am bob tystysgrif

25.52 am bob tystysgrif

Diwygio tystysgrif ar archiad yr allforiwr

7.88 am bob tystysgrif

15.76 am bob tystysgrif.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

3.(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3—

(a)     ym mharagraff (1)—

                            (i)    yn lle “sydd ar ffurf” rhodder “i’r graddau y mae’n cynnwys”;

                          (ii)    ar y diwedd mewnosoder “neu unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth”;

(b)     ym mharagraff (2)—

                            (i)    yn is-baragraff (a), yn lle “£9.71” rhodder “£10.51”;

                          (ii)    yn lle is-baragraffau (b) ac (c), rhodder—

(b) yn achos—

                       (i)  llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

(aa)    un lot o flodau wedi eu torri, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r blodau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

(bb)    dwy lot neu ragor o flodau wedi eu torri, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

                      (ii)  llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2 sy’n cynnwys—

(aa)    un lot o ffrwythau neu lysiau, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r ffrwythau neu’r llysiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

(bb)    dwy lot neu ragor o ffrwythau neu lysiau, ffi sy’n gyfwerth â swm yr uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r lotiau hynny yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw;

(c)   yn achos llwyth—

                       (i)  sy’n cynnwys canghennau wedi eu torri o Phoenix spp. sy’n tarddu o Costa Rica ac nad yw’n cynnwys unrhyw ganghennau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt, y ffi a bennir mewn cysylltiad â’r canghennau wedi eu torri hynny yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2;

                      (ii)  yn achos unrhyw lwyth arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(aa)    pan fo’r llwyth yn cynnwys unrhyw beiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, ffi o £5.98;

(bb)    pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, y ffi neu’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw;;

                     (iii)  yn is-baragraff (d), yn lle “£157.08” rhodder “£147.35”;

(c)     ym mharagraff (3), ar ôl y diffiniad o “pla planhigion a reolir”, mewnosoder—

(aa)   mae i “Ewrop” yr ystyr a roddir yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2018;

(ab)    ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;

(ac)    ystyr “llwyth o flodau wedi eu torri a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw flodau wedi eu torri eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;

(ad)    ystyr “llwyth o ffrwythau neu lysiau a restrir yn Atodlen 2” yw llwyth sy’n cynnwys ffrwythau neu lysiau o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sy’n tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw ac nad yw’n cynnwys unrhyw ffrwythau na llysiau eraill y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt;.

(3) Yn rheoliad 4—

(a)     ym mharagraff (2), yn lle “ffioedd a bennir yn y tabl yn Atodlen 3” rhodder “ffi a bennir ym mharagraff (3)”;

(b)     yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae ffi o £61.58 yn daladwy am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) a dreulir yn cynnal yr arolygiad ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £123.16.;

(c)     ym mharagraff (4), yn lle “£18.78” rhodder “£20.66”.

(4) Yn rheoliad 6(1), yn lle “£60.40” rhodder “£70.83”.

(5) Yn rheoliad 8—

(a)     ym mharagraff (4), yn lle “£14.76” rhodder “£15.76”;

(b)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Pan fo person yn cyflwyno cais ar gyfer darparu labelau argraffedig, mae’r ffi ychwanegol a ganlyn yn daladwy—

(a)   yn achos cais a gyflwynir ar-lein, £11.45;

(b)   yn achos cais a gyflwynir ar bapur, £15.61.”.

(6) Yn lle rheoliad 9(2) rhodder—

(2) Mae ffi o £26.00 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw) yn daladwy mewn cysylltiad â’r amser a dreulir yn cynnal archwiliad swyddogol ac unrhyw weithgareddau cysylltiedig yn y fangre berthnasol at ddibenion ardystio’r deunydd, yn ddarostyngedig i isafswm ffi o £52.00..

(7) Yn lle Atodlen 1 rhodder—

            ATODLEN 1    Rheoliad 3(1)

Ffioedd arolygu mewnforio

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Ffi (£)

 

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau

173.91

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio had)

182.38

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws)

205.04

Hadau, meithriniad meinwe

128.13

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn

182.38

Blodau wedi eu torri

42.75

Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri)

33.99

Coed Nadolig wedi eu torri

119.64

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog

71.68

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)

53.10

Cloron tatws

156.69

Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl

119.64

Grawn

142.98

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd

22.73 .

(8) Yn lle Atodlen 2 rhodder—

               ATODLEN 2 Rheoliad 3(2)(c)

Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi (£)

Blodau wedi eu torri

Aster

Zimbabwe

32.06

Dianthus

Colombia

1.28

 

Ecuador

6.41

 

Kenya

2.14

 

Twrci

6.41

Rosa

Colombia

1.28

 

Ecuador

0.43

 

Ethiopia

2.14

 

Kenya

4.28

 

Tanzania

21.38

 

Zambia

4.28

Canghennau gyda Deiliant

Phoenix

Costa Rica

17.00

Ffrwythau

Actinidia

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Carica papaya

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Citrus

Yr Aifft

39.83

 

Moroco

1.59

 

Periw

5.31

 

Twrci

1.59

 

UDA

13.28

Citrus limon a citrus aurantifolia

Israel

13.28

Cydonia

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Fragaria

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Malus

Ariannin

18.59

 

