2019 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn ystyr adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“y Ddogfen”). Gellir canfod y Ddogfen ar wefan Llywodraeth Cymru, www.llyw.cymru.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018 fel y mae’n gymwys yng Nghymru (erthygl 3).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned Strategaeth y Gweithlu, Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2019 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019

Gwnaed                                18 Hydref 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       22 Hydref 2019

Yn dod i rym                     12 Tachwedd 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002([1]), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126([3]) o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a daw i rym ar 12 Tachwedd 2019.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol([4]) yng Nghymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddogfen” yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” dyddiedig Medi 2019([5]).

Y Ddogfen

2. Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2019 at ddibenion penderfynu—

(a)     y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a

(b)     amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.

Dirymu

3. Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol 2018([6]) wedi ei ddirymu i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol yng Nghymru.

 

 

 

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2019



([1])   2002 p. 32. Diwygiwyd adrannau 122 a 123 gan adran 5(1) o O.S. 2010/1158 a chan baragraff 11 o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.

([2])   Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

([3])   Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon o’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).

([4])   Diffinnir “school teacher” at y dibenion hyn yn adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002.

([5])   Cyhoeddir ar-lein ar https://llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth.

([6])   O.S. 2018/998.