Brasil

26.55

 

Chile

2.66

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

 

Seland Newydd

5.31

 

De Affrica

2.66

Mangifera

Brasil

26.55

Passiflora

Colombia

3.72

 

Kenya

13.28

 

De Affrica

18.59

 

Fiet-nam

13.28

 

Zimbabwe

26.55

Persea americana

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Prunus

Ariannin

39.83

 

Chile

5.31

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

 

Moroco

26.55

 

Twrci

18.59

 

UDA

26.55

Prunus ac eithrio prunus persica

De Affrica

2.66

Pyrus

Ariannin

7.97

 

Chile

7.97

 

Tsieina

26.55

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

 

De Affrica

5.31

Ribes

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Rubus

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Vaccinium

Ariannin

13.28

 

Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop

2.66

Vitis

Unrhyw drydedd wlad

2.66

Llysiau

Solanum lycopersicon

Yr Ynysoedd Dedwydd

2.66

 

 

Moroco

2.66

Solanum melongena

Twrci

13.28 .

(9) Hepgorer Atodlen 3.

(10) Yn lle Atodlen 4 rhodder—

               ATODLEN 4 Rheoliad 5(1)

Ffioedd trwydded iechyd planhigion

 Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod 1” yw’r cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2020;

ystyr “cyfnod 2” yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac sy’n dod i ben ar 30 Medi 2020.

 

Colofn 1

Y math o gais neu arolygiad

Colofn 2

Dyddiad y cais

Colofn 3

Ffi (£)

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu, ac eithrio—

— trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall

— trwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

 

 

995.36

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu dreialu sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

 

995.36, plws 52.45 am bob eitem dros 5

Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall, ac eithrio trwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

 

745.41

Cais am drwydded mewn cysylltiad â dadansoddi pridd neu gyfrwng tyfu arall sy’n cwmpasu 5 neu ragor o eitemau

 

745.41, plws 52.45 am bob eitem dros 5

Cais i amrywio trwydded gyda newidiadau y mae asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol ar eu cyfer

 

380.25

Cais am unrhyw drwydded arall

 

42.50

Dyroddi llythyr awdurdodi blynyddol

 

42.50

Monitro a gydymffurfir ag amodau a thelerau trwydded

Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 1

69.75 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 139.50

 

 

Yn achos monitro a wneir yng nghyfnod 2

81.25 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 162.50

 

Yn achos monitro a wneir ar 1 Hydref 2020 neu ar ôl hynny

92.67 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw), yn ddarostyngedig i isafswm ffi o 185.34 .

(11) Yn lle Atodlen 5 rhodder—

               ATODLEN 5    Rheoliad 8(1)

Tatws hadyd: ffioedd

Colofn 1

Gweithgaredd

Colofn 2

Ffi (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Samplu a phrofi pridd ar gyfer Llyngyr Tatws

Samplu a phrofi pridd at ddibenion paragraff 4, 7 neu 9 o Atodlen 1 i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016([6])

24.75 am bob hectar (neu ran ohono) sy’n cael ei samplu a’i brofi

 

Arolygu cnydau sy’n tyfu

Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PBTC yr Undeb

30.39 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)

60.78

Ardystio yn datws hadyd cyn-sylfaenol: Gradd PB yr Undeb

12.16 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

60.75

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd S yr Undeb

10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

105.70

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd SE yr Undeb

10.57 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

105.70

Ardystio yn datws hadyd sylfaenol: Gradd E yr Undeb

10.33 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

103.30

Ardystio yn datws hadyd ardystiedig: Gradd A neu B yr Undeb

9.39 am bob 0.1 hectar (neu ran ohono) a arolygir

93.90

Arolygu cloron a gynaeafwyd

Arolygu

40.55 am bob cyfnod o 15 munud (neu ran o’r cyfnod hwnnw)

81.10

Darparu labelau a seliau mewn cysylltiad â cheisiadau

Labelau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal 50 kg o datws hadyd neu lai

0.05 am bob label

 

Labelau a seliau argraffedig ar gyfer bagiau sy’n dal mwy na 50 kg o datws hadyd

0.11 am bob label (gan gynnwys sêl)

 

Labelau a seliau gwag

0.16 am bob label (gan gynnwys sêl).

 

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Hydref 2019



([1])           1967 p. 8; diwygiwyd adran 3(1) gan baragraff 8(2)(a) a (b) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac O.S. 2011/1043. Mewnosodwyd adran 4A gan adran 3 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 3 a 4A yn cael eu rhoi i awdurdod cymwys (“competent authority”). Diffinnir “competent authority” yn adran 1(2). Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae adran 1(2), fel y’i diwygiwyd, yn darparu mai’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru yw Gweinidogion Cymru.

([2])           1973 p. 51; diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043.

([3])           Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([4])           O.S. 2006/1701 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/1658 (Cy. 156), O.S. 2014/1759 (Cy. 174), O.S. 2016/1084 (Cy. 259) ac O.S. 2018/772 (Cy. 156).

([5])           O.S. 2018/1179 (Cy. 238).

([6])           O.S. 2016/106 (Cy. 52).